Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB CERDDOROL Y DE.

MANCHESTER. I

I--COEDLLAI.I

NODION O TRINITY ROAD, BOOTLE.

YMWELIAD Y PARCH JOHN PUGHI…

LEIGH. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LEIGH. I YMWELIAD GWYNFRYN.—Sul, Chwefror 22ain, yng ngha,pel y Wesleyaid Saesnig y dref hon bu y Parch D. Gwynfryn Jones yn pregethu y boreu a'r hwyr am 3 o'r gloch y prydnawn, yn anerch aelodau y Dos- barth Beiblaidd. Clywsom iddo gael amser rhagorol. Yn yr hwyr yr oedd yr addoldy eang yn orlawn. Gwynfryn yn boblogaidd iawn yn y dref. Wedi deall ei fod yn dod i'r dref i wasanaethu y Saeson, anfonodd yr eglwys Gymreig ato i ofyn a fyddai mor garedig a'u gwasanaethu drwy draddodi darlith nos Lun, Chwefror 23am. Caed gair yn ol yn fuan y gwnai gyda phleser, gan nodi testyn y ddarlith, sef "Vulgarity." Trefnwyd i gael gwas- anaeth Lecture Hall eang Capel King Street iddo draddodi y ddarlith, a chaed addewid Maer y dref, Cynghorwr J. Ashworth, J.P., i gymeryd y gadair am 7.30, yr hwn a draddododd un o'r anerch- iadau prydferthaf a hynod amserol. Yn mhlith pethau eraill dywedodd mai pleser o'r mwyaf iddo ef oedd gwneyd yr hyn allai er cynorthwyo yr eglwys Gym- reig. Hefyd meddai, b'um yn gwrandaw ar Mr Jones yn pregethu neithiwr. Cefais fwynhad a bendith wrth wrando arno, a diau genyf y ceir treat heno etc. Yna galwod'd ar Mr Jones at ei waith. Prin mae eisiau nodi i ni gael darlith addysg iadol, dyddorol, ac amserol gan Gwynfryn. Cafodd hwyl i ddweyd a chafodd y gynulleidfa hwyl i wrandaw. Cynygiwyd y diolchiadau arferol gan y Parchn H. Curry, E. J. Parry, a D. Solomon. Elid i mewn drwy docynau. Disgwylir y bydd yr elw yn un sylweddol er cynorthwyo yr achos Cymreig yn Orchard Lane. GOH. I

EGLWYSBACH. I

PONTRHYDYGROES.

LEEDS. I

.OAKFIELD, LIVERPOOL.I

SHILOH, TREGARTH.

iCERRIGYDRUIDION.