Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Adroddiad Pwyllgor y Tir,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Adroddiad Pwyllgor y Tir, I r. J. J. I I XV I Sicrwydd daliadaeth (Security of I Teniire). Nid darganfyddiad o eiddo y pwyllgor hwn ydyw yr-angenam sicrwydd daliadaeth i'r amaethwyr. Mae sylw wedi cael ei alw at y pwngc i'n gwybcdaeth ni er's dros hanner cant o flynyddoedd. Bu y diweddar Samuel Roberts, Llan- brynmair (S.R.) yn traethu ar y drygedd yn hyawdl pan yn anterth ei nerth. Yr un modd, y diweddar Thomas Gee, o Ddinbych, ac eraill yn Nghymru, heblaw lluaws o oreugwyr tuhwnt i'r clawdd amser maith yn ol. Yn y flwyddyn 1880, pedwar-ar- ddeg-ar hugain o flynyddoedd yn ol, pan yn siarad ar y Richmond Commission, gwnaeth Arglwydd Beaconsfield y sylw a ganlyn yn Nhy y Cyffredin: Siomir fi yn ddwfn os nad un canlyniad i'r Commissiwn hwn fydd rhoddi sicrwydd i'r amaethwr na ehaiff ei aflonyddti cyn cael allan o'r tir—yr arian a'r llafur roddodd ynddo." Mr Henry Chaplin yn yr un flwyddyn ddywedai Mae sicr- wydd daliadaeth yn anhebgorol i amaethyddiaeth. Mae y pwyllgor wedi ei lwyr argyhoeddi yngwyneb tystiol- aethau p bob rhan o'r wlad nas gall amaethyddiaeth lwyddo heb roddi i'r ffermwr y sicrwydd mwyaf bossibl y bydd iddo gael ei ddiogelu rhag cael ei droi allan o'i ffarm a thrwy hyny adael ffrwyth ei lafur a'i arian ar ei ol i arall. Profii i foddlonrwydd y pwyll gor mai yr achos penaf o amaeth- wriaeth ddiffygiol, wael, ydyw yr ansicrwydd sydd yn mynwes yr amaethwr tr a yn trin, a gwrteithio ei dir, yr hyn sydd yn gost a llafur mawr iddo-a gaiff efe lonydd i aros yn ei ffarm heb gael ei droi allan, neu godiad yn ei rent ar sail ei lafur a'i gost ef ei hun, cyn cael allan o'r ddaear y cyfoeth mewn arian a llafur a roddodd ynddi. Buddiol fyddai cadw mewn cof fod pwnc Security of Tenure yn broblem cyn geni Mr Lloyd George. Ceir civ wed yn fynych, ac mewn llais uehel, mai y Canghellydd ydyw y cynhyrfwr sydd yn cyffroi y wlad heb achos am hynny, i ddybenion hunanol a phleidiol, ac nad oes unrhyw fantais i'r am- aethwr na'r Wladwriaeth yn cyfodi o'r gyfundrefn dirol berffaith sydd genym yn bresenol, yn wir mae pethau fel hyn yn cael eu pregethu eisoes. Mae Mr Lloyd George yn rym ag y, mae gan Landlordiaeth i gyf- rit gydag ef. Yr hyn a wnaeth y Canghellydd yn allu, ydyw y ffaith ei fod wedi ei fagu a'i feithrin yn awyr merth- yron y gyfundrefn dirol bwdr, un- ochrog, ac yn swn gruddfanau ac ocheneidiau y rhai ysbeiliwyd o'u heiddo, a alltudiwyd o'u gwlad am yr unig drosedd, eu bod yn jneddu barn o'u heiddo eu hunain, a chydwybod i weithredu yn unol ,ag argyhoeddiadau eu rheswm. Bu adeg pan nad oedd ond ych- ydig yn deall a sylweddoli y camwri a'r anghyfiawilder yr oedd y wlad yn dyoeddef odditano, a'r