Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Adroddiad PwyiSgor y Tir.-I

LERPWL (OAKFIELD).

COLWYN. %

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLWYN. Ty Y GwEiNiDOG.—Blwydrdyn i Awst I diweddaf y daeth ein gweinidog-y Parch W. Ph. Roberts i fyw yma, ac yr ydym wedi gwneyd ymdrech neillduol fel cylch- daith i gael ty i'r gweinidog yma, ac fe ddaeth i'n rhan ni fel eglwys tuag at draul y ty [100 i'w dalu, ac yr ydym wedi cael yn rhoddion gwirfoddol yn ystod y fhvy- ddyn ddiweddaf tuag at hyny dros [84. Y GYMDEITHAS LENYDDOL,—Feallai mai priodol fyddai rhoddi rhyw gipdrem ar waith y Gymdeithas Lenyddol a Cherdd- ■ i orol yn ystod y tymor presenol. Y Llyw- r ydd ydoedd y Parch W. Ph. Roberts is- lywydd, Mr David Edwards a'r ysgrifen- ydd, Mr Tomy Williams trysoryddes, Mrs Williams, Min y Don Cottages. Tachwedd 11, i ddechreu y tymor caw som Social gan y gwragedd, ac un da iawn oedd hefyd. Dechreu ardderchog. Caw- som elw sylweddbl oddiwrtho tuag at gyn- orthwyo y tlodion tua'r Nadolig. Dyna y drefn flynyddol bellach. Tachwedd 18, anerchiad gan y Llywydd —Ei daith o Bwllheli i ben y Wyddfa ac yn ol, a chawsom fwynhad neilJduol wrth ei ddilyn. Cyweirnod da am y tymor. Tachwedd 25, Cyfarfod Adloniadol dan ofal Mr W. T. Evans. a threuiiasom nos- waith ddiddan a hwyliog dros ben—pawb mewn hwyl. Rhagfyr 9, Anerchiad gan y Parch Elfin Ifor Humphreys, B.A., B.D., Llanddulas. Anerchiad da gwirioneddol ag sydd wedi gadael argraff ffafriol ar ein pobl ieuanc. Rhagfvr 16, papur ar Napoleon Beuno- parte gan y brawd Daniel Rowlands. Rhagfyr 23, Cyfarfod Adloniadol, dan ofal yr ysgrifenydd, Mr Tom Williams, a threuliasom noswaith ddifyr dros ben, y bobl ieuainc ar eu goreu. Ionawr (jed, Adolygu'r flwyddyn 1913. Yn Gymdeithasol, y Cynghorydd Ellis Jones, a chafodd hwyl dda ac yn absen- oldeb y brodyr penodedig fe gymerodd y Llywydd y ddwy agwedd arall, yn Wleid- yddol ac yn Grefyddol, a chafodd yntau amser da. lonawr 13eg, yr oeddym yn disgwyl am adgofion o'n brodyr hynaf yn yr eglwys, ond yn absenoldeb hwnw, cawsom adgof- ion dyddiau ieuengctid'ein Llywydd, ac fe ddarfu pawb gael mwynhad neillduol. lonawr 20, cawsom ddadl cydrhwng nifer o'n pobl ieuanc, ac fe dreuliwyd noson hwyliog dros ben. lonawr 27ain, Cyfarfod Adloniadol dan ofal Arweinydd Canu yr Eglwys, a threfn- odd yntau yn helaeth ar ein cyfer, a mwyn- haodd pawb ei ddarpariaeth, a chawsom noson adeiladol dda. Ionawr 3ydd, cawsom anerchiad byrfyfyr ardderchog gan y Llywydd ar F. N. Char- ington, a chredaf yr erys dylanwad hon ar ein Cymdeithas dros amser maith. Chwefror lOfed, Papyrau gan Mrs Owen Edwards ar Isaac Jones," a Mrs Rowlands ar Ann y Foty yn mynd i'r Mor," a chaw- sant ill dau hwyl dda, a phawb yn diolch iddynt. Chwefror 17eg, papyr ar 'Martin Luther gan Mr Mark Davies, a chawsom bapyr da, adeiladol, a dyddorol dros ben. Chwefror 24ain, terfynasom trwy yra- gomwest a Chyfarfod Adloniadol, o dan ofal Organyddes ein Heglwys, a chawsom noswaith ddifyr iawn,y gorphen lawn cys- tal os nad gwell na'r dechreu. DERBYN YR IEUANC.—Mae yma waith pwysig wedi bod yn myned yn mlaen yn ystod y gauaf. Yr ydym wedi derbyn 25 o bobl ieuainc ein heglwys yn gyflawn ael- odau a hyny ar ol parotoad manwl gan ein gweinidog gofalus. CYNGHERDD.—Cawsom gyngherdd mawr- eddog a the ar y 4ydd cyfisol. Y datgan- wyr oeddynt: Soprano, Miss Lillie Row- land, Manchester Contralto, Miss Rhoda Jones, Dinbych; Tenor, Mr Griff. Owen, Liverpool Baritone, Mr D. R. Jones, Wrexham; cyfeilyddes, Miss Myfanwy Jones, Colwyn, a'r farn gyffredinol yw na fu erioed gystal cyngherdd yma o'r blaen. Cawsom noswaith ddyrchafol mewn gwir- ionedd, yr oeddym yn teimlo fod yr hen ddihareb hono yn cael ei chywiro, mai Mor o gan yw Cymru i gyd." Cadeir- iwyd yn anrhydeddus gan Captan Tre- leavan, ac arweiniwyd yn ddeheilig gan y Parch W, Ph. Roberts. Y TE.—Feallai ein bod mewn cyweirnod go dda am y Cyngherdd. Yr oeddym wedi cael ein digoni a'r danteithion goreu fel y medr y chwiorydd yma wneyd. Y bonedd- igesau a roddasant yr arlwy i ni eleni oeddynt Mrs W. Ph. Roberts, Goleugell; Mrs J. W.Jones, Glanywern; Mrs Williams, Min y Don Cottages; Mrs Davies, Brier- wood Miss Hughes, Craig Villa, a Miss A. Davies, Tai Newyddion, ac yr oedd yno drefn dda a phawb yn canmol. Bendith arnynt hwy a phawb arall sydd a rhan yn y gwaith ydyw dymuniad I MAES y GAER.

IHIRWAEN, GER RUTHIN.

[No title]