Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

DETHOLION LLENYDDOL. I - I

I Y GOLOFN DDIRWESTOL. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Y GOLOFN DDIRWESTOL. I I Cyrtgrair y Deyrnas Gyfursol. I Beth ydyw ? Cyfansoddiad ac Amcanion. Cyngrair y bobl ydyw yr United Kingdom Alliance, ar seiliau rhydcl oddiwrth enwad, credo, neu blaid. Apelia yn arbennig at bob gwir ddines ydd, Loed lwyr ymwrthodwr neu beidio. Nid oes iddo unrhyw amod aelodaeth ragor nag awydd ddiffuant i symud niweidiau ymyfed oddiar y genedl drwy symud yr achos. Ei waith yclyw- Yn gyntaf, addysgu y bobl am natur y Gwlybyron Alcoholaidd, ac effeith- iau Moesol, Cymdeithasol, a Gwleid- yddol, eu gwerthiad cyffredin. Yn ail, cyfeirio barn gyhoeddus effro a goleuedig ,y cyhoedd i gael gan y Sen- odd yr hawl o hunan amddiffyniad i ardaloedd yn erbyn caniatau trwy- ddedau o fewn eu terfynau gan unrhyw awdurdod trwyddedol, sut bynnag y'i cyfansoddir. Yn drydydd, cynorthwyo ymgeiswyr Seneddol addawant bleidleisio yn ffafr y cyfryw ddeddfwriaeth angen- heidiol. Gwaith Cyffredinol. Er byrwyddiad yr amcanion hyn cynorthwya yr Alliance unrhyw fesur fyddo'n debyg o leihau drygrau y Fas- nach Feddwol, pa mor fychan bynnag y bo y cyfryw fesur, ar y dealltwriaeth bob,amser nad oes unrbyw anhawgter pellach yn cael ei osod ar ffordd sicrhau yr amcan mawr sydd gan yr Alliance mewn golwg—rhedeg yn gyfochrog a hynyma, rhydd yr Alliance gynorthwy parhaol i bob agwedd ar y symudiad o ddarbwylliad moesol, i'r Gobeithluoedd Cymdeithasau Dirwastol Enwadol, Cymdeithasau Trefol a Dosbarthiadol, Cymdeithasau y Chwiorydd, a gwahanol Urddau Dirwestol. Y Gwaith yn y Dosbarthiau. Ceir deg ar hugain o gynrychiolwvr yn y gwaith, y rhai gyda llais ac ysgrif- bin ydynt yn feunyddiol yn argymell drwy'r wlad egwyddorion y Diwygiad Dirwestol. Neilltuir ychydig o'r cyfryw i gynnal Cenhadaethau Dirwestol- Cyhoeddir hefyd a rhoddir cylchrediad eang i lenyddiaeth ar wahanol agweddau y Symudiad. Cyllid. Gwneir Apel Arbennig am gynorthwy er dwyn ymlaen ac eangu gwaith yr Alliance." Derbynia tanysgrifwyr o ddeg swllt. y flwyddyn ac uchod gopi o'r Alliance News and Temperance Reformer" yn wythnosol, a'r cludiad wedi ei dalu Swllt y flwyddyn ac uchod yw tal aelodaeth. Araeth Ddirwestoi Mr Matthews Dyma air doniol allan o ysgrif Dr. W. Edmund Thomas, ar Matthews o'r Gwenni, yn y Genhinen. Yn y diwedydd, ar ol te, y deuai Mr.v Matthews i roi tro am danaf. Gwyddai mai dyna yr amser y byddai gennyf hamdden i siarad tipyn (yr oedd hyn cyn adeg cardiau cocli Lloyd George) Ac edrychwn yml-aen at ymweliad y proffwyd gyda mwy o flas hyd yn oed ijag at swn y Ilestri te. Un diwrnod yr oeddwn ar ginio—(cyn mynd ymhellach rbaid imi wneud cyfaddefiad nid oedd- wn lwyrymwrthodwr ar y pryd 1) ac ar y bwrdd o fy mlaen yr oedd glasiad o Dublin Stout.' Dyna gnoc ar y drws. Adnabuoi y gnoc ar unwaith a gwelwn oddiwrth wyneb gwelw fy mhriod ei bod bitbau wedi clywed ac wedi deall Mr Matthews Ond pam ar amser cinio ? I fewn a'r glasiad a'r botel i'r cwpwrdd, ac i'r drws i gyfarfod y pregethwr. Fy mawr ofn oedd nad oedd y wraig wedi gallu cau yr arogl i mewn yn y cwp- wrdd gyda'r ddiod a gellwch ddych- mygu fy llawenydd pan welais nad oedd y pregethwr diniwed wedi deall dim. Yr oedd yn hollol ddigyffro, a holai fi am waith y dydd. Been very busy to-day, Doctor ?" No, not particularly busy I have been in the surgery all morning mixing medicines." Ali, I thought I could smell medicine." "Yes, Mr Mat- thews," meddwn innau, a'm wyneb ar fy ngwaethaf yn dechreu newid lliw yes, the surgery door is open." Tell me, Doctor, where do you get most of your medicine from now ? Dublin, I sup- pose?" Da fuasai gellnyf pe bai modd mynd o dan y ford ac aros yno hyd nes cilio o'r proffwyd ofnadwy. Dyna yr unig araeth gefais ganddo ar Ddirwest; ond nid yn fuan yr anghofiaf hi I I Y IFAsnach-Beth yw y Lies ohoni? Dyma ddywed Mr Phillip Snowden, A.S. Ni ddyilliaw uurhyw fantais o gwbl i'r cyhoedd oddiwrth y Fasnach mewn Diodydd Meddwol. Arwydd yw y Cyllid cenedlaethol geir o'r Fasnach o eangder y gwastraff cymdeithasol a'r tiodi cymdeithasol achosir drwyddi. 1 genedl heb ganddi Fasnach FúdJ- wol ni byddai unrhyw anhawsder i sicr hau y cyfan f'ai yia eisiau i gyfarfod pob gwario cyfreitblon. A gwnelai hyny, nid drwy ddifetha cyfoeth, oblegid nid I yw y Fasnach Feddwol yn cynyrchu cyfoeth o gwbl. Na, difetha cyfoeth y mae, ac felly gynyrchu tlodi, trosedd, afiechyd, gwallgofrwydd, angen a manv- olaeth. Byddai ein gwlad yn anrhaethol well ei chyflwr pe y cadwai gweithwyr y Fasnach Feddwol yn gwbl segur a rhoi pensiwn da iddynt, ond ni byddai un angen am hyny gan y byddai difodiant y Fasnash yn rhwym o gynyrchu mwy, ac nid llai o waitb. Nid dyn wastraffa ei enillion ar ddiodydd sydd yn cynyddu masnach a gwaith. Gan y gweithiwr obry mae dymuniadau sy'n barbaus gynyddu, ac angenion beb eu diwallu efe yn ddiorffwys a gais sylweddoli safon byw uwch a pharchusach."

Advertising