Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
MYNYDD SEION, LERPWL.
MYNYDD SEION, LERPWL. Y GYMDEITHAS. Yn absenoldeb yr ael- odau etholwyd i arwaia y ddadl ar "A ellir cyfiawnhau defnyddiad peiriannau awyrol i deithio yn yr olwg ar yr aberth o fywyd dynol a achosant," cafwyd prawfion digonol nos Sadwrri, Chwefror 28ain. o fedr rai o'r aelodau i roddi anerchiadau difyfyr ar gwestiynau y dydd. Arweiniwyd ar yr ochr gadarnhaol gan Mr Gwynfyl Evans (mab y Parch. W. O. Evans), a Mr E. Ver- ney Roberts, ac ar y nacaol gan Mr Wm. Jones a Mr J. G. Roberts. Yna pleidleis- iwyd, a'r canlyniad oedd i'r mwyafrif gyd- olygu a'r olwg cadarnhaol. Nid oedd y Parch. Tryfan Jones yn alluog i fod yn bresenol nos Sadwrn,, Mawrth 14, ond fe gafwyd ymddiddan diddorol ar Lafur.' Agorwyd yr ym- ddiddan mewn modd canmoladwy iawn gan Mr Pierce Jones (gynt o Lundain), a phrin ymae achos dweyd i'r aelodau werthfawrogi ei wasanaeth, a'r goleuni roddai ar gwestiwn sydd yn haeddu sylw aelodau yr eglwvs. Llywyddwyd gan Mr J. Jones, is-lywydd. Llawenydd gan yr aelodau ydyw deall fod Mrs Hughes, gwraig yr vsgrifenydd, yn gwella ar ol yr afiechyd achoswyd gryn bryder am amser maith. GOII.
CYLCHDAITH DOLGELLAU A'R ABER-II…
CYLCHDAITH DOLGELLAU A'R ABER- MAW. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol Dosbarth Dolgellau yn Arthog, dydd Sul, Mawrth y 15ed, o dan lywyddiaeth Mr E. R. Browne, B.A., Llywydd Dosbarth Dolgellau. 'Roedd y cyfarfod hwn yn fwyaf arbenig ar gyfer y plant,, a llawenydd mawr/ i gyfeillion Dolgellau ydoedd gweled cymaint o blant yn bresenol, ac yn myned trwy eu gwaith mor rhagorol, yr hyn oedd yn arddangos tod y rhai mewn oed a'r rhieni wedi llafurio yn galed gyda y plant, fel ac iddynt gyrhaedd y safle maent wedi ei wneud yn eu gwaith gogyfer a'r arhol- iad. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr Richard Barnett, Dolgellau. Yna holwyd y Safopau ar Dosbarth 1. gan Mr W. A. Meredith, Dolgellau, ae ni allai Mr Mered- ith lai na chanmol y plant am adrodd mor rhagorol, 'roedd y plant yn adrodd y penilfion a'r adnodau fel pe wedi eu dysgu ar gyfer cystadleuaeth. Wedi hyn holwyd y plant yn hanes Ail Daith Paul" gan Mr W. T Lloyd, Dolgellau, ac 'roedd yn hawdd gweled fod Mr Lloyd yn cael hwyl a phleser wrth holi y plant, gan eu bod mor barod gyda eu hatebion iddo. Yna cafwyd papur gwir adeiladol ar yr Ysgol Sul gan Mr Richard Browne (ieu.), Dolgellau, a gwnaed sylwadau yn mhellach gan Mri Barnett, R. O. Lloyd a'r Llywydd. Terfyn- wyd un o'r cyfarfodydd goreu y Dosbarth gan Mr R. O. Lloyd, a theimlad pawb ar y diwedd ydoedd am gael un cyffelyb eto yn fuan. EMRYS.
