Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 LEYN.

BETHEL, ABERDYFI. I

ISALEM, GYLCHDAITH LLANFYLLIN.

I ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.…

I NODION 0 DDOLGELLAU. I

IJERUSALEM, WREXHAM.I

CENHADAETH LANCASHIRE. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CENHADAETH LANCASHIRE. I Tro trwy'r Eglwysi. I "Yr hyn a welais ac a glywais yr ydwyf yn ei fynegi i chwi." Perthyn i'r Genhadaeth hon chwech o eglwysi, dau weinidog, sef yr Arolygwr—y Parch E. J. Parry, ar Parch Hugh Curry, gyda'r hwn y gwnaed trefniadau arbennig gan Bwyllgor y Genhadaeth Gartrefol ar ei ymneillduad o'r gwaith rheolaidd. Nid oedd mood gwneud trefniad gwell, a chredaf fod yrapwyntiad wedi ei gyfiawn- hau ymhob pwynt. Hefyd perthyn i'r Genhadaeth dri o bregethwjr cynorthwyol cyflawn, a phedwar o gynghorwyr sydd yn cyflawni gwasanaeth effeithiol i'r achos yn y gwahanol eglwysi. Ac at hyn, yn gar- edig iawn, gwasanaethir yr achos ar y Sabbothau gan bregethwyr cynorthwyol Lerpwl (Mynydd Seion ac Oakfipld) a Manchester. Gwerthfawrogir eu gwasan- aeth yn fawr gan yr eglwysi. I-IERMON, ASHTON.—Eglwys gref, cynull- eidfa fawr, yn arbenig ar nos Sul, a chanu bywiog. Anhawdd meddwl am eglwys fwy bvw a gweithgar, ac yn fwy trefnus. Etholiad i'r Cyfarfod Blacnor;.aid.- Gwnaed hyn yn ei adeg briodol, ac ethol- wyd trwy y tugel—Misses Claudia Roberts, Edith Roberts, a Mr John Blythin. Anrhydedd i Hermon.—Ail-etholwyd Mr Job Roberts yn LIywydd Undeb Eglwysi Rhyddion Cymreig a Seisnig y cylch. Yr ydym o galon yn ei longyfarch ar ei etholiad. Cyngherddau Misol-Go.fala ysgrifenydd byw ac effro yr eglwys—Mr Owen Jones, a'r trysorydd pwyllog a gofalus-Mr T. Price Williams, am drefniadau i gyflenwi trysorfa yr eglwys, rhag iddi ddyfod yn ddyddiau blin arnynt. Trefnwyd cyng- herddau misol, ac fe gafwyd un yn ddiw- eddar yn yr ysgoldy eang a chyfleus a berthyn i ni. Y ffurf gymerodd y cyng- herdd oedd i gystadleuaethau gymeryd lie. Yn garedig iawn rhoddodd Mr Edmund Rees y gwobrwyon i gyd, a theilynga ein diolchiadau cywiraf fel eglwys. Ysgrifen- ydd a thrysoryddes y cyngherddau hyn ydynt Mr M. H. Morris a Miss Claudia Roberts. Y mae un arall yn ymyl, a'r holll wobrwyon eisoes mewn ilaw. Y Gymdeithas.—Bu y Gohebydd rheol- aidd yn wael yn ddiweddar, yr hyn gyfnf am nadoes cyfroddiad rheolaidd wedi dod i law. Y mae yn araf wella, a chredaf y bydd yn holliach yn fuan. Cafwyd dadl gref a siarad brwd ar destyn amserol ganddynt, sef Ai priodol cloadau allan cydymdeimladol" (" Are Sympathetic Strikes proper"). Agorwyd yr ochr gadarn- haol gan yr Is-lywydd, Mr M. H. Morris, a.'r nacaol gan Mr David Bryn Davies. Talodd Mr J. W. Dodd, B.A., ymweliad a'r Gymdeithas yn ddiweddar, a darllenodd bapur gwir alluog ar Yr Eglwys a'r Meddwl Diweddar," neu Yr Eglwys a'r Ddysgeidiaeth Newydd." Cafwyd ymdraf- odaeth ragorol ar y mater. Y Beibl a'i Feirniaid oedd testyn papur ddarllenwyd gan y Parch E. J. Parry. Llywyddwyd gan yr Is-lywydd, a siaradodd amryw ar y papur. Gair yn egluro safle yr uwch-feirn- iaid, ac yn argymell bod yn oddefgar tuag atynt. Symudiad pwysig-Pasiodd y Trustes I yri eu cyfarfod blynyddol yn unfrydol i lanhau y capel a'r Ysgoldy. Dechreuir