Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
.EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG.
EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG. BAZAAR. Cynhelir y cyfryw dyddiau Iau, Gwener, a Sadwrn nesaf (19, 20, 21 cyfisol). Yn gyntaf gwahoddwn gylchdaith Biaenau Ffestiniog yn gyfan i ymweled a ni yn ein hymdrech. Hyd yn hyn ni ddarfu i ni ofyn unrhyw help gan eglwysi y gylchdaith oherwydd fod gan yr holl achosion yma ddigon o waith i gwrdd a'u gofymon eu hunain, ond disgwyliwn weled ^vvynebau lawer i'n helpu ar der- fyn eithaf y mudiad. Bu Ebenezer yn garedig iawn wrth holl eglwysi y gylchdaith mewn achosion neill duol, a phan ddaw tro iddynt eto i wneyd ymdrech arbenig ni bydd Ebenezer yn ol o wneyd ei rhan Nn anrhydeddus. 'Rym yn gvvahodd cyfeillion Trawsfynydd, Maentwr og. Soar, Disgwylfa, a Thanygris- iau, yn gynhes i ddangos eu cyd- ymdeimlad. Gwn nas gellir dis- gwyl llawer, ond bydd ychydig help gan lawer o bersonau yn gyn- orthwy sylweddol. Nacanghofiwn mae Cylchdaith y'm, a bod y naill eglwys i gefnogi y Hall. -N-t'a e'r achos cryfaf yma wedi cymeryd llawer o feichiauyr achosion lleiaf, ac heddyw wele gyfle i Benjamin i roi benthyg ysgwydd i Judah i syhveddoli bwriad sydd hen gan flynyddoedd. Cofier fod pob tro caredig yn sicr ,0 gael ei dalu'n ol. Yn ail, carem weled cyfeillion Porthmadog, Penrhyn, a Thalsarn- au, &-c., yn ein mysg. Dyma gyfle i gadw i fyny hen gysylltiad anwyl pan yr oedd Blaenau alr 'Port yn un gylchdaith. Cewch dal da am ddod. Bydd p'nawn yn y mynydd- oedd yma yn adnewyddiad iechyd ac yn estyniad oes. Deuwch hen gyfeillion a cheisiwn sicrhau di- wrnod heulog i chwi, a chewch y fraint o weled, ac os dymunwch bwrcasu defnyddiau na bu eu gwell o flaen llygaid benyw erioed. Gwahoddwn yn galonog iawn gyfeillion anwyl a charedig o Llantwst a Phenmachno. Nid yw'r I ffordd yn bell iawn, ac er bod myn- ydd rhyngom, er hyny ni bydd yr agerbeiriant fawr o dro yn eich dwyn yn ddihahgol i'r gororau hyn ag y mae awr o'i hawyr bur yn sicrhau mispedd o iechyd calon. Diolchaf lawer i gyfeillion fu yn garedig iawn i ateb ein hapel drwy y G. N. bythefnos yn ol, a byddvvn yr un mor ddiolchgar am unrhyw rodd yr wytnnos hon. Y sawl wna hyny rhoddant help llaw i gyfeill- ion sydd yn gwneyd eu goreu eu hunain yn gyntaf. (Rev.) EDWARD DAVIES, Bryn Myfyr, Biaenau Ffestiniog.
-'RHUTHYN. I
RHUTHYN. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL BATHAFARN. —Cynhaliwyd cyfarfod o'r uchcd nos Jau, Chwefror 27ain, o dan lywyddiaeth y Parch W. G. Williams, pryd y cafwyd dadl, Pa un ai y wlad ynte y dref yw, y mwyaf manteisiol i fyw ynddo ar les bywyd yn dymhorol ac ysbrydol ? Fe'm siomwyd bron ar y munyd olaf o'r brodyr a ddewiswyd i agor y mater, ond os y'm siomwyd 0'1 brodyr hyn, ni'm siomwyd o gael y ddadl, ar ychydig fynudau o rybudd. Cymerwyd ochr y wlad gan Mr John Davies, a'r dref gan Mr H. Hughes, a treuliasom noson wir ddymunol. Cymer- wyd rhan ar y naill ochr a'r Hall gan amryw frodyr a chwiorydd, a chawsom ?destynau addysgiadol, a bod anfanteision a manteision i raddau yn bodoli yn y I dref a'r wlad. ac anhawdd pen derfynu pa le i dynnu y llinell. Yr oedd y mwyafrif o,farn mai y wlad yw y He goreu i fyw ar les bywyd yn gyffredinol: DIRWEST.