Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

i!Cenhadaethatt Egengylaidd.…

COFFADWRIAETH HUMPHREYI JONES,…

I CONNAH'S QUAY.

Y RfflODDiOW ARFEROL A'RI…

I I BYCHANU CRIST.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I I BYCHANU CRIST. Mr Golygydd,- Y Mae yn sicr genyf eich bod chwi, fel fy hunan, wedi clyw- ed a gweled sylwadau yn cael eu gwneyd lawer gwaith gan ddysgedigion o radd uchel--iias gallec 11 eu derbyn fel ffeith- iau cymeradwy. Nid ydyw fod hwn a hwn, neu hwn acw yn dweyd fel hyn, neu fel arall, yn ddigon o reswm dros i ni ystorio eu syniadau gan eu hystyried yn wirioneddau heb i ni eu profi, mor bell ag y gallwn. Canys y mae y Doctoriaid diwinyddol yn anghytuno a'u gilydd yn fynych, ac yn gwrth- ddweyd y naill y llall. Ac y mae yr M.A's., er eu boll ymdrechion yn methu a llanw eu llyth'renau. Gan hynny nid wyf yn teimlo ei fod yn ormod o hyfdra ynwyf i'ch hysbysu chwi a darllenwyr y G.N. fy mod yn dioddef oddiwrth dddiffyg treuliad trwy ddarllen sylwadau J, K. o dan y penawd uchod. Am hynny, yr wyf yn erfyn am eich caniatad, Mr Gol., i gyflwyno iddo yn frawdol, un neu ddau o ofyniadau parthed y mater pwysig hwn. Nid wyf yn gwybod o gwbl pwy ydyw J. K," ac y mae yn dda genyf hynny, am fy mod felly yn teimlo yn fwy rhydd i ymwneud a'i syniadau, ar y pwnc dan sylw. Yrwyf yn ystyried fod ei waith ef yn galw ein sylw at y mater yn gy- hoeddus fel hyn, a'r syniadau y mae yn eu coleddu, ac yn eu hamlygu, yn rhoddi trwydded teg i mi, i ofyn iddo i egluro ei hun dipin yn llawnach ar bwyntiadau neillduol. Carwn wybod ganddo i ddechreu, os ydyw ef yn credu fod dau ysbryd yn y Person rhyfeddoi yr Ar- glwydd Iesu, h.y., ysbryd dwyfol, ac ysbryd dynol. Os ydyw "J. K." yn credu mai-un ysbryd oedd yn y bersonol- aeth, sef yr hwn na tbybiodd yn drais i edrych arno ei hun yn ogofuwch a Duw, pa fodd y gall ef yn rhesymol briodoli anwybodaèth iddo ? Nid gofyn yr ydym os oedd yn bosibl iddo gyfyngu ei weith- redoedd mewn cyfeiriadau neillduol i'r hyn y gallai dyn yn unig eu cyflawni, canys ni theimlwn un anhawsder i dderbyn golygiad felly. Oblegid gall y dyn actio y plentyn, tra ei fod ar yr un pryd yn gwybod sut i actio y dyn. Ond, nis gall y plentyngwirioneddol actio y dyn. IFelly, y gofyniad mewn ffurf arall ydyw hwn,—A oedd yn bosibl i Berson dwyfol ddi-dduwio ei hun i'r fath raddau fel ag i ddyfod yn blentyn yn yr ystyr grybwylledig ? Gyda hynyna yn awr byddwn yn edrych allan yn y man gyda dymuniad gonest am air yn mhellach gan J. K." Yr eiddoch, &c., RHTDDERCH. Mawrth 4ydd, 1914. RHYDDERCH. 1,

[No title]

-REHOBOTH, COEDPOETH. 'I

I CONGL YR AWEN.