Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB CERDDOROL Y DE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB CERDDOROL Y DE. Cynhelir Cymanfa gyntaf yr Un- deb eleni yn Abertawe, dydd Llun' y Pasg, Ebrill 13eg, 1914. Nid yd- ym yn gwybod pa un a ydyw y svlwadau ar tudalen 4 yn y rliaglen wedi cael y sylw priodol, yn en wedig nodiadau rhif 3 a 5, ond y mae y Pwyllgor yn gobeithio eu bod wedi cael sylw pob adran o'r Dalaeth. Os nad ydynt, gwell fuasai trefnu Rehearsals ar un- waith. Yr ydym yn disgwyl Cym- anfa ragorol yn Abertawe ar ddech- reu y gyfres o'r Cymanfaoedd, yn neillduol felly am fod y cerddor ieuainc a medrus, sef Mr Aneurin Rees, A.R.C.M., F.R.C.O. (Organ- ydd Eglwys Wesleaidd ■ Pontar- dawe), i arwain yn mysg ei bobl ei hun. Hon fydd ei Gymanfa fawr gyntaf, ac yr ydym yn sicr yn ein meddwl y cawn Gymanfa Iwydd- ianus yn mhob ystyr. Dymuna'r Pwyllgor hefyd alw sylw at nodiad y 9fed ar y rhaglen mewn cysylltiad a phenodi- cyn- rychiolydd o bob Cylchdaith i wasanaethu ar y Pwyllgor a gyn- helir am ddau o'r gloch dydd Mawrth yn nghyfarfod Talaethol Mai (ceir manylion ar raglen y Cyfarfod Talaethol), ac feallai na bydd allan o le i awgrymu bod personau cymwys mewn ystyr ger- ddorol yn cael eu dewis. Y mae y pwyllgor cyffredinol yn cael anhawsder mewn cysylltiad a chael tonau plant, o radd uchel, a bydd yn dda ganddynt gael copiau wedi eu danfon i'r Ysgrifenydd Cyffredinol mor fuan ag sydd bosibl odonau cyfaddas. Deallwn fod rhai, os nad yr oil o'r cylchdeithiau fu tu allan i'r Undeb yn bwriadu danfon cynrych- iolaeth i'r pwyllgor nesaf, carem weled y Dalaeth yn ddifwlch yn yr ystyr yma, nid yw Wesleaeth y Dalaeth yn rhy gryf ar ei goreu. Cynhelir Cymanfa Aberystwyth dydd lau, Mai 21ain, a Chymanfa Pontypridd dydd Mawrth y Sul- gwyn, Mehefin 2il, 1914, a barnu wrth lwyddiant rhai o'r Rehearsals a gafwyd, yr ydym i gael canu ben- digedig drwy y tymor. Y mae ychydig ragleni ar law, ond nid digon i roddi Specimen Copies eleni.

MANCHESTER. I

I--COEDLLAI.I

NODION O TRINITY ROAD, BOOTLE.

YMWELIAD Y PARCH JOHN PUGHI…

LEIGH. I

EGLWYSBACH. I

PONTRHYDYGROES.

LEEDS. I

.OAKFIELD, LIVERPOOL.I

SHILOH, TREGARTH.

iCERRIGYDRUIDION.