ychydig hynny yn gorfod dyoddef merthyrdod. Erbyn hyn mae yr ychydig wedi dod yn llawer, jMieiafrifyn^fwyafrif. Croesaw calon i'r Toriaid ddweyd fod Lloyd George wedi gwneud ei ran yn helaethach na neb o'i frodyr i idwyu. y pwnc i addfed- rwydd i ddeddfu arno trwy oleuo barn v cyhoedd a galw sylw y werin i ffeithiau a deimlai y bobl, t a nad oeddynt yn deall eu ihachos. Addefwn gyda phob rhwyddineb mai Lloyd George ydyw y special- ist sydd wedi rhoddi diagnosis cywir o afiechyd sydd yn bwyta nerth y wlad yn y ffurf o gyfun- drefn dirol bwdr, fraenedig, nad oes ei chyffelyb yn unrhyw wlad arall hyd yn nod hanner gwareiddiedig o dan haul y nen. Mae yn dra thebyg hefyd y bydd ganddo ran mor amlwg a neb yn yr operation ar gyfer pa un y mae y wlad yn cael ei pharotoi i dynu ymaith y Gangrene sydd yn ein cyfansoddiad gwleidyddol a chym- deithasol, ac nis gwyddom am neb yn meddu llaw mor ddigryn i arfer y gyllell, na neb fydd ynfwy gofal- us i beidio tori yn rhy ddwfn, a thynu ymaith yr hyn y gellir ei feithrin i fod o ryw ychydig o werth i'r corff cymdeithasol. Mor bell a dwy ar bymtheg ar huga.in o flynyddoedd yn ol, yn 1851, gwnaed ymgais egwan i wella sefyllfa y tenant ffarmer gyda dyogelu fixtwres amaethwriaeth i fod yn eiddo y tenant oedd wedi talu am danynt mewn arian a chwys, hynny yw, ychwanegiad at yr adeiladau, troi etyfeiriad dwfr i fantais y ffarm, gwMud ffyrdd, a phontydd, a gerddi, a phlanu coed ffrwytnau, agor ffosydd, &c., &c., pethau ag y gellir eu galw yn ddodrefn ffarm. Yn y flwyddyn 1875, ymhen ped- air blynedd ar hugain, gwnaed cais mwy teilwng i ddelio gyda'r brob- lem mewn gwedd fwy cyffredinol 'er mantais y ffarmwr. Nid yw o ddim dyben manylu ar y ddeddf honno, oblegid, yr oedd adran ynddi a'i gwnai yn hollol ddiwerth, ac a brofodd felly, sef yr adran oddefol (permissive) yn y ddeddf a'i gwna yn ddiwerth hollol ac o herwydd i'r tirarglwyddi gym- eryd y fantais ar yr adran oddefol, buan daeth yn llythyren farw. Yn 1880 pasiwydy Ground Game Act, yr hon roddai hawl i ladd ys- gyfarnogod a gwningod i'r tenant. Yr ydym wedi sylwi ar ddiffygion y ddeddf honno eisoes-ofer ail- adrodd. Yn 1883, yn ngweinyddiaeth Mr Gladstone, pasiwyd yr Agricultur- al Holding Act, mae yn debyg, mewn canlyniad i'r ymchwiliad a wnaed yn 1882 gan y Richmond Commission. Yr oedd y ddeddf honno yn gwneud yn amhossibl bargeinio allan o honni mewn rhai pethau lied bwysig, megis tal am welliantau, rhoddi chwaneg o amser rhybudd i ymadael, a rhai pethau eraill. Yn 1900 a 1906 diwygiwyd rhyw gymaint ar ddeddfau blaenorol. Diwygiwyd deddf 1883 yn 1908. Er hyn oil, mae dolur ansicr- wydd daliadaeth yn agored ac yn grawnllyd hyd yn hyn, a'r rhan fwyaf o ddarpariadau y deddfau nodwyd, rhai o honynt uchod, yn aneffeithiol i liniaru ond ychydig ar