Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

4,1'4i V?kl .I A-, BY? L,

! Ebenezer, Blaenau Ffestinlog.…

MORIAH, PENRHYNSIDE, LLANDUDNO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MORIAH, PENRHYNSIDE, LLANDUDNO. Nid yn ami y ceir darlith yn y pentref bach hwn. Ond nos Fawrth, y 24ain cyf- isol, cawsom y fraint o wrandaw ar y brawd hynaws, a'r pregethwr poblogaidd, Mr Henry Williams, Tryphena House, Llandudno, yn traddodi ei ddarlith peni- gamp ar Adam Clarke." Mae Mr Wil- liams yn adnabyddus trwy'r wlad fel pre- gethwr, ac yn sicr, mantais mawr fyddai i'r wlad wybod mwy am dano fel darlith- ydd. Mae y biawd yn ymdaflu ei hun yn gwbl i'r gwaith pan yn pregethu neu ddarlithio, a mynn sylw pawb o'r gynull- eidfa. Gellir dweyd am dano heb betrus- der, Pa beth bynnag yr ymaflo ei law ynddo, gwna a'i holl galon." Cafodd hwyl dda, a chawsom ninau fwynhad neillduol wrth wrandaw. 'Roedd amcan y ddarlith hefyd yn un teilwng, sef cynorth wyo y brawd George Roberts, Arfon, Terrace, yr hwn sydd wedi bod yn wael er ys blwyddyn, ac yn parhau felly. Gwnaed casgliad, a chafwyd swm sylweddol. Di- olchwyd i'r darlithydd gan Mr Thomas Edwards, a chefnogwyd gan y Parch Wm. Phillips (A.). Canwyd ton gan y gynull- eidfa cyn ymadael. Noson hapus yn wir. IORWERTH. I

ST. PAUL'S, LLANDEILO.I

ILANDUDNO. I I

Advertising