Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Cenhadaethan Egengylaidd.…

[No title]

CEREDIGION YR ACHOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CEREDIGION YR ACHOS. WILLIAM WILLIAMS Y CYMDU. Yn ei ddyddiau ef yr oedd y "cyfar- fod gweddi mawr yn sefydliad pwysig yn nghylchdeithiau Wesleyaidd Mald- wyn ac yr oedd ef yn un o'r etholedig- ion i gynal y cyfryw—o Fwlch y Cipau. i Dre Ceiriog, ac o Groesoswallt i Llan Gynog. Yr oedd yn hynod afaeigar mewn gweldi, ei lais yn wefreiddiol, a'i ysbryd yn wastad ar dan a cherddai cryn ddylanwad i'w ganlyn. Pan yn tynu at derfyn ei daith aeth gyda'i gyfaill anwyl, Mr John Lloyd Jones, Llanrhaiadr, i gynal "cyfarfod gweddi mawr" i Groesoswallt. Cafwyd cy- farfod gwlithog a bendithiol; a dych- welai ei gyfaill ac yntau adref mown sirioldeb a Jlawenydd- Krbyn iddo gyrhaedd Llanarmon Fach, yr oedd naill ai yn hwyr iawn nos Sul, neu yn fore iawn dydd Llun a chan fod ei briod yn analluog i fyned i'w gwely heb ei gynorthwy, yr oedd yno gryn storm yn ei aros. Dywedai yr hen wraig y drefn yn enbyd, a braidd nad erlidiai bobl grefyddol; a beiai William Williams am fyned oddicartref ar draws gwlad i gynal cyfarfodydd gweddio. Yr unig atebiad a gafodd oedd-" Mae yn dda iawn i ti fy mod i yn caru lesu Grist: onibai fy mod i yn ei garu 0, mi faswn yn rhoi cweir i ti heno, ac nid yn dy helpu di i fyn'd i'r gwely." Ac felly y terfynodd yr helynt y noson hono- Pan yn ymfudo o Hirnant i Llanar- mon Fach (os da y cofiaf), wedi cael y dodrefn yn diogel yn y drol, a'r hen wraig mewn lie clyd yn eu canol, dy- wedodd William Williams-" Wel, dyma ni yn barod i gychwyn 'rwan." "Nag yden, nag yden," lietai yr hen wraig, Maeyna lot o dan yn y grat; a rhaid ini gael hwnw i fyned gyda ni." Tan, ddynes," meddai yntau sut yn y byd mawr y gallwch chwi fyn'd a hwnw ?" "0," meddai hithau, rhowch ef yn y crochan yma." Ac er mwyn heddwch rhoddwyd y tan yn y crochan. Ond yn lied fuan, wrth fyned trwy yr jawyr, dechreuodd y tan yn y crochan ffaglu ac ar hyny dechreuodd y dodrefn gyneu: a phan welodd yr hen wraig y sefyllfa dechreuodd lefain yn groch am iddynt aros, fod y dodrefn yn myn'd ar dan. Ac aros a wnaed a mawr fu'r helynt i gael yr elfen ddinystriol dan lywodraeth. Ac'yna dywedai William Williams, Yn boeth y bo di a dy dan -pe buaset ti yh llosgi yn ulw, arnat- ti y buasai yr holl fait. Nid wyf yn meddwl i mi gyfarfod erioed a'r un dyn cyffredin a'r fath allu ganddo i werthfawrogi pregethu uwch- raddol a William Williams. Yr oedd y gallu hwnw fel pe buasai yn wreiddiol neu gynhenid yn ei feddwl. Os dywedai y pregethwr bothau allan o'r ffordd gyffredin, byddai William Williams yn sicr o'u canfod, er iddynt fod yn wirion- eddau dyfnion, a chael en gosod gerbron mewn dull athronyddol. Olywais yr anfarwol Cynfaen yn adrodd ei fod ef, unwaith, yn pregethu yn Moriah: ac wrth fyned yn mlaen i'w bregeth dech- reuodd draethu ar Ymwybyddiaeth a dechreuodd William Williams borthi. Wrth weled yr hen frawd yn' cael hwyl penderfynodd Cynfaen ymwth- ic ym mhellach i'r dwfn ond dilynai William Williams ef o air i air ac o feddwi i feddwl, o phorthai ef yn fwy nag o'r blaen. Yna dywedai Cynfaen ynddo ei hun-" Fe, rof daw arnat ti yr hen frawd, gyd a hyn a dechreuodd ddifynu darnau o Metaphlysics Mansel —" Mae yn yr ymwybyddiaeth ffeithiau y rhai a awgrymant yn uniongyrchol i ni ein hunain. Dwy o gyngreddfiadau yr ymwybyddiaeth fewnol a wnant hyn ydynt yr ymdeimlad o ddibyniaeth, a'r ymdeimlad o rwymedigaeth foesol; ac at y rhai hyn gellir ychwanegu fel tyst yr ymwybyddiaeth o derfynolrwydd," &c. Erbyn hyn nid oedd neb yn gwr- ando ar y pregethwr ond William Williams, ond yr holl gynulleidfa wedi troi i wrandaw ar William Williams yn porthi. Ar derfyn yr odfa disgwyliai Oynfaen i lawr o'r pulpud; a dywedai wrtho-" Wel, Mr. Evans, chlywais i 'rioed siwn beth o'r blaen. Lie cawsoch chi y meddylie mawrion yna, Mr Evans ?" Dywedodd Cynfaen wrthyf, pan yn cyfeirio at y tro—Faint bynnag o wledd gafodd William Williams wrth wrandskw y bregeth, cefais i fwy o wledd wrth ei wrandaw ef yn ei phorthi."—Y Parch T. J. Humphreys yng Ngen- inen Gwyl Dewi."

[No title]