-ICAERSALEM, TON PENTRE.I
CAERSALEM, TON PENTRE. Y GYMDEITHAS DDIWYLLIA-DOL. -Nos Wener, Mawrth 6ed, darllenwyd dau bapur o flaen y Gymdeithas, ai Y ddau gorph Methodistaidd a'u nodweddion," gan ddau o'r Hen Veterans,' sef Mr Thomas Lewis aMr Evan Davies. Cawsom ddau bapur da iawn, y rhai a werthfawrogwyd yn fawr iawn gan y Gymdeithas. Diolchwyd i'r ddau frawd am eu hufudd-dod i'r Gym- deithas. GYMDEITHAS Y BECHGYN IEUAINC.—Cyn- haliwyd cytarfod cystadleuol o dan nawdd y Gymdeithas uchod, nos Iau, Mawrth 12fed. Llywydd y cyfarfod oedd Mr Thomas Lewis, a g'vvnaeth1. ei waitti mewn modd medrus iawn. Y ddau feirniaid oeddynt Mr John Morgan, Co-operative Street, ar yr amrywiaeth, a Mr Howell Davies, Ton, ar y gerddoriaeth, a gallwn ddweyd i'r ddau frawd wneud eu gwaith yn foddhaol iawn. Enillwydy gwobrwy- on gan y rhai caniynol :-Unawd i fech- gyn o dan Beg'oed, Gweithiwch mae'r nos yn dyfod," Wilfrid John Morgan. Ad- rodd adnodau i blant o dan 9 oed, Master Cyril Evans, Gelli. Adrodd emyn 414 i blant o dan 14 oed, cyfartal J. Glydwr Lewis a Maldwyn Jones. Unawd Tenor, Gwlad fy Mebyd," Mr Josiah B. Richards. Adrodd emyn 320 i rai mewn oed, Miss Maggie Thomas, Pentre. Unawd i ferch- ed, 0 tyred vn oi," Miss Eurfron Owen, Pentre. Aracth ddifyfyr, ataliwyd y wobr. Unawd' Bass, "Fechgyn Cymru," Mr Thomas Lev is, Gelli. Dadi ddifyfyr, Mr Samuel Davies a Mr John R. Mason. Ped- warawci, Rutherford," Mr Evan T. Evans, Ge11i, a)\ gyfeiUion. Cawsom gyfarfod da iawn ar y eytan, a diolchwyd yn gynes i'r Llvwyiid a'i ddau feirniad ar y diwedd, ac hefyd i Mr John Parry am gadw'r drws, a'r chwareuwr, Mr Teddy Morgan. Can v, yd Hen V lad fy Niaadau i aerfynu gan Mr Howeu b.ivies. I EVAN.
SALEM, BETHESDA.
SALEM, BETHESDA. GOB rl i,Cyti liili -,N, y d cyfarfc)d Gob- eithlu Salem, nos Sadwrn, Mawrth 7fed, o dan lywyddiaeth y Parch Richard Jones. Aed trv/y raglen ddiddorol a chwaethus. Caed unawdau gan Mrs Joseph E. Evans, Gerlan; Mrs Griffith Owen, Misses G. K. Pritchard a Catherine Grace Owen, a Mr H. Jones Parry. Rhoddodd Miss Hughes, Panthwia, ;mawd ar y Piano, ac adrcdd- Odd Mri H. J. Wiliiarus, Joseph Morgan, a J. H. IVrrv. Dyma enwau plant Salem a gyinoi. «it ran mewn adrodd a chanu Mary Louisn, Roberts, Edith HovVells, E. A. Morgan, Owie Morgan, Jennie Roberts, Gwladys Roberts, Eleanor Hughes, Jobnuy Ovven .I.Artbur Hughes, Owen Parry, Tommy Morgan, Stanley Parry, C. Ei.l:;n Pany, Gwynett1 Parry, a J er:nie \iViIliams. Breiiitiwyd. ni a dadl gan Mrs I I u fs zt Miss Griffiths, Gorifwysla, yr hon a Iwyn- hawyd yn iwr iawn. Cyfeiliwyd gan Mr W. Roberts, Sin1 ch. Cydwynwyd y diolch gan y L iy .vyua i'r rhai o enwadan eg Iwysi eraill a fu mor garedig achynortl1- wyo, ac i'r rhai fu'n llafuno mor ddiwyd gyda'r plant. Yr oeddy capel yn llawn, a mwynhaodd pawb ei hun. GOH.
