Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

DETHOLION LLENYDDOL. I - I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DETHOLION LLENYDDOL. I I Bywyd Lloyd George. I Cefais flas rhyfeddol yn darllen dwy gyfrol olaf bywyd Lloyd George. An- hawdd ydyw tynu llygaid oddi ar y cyf i-olau wedi dechrau dar lien. Ma,e ys- tori bywyd Lloyd George mor ramantus, a'r dull o ddweyd yr ystori gan Mr du Parcq, mor ddyddorol, fel mae rhaid i'r darllenydd ar ol dechreu fyned yn mlaen i'r diwedd. Deliai y ddwy gyfrol a gyhoeddwyd o'r blaen, ac am ba rai y bu nodiad yn ein colofnau rai misoedd yn ol, gydag hanes ein gwron hyd yn agos i 1905, pan dderbyniodd y swydd o Lywydd Bwrdd Masnach. Sonir am ei waith enfawr tra yn y swydd hon, ac am ei wasanaeth yn setlo argyfwng y rheilffyrdd. Wedi hyn cawn ef yn Ganghellor ac yn yrnladd dros ei Gyll- ideb gyntaf. Hefyd traethir am ei waith yn pasio Tal Hen Oed a'r Ddeddf Y swiriaeth. Pennod 6 ddyddordeb neillduol i Gymru ydyw hono yn aelio a Dadgysylitiad. Cof gan ddarllenwyr y G. N." am y cynhwrf wnaethpwyd gan y Parch. Evan Jones, Caernarfon, ac eraill ymhlith Anghydffurfwyr am fod y Cabinet un amser yn gosod y Mesur yma naill oebr. Cynhaliwyd cyfarfod yn Nghaerdydd, ac yr oedd Lloyd George yn bresenol, ac enillodd ei ffordd gyda'r dorf, ac ar ddiwedd y cyfarfod yr oedd pawb yn gytun nad oedd y Canghellor wedi gwneyd yr un cam a Chymru. Yn y bedwaredd gyfrol ceir rhestr o'i areithiau, ac maent yn darllen mor ffres a phe bux-,em yn eu gweled [yn y papur dyddiol y diwrnod yn dilyn eu traddodiad. Mae amryw o luniau da yn britho y llyfrau. Ceir llun Lloyd George yn anercb cyfarfodydd yn Victoria Park, Aberfcawe, ychydig amser yn ol; ei lun yn chwareu "golf"; llun ei ddiweddar ferch—Mair Eilimed llun ei dy yn Criccieth, a'i lun ef a'i deulu. Hefyd amryw o "cartoons" dyddorol dros ben, Llyfr aralt. | Llyfr arall y cefais flas mawr yn edrych trosto ydyw LLYFR DARLLEN AC YSGKIFENU. Gan John Lloyd M.A., Yr Ysgol Ganol- raddol, Abermaw. Casgliad yw'r llyfr hwn o ddyfyniadau o'r clasuron Cymraeg ynghyda gwersi pwrpasol sylfaenedig arnynt a enillodd y wobr yn Eisteddfod Wrexham, 1912. Ac nid oes ambeuaeth nad yw yn un o'r casgliadau rhagoraf sydd wedi eu cy- hoeddi. Rhagora mewn o leiaf un peth, sef yn nyddordeb a newydd-deb y darn- au dewisedig, yn rhyddiaeth a birddon- iaeth. Pigion .ydynt o waith llenorion a beirdd blaenaf y genedl, a phigion wedi eu dewis gyda'r amcan o wneud y wers yn ddifyr ac addysgiadol i'r ysgolheigion. Ni raid cywilyddio ei roi ochr yn ochr a goreuon y Saeson. Ar y diwedd ceir nodiadau bywgraffyddol o'r awdwyr, oil wedi eu hysgrifenu yn ofalus ac yn cyn- wys y prif ffeithiau wedi eu gosod yn drefnus a chryno. Y mae yn llyfr bach da a diddorol tros ben. ——— Y Ddrarna. I Dyma air bach brathog a cball o'r Goleuad am y Ddrama. "RhyÍedd i gymaint o fri daw y Ddrama y dyddiau hyn yn Nghymru. Mewh llawer ardah Did oes bri r ddim ond bon. Y mae'r Cyngherdd wedi myri'd yn hen ffasiwn, a'r Eisteddfod a'r Cyfarfodydd Dadleuol wedi syrthic yn fawr yn eu gwerth. Ond rhaid peidio gwylltu. Gwelwyd petbau fel hyn cyn heddyw, a phobl yn ffaglu mewn sel danllyd gyda rhyw newydd bethau ae yna y sel hono yn yn diffodd yn sydyn, hyd nes y daw rhyw newydd. beth arall i'w hail-gyneu, a hwnw yn ei dro yn cyfarfod a'r un dynged. Un o beryglon parod i amgylchu y Cymro yw rhedeg i eithafion gyda phopeth." Dysgu'r Gymraeg. I Ni bu erioed adeg yn banes Cymru pan y dylai ei bechgyn a'i merched ym- egnio i ymgynefino a iaith eu mamau, canys erbyn hyn y mae hynny wedi dod yn fantais fasnachol bwysig, heb son am fanteision eraill. Cwynir yn ardal- oedd Merthyr a Ehondda oblegid prinder athrawon ac athrawesau yn meddu ar y cymhwysderau i ddysgu'r Gymraeg' yn .yr vsgolion dyddiol, ac nid yw y gwyn yn y lleocld hyn ond yr hyn sydd yn wir hefyd am leceld eraill. Edryched plant Cymru rhag colli eu cyfleusderau gwych, a gadael i'w dydd gras fyned heibio. Enwogion Llansannan. I Nid oes nemawr i avdal yn Ngliymra fedr ymffrostio fel Llansannan yn nifer ei henwogion. Wele rai o bonynt: Tudur Aled (1470—1527), William Salesbury (1515—1595), Henry Rees (1797—1869), Gwilym Hiraethog (1802 :1882)i; lorwerth Glan Aled (1819— 1867). Nid Heiaf ydyw y pentref hwn yrahlich pentrefi Cymru, canys allan o hono y daeth tywysogion y gall y genedl fforddio teimio yn falch o hpnynt.

I Y GOLOFN DDIRWESTOL. I

Advertising