Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU CYFUNDEBOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU CYFUNDEBOL. Gan Llyfebeyf. Ymddangosodd yr erthygl gyntaf o gytres sydd i ddilyn yn y Joyful News," gan y Parch Sherwin Smith, yr wythnos ddiweddaf yn dwyn y penawd Some Principles and Fallacies of Biblical Criticism." Yn ystod cenhadaeth ddirwestol efengylaidd o dan arweiniad Mr John Nix, yn Thornton Hall, Hull, arwyddwyd yr ardystiad dirwestol gan dros chwe' chant o bersonau ac aeth dros gant i'r enquiry room. Gorlanwyd capel Marsh Lane, Bootle, bob nos yn ystod cenhad- aeth y Miss Nellie Coulthand (y girl preacher). Roedd y gynulleid- fa mor fawr fel y methwyd myned i mewn i'r addoldy. Gwelwyd tros gant o ymofynwyr am drugaredd. Erbyn hyn mae cyfanswm Trys- orfa Gan'mlwyddol v Genhadaei h Dramor wedi cyraedd y swm ar- dderchog o 241,301p. Derbyniwyd 4,586p. yn ystod y pymthegnos diweddaf. Cododd Eglwys Stephen's Green, Dublin, i bob pwrpas y swm o 2639p., o ba swm yr oedd l,262p. tuag at Drysorfa Gan'mlwyddol y Genhadaeth Dramor. Haelionus iawn Wesleaid yr Ynys Werdd. Yn yr Home Messenger am y mis hwn ymddengys darlun tra rhagorol o'r Parch F. Luke Wise- man. Cyn-lywydd y Gynhadledd, gydag ysgrif ddarllenadwy gan y Parch Edward Greaves. Gwelsom fod y Methodistiaid Wesleaidd Gwyddelig ar eu huchel- fanau oherwydd fod Gipsy Smith wedi rhoddi ei addewid i fod yn gydymaith i Mr Henry Holloway fel cynrychiolydd i'r Gynhadledd. Yr oedd yn hyfrydwch mawr gen- nym weled fod y Gwir Anrhydeddus Thomas R. Ferens, A.S., wedi cyf- lwyno Mesur Seneddol er cau y Tafarndai ar y dydd Sabboth. Hyderir y cymer ail-ddarlleniad le arno yn gynar yn Mai. Hysbyswyd ym Mhwyllgor y Genhadaeth Dramor yr wythnos ddiweddaf fod y Tywysog ieuanc, nai Brenin Prempets, wedi ei ym- ddiried i ofal y Parch W. R. Griffin i gael ei addysgu mewn Ysgol Wesleaidd. Dymunwn iddo lwydd- iant. Da gennym weled fod trefniadau wedi eu gwneud gan Bwyllgor y Wesleyan Laymen Movement i gynal Cynhadledd yn Brunswick, Mai 22ain hyd y 26ain. Bydd yn bresennol tua phump a deugain o genhadon. Golygfa ddiddorol a chalonogol a welwyd yn Eglwys Mynydd Seicn, Lerpwl, pryd y derbyniwyd gan y Parch W. O. Evans ddau ar bymtheg o bobl ieuainc, y rhai a fu o dan ei addysgiad am wyth- nosau. Cyflwynwyd i bob aelod gopi ysbenydd o'r Testament New- ydd. 'Roedd y wasanaeth yn un a wnaeth argraff dda. Yn ol yr oedran o bedair ar ddeg a phedair ugain bu farw Mr John Jones Sackett, St. Peter, Thanet, y pregethwr cynorthwyol hynaf yn Kent. Ganwyd Mr Sackett yn Myrtle Cottage, lie y bu farw. Ni bu ond dwy noson yn cysgu allan o'i gartref yn ystod ei oes faith. Deallwn fod y Parch E. Tegla Davies, Arolygwr Cylchdaith Tre- garth, wedi cydsynio a chais unfrydol y Cyfarfod Chwarter i ddod yn ol i'r gylchdaith ar derfyn ei dymor yn Llanrhaeadr yn 1917. Y cor buddugol yn yr Eisteddfod Gymreig a gynhaliwyd yn ddiw- eddar yn Manceinion ydoedd y Longsight Wesleyan Children's Prize Choir, o dan arweiniad Mr T. W. Hodkin. Mawr ganmolodd y beirniad y moddy darfu i'r cor ganu.' Cafodd 98 o farciau allan o gant. Agorwyd Eglwys Wesleaidd newydd yn Bishop Auckland yr wythnos ddiweddaf gan Miss Fen- wick, o Wclsingham. Costioc1 dros 13,000p. Rhwng gwahanol gyfarfodydd casglwyd y swm o dros J0,775p. Mae'n dddoldy mawr, a'r olwg arno yn ardderchog. Yr wythnos o'r blaen yr oedd yn hyf- rydwch gennym weled darlun o'r lien gyfaill serchog, Mr D. R. Thomas, Port- madoc, yn y golofn ddarluniedig o'r Methodist Recorder, sef Men of the Day's March." Mae Mr Thomas yn un o'r lleygwyr ffyddlcoaf a mwyaf blaen- llaw a pharchus yng Ngogtedd Cymru. Eiddunwn iddo lawer o flynyddoedd eto i wasanaethu ei eglwys a'i wlad. Fe gofia ein darllenwyr i ni yn ddi-1 jveddar fynegu fod y cerddor poblogaidd ac adnabyddus, Mr T. Armon Jones, R-A.M., yr hwn ydoedd ar y pryd yn yr Hospital,' ei fod erbyn hyn wedi gad- ael yr ysbytty, a'i fod yn cryfhau yn ddyddiol, fel ag y mae'n hyfrydwch gen- nym nodi y bydd yn barod yn fuan i ail ddechreu ar y wasanaeth