Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

. NODIADAU CYFUNDEBOL. 1

IGAIR 0 CANADA.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR 0 CANADA. I 122, Mutual Street, Toronto, Mawrth 2il, 1914. Annwyl Mr Golygydd,— Dyma dydd Gwyl Dewi unwaith eto yn mhlith vr hyn a fu. Nos Sadwrn diwedd- af, set Chwefror 28ain, cynhaliwyd Ban- quet' yn yr Hotel Waverley, o dan nawdd Gymdeithas Dewi Sant. Y Cadeirydd oedd E. W. J. Owens, Ysw., K.C., M.P.P., yr hwn wnaeth ei waith yn y modd mwyaf dymunol. Y prif siaradwr oedd yr Athro J. H. Michael, M.A., yr hwn gynygiodd llwne-destyn (nid wyf yn hom/r gair) Dewi Sant." Clywsom ef yn siarad lawer gwaith, ond ni siaradodd yn well erioed nag ar yr achlysur hon. Cafwyd anerchiadau hyawdl a gwladgarol hefyd gan y rhai canlynol :-Dr N. A. Powell, un o prif feddygon y ddinas; Dr Fraser (Provincial Archivist) y Parch J. R. Evans, Mri Lewis Evans, John T. Woods, ac Alltud Lleifiad." Cafwyd caneuon Cymreig gan Mri John Williams, J. Wil harns, Meinon Roberts, D. Powell, J. R. Edwards, a Miss Kate Phillips, ac adrodd- iad gan Mrs D. Powell; Mr John Hughes yn cyfeilio. Yr oedd yno 123 yn bresennol i fwynhau y wledd, a barn pawb yn ddi- eithriad oedd, mai da oedd ini fod yno. Yn mhlith y gwahoddedigion oedd yn bresennol, gellir nodi y Parch Derwyn T. Owen (Rheithior Holy Trinity), a Mr W. D. Thomas, B.A. (Trinity College), gynt o golegau Aberystwyth a Rhydychen. Dyma un o'r cyfarfodydd mwyaf llwydd ianus yn hanes Cymry Toronto, a gob- eithiaf mai ei canlyniad bydd dwyn Cymry y ddinas i berthynas agosach a'u gilydd. Nos Sul, sef Dydd Gwyl Dewi, pregeth- wyd yn y Capel Cymraeg gan yr Athro J. H. Michael, M.A., oddiar y testyri-" Canys cydweithwyr ydym ni," 1. Cor., iii. bennod, 9fed adnod. Os siaradodd yr Athro yn dda nos Sadwrn fe bregethodd yn rhagorol nos Sul. 'Roedd y testyn yn un amserol, a chafodd y pregethwr hwyl anarferol wrth draethu y gwirionedd yn iaith ei fam. Teimlwn fel Cymru yn ddiolchgar iddo o waelod calon. Brysied atom eto, a boed bendith Net yn dilyn yr oedfa rymus a gawsom nos Sul. Nid wyf yn dweyd gor- modedd pan yn dweyd y bydd cof am bregeth nos Sul am lawer dydd i ddyfod. Gyda'r Mail diweddaf y derbyniais y G.N. yn cynwys fy llythyr diweddaf atoch', yn mha un y gofynais am i ysgrifenyddion y gwahanol Gymdeithasau anfon rhaglen eu Gymdeithas ataf. Gyda'r un Mail der- byniais raglen Cymdeithas Hen Golwyn. Diolch i Mr Mark Davies am ei barod- rwydd yn ysgrifennu mor fuan. Gyda chofion caredig, Eich cywir A. H. CHAMBERS. I

[No title]

Advertising