Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

MYNYDD SEION, LERPWL.

CYLCHDAITH DOLGELLAU A'R ABER-II…

-ICAERSALEM, TON PENTRE.I

SALEM, BETHESDA.

-.I. GLYNDYFRDWY. __,I

COLWYN BAY.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLWYN BAY. I MARWOLAETH.—Yn y Gwyliedydd am yr wythnos ddiweddaf yr oeddym yn hysbysu am y swper rhagorol a llwyddiannus a gafwya yn Horeb, ac ymhlith y chwiorydd a wnaeth ran dda tuag at ei lwyddiant yr oedd Miss Hannah Maria Jones, Elian House. Nos Lun y 9fed cyfisol, yr oedd yn y Cyfarfod Gweddi, ac yn cyflwyno drosodd ar y terfyn yr arian a dderbyniodd am docynau at y swper. Ychydig a fedd- yliai neb y noson honno fod y diwedd mor agos. Yr oedd gyda'i gwaith arferol dydd Mercher, ond tua'r hwyr cwynai ychydig. Arhosodd yn ei gwely bore Iau, ond ni thybiodd neb fod perygl. Ond yn gynar y prydnawn daeth cyfnewidiad sydyn a bron heb yn wybod i'r teulu, ehedodd ei hysbryd ymaith. Gwvthien a dorrodd ar yr ymenydd, ac nid oedd unrhyw obaith adferiad, ebai'r meddyg. Taflwyd y dref i alar dwys, gan fod teulu Elian House mor adnabyddus, a danghoswyd cydymdeim- lad dwfn a'r teulu yn eu galar. Cladd- wyd yr hyn oedd farwol o'n hanwyl I chwaerprydnflwll Llun, Mawrth 19eg. Daeth tyrfa fawr iawn i'r angladd. Gorchuddid yr arch a blodau prydferth. Yr oedd naw o "wreaths" ac unarddeg clwm o flodau wedi eu danfon gan berth- ynasau a chyfeillion. Rhoddodd Cyrn- deithas Pobl Ieuainc Horeb un flodeu- dorch, a'i dosbarth yn yr Ysgol Sul un arall. Gwasanaethwyd yn y ty, ac yn y I gladdfa 3 ng Ngholwyn gan y Parchn Rhys Jones a W. P. Roberts. Yr oedd hoil drefniadau yr angladd o dan ofal Mr Richard Williams, Bryn Aled. Nos Sul, pasiwyd pleidlais o gydym- deimlad yn Horeb a theulu Elian House. Nodded y nef a fo dros ein hanwyl frawd a'r teulu oil. Yr ydym ni yn Horeb wedi colli un o'r aeloda.u ffvddlonaf a mwyaf gweithgar. Gwnai bob peth a gwen ar ei hwyneb, ac nid oedd dim yn ormod ganckli wneud er mwyn yr achos. Gwasanaeth ydoedd arwyddair ei bywyd, a hwnnw bob amser yn un calonog. Aeth i orffwys yn gynhar, nid oedd wedi cyr- aedd ei 32ain mlwyad bed, ond caiff beilach ei wasanaeth Ef ddydd a nos yn ei deml. heb i angau dori ar y wasanaeth. Heddwch i lwch chwaer anwryl a dymunol iawn. Traddodwyd pregeth angladdol i n chwaer, nos Sul, Mawrth 22am, gan y Parch Rhys Jones. GOH. I

I SHILOH, TREGARTH. I

! ■ ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.…

"■LLANIDLOES. I

LLANDILO.I

TREUDDYN.I

I TREORCHY.

TRINITY ROAD, BOOTLE.I

PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION.…

I DYFFRYN ARDUDWi. I

I CONGL YR AWEN./'-ri"'

Yr Ymnesiituwr Duwiol.