—Nos lay., Chwefror 27ain, cynhaliwyd Social dan nawdd Cymdeith- as Ddirwestol y Merched, yn Ysgoldy yr I Anibynwyr. Llywyddwyd y cyfarfod gan I Mrs W. H. Jones, Caegroes (llywyddes y Gymdeithas), ae aed. tnvy y rhag,"e, yn hynod o ddymunol, pryd cymerwyd rhan mewn can gan Miss Hughes, Park Road, acyna cafwyd papur cynwysfawr gan Mrs W. G. Williams, Bathafarn House. Can gan Miss Jennie Evans, Heulfre. Adrodd- iad gan Miss Gwyneth Roberts, a chan eto gan Miss Ethel Batten Jones. Adrodd- iadau hefyd gan Misses Ceridwen a Gwyneth Williams, a chafwyd anerchiad- au byrion ond i bwrpas ac yn amserol gan Mrs William Jones, Glasfryn Mrs Winter, Bronwylfa, a Miss Lydia Hughes, Castle Street. Llawenydd i'r Gymdeithas oedd derbyn pedair o aelodau newyddion yn y cyfarfod hwn. EISTEDDFOD.—Mewn cysylltiad a'n cvf- eillion yr Annibynwyr, Penaref, fe gynhal iwyd Eisteddfod y Plant, nos Lun, Mawrth 2il, yn neuadd y dref, ac yr oedd yr ystafell fawr yn orlawn hyd y drysau yn dangos tystiolaeth fod elw da ddeilliaw o'r symudiad. Yr oedd cystadleuaethau mewn Corau Piant. Corau Meibion. Her Unawdau,Aciroddiadau,&c. Arweiniwyd yr Eisteddfod yn fedrus a doniol gan y Parch W. G. Williams. Nid oes angeoi dweyd mai Wesleyaid oedd yr arweinydu. Beirniaid: Cerddoriaeth, Parch R. M. Edmunds, Llanbedrog Adroddiadau, Mr E. Edwards, Cynwyd; Cvfeilvdd, MrW. A. Lloyd, F.G.C.M., a Mus. T.C.L. Y buddugwyr yn y prif gystadleuaethau oeddynt. Corau Plant, Cor Mr Ellis Wil- liams, Parti Meibion, Clwydian Parti arweinydd, liter J. P. Jones. Ymddengys fod yr elw yn rnyn'd tuag at yr ySgoldy newydd sydd erbyn hyn wedi ei adeiladu. MARWOLAETH.—Bu farw dydd Iau, i Chwefror Mrs Elizabeth Roberts, yn Cerrigydrudion, Cylchdaith Corwen, yn 75 mIwydd oed, gweddw i'r diweddar John Roberts, Penybryn, Llanfwrog, yr hwn a rhagflaenodd ei anwyl briod er's blynyddau, a rhieni i Mr W. H. Roberts, The George, yr hwn o.'i deulu sydd yn aelodau ffyddlon gyda ni yn Bathafarn, a thrwy y cysylltiad yma cawsom ambell i gyd-gyfarfyddiad a'i hen chwaer pan ar ei thro i dy ei mhab. Yn ol pob ymddang- osiad i ni yr oedd yn caru cael son am grefydd Iesu Grist, ac yr oedd ei bywyd a'i hymarweddiad er yn dawel a dirodies, yn dangos ei bod yn ceisio bod yn debyg i'r Gwr a obeithiodd ynddo. Claddwyd y rhan farwol yn mynwent y Rhewl ger Rhuthyn, taith o bedair milldir ar ddeg o'r Cerrig, Cyrhaeddent i Rhewl tua thri o'r gloch. Gweinyddwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch Berwyn Roberts, Corwen, yr hwn a ddaeth gyda'r angladd i Rhewl, ac yna wrth y bedd darllenwyd gan y Parch R. J. Parry, Bwlchgwyn, a gweddiwyd yn effeithiol gan y Parch J. Pugh Jones, Cerrig. Cymerwyd rhan Cynierw  ci rhari hefyd gan y Parchedigion D. M. Griffith, Llanasa, a W. G. Williams, Rhuthyn. Cydyrndeimlwn gyda'r teulu oil a adaw- odd ar ei tiol, a cheisiwn oil sylwedcioli fod pobpeth yn gweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw. Gwyn fyd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd. Better late than never," medd y Sais, ac felly gwell hwyr na byth ydyw cronicio "newyddion da." Ychydig wythnosau yn oj, yn unol a threfniant y Cyfarfod ral- aethol* cynhaliwyd cyfres o Gyfarfodydd Adfywiaaol yn Llanehdau o'r Gylchdaith hon o dan weinidogaeth rymus ac effeith- iol y Parch David Morris, Llanfyllin. Daeth cynulliadau Iluosog ynghyd bob nos, er fod y tywydd vn anffafriol. Yr oedd yr Efengyl fel ag y mae yn yr Iesu yn cael ei thraddodi gyda'r fath wres gan y cenhadwr, nes yr oedd yn tynnu pobl i Seion, a dyweder fod yr eneiniad oddiwrth y sanctaidd hwnnw wedi ei deimlo, ac yn cynyddu yn mhob oedta. Parhaed y dyl- anwadau hyn ar yr ardal a'r eglwys yn Uanelidan, ac hyderwn fod yr had da a hauwyd wedi cael dyfnder daear a bydd hwnnw yn dwyn ffrwyth o ffyddlondeb a gwasanaeth i Dad y Trugareddau. CYMDEITHAS Gyfeillgar Ddirwestol.