Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB CERDDOROL Y DE.

MANCHESTER. I

I--COEDLLAI.I

NODION O TRINITY ROAD, BOOTLE.

YMWELIAD Y PARCH JOHN PUGHI…

LEIGH. I

EGLWYSBACH. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLWYSBACH. I Yn ddiweddar cynhaliwyd cyfarfod ad loniadol a te llwyddianus iawn yn y lie uchod, y te yn cael ei roddi yn garedig gan Mrs Lloyd, London House; Mrs Evans Cumberland House Mrs Jones, Ty'nddol Mrs Jones, Penybryn Miss Jones, Tygwyn, a Mrs Jones, Meddiont Isaf, ac fe wnaed elw sylweddol. Llywyddwyd v cyfarfod gan Mr D. Jones, Ty'nddol. Yr oedd y Vestri yn orlawn, a chymerwyd rhan mewn canu, areithio a chystadJu gan amryw. Diolchwyd yn gynes i bawb am eu gwas anaeth gan y Parch E. Arthur Morris. Mae yna ddigon o dalentau yn yr eglwys, a da gael cyfle iddynt ymarfer eu dawn yn'y cyfeiriad hwn. Bu yr eglwys yn ddiweddar yn dewis cynrychioiwyr i'r Cyfarfod Blaenoriaid. Dewiswyd Mri R. Twrog Williams, Enoch Evans a David Jones. Hefyd dewiswyd Mr J. W. Lloyd yn Poor Steward. Eidd- unwn iddynt oil flwyddyn Iwyddianus iawn. Dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol y chwiorydd cynhaliwyd cyfarfod amryw iaethol yn yr Ysgoldy. Daeth cynulliad da ynghyd. Arweiniwyd y gweithrediad- au gan y Parch E. Arthur Morris, a chaf- wyd anerchiad rhagorol gan Mrs Rowlands o Lanrwst. Beth amser yn ol vmwelodd Gwynfryn a ni ar ran ymgeisiaeth Sir Herbert Roberts, A.S., a thraddcclodd araeth nes gwefreidd- io pawb. Eglurodd gwestiwn y Tir gyda manylder mawr, ac yr oedd ei ymresymiad yn rnhlaid Uatgysylitiad yn ysgubol. Brysied yma eto. GOIl.

PONTRHYDYGROES.

LEEDS. I

.OAKFIELD, LIVERPOOL.I

SHILOH, TREGARTH.

iCERRIGYDRUIDION.