Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BWRDD YR ADOLYGYDD. I

I Eisteddfod Aberystwyth II

DETHOLION LLENYDDOL. I

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Cam i'w ddilyn. -I Y mae pwyllgor Llyfrfa y Gweithwyr ym Mhontlotyn wedi penderfynu bod mewn undeb a mudiad byd-lydan y Y.M.C.A. Deillai llawer o fanteision o'r uniad. Er enghraifft, os penderfyna un o aelodau'r Llyfrfa ymfudo i ryw wlad estronol, dim ond rhoddi gwybod aeth i awdurdodau y gymdeithas, gofal- ant fod yna swyddog neu swyddogion yn ei ddisgwyl ar ei laniad yn y wlad ddieithr. Dywedodd Mr Powell Roberts, ddaeth yma i draddodi anerchiad ar ran yr Y.M.C.A., y gallesid gwneud ein llyfrfeydd yn Ilawer mwy o alluoedd o blaid purdeb o moes trwy undeb fel yma. Yr Aquitania. I Mae Cwmni y Cunard Line wedi hysbysu y bydd eu llong fawr newydd Aquitania yn cychwyn allan o Lerpwl am ei mordaith gyntaf i Efrog Newydd dydd Sadwrn, Mai 30. Y Dyfeisiwr Mawr. I Yr oedd Thomas Edison, y dyfeisiwr byd-enwog yn 67 mlwydd oed ar yr lleg cyfisol. Teimla yn hynod gryf. yn fedd- yliol a chorfforol, a thystia fod ei brif waith heb ei gyflawni ganddo eto. Tanio heb Wifren. I Mae gwyddonwr o'r enw Signor Olivi, yn Italy, wedi darganfod dyfais i danio pylor o bellder ffordd heb gyfrwng gwifrau. Mae Llywodraeth Italy wedi sicrhau y ddyfais newydd hon. I Got Newydd y Seren. I Y mae son yn y Darian a'r Gweith-1 iwr" am Gwili fel un tebyg o gael ei efchol yn olygydd Seren Cymru," yn ddilynydd i'r annwyl a.'r diweddar Ddoctor Williams. Yr Arho!»A'r t\'ev.*ycf«S. Yr ydym yn llawen o ddeall fod Mr. William Davies, M.A., athro Cyn^raeg yn Ysgolion Caerdydd. wedi ei benodi yn is-arholydd y Bwrdd Canol Cymreig mewn Cymraeg ar gyfer arholiadau 1914. Brodor yw o Feirion, sef Mintfordd. Rhanu yr Etifeddiaeth. Dyma stad Arglwydd Tredegar, yn swydd Brycheiniog, yn mynd ar werth, ac yn lie bod yn gyfan o hyn allan, fe'i ceir yn stadau bach," ymysg arglwyddi bach y dyfodol—Cynghorwyr y Sir.

Advertising