—O dan nawdd gymdeiihas y Sons of Tem- perance gynhaliwyd Social a Chyfarfod Amrviviaethol nos Iau, Mawrth 5ed, yn Ysgoldy y presbyteriaid Seisnig, o dan lywyddiaeth y T. P., sef y brawd Fred Jones, pryd yr oedd hefyd yn bresenol swyddogion eraill y Sons," y parch R. Ernest Jones, Caplan y Gymdeithas, a'r Ysgrifenydd, y brawd W. E. Roberts. Anerchwyd y cyfarfod gan y brawd Griffith Jones, Llansantffraidd, prif Ysgrif- enydd rhanbarth powys, Gogledd Cymru, yr hwn a ddywedodd fod cangen Rhuthyn yn haeddu ei llongyfarch am yr increase" oeddynt wedi wneud yn y misoedd di- weddaf, mewn derbyn aelodau newydd- ion yn feibion a merched, hefyd plant i'r '• Cadet Section." Teilynga'r chwiorydd glod am y cynorthwy y mae'nt yn roi gyda'r plant. Hyderwn y bydd y Gym- deithas hon trwy gymorth eglwysi y dref yn foddion i enill rhagor o'n cyfeillion ieuainc. ac i'\v cadw oddiwrth ddeniadau y ddiodydd meddwol. Yr oedd hefyd ein parchus weinidog y parch W. G. Williams yn bresenol, ac y mae wedi addaw ymuno a'r Gymdeithas. YN Y NESAF.-Hanes cyfarfod arbenig datnlu coffadwriaeth Dewi Sant yn Rhuthvn, hefyd hanes Darlith gan y proff. Ivor Williams, Bangor, ar Lafar Gwlad." R. F. J. I
ILLANBEDR-PONT-STEPHAN.I
LLANBEDR-PONT-STEPHAN. ORGAN RECITAL. Cynhaliwyd Organ Recital lwyddianus dan nawdd yr eglwys Wesleaidd, nos Fercher, y 4ydd cyfisol, yn Nghapel Soar (A). Gwasanaethwyd gan yr Organydd enwog, Dr. Caradog Roberts, yn cael ei gynorthwyo gan y cantorion caniynol-Miss May Watts, Treforris, a Mr J. Thomas, Abertawe. Y cadeirydd oedd Mr j. E. Jones, Eryl, Llanbedr. Yn mhell cyn amser dechreu, yr oedd yr addoldy eang yn orlawn. Amlwg ydoedd fod pawb yn mwynhau eu hunain i'r eithaf, wrth y gwrandawiad astud roddent i'r hyn oedd wedi ei barotoi. Gwnaed elw sylweddol o'r anturiaeth, uwchlaw disgwyliad, sef £ o2, yr hyn a ryddha yr eglwys o'r ddyled oedd yn aros ami. Araf a digalon oedd yr aelodau ar y cychwyn, gan fod cymaint o alwadau cyffelyb ar y pryd ond symbvlwyd hwy i weithgarwch, drwyesiarnpl ganmoladwy y gweinidog, y Parch T. Oliver, yr hwn a aeth allan ei hun gyda'r brodyr, drwy yr holl dref a'r cylchoedd i werthu y tocynau. Cafodd dderbyniad croesawgar gan bawb bron yn cldieithria-d. "Gosocio,-Id nod o i Baen, a bu yn alluog i'w gyrbaedd. Bu un brawd mor amheus o'i lwyddiant fel ag y 'cynygiodd ymgymeryd a threuliau yr argraffu os cyrhaeddai ef swrn neillduol. Gwnaeth Mr a Mrs Arthur hefyd gynygiad cyffeiyb sef vchwanegu [2 at eu cyfraaiad- au. Derbyniodd Mr Oliver eu cynygion, a bu y symiau hyn yn gynorthwy i sicrhau yr elw uchod. Erbyn hyn yr oedd yr oil o'r aelodau, yn hen ac ieuainc, wedi eu meddianu ag ysbryd gweithio, ac yr oedd liwyddiant yn anturiaeth hon yn y' golwg yn. mhell cyn y. diwrnod penodedig. Y mae diolch yn ddyledus oddiwrth yr eglwys i'r brodyr yr Annibyn- wyr am roddi y capel a'r Or/gan at ei gwasanaeth yn rhad. Ymgymerwyd a'r swyddi o ysgrifenydd a thrysorydd gan Mr T. L. Davies, Fairfield, a Mr Isaac Arthur, College Street, a buont yn weith- gar dros ben. E. M.
