Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

.EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG.

-'RHUTHYN. I

ILLANBEDR-PONT-STEPHAN.I

IYSTUMTUEN..1I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSTUMTUEN. .1 I Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. — Nos I Sadwrn, Chwefror 21ain, cafwyd papur gan y Parch J. H. Williams'ar y testyn, Perthynas John Wesley a Wesleaeth :1.'r troad allan yn 1G62." Cafwyd papur yn llawn o ffeithiau oedd yn newydd i ni fel Cymdeithas,, Nid oedd neb o hononi wedi meddwl o'r blaen fod a fynno Wes- leaeth gymaint a'r digwyddiad enwog hwnnw. Daeth cynulliad boddhaoi yng- hyd, a diolchwyd yn unfrydol i Mr Wil liams am ein hanerch. CYFARFOD CYSTADLFUOL. Yn ystod Y stauaf yr ydym wedi cynal nifer o Gyfar-1 foiydd Llenyddol ac Amrywiaethol, rhai sydd wedi bod yn fudd a lies i ni fei. cyniydogaeth, ond nid digon genym fodd I loni ar y cyrddau ceiniog fel eu gelwir, a phenderfynasom gael Cyfarfod Cystad- j leuol ar raddfa eangach, yr hwn a gynhal- iwyd nos Sadwrn, Mawrth y 7fed, a throi- odd allan yn Ilwyddiant ym mhob ystyr. Yn y prydnawn, rhoddwyd gwledd o de a theisen i holl blant yr eglwys a'r gymdogaeth, trwy garedigrwydd bonedd- wr Seisnig fu yn aros ar y brymau yma yr haf diweddaf, a mwynhaodd pawb eu hunain yn fawr. Ynr hwyr, daeth torf iuosog iawn yng- hyd 1 r cyfarfod. Y cynulliad mwyaf welwyd yn yr addoldy er's cryn amser. Cymerwvd arweinyddiaeth y cyfarfod mewn llaw gan y Parch Charles Evans, Ysbytty Cynfyn, yr hwn fel arfer a gyf lawnodd ei waith i foddionrwydd pawb. Y Cadeirydd penodedig oedd Mr Doughs ton, Aberystwyth, yr hwn a fethodd a bod yn bresenol yn y cyfarfod, ond a gofiodd am y drysorfa mewn rhodd deilwng iawn. Cymerwyd y gadair yn ahsenoldeb Mr Doughton gan Mr William Evans, Ponter- wj d, a chafwyd ganddo anerchiad bwr- pasol. Y beirniaid oeddynt:—Cerddor- iaeth, Mr James Lewis, Aberystwyth, a'r Llenyddiaeth, Mr Thomas Thomas (Glan Rheidol). Yr oedd y buddugwyr fel y canlyn Unawd i blant dan 10 oed, 1, Nellie Parry Lloyd, Dyflryn Castell adroddiad i blant dan 10, 1, Byrnant Jones, Ystumtuen unawd i fab dan 15, 1, Brinley Richards adrodd i blant dan 15, Byrnant Jones unawd i ferch dan 15, Gweddi Plentyn (H. R. Humphreys), r, Eunice Richards Pencil Sketch, Dafad ac Oen," Emlyn Jones a Prosser Evans, Ponterwyd, yn gyfartal deilwng unawd Contralto Cartref," 1, Miss S. A. Herbert, Ponterwyd; englyn, "Y Dorth," J, John Morgan pedwarawd cyfyngedig i rai dan 20 oed, Mae'n fy ngharu (5 parti), goreu Emlyn Jones a'i barti cyfansoddi emyn, cyfaddas i'w ganu ar ddydd Gwyl Dewi, 1, Brwyno unawd Tenor Yr hen Gerddor," 1 Mr David Thomas ysgrif A Phopeth ganddynt yn gyffredin," neb yn deilwng unawd Soprano, Hyd fedd hi gar yn gywir," Miss Minnie Richards, Gog- inan, a Miss Annie Jones, Rhosygell, yn gyfartal deilwng; unawd Baritone, Dim ond Deilen," 1, Mr Emlyn Jones, Ponterwyd adroddiad (agoied) Mar- wolaeth Esgob Heber," 1, Mr Watkin Davies, Ty Mawr, Ysbytty Cynfyn ped- warawd Hai li Lwli (Sem Jenkins), 4 parti, 1, Mr Hugh Evans, Goginan, a'i gyf- eillion parti o S i 12 o rif, I'r ffynon ger fy mwth," Cystadleuodd tri pharti, Rhosygell, Ponterwyd, a Goginan, dyfarn- wyd Ponterwyd (Mr David Thomas) a Goginan (Mr William Evans) yn gyfartal deilwng. Cafwyd cystadlu lliosog, yn enwedig ar rai unawdau. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mrs J. H. Williams a Miss Myfanwy Jones, a rhoddwyd benthyg) r offeryn yn garedig gan Mr Richard Rich- ards, Fort. Gwelwyd nifer o gyfeillion yn bresenol o Pontrhydygroes, yn eu mysg y Parch T. G. Hughes. Cynygiwyd .ac eiliwyd diolchgarwch i bawb yn ffurfiol gan yr Arweinydd a'r Parch J. H. Wil- liams. Gwasanaethwyd yn ffyddlon fel ysgrifenydd a thrysorydd gan Mri Llew- elyn Griffith a Benjamin Daniel. Terfyn- wyd cyfarfod rhagorol trwy ganu Hen wlad fy nhadau." GOH. I

COLWYN BAY.

jPENNAL. I

CARMEL, CYLCHDAITH CONWY.…

HOREB, CWMBRWYNO. I

SOAR, NEW BROUGTON.I

* GWYDDELWERN.I

ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.'

YNYSYBWL.

PONTARDULAIS.

'.LLANDEILO.