y dolur. Efallai mai buddiol cymeryd trem frysiog ar ddarpariadau deddf 1908. Bydd hynny yn fantais i ddeall y fan yr ydys yn sefyll arno yn awr. Mae y ddeddf hon yn gymwys- iadwy at bob tir amaethyddol pa un bynnag ai tir dan yr aradr ynte tir porl fyddo. Mae ynddi rai dar- pariadau yn dal perthynas union- gyrchol gyda Market Gardening. Mae darpariaeth ynddi i'r tenant gael tal am welliantau ar y tir yn ogystal ac am welliantau mewn fixtures.. Mae gan y tenant hawl i dal am rai gwelliantau, hyd yn nod pan yn ymadael o'i ewyllys ei hun ac nid yn cael ei orfodi i ymadael; ond rhaid iddo gael caniatad y landlord i wneud y gwelliantau hynny cyn y gall hawlio -tal am danynt, a hyny yn ysgrifenedig. Gallem ysgrifenu llawer ar yr ys- trywiau arferir i osgoi talu o dan yr adran hon yn y ddeddf. Y cyfreithwyr sydd yn derbyn y fantais fwyaf o'r adran hon yn ddi- au. Heblaw hyny, rhaid i'r tenant roddi rhybudd i'r landlord ei fod yn bwriadu hawlio cydnabydd- laeth am welliantau, ac yn fuan wedi hyny anfon i'r landlord y manylion o'r gwelliantau am ba rai y mae yn myned i hawlio tal. Seilir y swm i'w dalu ar werth y gwelliantau i'r tenant sydd yn dod i'r fferm ar ol yr hwn sydd yn myn'd allan ac yn hawlio y tal. Os bydd y pleidiau yn methu cytuno, rhoddir yr achos i gyflafareddiad. Gofelir fel rheol fod y landlord yn rhoddi cymaint o ddrain ar ffordd gweith- iad allan y ddeddf ag a allo, ac y mae yn gallu llawer, ac y mae y cwrs-weithrediad yn un costus. Sylwir ar hyn eto. Mae deddf 1908 yn darparu ar fod i denant fydd yn cael ei droi allan o'i fferm gael tal am ei fod yn cael ei aflonyddu heb fod achos rhesymol am hyny. (Mae rhywbeth i'r un perwyl yn neddf 1900). Pan y mae landlord yn rhoddi notice to quit' neu yn gwrthod estymad pryd'es ar ol i gais prydlon gael ei wneud am estyniad, oddieithr i'r landlord allu profi dau beth, sef (a) fod achos rhesymol dros ei droi allan oblegid amaethwriaeth wael neu rywbeth afreolaidd ar ran y tenant, neu (b) resymau fod good estate management yn galw am i'r tenant fyned allan. Rhoddir i'r tenant hefyd hawl i dal am gael aflonyddu arno trwy rybudd gyda'r amcan i godi yn y rhent. Gall wrthod talu y codiad a chodi tal am gael aflonyddu arno. P'eth arall o gryn bwys i'r ffarmwr yn Act 1906 ydyw yr hawl a roddir i'r tenant i godi y cnydau a fyno efe. Yn flaenorol i'r ddeddf hon yr oedd y rhan fwyaf o'r Landlords yn gosod i lawr reol yn y gyttundeb fod yr amaethwr i hau a phlanu ei gnydau yn ol ewyllys y landlord. Ni chaniat- eid iddo i werthu gwair a gwellt a rhai pethau eraill oddiar y ffarm, gyda'r amcan mae'n debyg i gadw i fynu ffrwythlonder y tir trwy droi holl gynyrch y ffarm yn wrtaith trwy gadw anifeiliaid i fwyta y gwair a'r gwellt, etc. Mae y tenant wedi ei ryddhau oddiwrth v rhwymau hyn i