IYSTUMTUEN..1I
YSTUMTUEN. .1 I Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. — Nos I Sadwrn, Chwefror 21ain, cafwyd papur gan y Parch J. H. Williams'ar y testyn, Perthynas John Wesley a Wesleaeth :1.'r troad allan yn 1G62." Cafwyd papur yn llawn o ffeithiau oedd yn newydd i ni fel Cymdeithas,, Nid oedd neb o hononi wedi meddwl o'r blaen fod a fynno Wes- leaeth gymaint a'r digwyddiad enwog hwnnw. Daeth cynulliad boddhaoi yng- hyd, a diolchwyd yn unfrydol i Mr Wil liams am ein hanerch. CYFARFOD CYSTADLFUOL. Yn ystod Y stauaf yr ydym wedi cynal nifer o Gyfar-1 foiydd Llenyddol ac Amrywiaethol, rhai sydd wedi bod yn fudd a lies i ni fei. cyniydogaeth, ond nid digon genym fodd I loni ar y cyrddau ceiniog fel eu gelwir, a phenderfynasom gael Cyfarfod Cystad- j leuol ar raddfa eangach, yr hwn a gynhal- iwyd nos Sadwrn, Mawrth y 7fed, a throi- odd allan yn Ilwyddiant ym mhob ystyr. Yn y prydnawn, rhoddwyd gwledd o de a theisen i holl blant yr eglwys a'r gymdogaeth, trwy garedigrwydd bonedd- wr Seisnig fu yn aros ar y brymau yma yr haf diweddaf, a mwynhaodd pawb eu hunain yn fawr. Ynr hwyr, daeth torf iuosog iawn yng- hyd 1 r cyfarfod. Y cynulliad mwyaf welwyd yn yr addoldy er's cryn amser. Cymerwvd arweinyddiaeth y cyfarfod mewn llaw gan y Parch Charles Evans, Ysbytty Cynfyn, yr hwn fel arfer a gyf lawnodd ei waith i foddionrwydd pawb. Y Cadeirydd penodedig oedd Mr Doughs ton, Aberystwyth, yr hwn a fethodd a bod yn bresenol yn y cyfarfod, ond a gofiodd am y drysorfa mewn rhodd deilwng iawn. Cymerwyd y gadair yn ahsenoldeb Mr Doughton gan Mr William Evans, Ponter- wj d, a chafwyd ganddo anerchiad bwr- pasol. Y beirniaid oeddynt:—Cerddor- iaeth, Mr James Lewis, Aberystwyth, a'r Llenyddiaeth, Mr Thomas Thomas (Glan Rheidol). Yr oedd y buddugwyr fel y canlyn Unawd i blant dan 10 oed, 1, Nellie Parry Lloyd, Dyflryn Castell adroddiad i blant dan 10, 1, Byrnant Jones, Ystumtuen unawd i fab dan 15, 1, Brinley Richards adrodd i blant dan 15, Byrnant Jones unawd i ferch dan 15, Gweddi Plentyn (H. R. Humphreys), r, Eunice Richards Pencil Sketch, Dafad ac Oen," Emlyn Jones a Prosser Evans, Ponterwyd, yn gyfartal deilwng unawd Contralto Cartref," 1, Miss S. A. Herbert, Ponterwyd; englyn, "Y Dorth," J, John Morgan pedwarawd cyfyngedig i rai dan 20 oed, Mae'n fy ngharu (5 parti), goreu Emlyn Jones a'i barti cyfansoddi emyn, cyfaddas i'w ganu ar ddydd Gwyl Dewi, 1, Brwyno unawd Tenor Yr hen Gerddor," 1 Mr David Thomas ysgrif A Phopeth ganddynt yn gyffredin," neb yn deilwng unawd Soprano, Hyd fedd hi gar yn gywir," Miss Minnie Richards, Gog- inan, a Miss Annie Jones, Rhosygell, yn gyfartal deilwng; unawd Baritone, Dim ond Deilen," 1, Mr Emlyn Jones, Ponterwyd adroddiad (agoied) Mar- wolaeth Esgob Heber," 1, Mr Watkin Davies, Ty Mawr, Ysbytty Cynfyn ped- warawd Hai li Lwli (Sem Jenkins), 4 parti, 1, Mr Hugh Evans, Goginan, a'i gyf- eillion parti o S i 12 o rif, I'r ffynon ger fy mwth," Cystadleuodd tri pharti, Rhosygell, Ponterwyd, a Goginan, dyfarn- wyd Ponterwyd (Mr David Thomas) a Goginan (Mr William Evans) yn gyfartal deilwng. Cafwyd cystadlu lliosog, yn enwedig ar rai unawdau. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mrs J. H. Williams a Miss Myfanwy Jones, a rhoddwyd benthyg) r offeryn yn garedig gan Mr Richard Rich- ards, Fort. Gwelwyd nifer o gyfeillion yn bresenol o Pontrhydygroes, yn eu mysg y Parch T. G. Hughes. Cynygiwyd .ac eiliwyd diolchgarwch i bawb yn ffurfiol gan yr Arweinydd a'r Parch J. H. Wil- liams. Gwasanaethwyd yn ffyddlon fel ysgrifenydd a thrysorydd gan Mri Llew- elyn Griffith a Benjamin Daniel. Terfyn- wyd cyfarfod rhagorol trwy ganu Hen wlad fy nhadau." GOH. I
COLWYN BAY.