-.I. GLYNDYFRDWY. __,I
I. GLYNDYFRDWY. Cvnhaliwyd Cyfarfod Ys-ol yn ylJe I uchod dydd Sui; Mawrth e 1 u, Iv wyddiaeth Mr D;widMorris, Khe?'I (Uywydd yr I n ^'bi. Prif waith cyfarfod I y boreu ydoedcl ymdriniaeth ar H,wes yr s Eghvys Gristionogolyn ystod y Ded a'1',j 6ed ganrif." Darllenwyd papur gan Mr Edward Davies, Rhewl, a siaradwyd ymliellach gan amryw frodyr. Yn ystod y cyfarfod hefyd holwyd y plant (dos. Mr I Ed. Roberts) yn yr Hyfforddydd, ac adroddwyd Salmau ac emynau gan ddos- barth Mri Robert Davies a John Parry. Yn y prydnawn drachefn adroddwyd 15fed benod o Datguddiad gan Sarah Jones a S. J. Roberts. Emynau gan Myfanwy Davies a Annie Roberts, a Salm gan Lizzie Barnard. Hefyd pennod o'r Allwedd, "Am Lywodraeth Foesol gan ddosbarth Mr J. Jones, Ty Cerrig, a'r bennod Am farwolaeth Crist" allan o Lyfr Pritchard yn rhagorol iawn gan ddosbarth Mr J. Jones Lloyd. Yn yr hwyr adroddwyd Salm gan Miss Catherine Owen, a'r bennod Am gyf- iawnhad" allan o Lyfr Pritchard gan ddow,-trtli Mr Peter Roberts, a chafwyd can gan Miss S. J. Roberts. Yna holwyd yr Ysgol yn gyffredinol oddiar loan xix. gan Mr E. R. Parry, U.H., Llangollen, yr hwn a gafodd hwyl neillduol gyda'r gwaith, ac yr oedd yr atebion yn bur barod a chyffredinol. Da gennym weled fod yr eglwys hon yn parhau i gadw ei hanrhydedd gyda'r cyfarfodydd hyn y I rhai sydd yn arddangos eu sel a'u hym- drech gyda'r Ysgol Sul. I YSG. I
COLWYN BAY.I
COLWYN BAY. I MARWOLAETH.—Yn y Gwyliedydd am yr wythnos ddiweddaf yr oeddym yn hysbysu am y swper rhagorol a llwyddiannus a gafwya yn Horeb, ac ymhlith y chwiorydd a wnaeth ran dda tuag at ei lwyddiant yr oedd Miss Hannah Maria Jones, Elian House. Nos Lun y 9fed cyfisol, yr oedd yn y Cyfarfod Gweddi, ac yn cyflwyno drosodd ar y terfyn yr arian a dderbyniodd am docynau at y swper. Ychydig a fedd- yliai neb y noson honno fod y diwedd mor agos. Yr oedd gyda'i gwaith arferol dydd Mercher, ond tua'r hwyr cwynai ychydig. Arhosodd yn ei gwely bore Iau, ond ni thybiodd neb fod perygl. Ond yn gynar y prydnawn daeth cyfnewidiad sydyn a bron heb yn wybod i'r teulu, ehedodd ei hysbryd ymaith. Gwvthien a dorrodd ar yr ymenydd, ac nid oedd unrhyw obaith adferiad, ebai'r meddyg. Taflwyd y dref i alar dwys, gan fod teulu Elian House mor adnabyddus, a danghoswyd cydymdeim- lad dwfn a'r teulu yn eu galar. Cladd- wyd yr hyn oedd farwol o'n hanwyl I chwaerprydnflwll Llun, Mawrth 19eg. Daeth tyrfa fawr iawn i'r angladd. Gorchuddid yr arch a blodau prydferth. Yr oedd naw o "wreaths" ac unarddeg clwm o flodau wedi eu danfon gan berth- ynasau a chyfeillion. Rhoddodd Cyrn- deithas Pobl Ieuainc Horeb un flodeu- dorch, a'i dosbarth yn yr Ysgol Sul un arall. Gwasanaethwyd yn y ty, ac yn y I gladdfa 3 ng Ngholwyn gan y Parchn Rhys Jones a W. P. Roberts. Yr oedd hoil drefniadau yr angladd o dan ofal Mr Richard Williams, Bryn Aled. Nos Sul, pasiwyd pleidlais o gydym- deimlad yn Horeb a theulu Elian House. Nodded y nef a fo dros ein hanwyl frawd a'r teulu oil. Yr ydym ni yn Horeb wedi colli un o'r aeloda.u ffvddlonaf a mwyaf gweithgar. Gwnai bob peth a gwen ar ei hwyneb, ac nid oedd dim yn ormod ganckli wneud er mwyn yr achos. Gwasanaeth ydoedd arwyddair ei bywyd, a hwnnw bob amser yn un calonog. Aeth i orffwys yn gynhar, nid oedd wedi cyr- aedd ei 32ain mlwyad bed, ond caiff beilach ei wasanaeth Ef ddydd a nos yn ei deml. heb i angau dori ar y wasanaeth. Heddwch i lwch chwaer anwryl a dymunol iawn. Traddodwyd pregeth angladdol i n chwaer, nos Sul, Mawrth 22am, gan y Parch Rhys Jones. GOH. I
