Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

.EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG.

-'RHUTHYN. I

ILLANBEDR-PONT-STEPHAN.I

IYSTUMTUEN..1I

COLWYN BAY.

jPENNAL. I

CARMEL, CYLCHDAITH CONWY.…

HOREB, CWMBRWYNO. I

SOAR, NEW BROUGTON.I

* GWYDDELWERN.I

ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.'

YNYSYBWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YNYSYBWL. Bu yma y nosweithiau diweddaf gyfres o gyfarfodydd diwygiadol. Cawsom wyth- nos o gyfarfodydd gweddio bendithiol iawn, cynulliad da trwy y cyfarfodydd. Teimlwyd yn ystod yr wythnos fod Duw yn agos iawn at Ei blant. Nos Lun dilyn- ol pregethwyd gan y Parch D. Creigfryn. Jones, Pontypridd nos Fawrth gan y Parch J. Fisher Griffiths, Hirwain nos Fercher gan y Parch Robert Lewis, Foiit- ypridd nos Iau, gan y Parch E. Davy Thomas, Abercynon nos Wener, gan y Parch Thomas Jones, Ferndale, Llywydd y Gymanfa. Cawsom cyfres o bregethau 'ardderchog ag y cofir am danynt am amser i ddod, y gweision ar eu goreu yn traddodi yr hen hen hanes gyda dylanwad. Er na welwyd neb o'r newydd yn aros gyda ni, eto ni gredwn fod yna rhai wedi eu clwyfo, ac y cawn eu gweled yn troi i mewn i cn witio am le yn mysg Ei bobl. Ar derfyn y bregeth nos Fawrth, cawsom unawd gan y Parch J. Fisher Griffith, Hirwain. Dech- teuwyd cyfarfod nos Fercher gan y Parch Williams (A.), a nos Wener gan y Parch Isaac Morris, B.A., B.D. (M.C.). Hefyd gwelwyd yn bresenol y Parchn Arthur Jones, B.A. (A.), a Hugh Roberts (B.), a Gregory (M.C.), gweinidog newydd yr hen bentref. Mae yn dda iawn gennyf allu dywedyd mae son cynydd sydd i glywed at hyd a lied y Gylchdaith. Mae yn dda genyf allu dywedyd fod y Pasrch D. Creigfryn Jones a'r Parch E. Davy Thomas yn berffaith hapus yma yn ein mysg, a'r naill a'r llall yn ddiwyd weithio er llwyddo yr achos ar y Gylchdaith, ac mae yn dda gennyfaltu dweyd fod yna gyfnewidiad mawr yn ystod y chwe mis diweddaf. Yr un modd y Parch Robert Lewis, Pontypridd, mae yntau yn gartrefol iawn yma gyda iii, yntau yr un modd a'i holl fri ar godi,ei enwad a chael pechaduriaid at draed y Gwaredwr. Mae yn debyg gen i fod yna gyfres o gyfarfodydd o'r un natur wedi eu cynhal yn Abercynon a Cilfynydd. Peth rhyfedd iawn gen i na fasa rhai obebwyr y lleoedd wedi anfbn gair yn ei gylch. DYFI.

PONTARDULAIS.

'.LLANDEILO.