COLWYN BAY. HOT PIE SUPPER.-Nos. Iau, Mawrth 5ed, ydoedd y noson hir-disgwyliedig i gynal ein Swper Blynyddol yn Horeb. Gwnaeth- om enw i ni ein hunain yn yr ardaloedd cylchynol ar ol y llynedd, a mawr y pryd- er am gadw'r enw da i fyny. Os am Hot Pie eleni eto, rhaid hefyd ydoedd cael Mrs George Williams a Mrs Shadrach Evans i ofalu am dano, ac feUy fu. Nid oedd dim yn ormod o drafferth ganddynt er sicrhau liwyddiant yr ymgymeriad. Cynorthwy- wyd hwy i werthu tocynau gan Mrs Jones (Dewi Mawrth), Mrs Fred Williams, Mrs Rhys Jones, Mrs J. P. Jones, Hampden Miss M. W. Davies, Glasmor Miss Wil- liams, Pandy Villa Miss H. M. Jones, Elian House Miss Parry, Vincent House a Miss Rowlands, Bodifor. Buont wrthi yn ddyfal, a daeth oddeutu 600 i'r swper. Daeth chwiorydd a brodyr yr eglwys i gynorthwyo yn 11 u mawr, ac aeth popeth heibio yn y modd mwyaf trefnus yn bosibl, a phawb yn canmol y darpariadau helaeth. Ofer a fydddai ceisio enwi pob un a fu'n helpu, ofnaf y gwgai'r Golygydd clod- wiw. Tra'r elai'r swper ymlaen yn yr Ysgoldy, yr oedd tyrfa fawr yn mwynhau Cyngerdd ardderchog yn y capel. Cad- eiriwyd gan y Cynghorydd John Jones, Grimsby House, ac arweiniwyd gan y Parch W. P. Roberts. Cymerwyd rhan gan Misses Olive Thomas, Pickering, Greenfield, Mri Tom Williams, J. E. Roberts (Ap Heli), Llewelyn Jones Roberts, John O. Jones, J. O. Williarris (loan Erw). Cyfeiliwyd gan Miss M. E. Williams, Liverpool House, Miss Ceridwen Roberts, a Mrs W. H. Roberts, Llandudno Junction. Aeth popeth ymlaen yn hwylus o'r dech- reu i'r diwedd, ac nid oes ormod o gan- mol ar y darpariadau helaeth. Teimlwn yn neilltuol ddiolchgar i'r oil fu'n cynorth- wyo, ac yn arbenig i Mrs George Williams a Mrs Shadrach Evans. Credir y ceir elw clir o £3; i drysorfa yr Ymddiriedolwyr. Y mae'r Gymdeithas Lenyddol wedi dirwyn i'r pen eto eleni, a goifdiwn mai dyma'r tymor olaf i'n Llywydd, y Parch Rhys Jones. Nos lau, Chwefror 26ain, cafvvyd dau bapur diddorol a buddiol, un gan Mr Abel Jones ar Rhai o ddelfrydau dynion," a'r llall gan Miss Annie Williams, N. P. Bank ar "Yr Ysgol Sul." Siaradwyd. ymhellach gan y Mri Jonathan Roberts, Thomas Ellis, a'r Llywydd, a diolchwyd yn gynes i'r ddau am eu llafur. Bwriedir cael swper nos Iau, Mawrth 26ain, i derfynu yn ffurfiol waith y tymor. Gofala Misses Jones, Elian House, am yr ymborth, trwy gyfarwyddid y pwyllgor, a gofala Miss Bond a Miss Edith Jones am y Cyfarfod Amrywiaethol i derfynu. Y brodyr fydd y wait\er y tro yma, a dis- gwyliwn noson ddiddorol. GOH. -I. I
jPENNAL. I
PENNAL. I SWPER DANTEITHIOL.-Kos Wener, Mawrth Ged, y cafvvyd yr uchod i der-. fynu Cymdeithas Ddiwylliadol (M.C.), am y tymor. Arolygwyd y wledd gan Mrs E G. Jones, Brynawel. Yr oedd y seigiau | yn oynwys amrywiaeth o'r danteithion I j peraidd, a chyfiawnder o honynt i gpdlOd ac archwaeth pawb. Yr oedd yr > ar y byrddau yn ødidog os nad yn I odiaeth. Ym mysg y gwahodd- gion gwelwyd y Wesleyaid, Miss C, Nyladys Pugh.Jenkins, Miss Lizzie Mary Davies, a Gwilym Dyfi. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Miss Evans, Miss Mary Davies, Vsgolfeistres Miss Williams, Ys- guborfawr, Miss Gwladys Pugh Jenkins, Miss Evans, Ysguborfawr; Miss Hannah Jones a Mrs Lewis Davies. Hawdd canfod ar wynebau heulog y bwytawyr fod y wledd yn wledd mewn ystyr arbenig. Talwyd diolchgarwch brwdfrydig ac unol i Mrs E. G. Jones, a'r rhai fu yn ei chyn. orthwyo am arlwyo mor gyfoethog a di- brin. Wedi'r swper cafwyd Cyfarfod Am- rywiaethol dan lywyddiaeth y Parch E. G. Jones, y gweinidog, mewn canu, dadlu ac adrodd, a darllenodd "Gwilym Dyfl" benillion i Dewi Sant" ac i'r Swper nes codi y gwyddfodolion i anterth hwyl a churo dwylo. Er mai perthynol i'r M. C. yr oedd y cyfan mae plant a phobl ieuainc y Wesleyaid yn cael yr un breintiau a'r eiddo hwythau yn y Gobeithlu, a'r Gym- deithas Ddiwylliadol, ac mae hyn yn glod i'w gweinidog hawddgar ac eangfrydig. Parhaed brawdgarwch i ffynu. Goii. I
CARMEL, CYLCHDAITH CONWY.…
