Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

.EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG. BAZAAR. Cynhelir y cyfryw dyddiau Iau, Gwener, a Sadwrn nesaf (19, 20, 21 cyfisol). Yn gyntaf gwahoddwn gylchdaith Biaenau Ffestiniog yn gyfan i ymweled a ni yn ein hymdrech. Hyd yn hyn ni ddarfu i ni ofyn unrhyw help gan eglwysi y gylchdaith oherwydd fod gan yr holl achosion yma ddigon o waith i gwrdd a'u gofymon eu hunain, ond disgwyliwn weled ^vvynebau lawer i'n helpu ar der- fyn eithaf y mudiad. Bu Ebenezer yn garedig iawn wrth holl eglwysi y gylchdaith mewn achosion neill duol, a phan ddaw tro iddynt eto i wneyd ymdrech arbenig ni bydd Ebenezer yn ol o wneyd ei rhan Nn anrhydeddus. 'Rym yn gvvahodd cyfeillion Trawsfynydd, Maentwr og. Soar, Disgwylfa, a Thanygris- iau, yn gynhes i ddangos eu cyd- ymdeimlad. Gwn nas gellir dis- gwyl llawer, ond bydd ychydig help gan lawer o bersonau yn gyn- orthwy sylweddol. Nacanghofiwn mae Cylchdaith y'm, a bod y naill eglwys i gefnogi y Hall. -N-t'a e'r achos cryfaf yma wedi cymeryd llawer o feichiauyr achosion lleiaf, ac heddyw wele gyfle i Benjamin i roi benthyg ysgwydd i Judah i syhveddoli bwriad sydd hen gan flynyddoedd. Cofier fod pob tro caredig yn sicr ,0 gael ei dalu'n ol. Yn ail, carem weled cyfeillion Porthmadog, Penrhyn, a Thalsarn- au, &-c., yn ein mysg. Dyma gyfle i gadw i fyny hen gysylltiad anwyl pan yr oedd Blaenau alr 'Port yn un gylchdaith. Cewch dal da am ddod. Bydd p'nawn yn y mynydd- oedd yma yn adnewyddiad iechyd ac yn estyniad oes. Deuwch hen gyfeillion a cheisiwn sicrhau di- wrnod heulog i chwi, a chewch y fraint o weled, ac os dymunwch bwrcasu defnyddiau na bu eu gwell o flaen llygaid benyw erioed. Gwahoddwn yn galonog iawn gyfeillion anwyl a charedig o Llantwst a Phenmachno. Nid yw'r I ffordd yn bell iawn, ac er bod myn- ydd rhyngom, er hyny ni bydd yr agerbeiriant fawr o dro yn eich dwyn yn ddihahgol i'r gororau hyn ag y mae awr o'i hawyr bur yn sicrhau mispedd o iechyd calon. Diolchaf lawer i gyfeillion fu yn garedig iawn i ateb ein hapel drwy y G. N. bythefnos yn ol, a byddvvn yr un mor ddiolchgar am unrhyw rodd yr wytnnos hon. Y sawl wna hyny rhoddant help llaw i gyfeill- ion sydd yn gwneyd eu goreu eu hunain yn gyntaf. (Rev.) EDWARD DAVIES, Bryn Myfyr, Biaenau Ffestiniog.

-'RHUTHYN. I

ILLANBEDR-PONT-STEPHAN.I

IYSTUMTUEN..1I

COLWYN BAY.

jPENNAL. I

CARMEL, CYLCHDAITH CONWY.…

HOREB, CWMBRWYNO. I

SOAR, NEW BROUGTON.I

* GWYDDELWERN.I

ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.'

YNYSYBWL.

PONTARDULAIS.

'.LLANDEILO.