werthfawr y bu mor llwyddianus yn ei chyflawni er lleshad i ganoedio eneidiau, a gogon- iant i Dduw. "Wedi cymeryd i fyny y "Methodist Recorder i'w ddarllen, siriolwyd ni pan y gwelsom ddarlun da o'r Parch Evan Roberts, Caersws. Mab ydyw efe i'r diweddar anwyl-ddyn poblogaidd, Mr William Roberts, Maentwrog, o fenaig- edig goffadwriaeth, ac yn frawd i'r gweinidog llafurus a chymeradwy, y Parch Thomas Gwilym Roberts. Mae Mr Evan Roberts yn dra poblogaidd fel pregethwr, at hynny mae'n lienor a bardd talentog. Gellir disgwyl llawer oddi- wrtho. Cynhelir Cycgrhair Flynyddol yr Eg- lwysi Rhyddion yr wythnos hon yn Norwich, o dan lywyddiaeth y Parch F. L. Wiseman, B.A., Cyn-lywydd y Gyn- hadledd. Mae y rhaglen wedi ei chy- hoeddi, ac mae'n dda iawn gennym wel- ed nifer luosog o'n gweinidogion a lleyg wyr yn cymeryd rhan mor bwysig yn y cyfarfodydd, sef y Parchn E. Aldom French, R. Moffatt Gantrey, Dr Scott Lidgett, J. Rattenbury, Samuel Chad- wick, George Hooper, Henry Carter, &c., Mri T. R. Ferens, A.S., Arthur Henderson, A.S., a Mrs Hugh Price Hughes. Gofidus gennym nad oes weinidog Wesleaidd Cymreig ar y rhestr. Yn sicr, nid am nad oes genym siaradwyr galluog ac hyawdl yn yr iaith Seisnig y bu y golled hon i'r cynulleid faoedd. Mae'r "Winllan" am Mawrth yn 11awn ysgrifau diddorol, buddiol, a darllenad- wy, fel y gellir barnu oddiwrth y cyn- wysiad" canlynol:— Damhegion y Meistr (darlun). Pulpud y Plant. Aros i'r Blinds godi." Ystori i'r Plant Lleiaf. Oyfriniaeth Islwyn. Y Beibl Cymraeg. Y Brenin Llyr a'i Ferched. Geiriau Thomas a Kempis. Seintiau Mawr. Ymgom y Blodau (darlun). Ystoriau Odysseus. Y Darlun Anghywir (Cystadleuaeth). Y Darluniau Dienw, 1913. Fy Hoff Emyn. Meddwl y Golygydd. Arwyr y Mannau Cudd. Dyn. Can y Plant. Dalen y Gobeithlu. Darllensom yr Eurgrawn Wesle- aidd" am y mis hwn (Mawrth) gyda bias neillduol. Cynwysa ysgrifau o amrywiaeth diddorol ac atdyniadol. Mae'r awduron yn haeddu canmoliaeth uchel am eu cynyrchion. Wele gyn vysiad y rhifyn :— Y diweddar Mr Evan Jones, Llan Gad- fan, gan y Parch T. Jones-Hum- phreys. Llais y Pulpud, gan y Parch Hugh Jones, D.D. 0 Fis i Fis, gan y Parch John Lloyd Jones. Llyfrau Newydd Gwerth eu Darllen, gan y Parch D. M. Griffith. Oriau Tawel, gan y Parch J; E. Thomas. Y Gweinidog a'r Ysgol Sul, gan y Parch R. W. Hughes. Erledigaeth yn yr Eglwys Foreol, gan y Parch J. Maelor Hughes. Pigion o Ddyddlyfr George Fox, gan y Parch Evan Jones. Y Ddau Gyfaill, gan Einion Rhys. Eisteddfod yr Eurgrawn. Llestri'r Trysor," Adolygiad gan y Parch Owen Evans. 0 Gell y Golygydd. -> Goddefer i ni ddifynu a ganlyn allan o adolygiad ar y gyfrol ddiweddaf a gyhoeddwyd o Wesley's Journal. Yr ydym yn gwneyd hyn am ei fod yn baragraff diddorol a buddiol yn dangos y fath nodweddion bywyd a gynwysai cyr-rieria,d Wesley: Then we are also impressed, as we go over these years of Wesley's life, by another of his characteristics—the insatiable curiosity of his intellect. He was interested in everything. Any- thing more unlike the fanatic's gloomy aloofness from this world cannot be imagined. He would always go a mile I or two out of his way to inspect natural curiosity, an intermittent spring, or a moving bog, or what not. So he would to see a country mansion, or a fine garden, or a good picture- He read all sorts of books, from Sterne's Sentimental Journey to Butler's Analogy, "from Rousseau's Emile to Dr. Byrom's Miscellaneous Poems." He was deeply interested in a ghost story, or in an electrical experiment. He notes with manifest delight, that he heard the gms of the Tower when he was fifty miles distant. Another day he took a man who played the German flute to the Tower with him so that he might watch the behaviour of the lions and tigers in the menagerie there under the influence of music—unhappy beasts He records all sorts of things in his "Journal," for he was interested in everything, and that is one of the reasons why the Journal'' is one of the most interesting books in the world.

Llythyrau at y Go!.-I

-DIOLCHGARWCH.

Advertising