CARMEL, CYLCHDAITH CONWY. I Y mae eglwys fechan Carmel wedi pen- derfvnu cael te a clarlith dvdd Llun, Ebrill 20fed. Mr W. O. Jones, Aber, fydd y darlithydd a'r "Tafod" ei destyn. Fe ddaw y Carmeliaid i'r mor yn fuan i gymett trigolion y glannau ddringo i'r mynyddau. Hyderwn y cant groeso pan alwant. GOH. I
HOREB, CWMBRWYNO. I
HOREB, CWMBRWYNO. I CYNGHERDD MAWREDDOG.Nos Iau am 5.30 cynhaliwyd cyngherdd uwchraddol yn y lie uchod. Y prif ddatganwyr oedd- ynt Miss Annie Jones, Devil's Bridge, Soprano Miss Myfanwy Jones, Ponterwyd, Contralto; Mr Ted Williams, Llanbryn mair, Tenor; a Mr D. Pugh Williams, Llanbrynmair, Bass. Datganwyd hefyd gan Mr David Mason, Ystumtuen Miss Richards, Hafodau Mr Hugh Evans, Post Office, Goginan. Cafwyd dwy Pianoforte Solos gan Mrs Williams, Glantuen, gwraig ein gweinidog newydd, yr hwn sydd yn meddu meistrolaeth dda ar yr offerynau cerdd. Agorodd Mrs Williams y cyng- herdd gyda Pianoforte Solo "Prelude Rock Iminoff." Yna datganwyd fel y canlyn Adlais y dyddiau gynt," Mr D. Pugh Williams, a Bedd Llewelyn gan Mr Ted Williams. Datganodd y ddau frawd rhagorol yma 4 gwaith a daethant o Llanbrynmair yn rhad ac am ddim i helpu yr achos yn y lie. Datganwyd hefyd 3 gwaith gan Miss Jones, Devil's Bridge. Datganodd Miss Myfanwy Jones, Ponterwyd; 2 waith yn ardderchog o dda. Mae dyfodol i hon fel Contralto Cafwyd 2 Duett gan y ddau frawd o Lanbryn mair, a chanodd Barti o Ponterwyd 2 waith. Hefyd yr oedd yno gystadleuaeth Her Gwpan," rhoddedig gan y, Parch Ebenezer Morgan, brawd Mrs Richards, Bwadrain, yr hon gipiwyd gan Mr H. Evans, Goginan, allan o 5 o ymgeiswyr. Y beirniad oedd Mr John Morgan, Ystum- tuen, yr hwn sydd yn medru cloriaaRiu pawb ddaw i'r dafal yn y modd mwyaf medrus. Ni chaniata gofod, Mr Golygydd, i ni roddi amlinelliad o'r datganwyr na'r datganiadau. Digon yw dweyd na chafodd Cwmbrwyno erioed eu breintio a'r fath dalentau, ac hefyd arlwyaeth cerddorol, ac yr oedd y capel yn llawn a phawb yn mwynhau eu hunain. Y cad- eirydd oedd Thomas Jones, Ysw., New Inn, Llywarnog, a chafwyd ganddo fl i'r Drysorfa a 10s gan Mrs Mason, South Wales. Diolchodd Mr Williams, y gwein- idog yn ei ffordd bert ei hun i'r cadeirydd hybarch a Mrs Mason a'r Parch Ebenezer Morgan am eu rhoddion teilwng i'r achos yn Horeb. Gwnaeth Mrs Williams, Glan- tuen, ei gwaith yn hynod fedrus gyda'r piano. Rhoddodd pawb eu gwasanaeth yn y cyngherdd hwn a diolchwyd yn gynes i bawb am eu gwasanaeth rhagoiol i'r achos. Dymunai pawb weled Concert fel hwn eto yn fuy-n. CYMRO. I
SOAR, NEW BROUGTON.I
SOAR, NEW BROUGTON. I Dydd Sul, yr 8fed cyfisol, cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol yn y lie uchod, dan ly- wyddiaeth fedrus Miss Amy Williams. Cafwyd cynulliadau da, a chyfarfodydd bywiog. Neilltuwyd cyfarfod y prydnawn i'r plant, a chafodd y gynulleidfa eu bodd- hau a'u bendithio wrth weled a chlywed y plant yn myned trwy waith y Maes Llafur. Yn wir yr oedd y gwaith a wnaethant yn gyfryw, nes y'n temtir i dclweyd fel un o weimdogion y gylchdaith "fod y quality yn Soar." Y GOBEITHLU, -Nid yn ami y daw hanes Gobeithlu Soar o flaen llygaid y cyhoedd, ond eiddunwn gyfran fechan o'ch colofnau iddo y tymor hwn. Y maent wedi llafurio yn egniol am wythnosau, ac am 7 o'r gloch nos Lun, 9fed cyfisol, cafodd y cy- hoedd eu boadhau yn y cyngherdd oreu gynhaliwyd erioed yn y fro fechan hon, dan nawdd v Gobeithlu. Y mae enwau y cantorion a'r adroddwyr yn rhy IUosog i'w henwi, ond ni wnawn gam a neb trwy ddweyd eu bod yn ddiwahaniaeth wedi gwneyd eu gwaith yn ardderchog. Yr oedd yr adeilad yn orlawn haner awr cyn cychwyn, a daliai y gynulleidfa enfawr eu hanadl pan gyfodai'r lien, ac y cododd Plant y Gobeithlu i ganu. Llywyddwyd yn frwdfrydig gan Mr Thomas Wiiliams, Tanyfron. Cyfeiliwyd gan Miss Adelina Hughes, Summerhill. Y mae llwyddianti anghydmarol y Gobeithlu eleni i'w briod- oli i vmdrechion egniol a llafur di-tlino Miss Elizabeth A. Williams. C. J.