ar I y gwaith yn fuan ar ol y Pasc. Cyflwyn- odd y Parch E J Parry gynllun dvbiai ef oedd yn ymarferol i gyfarfod a'r draul, a chymeradwywyd ef. Saif yr eglwys uchod yn Bolton Road, Stubshaw Cross. EAR LESTOWN-Eglwys heb fod yn fawr ei rhif, ond yn fawr yn ei gweithgarwch a'i ffyddlondeb. Ymgomwestau—Cafwyd dau ymgom- west yn ddiweddar, a troisant yn elw da. Y chwiorydd yn benaf oedd yn gyfrifol am danynt. Deallaf fod y brodyr wedi ymrwymo i ofalu am y nesaf. Clywais sibrwd fod y chwiorydd am wneud ym- drech arbenig i werthu tocynau, a gwa- hodd Ilu i ddod yno er mwyn i'r dynion fynd yn ddwfn i'w llogell. Hei Iwc. Saif yr eglwys uchod yn Tamworth Street, Earlestown. GOLBoRNE-Da gennyf weled arwyddion o fywyd a gwaith yn yr eglwys hon. Y mae dyfodiad y Parch Hugh Curry x ofalu am yr eglwys wedi bywhau a chryfhau pethau yn y lie. Y mae ei ymweliadau bugeiliol wedi bod o fendith, a daeth o hyd i Gymry oeddynt wedi esgeuluso moddianau gras er ys blynyddau lawer. Y Cymun Sanctaidd—Nos Sadwrn di- weddaf, cynhaliwyd rhyw fath o 'At Home' yno ar wahoddiad caredig Mr a Mrs George Woodfine. Daeth yr holl eglwys, a nifer fawr o gyfeillion eraill, i fvvynhau cwpanaid o de gyda'u gilydd. Wedi clirio'r bj^rddau, cyflwynodd y Parch Hugh Curry, ar ran Mr a Mrs Woodfine, polished Oak Communion Table hardd i'r Ymddiriddolwyr, er cof cu am eu hanwyl a'u hoffus fab Gwynfry n. Bachgen ieuanc hawddgar, anwyl, a chrefyddol ei ysbryd oedd Gwynfryn. Edmygai paw b ef a daeth hiraeth i'm calon, a lleithder ar fy wyneb wrth feddwl am dano. Hefyd cyf- lwynwyd gan yr Arolygwr, ar ran nifer o bersonau Set o gwpannau unigol' hardd ar gyfer y Cymun i'r eglwys. Gwerth- fawrogir yn fawr y rhoddion hyn yn nglyn a'r Cymun Sanctaidd. Hefyd, cyflwynodd Mr a Mrs David Jones, Gadair Freichiau hardd a chref at wasanaeth y set fawr. Bellach y mae y set fawr yn ediych yn llawnach ac yn fwy cysurus nag erioed. Teilynga y cyfeillion caredig hyn ein di- olchgarwch gwresocaf. Wedi cyflwyno y rhoddion hyn, daeth y parch E J parry a mater pwysig arall o flaen y cyfarfod, sef di-ddyledu'r capel. Yr oedd y mater wedi cael ystyriaeth yn nghyfarfod blynyddol yr Ymddiriedolwyr, ac mewn cyfarfod neull- duol gan y chwiorydd, a'r naiJl a'r Hall yn unfrydol am symud ymlaen i glirio y ddyled, a'r cynllun basiwyd ydoed.i caei "Sale of Work yn yr wythnps gyntaf yn Tachwedd, 1914. Yr oedd yno arwyddion o ddiddordeb ac o beaderfyaiad i symud yn unol a chryf, ac yn wrol gyda'r symud- iad. Pasiwyd yn unfrydol y swyddpgion canlynolLlywyddes, Mrs E. J. parry, Ashton is- lywyddes, Mrs Curry, Leigh trysorvddes, Mrs W H Hughes; ysgrifen- enyddes, Mrs G Woodfine ysgrifenyddes cynorthwyol, Mrs David Jones. Yr oedd elw yr At home" yn myn'd at ddechreu trysorfa yn nglyn a'r Sale of Work." Cynhelir Social eto yn mhen tair wythnos, Mrs John Williams a Mr J 0 Williams yn ei roi i'r un amcan. Apeliaf am gydym- deimlad y Genhadaeth a charedigicn y Genhadaeth yn Lerpwl a Mancemion, a Chymru gyfan. Derbyn aelodau newvddion—Defnydd- iwyd y Cwpanau Unigol am y tro cyntaf nos Sul diweddaf, a derbyniwyd tri aelod newydd at Fwrdd yr Arglwydd. SPRING VIEW-Y mae yma eglwys a rhagolygon gobeithiol iawn o'i