I SHILOH, TREGARTH. I
SHILOH, TREGARTH. I Nos Wener, Mawrth 13eg, daeth tymor ein Cymdeithas Ddiwylliadol i ben, ac fel arfer paratowyd swper i ddathluVjamgylch- iad. Cawsom swper diguro a Uongyfarch- wn y chwiorydd am eu gwaith a'u rredrus- rwydd ynglyn a gofalu am y darpariad- au. 'Wedi i bawb fod yn cyfranogi .o'r wledd cawsom Gyngerdd yn y capel o dan ofal Mr O. R. Thomas. Cawsom ddatgan- ladau gan Misses J. Rowlands a Follie Thomas a Deuawd gan O. R. Thomas ac R. jvWilliams. Perfformiwyd drama Y Forwyn Newydd gan chwech o aelodau y Gymdeithas. Yr oedd y cymeriadau fei y canlyn Gwen," Miss L. Griffith f'Ann," Miss S. Jones, Dob; "Margiad," Miss K. Owen "Y Forwyn Newydd," Miss S. Jones, Tyddyn Dicwnr "John y Gwas," Mr D? R. Jones, Butcher, a Gor- Gwa.s," Robert Jones, Dob. Yr oedd pob un ohonynt wedi meistroli ei ran ynrhag-, orol a boddlonwyd pawb yn y perfformiad. Wedyn cawsom gan gan John y Gwas," a daeth i'r llwyfan yn,ei wasgod lewis, a chafodd dderbymad brwdfrydig. Dyma • ni..wedi treulio y Gymdeithas olaf gyda'r Parch E. Tegla Davies, ac fe cleimlwn yn chwith iawn ar ei ol ond yr ydym yn hyderu y caiff fod yri-ia gyda iii eto cyn pen hir. Yr ydym yn teimlo yn ddyledus i Mr Davies am ei lafur difliiio gyda ni yn y Cymdeithasau hyn, a gob- eithiwn y caiff weled cl ei lafur mewn cyfnod eto ar ol hyn. Er inwyn dangos ar,,vydd on parch tuag at Mr Davies, pas- iodd y Gymdeithas yn unfrydol i gael anrheg iddo. Cyflwynwyd yr anrheg i Mr Davies gan yr Is-lywydd, Mr O. R. Thomas, Barometer ydoedd, a dywedodd Mr Thomas, ei fod o werth mawr i brtfgethwr wybod beth yw natLr y tywydd cyn, cychwyn i'w daith. Wrth ddefbyn dywed- odd Mr Davies ychydig o eiriau teimladwy iawn. Bod yna lawer iawn rnewn an- rheg fel hyn, dywedodd ei bod yn arwydd ei fod yn ceisio gwneud ei oreu, ac fod hynny yn galondid mawr iddo pan y bydd yn teimlo yn ddigalon. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad ty Nhadau." I H. HUGHES. I
! ■ ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.…
ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH. I Y GYMOEITHAS,.—Diddorwyd y Gym- deithas Ddiwylliadol nos Fawrth, Chwef- ror 17eg, trwy gael anerchiad gan Mr T. Thomas, Ceinionfa, y testyn,. Cymru Gyia. Cadeiriwydyn absenoldeb Mr J. W. Cowley gan v Pi! lei} Richard Mwgan. Yr oedd 1:3*1. ti 111 ■> a wedi dod yng righyd, a chap > limaeth eang a manwl ar y tt:! gwelir, yr oedd y testya vn hoI "e yindriniodd Mr Thomas\ddicldorol arno. Danghusodd? ,d y Cyaryvn1 g'cnedl ami el' bu genedloedaj ^rail!, a plirol'; M 'ur, a I eraill, a phrofol¡j ,<iur, a. dy-- wedodd fod dynion wedi eu magu yn Nghymru yn llenwi safleoedd pwysicaf I cymdeithas yn mhob agwedd ami. Siar- adwyd yn mhellach ar y mater mewn dl- olchgarwch i Mr Thomas, ac awgrymwyd ar icido roddi yr anerchiad etb mewn lie mwy cyhoeddus, yr hyn fyddai yn agoriad llygaid i lawer yn hanes ein Cenedl. I GOH.