* GWYDDELWERN.I
GWYDDELWERN. I Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. Er dechreu y flwyddyn hon y mae y Gym- deithas wedi cael anerchiadau a papurau rhagorol. Cafwyd Adolygiad y Flwydd- yn yn Grefyddol gan Mr John Wynne, ac yn Wleidyddol gan Mr J. Phillips. Dygwyd pethau i'w cofio 'i sylw gan y brodyr hyn. Darllenodd Miss Jennie Hughes bapur byr cynwysfawr ar Mair a chawscm grynhoad diddorol o hanes y Parch J. Evans, Eglwysbach, gan Miss Katie Evans. Cafwyd dadl ar Pa un ai mantais ai arsfantais yw dylanwad y Sais ar Gymry." Siaradwyd ar yr ochr gadarn- haol gan Mrs Phiilips a r nacaol gan Mrs Hughes, Wesley Hoiise. Dadleuwyd yn frwd gan y naill a'r liall. Traethawd rhagorol gafwyd ar Petr gan Mr Hughie T Parry. Dangosai lafur, gofal, a threfnus'' /ydd. Yn ystod y tymor rhoddodd y Parch Owen Hughes anefch- j ar Waith yr Ysbryd Glan." Yr oedd Mr Hughes yn eglur ac ymarferol, ac yn wresog iawn fel y bydd bob amser pan yn son am faterion ysbrydol. Daeth y tymor i ben nos Fawrth diwedd- af, Mawrth 3ydd. Paratowyd Swper rhag- orol ar gyferyr hull aelodau gan y chwi- orydd. Gofalwvd am y trefniadau gan Mr Hughes, Wernddu Mrs Hughes, Wesley House Misses Evans, Maerdy Ucha, a Jones, Tynrhos. Fel y dywedwvd mewn barddoniaeth gan un o'r beirdd fod y Swperau hyn yn rhagori naill flwyddyn ar ol y llall. Diolchwyd yn gynes i'r chwiorydd gan Swyddogion y Gymdeith- as. Yn y prydnawn eisteddodd plant y Band of Hope wrth ddigonedd o ddan- teithion chwaethus. Te'rfynwyd drwy gynal Cyfarfod Amrywiaethol ar y di- wedd. Yr ydym yn hyderus iawn y gwelir ffrwyth oddiwrth y gwaith a wnaed yn ystod y tymor yn y Gymdeithas a'r Band of Hope. GOH.
ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.'
ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH. Nos Fawrth, Mawrth lOfed, y cyfarfydd- odd y Gymdeithas Ddiwylliadol yr wyth- nos hon pryd y darllenwyd papur gan Mrs Jones, Baker Street, ar "A oes modd bod yn Gristion, ac hefyd ymwneyd mewn unrhyw fodd a'r fasnach feddwol." Wrth gwrs cymerodd Mrs Jones y nachaol a rhoddodd nifer o resymau cryfion o blaid y syniad a goleddai. Er nad dyna y testyn a roddasid i Mrs Jones, yr oedd hwn vn amserol, a dweyd y lleiaf, a thraethodd Mrs Jones yn gryf, ac argyhoeddiadol arno. Siaradwyd ymhellach gan lu o'r brodyr a'r chwiorydd a phawb vn cydnab- od drygedd y fasnach feddwol ac mai gor- eu po bellaf y ceidw pawb oddiwrthi, yn arbenig yr ieuainc. Cadw oddiwrth y gwydriad cyntaf, ac fe'u cedwir oddiwrth ganlyniadau yr ail. Cadeiriwyd yn dde- heuig gan Mr R. Stitt. GOH.
YNYSYBWL.
