Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

.EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG.

-'RHUTHYN. I

ILLANBEDR-PONT-STEPHAN.I

IYSTUMTUEN..1I

COLWYN BAY.

jPENNAL. I

CARMEL, CYLCHDAITH CONWY.…

HOREB, CWMBRWYNO. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HOREB, CWMBRWYNO. I CYNGHERDD MAWREDDOG.Nos Iau am 5.30 cynhaliwyd cyngherdd uwchraddol yn y lie uchod. Y prif ddatganwyr oedd- ynt Miss Annie Jones, Devil's Bridge, Soprano Miss Myfanwy Jones, Ponterwyd, Contralto; Mr Ted Williams, Llanbryn mair, Tenor; a Mr D. Pugh Williams, Llanbrynmair, Bass. Datganwyd hefyd gan Mr David Mason, Ystumtuen Miss Richards, Hafodau Mr Hugh Evans, Post Office, Goginan. Cafwyd dwy Pianoforte Solos gan Mrs Williams, Glantuen, gwraig ein gweinidog newydd, yr hwn sydd yn meddu meistrolaeth dda ar yr offerynau cerdd. Agorodd Mrs Williams y cyng- herdd gyda Pianoforte Solo "Prelude Rock Iminoff." Yna datganwyd fel y canlyn Adlais y dyddiau gynt," Mr D. Pugh Williams, a Bedd Llewelyn gan Mr Ted Williams. Datganodd y ddau frawd rhagorol yma 4 gwaith a daethant o Llanbrynmair yn rhad ac am ddim i helpu yr achos yn y lie. Datganwyd hefyd 3 gwaith gan Miss Jones, Devil's Bridge. Datganodd Miss Myfanwy Jones, Ponterwyd; 2 waith yn ardderchog o dda. Mae dyfodol i hon fel Contralto Cafwyd 2 Duett gan y ddau frawd o Lanbryn mair, a chanodd Barti o Ponterwyd 2 waith. Hefyd yr oedd yno gystadleuaeth Her Gwpan," rhoddedig gan y, Parch Ebenezer Morgan, brawd Mrs Richards, Bwadrain, yr hon gipiwyd gan Mr H. Evans, Goginan, allan o 5 o ymgeiswyr. Y beirniad oedd Mr John Morgan, Ystum- tuen, yr hwn sydd yn medru cloriaaRiu pawb ddaw i'r dafal yn y modd mwyaf medrus. Ni chaniata gofod, Mr Golygydd, i ni roddi amlinelliad o'r datganwyr na'r datganiadau. Digon yw dweyd na chafodd Cwmbrwyno erioed eu breintio a'r fath dalentau, ac hefyd arlwyaeth cerddorol, ac yr oedd y capel yn llawn a phawb yn mwynhau eu hunain. Y cad- eirydd oedd Thomas Jones, Ysw., New Inn, Llywarnog, a chafwyd ganddo fl i'r Drysorfa a 10s gan Mrs Mason, South Wales. Diolchodd Mr Williams, y gwein- idog yn ei ffordd bert ei hun i'r cadeirydd hybarch a Mrs Mason a'r Parch Ebenezer Morgan am eu rhoddion teilwng i'r achos yn Horeb. Gwnaeth Mrs Williams, Glan- tuen, ei gwaith yn hynod fedrus gyda'r piano. Rhoddodd pawb eu gwasanaeth yn y cyngherdd hwn a diolchwyd yn gynes i bawb am eu gwasanaeth rhagoiol i'r achos. Dymunai pawb weled Concert fel hwn eto yn fuy-n. CYMRO. I

SOAR, NEW BROUGTON.I

* GWYDDELWERN.I

ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.'

YNYSYBWL.

PONTARDULAIS.

'.LLANDEILO.