Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

I 'BWRDD Y GOL. I

INODIADAU WYTHNOSOL.I

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

ITAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL. Cynddaredd Fawr. I Olygfa geir ar y gwprsyll Toriaidd yn un o'r rhai mwyaf awgrymiadol. Llen- wir yr awyr a phob math o sibrydion a bygythion i geisio dychrynu'r wlad, a pbob ystryw i geisio hyrddio'r Llywod- raeth dros y dibyn a'i gorfodi i apelio at yr etholaethau. Adgofir am frwydrau 1909 ar y Gyllideb ac ar awdurdod Ty'r Arglwyddi. Nid rhyfedcf ychwaith, oblegid parhad o frwydr Deddf y Sen- edd ydyw y frwydr bresenol. Dangos odd y wlad yn 1910 mai trech gwlad nag arglwydd, daeth dymuniad y wlad yn ddeddf y wlad..Ond yn awr y mae peinanwaith y ddeddf yn myn'd i roFr tro cyflawn cyntaf ac yn myn'd i droi allan fendithion i'r Werddon a Chymru. Ceisio atal yr olwyn, a tbroi r peiriant yw nod yr Arglwyddi a'r Toriaid, ac y maent wedi ymdynghedu y mynant wneyd hyny ar draul synwyr, urddas, teyrngarwcb, a pbob rhinwedd. Ni phetrusant yn awr ymladd fel hwligan iaid. Ofer yw ei gwaith. Cyfiawnder a orfydd eto. Mae cadw yr uniawn ar lawr am byth yn Gorfodaeth FHwroi. I Bu dirprwyaeth oddiwrth Gynghrair y National Service League" yn ddi weddar yn gosod eu golygiadau ger bron Mr Asquith, y Prif Weinidog, ac yn apelio at y Llywodraeth am sefydlu cyfundrefn o Wasanaeth Milwrol Gor fodpl. Mae y Gynghrair hwn yn credu nad yw Byddin Prydain Fawr yn bres- enol yn ddigon cref i wrthsefyll ymos odiad pe buasai rhyw Allu Tramor yn ceisio goresgyn ein gwlad. Hefyd credant nad yw y Llynges ynddi ei hunain yn ddigon cref i'n diogelu. Caf- odd y ddirpwyaeth -dderbyniad sercbog gan Mr Asquith, ae mewn araeth gref o'i eiddo gwrthbrofodd eu holl osodiad- au, a dangosodd nad oedd unrhyw sail i'w hofnau. Profodd fod y Llynges, prif amddiffyniaa ein gwlad, yn gryfach nag y bu erioed, ac yn ddigon effeitbiol i wrthsefyll unrhyw allu gelynoL Hefyd deil Mr Asquith nas gallai byddin pa mor gref bvnag y byddai hi gadw ein gwlad os gorchfygir ein Llynges gan' mai ar y Lynges y dibyna ein gwlad < fwyaf am ei diogelwch, nid oedd yn gweled angen am Filwriaeth Orfodol. Dirprwyaeth yr Eglwys. Fel y canlyn y cana Prydydd y Waun yn v Goleuact ["Are You one of the deputation, Bishop ?" —Mr. Asquith, in his private room at the Jrlouse of Commons, on Wednesday, March 4th, to the Bishop of St. Asaph]. Aeth Ymneilltuwyr Dyffryn Clwyd Pwy ddydd, i weled Asquith, A'u traed yn rhwym o fewn y rhwyd- Gan ddisgwyl cael y fendith Hullo ebr Asquith, what is this ? It needs some explanation Why, Bishop dear Are You among This solemn deputation ? V Cydgan Mae'i byd yn gwella-pivy a wâd? O'r diwedd daeth y fraint: Bydd gorfoleddu drwy'r holl wlad-- Mae'r Esgob gyda'r saint! Cymanfa Fawr !—cvhoeddir hi,— Yn ymyl Plasyr Esgob Daw'r miloedd yno'n siwr i chwi 0 bob rhyw wlad yn Ewrob Am ddeg, St. Asaph fydd mewn hwyJ Yn dechreu'r cwrdd "heb fethu • A chyfyd tywysog mawr yr Wyl— Brynsiencyn i bregethu. Cydgan :—Mae'r byd yn gwella, &c.. Am ddau, bydd Esgob Bangor Fawr Yn dweyd ei stori'n Saesneg; Ac ar ei ol--Cymraeg am awr Gan Tecwyn Evans fwyndeg, A m bump (sef oedfa extra 'r Wyl)v Bydd Stanley Jones, a Dirri,- Ac udid fawr na cheffir hwyl Ar hon—a mynd" nodedig. Cydgan: Mae'r byd yn gwella, &c.. Am saith, yr Archddiacon Lloyd Fydd ar y maes yn dechreu Ac E. T. Jones—y ffresa' 'rioed- Bregetha ar ei oreu Ac ar ei ol, fe ddeffry dawn Shcn Gorfj" yn John Tyddewi,— A miloedd ar v maes yn llawn O hwyliau can ddidewi! Cydgan: Mae'r byd yn gwella—pwy a wâd? O'r di wedd daeth y fraint: Bydd gorfoleddu drwy'r holl wlad- Mae'r Esgob gyda'r sspnt. Etholiad ar Un Dydd. Mae Mesur y One Day Elections. wedi pasio ei Ail Ddarlleniad yn y Ty Cyffredin- Aixcan y" Mesur hwn ydyw sicrhau fod y pleidleisio yn mhob ethol- aeth yn cymeryd Ue ar yr un diwrnod, sef ar ddydd Sadwrn, adeg yr Etholiad Cvffredinol. Dyledwyr ydym in gilydd. Dy wedai esgob Llanelwy, yn ei araeth wrth-ddadwaddolol yn Mangor, fod, yr Eglwys yn ddyledus i Yrnneillduaeth yn ogystal ag Ymneillduaeth yn ddyled- us i'r Eglwys. Pan oedd yr Eglwys yn wan, marw, ac esgeulus, yr oedd cydym- geisiaeth iacbus Ymneillduaeth wedi ei deffro i wneyd ei dyledswydd yn well. Dylent gydnabod y ddyled o bob tu" drwy gymeryd a rhoi yn hytrach na cheisio gwanychu y naill a'r llall. Dyna eiriau gwir deilwng o ystyr- iaeth, a da fuasai gallu tystio fod yr oil o arawd yr esgob yn yr un cywair hapus. Ond, y mae y petbau da ddy- wedwyd am Ymneillduaeth wedi eu llefaru braidd yn ddiweddar ar y dydd.

[No title]