YNYSYBWL. Bu yma y nosweithiau diweddaf gyfres o gyfarfodydd diwygiadol. Cawsom wyth- nos o gyfarfodydd gweddio bendithiol iawn, cynulliad da trwy y cyfarfodydd. Teimlwyd yn ystod yr wythnos fod Duw yn agos iawn at Ei blant. Nos Lun dilyn- ol pregethwyd gan y Parch D. Creigfryn. Jones, Pontypridd nos Fawrth gan y Parch J. Fisher Griffiths, Hirwain nos Fercher gan y Parch Robert Lewis, Foiit- ypridd nos Iau, gan y Parch E. Davy Thomas, Abercynon nos Wener, gan y Parch Thomas Jones, Ferndale, Llywydd y Gymanfa. Cawsom cyfres o bregethau 'ardderchog ag y cofir am danynt am amser i ddod, y gweision ar eu goreu yn traddodi yr hen hen hanes gyda dylanwad. Er na welwyd neb o'r newydd yn aros gyda ni, eto ni gredwn fod yna rhai wedi eu clwyfo, ac y cawn eu gweled yn troi i mewn i cn witio am le yn mysg Ei bobl. Ar derfyn y bregeth nos Fawrth, cawsom unawd gan y Parch J. Fisher Griffith, Hirwain. Dech- teuwyd cyfarfod nos Fercher gan y Parch Williams (A.), a nos Wener gan y Parch Isaac Morris, B.A., B.D. (M.C.). Hefyd gwelwyd yn bresenol y Parchn Arthur Jones, B.A. (A.), a Hugh Roberts (B.), a Gregory (M.C.), gweinidog newydd yr hen bentref. Mae yn dda iawn gennyf allu dywedyd mae son cynydd sydd i glywed at hyd a lied y Gylchdaith. Mae yn dda genyf allu dywedyd fod y Pasrch D. Creigfryn Jones a'r Parch E. Davy Thomas yn berffaith hapus yma yn ein mysg, a'r naill a'r llall yn ddiwyd weithio er llwyddo yr achos ar y Gylchdaith, ac mae yn dda gennyfaltu dweyd fod yna gyfnewidiad mawr yn ystod y chwe mis diweddaf. Yr un modd y Parch Robert Lewis, Pontypridd, mae yntau yn gartrefol iawn yma gyda iii, yntau yr un modd a'i holl fri ar godi,ei enwad a chael pechaduriaid at draed y Gwaredwr. Mae yn debyg gen i fod yna gyfres o gyfarfodydd o'r un natur wedi eu cynhal yn Abercynon a Cilfynydd. Peth rhyfedd iawn gen i na fasa rhai obebwyr y lleoedd wedi anfbn gair yn ei gylch. DYFI.
PONTARDULAIS.
PONTARDULAIS. GWYL DEWI. Nos Wener, Chwefror 27ain, yroedd y Cymrodorion yn dathluyr uchod yn ystafell perthynol i'r Hope. Cafwyd swper ardderchog, y bwyd yn gyfryw ag a nodweddai'r Cymry, a chyfar- fod amrywiaethol yn dilyn. Yr ymwelydd ydoedd y Parch J. Ll. Thomas, Vicar, Aberpergwm, popeth a myrid arno. Dydd Sadwrn canlynol dathlwyd yr wyl gan ddeiliaid yr ysgolion dyddiol sef Ys:- golion y Cyngor ac Ysgol perthynol i'r Eglwys Sefydledig (hyd yo hyn). Goryei- deithiwyd y prif heolydd gan y canoedd plant, yn cael eu blaenori j an Seindorf Bres perthynol i'r lie, yr hyn sydd yn beth newydd yma (gan nad oedd yma un sein- dorf hyd yn ddiweddar iawn). Yr oedd golwg hardd' neullduol ar y plant. Yr oedd oddeutu 500 o ferched bach wedi gwisgo mewn dull Cymraeg, set y bais goch a du, a bedgwn o'r un lliw, a het bob cam fel ei gelwir yma, sef yr hetiau uchel yr hen Gymraeg. a phob plentyn yn cario ei faner fach a'i Ddraig Goch. Yr oedd yr orymdaith yn llawn haner milldir o hyd, golygfa nad a yn angof yn fuan. Yr cedd pethau cyffelyb yn tnynd ymlaen yn ochr Gaerfyrddm i'r lie hwn hefyd yr un adeg. GOH.
'.LLANDEILO.
LLANDEILO. WESLEY GUILD. — Cynhaliwyd Wesley Guild yr eglwys uchod nos Fawrth, Mawrth 3ydd, o dan lywyddiaeth ein parchus weinidog. Yn ol v rhaglen yr oeddym yn disgwyl y Parch R. Owen, Tir- ydail, i anerch y cyfarfod. Gydag ychyd- ig sylwadau pwrpasol galwodd y Llywydd ar Mr Owen i anerch y cyiarfod, ar y testyn, "Y Beibl a Gwyddoniaeth." Bu wrthi am awr, a. phob un yn gwrando yn astud. Diolchwyd yn gynes i Mr Owea am ei araetb ddiddorol ac amserol gan W. Hopkins, Ysw., U.H., ac eiliwyd gan Mr D. LJoyd Humphreys, L.C. & M. Ba nk, ac ar- wyddodd pawb drwy y drefn arferol. Ni ddaeth 6ymaint yn nghyd y noson hon ag arfer am fod Cyfarfod PolitiCiidd yn cael ei gynal yn y Neuadd gerllavv-. Gwasan- aethwyd wrth yr Organ gan Mrs H. Hep- kins. J. T. LEWIS.