gryn fesur oblegid y camrau breision sydd wedi eu cymeryd, gyda gwyddoniaeth amaethyddol yn ddiweddar; gyda gofal wrth gwrs fod ffrwythlondeb y tir yn cael ei ddiogelu. Ond mae hyn eto yn cael ei wneud yn an effeithiol trwy yr un diffyg y cyf- eiriwyd ato lawer gwaith, sef Insecurity of Tenure. Mae yr Act hefyd yn darparu ar fod tal i gael ei wneud oblegid difrod gan a thrwy y Game. 0 dan y ddeddf hon, gall y tenant neu y Landlord hawlio fod cyfnodiad yn cael ei wneud o gyf- lwr yr adeiladau, gwrychoedd, a chyflwr amaethwrol y ffarm o fewn tri mis ar ol cymeryd medd- iant o'r ffarm. Mae hyn gyda golwg ar rwyddhau pethau erbyn adeg ymadael, a gwybodaeth o'r graddau y mae y tir wedi gwella neu wedi gwaethygu yn ystod tymhor y daliadaeth. Dyna gipdrem fras ar ddarpar- iadau Deddf 1906. Sylwn yn awr ar y ddeddf yn ymarferol fel y mae yn cael ei gweinyddu. Mae y pwyllgor yn argyhoedddeig fod y ddeddf wedi profi yn fanteis iol mewn rhai cyfeiriadau. Mae y rhan luosocaf o'r tirfeddianwyr a'u goruchwylwyr yn tystio fod yr adranau sydd yn delio gyda thai am welliantau, a thai am aflon- yddu ar y tenant heb achos cyf- reithlon i hyny wedi atteb y dyben yn foddhaol i'r naill blaid a'r llall. Mae rhai amaethwyr yn tystio fod ansicrwydd daliadaeth yn ymar- ferol wedi diflanu trwy yr Agricultural Holdings Act. Rhai yn myned mor bell a dywedyd fod gormod o ddeddfwriaethu rhwng landlord a thenant ac y dylid rhoddi mwy o le i fargeiniaeth rhwng landlord a'r tenant yn ddi- gyfrwng. Ond, o'r ochr arall y mae llu mawr yn tystio yn gryf mai yr un peth mawr angenrheid- iol yw Security of Tenure. Sylwasom o'r blaen fod 60 y cant o'r tystion yn dweyd fod ansicr- wydd daliadaeth yn anfantais aruthrol i'r ffermwyr, a 32 y/ cant yn dywedyd yn wahahol, a'r gweddill yn dywedyd dinl. Warwickshire, E. 277, Agent to Landowner and Peer. "Fel rheol mae ansicrwydd dal- iadaet h "yn bodoli. yn unig mewn damcamaeth. Anfynych y mae newid dwylaw ar y, ffermydd y mae a fynof fi a hwy, a bron yn ddieithriad o herwydd achosion naturiol ac nid o herwydd dim yn anynad yn y landlord." Lincolnshire, C. 51, Farmer. "Mae ffermydd yn yr ardal hon o dan daliad bl wyfol-diin prydles. Rhoddir blwyddyn o rybudd o'r naill ochr neu y llall. Mae y ddal- iadaeth yn weddol sicr. Ychydig o newidiadau sydd yn cymeryd lie. Mae yr amodau yn weddol gyfiawn rhwng landlord a thenant. Mor bell ag y telir y rhent yn rheolaidd, mae y tenant yn rhes- ymol ddirgel." Mae yr uchod yn engreifftiau gweddol deg o luaws tystiolaethau y lleiafrif. Maent yn cyfleu v syniad fod deddf 1906 yn cyfarfod yn foddhaol gyda'r landlord a'r tenant fel eu gilydd ac yn foddhaol i'r ddwy blaid. Dywedant fod dal- iadaeth yn rhesymol sicr, ac nad oes angen dim yn amgenach. I O'r ochr arall, mae wyth tuda^en yn yr adrodcliad