Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

ABERPENNAR. i

EBENEZER, CYLCHDAITH TREGARTH.…

LLANFECHAIN. I

NODION 0 DDOLGELLAU. I

LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I

NODION 0 LEYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 LEYN. Bu FARW.—Taflodd angau ei gysgodion tywyll y tro hwn ar ardal lonydd "y Rhiw, nes pen galar chwerw ymhob lie. Ti wy ei gyffyEdddad marwol, aeth enaid y chwaer ieuapc, Mary Griffith allan o aelwyd gynes f Bryn y Fran, byth i ddychwelyd mwy. Cymerodd hyn Ie nos Fercher, Mawrth 4ydd. Ber fu ei rhodiad. Torwyd tan- nau'r delyn wedi prin ei chyffwrdd, a syrthiodd i'w distaw fedd yn dair ar hug- ain oed. Gorchwyl galetaf oes ydyw marw yn ieuanc, ond ni ddywedodd ein gwrthrych air yn crbyn y drefn. Meddyl- iodd am gael byw ymhell tu hwnt i ddydd ei chynhebrwng. Yr oedd gobeithion am ddyfodol hir yn llanw ei chalon, ond ei siomi gafodd. Credwn na roddwyd cym- eriad glanach, a thlysach i orwedd mewn bedd erioed. Bywyd vdoedd losgodd ei hunain allan ar allor gwasanaeth, a dyna un rheswm, hwyrach iddi farw mor gynar. Ym mywyd distaw, tawel, cymmoedd a dyffrynoedd ein gwlad y gwelir gwir wroniaeth. Meddai ein chwaer ieuanc dalent i fod yn ddefnyddiol mewn byd ac eglwys, ac ni fu yn fyr o'i defnyddio. Anadlodd lawer o nefoedd i'w bywyd yn ei gwaith yn ceisio sirioli'r byd o'i chylch. Cerddodd lawer i wahanol gyfarfodydd i helpu a chynorthwyo eraill, er yn flinedig ei hunan, gan bwysau gorchwylion tym- horol. Cloddiwj/dei beddrod ym mynwent Nebo, ac nid yn hir yr anghofir dydd ei chynhebrwng, gan faint y dyrfa ddaeth ynghyd, a'r ymdeimlad o dristwch oedd wedi meddianu pob calon. Cymysgwyd graian ei beddrod a llawer o ddagrau chwerw y diwrnod hwn. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan Mr John Williams, Rhiw. Ymdaened aden Duw dros y teulu sydd wedi eu gadael i alaru colled mor ddwys. Nid dyma y tro cyntaf i angau ymweled a'r aelwyd a chymeryd rhai an- wyl ymaith. "Gorphwys, gymeriad hawdd- gar." Bydded tawel dy hun. Marw yn ieuanc fu dy hanes yma. Byw yn ieuanc fydd dy hanes o hyn allan, mewn gwlad nad yw ei phreswylwyr yn gwybod beth ydyw marw. TYDDYN.—Drwg genym i ni adael allan y rhai canlynol ynglyn a'r Cyfarfod Cys- tadleuol diweddaf. Enillwyd ar yr unawd i blant gan Master Ben Williams, Tan- 'rardd penillicn i'r Dyfodol Mr Ellis Roberts. Yntau hefyd ar y Limerick. Codi mwyaf o donau oddi ar fesur arbenig, John Williams, Rhiw. Cydradd ar yr unawd, Mri R. J. Griffiths, Bod Gaeaf, a John Roberts, Tyn 'Ryn. W. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Nos Lun, yn Ysgol y Cyngor, cynhaliwyd yr uchod dan lywyddiaeth y Parch John Williams, pryd y cafwyd anerchiad ar Ben Bowen, gan Mr W. Jones (Glyn Llyfnwy), a datganiad gan barti Miss J. E. Jones, Terfyn. YSG. I

TALYSARN.I

TREGARTH.

'MANCHESTER.1' ' MANCHESTER.…

IBETHEL, ABERDYFI.I

MAENTWROG.I

Y WYDDGRUG.I

I NODION O'R ABERMAW.

SENGHENYDD.

CYLCHDAITH CEFN MAWR.

TREORCHY.

.M.C. yw