blaen. Cyngherdd blynyddol Yr oedd hwn eleni yn liwyddiant perffaith. Wedi gryn berswadio, llwyddwyd i gae! Mr David Rowland, Piatt Bridge, biaenor yr eglwys, a pioneer yr achos i gymeryd y gadair, a ell) ilawnodd ei waith gydag urddas. Helaethu'r Capel—Y mae cynllun ar droed i helaethu'r capel. Y mae y capel yn ddi-ddyled, ac ni fu neb yn ffy" ddlonach i dalu y Loan yn ol i bwyllgor y capelau na Spring View. Saif yr eglwys uchod yn Taylor's Lane, Spring View, near Wigan, Leigh. Y mae yr achos yma wedi bywhau yn ddiweddar, ac arwyddion sicr o lwyddiant mwy eto yn y dyfodol. Derbyn aelodau newyddion—Nos Sab- both yn ddiweddar, derbyniodd y Parch Hugh Curry, saith o aelodau newyddion at Fwrdd yr Arglwydd. Ymgomwest Cynhaliodd yr eglwys Ymgomwest yn eu plith eu hunain yn ddiweddar, a chafwyd elw rhagorol. Ymweliad Gwynfryn.—Talodd y parch D Gwynfryn Jones ei ymweliad blynydd- ol ac eglwys y Wesleaid Seisnig, King Street pregethodd yn rymus a nerthol iawn fore a hwyr, a traddododd anerchiad gref yn y prydnawn yn y Men's Meeting," ilr "The Ideals of Democracy. Are they Christian." Manteisiodd yr eglwys Wes- leaidd Gymreig ar ymweliad Gwynfryn a'r dref i gael darlith ganddo y nos Lun dilynol. Cafwyd benthyg ysgoldy eang y Wresleaid Seisnig, a chaniatawyd i hysbys- iad o'r ddarlith fod ar yr hysbyslenni drefnwyd gan y Wesleaid Seisnig. Testyn y ddarlith ydoedd, Vulgarity." Ni chlywais erioed Gwynfryn yn darlithio yn well. Yr oedd yn odidog ragorol. Llwyddodd y Parch Hugh Curry i gael Maer y Dre i lywyddu'r ddarlith. Daeth yno a'r gadwen faerol, a thraddododd anerchiad rhagorol. Gwelsom hefyd y Parch D Solomon, Arolygwr y gylchdaith Seisnig, Cymro o ochr ei fam, ac un o wehelyth y diweddar John Owen, CySn. Cynwynodd y Parch Hugh Curry y diolchiadau, ac eiliwyd yr oil gan y Parch E J Parry. Saif yr Eglwys Wesleaidd Gymreig yn Orchard Lane, Leigh. ST HELEN'S—Nid oes nemawr ddim i ddweyd am yr achos yma. Gwelodd ddyddiau gwell. Gwerthfawrogir sel a ffyddlondeb Mr Thomas Evans a'r teulu i'r achos. Disgwyl yn ffyddiog am doriad gwawr ar yr achos yr ydym. Saif y capel ushod yn Ramford Street, Parr, St Helens. APEL AT GYMRY WrSLEAIDD-Buasai yn dda iawn gan weinidogion y Genhadaeth glywed oddiwrth weinidogion a pherthyn- asau i rai sydd wedi dod i'r cylchoedd hyn. Daw llawer a papurau i'w canlyn, a cedwir hwynt ganddynt, ac mewn rhai achosion ni welir mohonynt. Yr un modd pe na byddent yn aelodau, ond yn wrandawyr, hwylusid eu gwaith bugeiliol pe cawsent eu cyfeiriadau. Deuir o hyd i Gymry yn fynych nad ydynt wedi bod mewn lie o addoliad er pan yn y wlad yma. Arferent fod yn ffyddlon a defnyddiol yn Nghymru. A yw hyn yn ormod i ofyn oddiar law caredigiorr yr achos. Cyfeiriad y Parch E J Parry yw, 4, Osborne Road, Ashton-in- Makerfield, ac efe sydd yn gyfrifol am yr adran a gynwys Ashton-in-Makerfield, Earlestown, a St Helens. Cyfeiriad y parch Hugh Curry yw, 36, Orchard Lane, Leigh, ac efe sydd yn gyfrifol am yr adran a gynwys Leigh, Golborne a Spring View. Y mae y ddau weinidog yn awyddus am wneud popeth a allont i'r Cymry sydd ar wasgar. GWR Y VOTTY. I

DINBYCH. I

ITREUDDYN.

BETHEL, COED-Y-FFLINT.

.LLANGOLLEN.

HOREB, YSTRAD RHONDDA.

[No title]