mewn type man, yn datgan fod ad-daliad am well- iantau yn gyfyngedig. Mai amhos- ibl bron ydyw cael cydsyniad y landlord i welliantau sydd yn dyfod o dan adranau 1. a II. o'r ddeddf i dalu am danynt pan yn ymadael o'r ffarm. Cwynir gan lawer fod seiliau taliad am aflonyddu aryddaliad- aeth yn sigledig ac ansicr. Dy- wedir nad oes ond ychydig a hwnw yn ddibwys yn y ddeddf o ddef- nydd cysur i'r amaethwr da sydd yn dymuno aros yn ei gartref, fod bron yr oil sydd yn y ddeddf yn ddarpariaeth ar gyfer y dyn sydd yn gadael- y ffarm. Un dystiolaeth yn unig roddwn yma, heb draff- erthu i ddethol ond cymeryd yr agosaf at law Somersetshire, F. 58, Yeoman Farmer. Dylai fod compensation am bob symudiad oddieithr mewn achos o ddiffyg yn nhalu y rhent, neu am- aethwriaeth ddiofal a gwael. Cred- af y rhoddai hynny 'atalfa ar y newidiadau blynyddol sydd yn cymeryd lie yn yr ardal hon, yrhyn sydd yn dirfawr dylodi y tenant fydd vn symud. fydd yn symud. Mynych y clywir ffermwyryn dweyd, 'Gwnawn hyn, a gwnawn y Hall, a byddai hyn yn fantais i mi. Gwnawn fel yr ydych yn fy nghynghori, ond nis gwn beth a ddigwydd, mae y fath ansicrwydd fel nas gwn pa bryd y caf rybudd i ymadael.' Mae adran II. Act 1908 mor amwys, fel y mae, yr amaethwyr sydd yn ymadael yn ofni rhoddi y rhybudd priodol am compensation oblegid fod yr, Auc- tioneer, y prisiwr, a'r goruchwyl- iwr yn elynol i'r ddeddf bron bob yn ben. Mae yr amaethwyr yn ddibynol ar y gwyr hynny i radd- au mawr am ffarm i fyned iddi yn lie yr un roddir i fynu. Prin y mae yn ddoeth gwneud cais am yr hyn y mae y ddeddf yn ei addaw. Pe gwnelid yr adran yn eglur gan nodi allan yn glir yr eithriadau sydd yn gwneud y ddeddf yn ddirym, cym- erai y tenant y fantais ar y ddeddf ar unwaith pan yn ymadael o'i ffarm." Yr hyn sydd wedi ei wneud yn Lloegr ac yn Nghymru hyd yn hyn ydyw darparu fod compensation yn cael ei dalu i'r dyn fyddo yn cael ei yrru allan o'i gartref, ac nid sicrhau i'r rhai sydd yn aros sicrwydd daliadaeth, ac y mae teimlad cryf a chynyddol o'r angen am hynny. Nis gellir gwneud yn well na difynu Mr Collin Campell, Llywydd Undeb yr Amaethwyr: Nid yw y Tenant Farmer yn gof- yn am ffafr arianol, nac mewn un ffordd arall gan neb, ond y mae yn gofyn mewn llawn hyder mewn cyfiawnder, tra y llafurir y ffarm yn dda ac yn briodol, ac y telir y rhent yn rheolaidd, i'r amaethwr gael parhau i ddilyn ei alwedigaeth heb unrhyw ymyriad gyda'r sicrwydd y bydd y wladwriaeth yn ei ddiogelu yn ei gartref." Mae y tystiolaethau yn profi tod dyogelwch yr amaethwr yn llai dyogel yn awr nac y bu yn y mynedol, oblegid fod cymaint o dir yn newid dwylaw trwy ar- werthiant. Mae yr ymdeimlad o ansicrwydd yn dyfnhau yn myn wesau llaweroedd. Parheir y pwnc hwn yn y nesaf.

BYD CREFYDDOL. I

[No title]

Yr Hen Gymraeg.