Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU CYFUNDEBOL.

Llythyrau at y Go!.-I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llythyrau at y Go!. y OINEMA. j At y Gol. j Annwyl Syr.,—A gaf fi fymryn o ofod i ddyweyd gair sydd ar fy meddwl am y Cinema." Amrywiol yw yr ymdrechion y dyddiau hyn yn ein tre- fydd a'n cymydogaethau gweiihfaol i arwain ein pobl ieuaingc allan o ffyrdd rhinwedd a daioni. Mae y Cinemas yn bethau cyff- redin, a cheir fod miloedd yn cael eu cyflogi er eu gweithio, a miloedd mwy yn eu 'mynychu yn ddyddiol. Mae swm anferth o aur wedi ei suddo ynddynt, a swm aruthrol fwy yn cael ei sylweddoli trwyddynt. Haera rhai eu bod yn gyfryngau effeithiol i ganw llu mawr rhag myn- ychu y dafarn a'r gyfeddach, ond am- heuwn hyn, oblegid y ffaith yw, fod yr arian a wariwyd am y ddiod wedi codi y flwyddyn ddiweddaf, a gellir casglu oddiwrth y ffaith hon na all mynych- wyr y dafarn fod yn llai. Amheus iawn yw eu bod yn lleihau mynychwyr y dafarn a Ileoedd llygredig eraill, ond mae ffeithiau pendant i'w cael a brofant eu bod yn effeithio yn niweidiol ar gynuiliadau a sefydliadau diwylliadol a dyrchafol. Yn ol Adroddiad Pwyllgor Llyfrgell Caerdydd mae mynychwyr y ddarllenfa yn 11awer llai yn awr; a'r llyfrau a gymerir allan yn filoedd yn llai mewn nifer er pan mae y Cinemas' yn y ddinas. Gellir bod yn sicr y collir mwy i fywyd goreu y ddinas trwy esgeulus- dra o'r Llyfrgell, nag a enillir trwy fyn- ychu y Cinemas. Tebyg mai yr un yw sefyllfa pethau mewn cymdogaethau eraill y ceir hwy. Arweinia eu myn- ycbu i adael y ddarllenfa. Hysbyswyd -fi gan wr mewn safle i wybod ei bod bron yn anmhosibl cael cynulliadau mawrion fel yr arferid yn y gorffenol mewn cyngberddau er pan mae y palasau darluniau o wahanol fatbau yma. Anodd yw cael cyngherdd o gwbl, a pban lwyddir mae y cynull- iadau yn fychain iawn o'u cymharu a'r rhai yn y gorffenol. Effeithiant yn niweidiol ar y cymdeithasau llenyddol yn fawr iawn, ac ofnwn eu bod yn eff- eithio ar y cynulliadau crefyddol. Teimla y Cymdeithas y bobl ieuaingc, yr ysgol gan, y cwrdd gweddi a'r gyfeill- ach oddiwrthynt. Gwirionedd difrifol yw fod" aelodau crefyddol yn eu myn- ychu ar draul esgeuluso eu cynulliadau crefyddol perthynol i'r eglwysi. Pell iawn yw y sefydliadau hyn o fod yn addysgol, a diwylliadol; a barnu oddiwrth eu dylanwad ar y rhai a'u mynychant gellir edrych arnynt fel sef- ydliadau niweidiol i feddwl, moes a chrefydd. Yn ol a ddeallwn oddiwrth ymddiddanion y mynychwyr, ceir fod rhai o'r darluniau yn cynwys amgrym- iadau i gyfeiriad dirywiad moes a chref- ydd. Gwyddom am rai trwy eu myn- ychu sydd wedi colli pob chwaeth at fynychu cynulliadau moesol a chrefydd- 01 eu cymeriad. Llwyr feddienir llu gan awydd i'w mynychu ddydd ar ol dydd, a gwariant arian ac amser trwy hynny am yr hyn nid yw fara, a choll- ant bob awydd am yr hyn sydd wir fara i'r meddwl a'r galon. Gresynus yw gweled gwragedd yn troi allan eu plant i'r heol, tra y byddont hwy yn y Cinema, ac eraill yn llusgo dau a thri o honynt yno gyda hwy dair a phedair gwaith yr wythnos. Dylid rhoddi ein pobl ieuainc ar eu gocheliad rhag eu dylanwad dirywiol. Ckistion. I

-DIOLCHGARWCH.

Advertising