Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

INODIADAU WYTHNOSOL.

[No title]

[No title]

[No title]

Llythyrau at y Go!./

Y GYMANFA WESLEAIDD.

CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.

TIPYN 0 BOPETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TIPYN 0 BOPETH. Y 'Times' am Geiniog. Bydd yr wythnos hon yn gofiadwy yn y byd newyddiadurol fel dechreuad cyfnod newydd yn hanes y 'Times.' 0 ddydd Llun ymiaen dygir y papur enwog allan am gemiog, a hyny heb ei newid a'i ieihau. Rhyfedd y gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lie yn y byd newyddiadurol yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Cost addysg Carnarfon. Dywedodd Mr Issard Davies yn Mhwyll- gor Addysg Sir Gaernarfon fod tdeiladit ysgolion newydd ac adnewyddu hen rai wedi costio i'r Sir [130,000. Ac y bydd cynlluniau sydd eisoes mewn llaw yn costio o £25,000 i [30,000. Hefyd bydd graddeg newydd cyfiogau athrawon yn costio tua phedair mil y fi wyddyn. YmneiHtuo Y mae Mr Hugh Owen, yr hwn sydd wedi bod yn arolygydd a threthgasgl- ydd bwrdeisdref Filint am y deugain mlynedd diweddaf, wedi anfon ei ym- ddiswyddiad i mewn o herwydd atiechyd.- Cospi y Troseddwr. Yn llys ynadon Caernarfon, dydd: Sadwrn, dirwywyd tenant y Newbor- ough Arms, Cwmyglo, i 40s am ganiat- au meddwdod. Mae hi yn hen bryd dechreu y pen yma, i'r mater yn sicr. Ap Clwydfardd. ( Clywsom mae Mr T. W. Griffith, U.H., Llandudno, ydyw cadeirydd new- ydd Cynghor Sir Carnarfon. Gwr teil- wng i'r swydd yn wir.