"■LLANIDLOES. I
"■ LLANIDLOES. MARWOLAETH MRS HAMER.—Prydnawn dydd Gwener, Mawrth y 6ed, yn nhy ei mherch a'i nihab ynghyfraith, Mr W. S. Hamer, yn 22, Tunley Road, Hailsden, Llundain, lie yr oedd wedi bod yn arcs am rhai misoedd, bu farw y chwaer uchod ar ol ychydig o ddyddiau o gystudd, yn 74 mlwydd oed. Gweddw y diweddar Mr David Hamer, Corner Shop, o'r dref hon ydoedd. Pan y cyrhaeddodd y newydd galarus am farwolaeth Mrs Hjlmer, tar- awyd y dref a'r gymdogaeth gyda syndod, oherwydd nid oeddynt yn gwybod am ei chystudd. Yr oedd yr ymadawedig yn ferch i'r diweddar Mr Robert Edwards, Glandulas, ger Llanidloes. Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn more ei hoes yn eglwys M.C. Bethel, yn y dref hon. Ar ol ymuno mewn priodas gyda. Mr David Hamer, ym- unocld ag eglwys y Wesleaid, a bu yn aelod ffyddlon hyd y diwedd. Prif nodweddion cymeriad Mrs Hamer ar hyd ei hoes ydoedd rhodiad agos gyda Duw, ymlyniad mawr iawn wrth bethau crefydd, a chariad ang- erddol o ddwfn tuag at yr Arglwydd a'i wasanaeth. Yr oedd yn gyson yr y Cyfar- fod Gweddi nos Lun a'r Seiat nos Fercher, ac yn gyson yn mhob moddion ar y Sul. Vr oedd wedi bod yn athrawes yn yr Ysgol Sul am lawer blwyddyn, ac yn cael ei hoffi, gan bawb. Claddwyd ei gweddillion dydd Mercher, Mawrth yr lleg, yn Dolhafren Cemetery. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch W. T. Ellis, Arolygwr y Gylchdaith, ac wrth y bedd darllenwyd y wasanaeth gan y Parch W. T. Ellis, a gweddiwyd gan y Parch J. T. Davies (M.C.), yn mhresenoldeb torf lu- osog a pharchus y rhai a alarent yn ddwys am ei cholli. Gadawyd fab a merch i alaru ar ol man tyner a gofalus. Nos Sul diweddaf pregethodd y Parch W. T. Ellis oddiar Salm Ill) a'r lufed adnod i gynulleidta luosog. Tra yr oedd yr Or- ganyddes yn chwarae y Dead March ar yr offeryn, safodd y gynulleidfa ar ei thraed fel parch i un yr oedd pawb yn ei hoffi. Danfonwyd, gan y pertbynasau, a chyfeill- ion, ac hefyd eglwys Wesleald, wreath hardd iawn er cof am dani. II D. R.
LLANDILO.I
LLANDILO. I MARWOLAETH.—Chwefror 24ain, bu farw Mrs Sarah Tomkins, anwyl briod Mr Tom kins, Thomaston, o'r lie uchod, ar ol cys- tudd a gwendid am agos i ddwy flynedd. Claddwyd yr hyn oedd farwol o honni yn Nghladdfa yr Eglwys, y Sadwrn dilynol, pryd y daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Yr oedd yn un o'r aelodau hynaf yr eglwys Wesleaidd yn y dref, a'i rhieni o'i blaen wedi bod yn ffyddlawn a gweithgar, a'i thaid yn un o sylfaenwyr Wesleaeth yma. Bu yn garedig i'r achos ar hyd ei bywyd. Yr oedd o ysbryd cref- yddol, ac yn meddu ymlyniad wrth Grist a'i achos. Yr oedd yn ddioddefgar yn ei chystudd, a'i gobaith yn gryf am wlad well yr ochr arall i'r lien. Bu farw gan bwyso ar ei Hanwylyd. Cydymdeimlwn yn fawr a'i phriod a'r plant yn eu galar a'u colled. Dyddaned yr Arglwydd hwy oil a chysur- on yr Efengyl. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch D. Corris Davies, ac yn yr Eg- lwys ac ar lan y bedd gan y Vicar a'r Curad. Rhoddodd Mr Davies emyn cyn ymadael a'r bead, a chanwyd ef yn gymysg a dagrau lawer. Nos Fawrth, Mawrth lOfed, yn y Guild, o dan lywyddiaeth y Parch D. Corris Davies, cafwyd cyfarfod amrywiaethol. Cafwyd papur rhagorol ar Y Trysor yn y Nef," gan Mr Jacob T. Lewis unawd gan Mrs R. T. Evans yn hynod o swynol; a deuawd gan Mr a Mrs R. T. Evans, a chawsant gjmieradwyaeth wiesog y cyfar- fod; adroddiadau effeithiol gan Mri D, Davies a Henry Davies; darllenwyd "Ystori Nadolig" gan Mr W. Hopkins, ac O'r Gambo i'r Motor Car gan y Parch Bedford Roberts, a chafwyd hwyl i'w darllen a'u gwrando. Diolchwyd i bawb gan y Llywydd. Chwefror 12fed, yn St. Paul's, Llandilo, unwyd mewn glan briodas, Miss Maggie Prickett gyda Mr John Henry Thomas, Ammanford. Gwasanaethwyd gan y I Parch D. Corris Davies. Hir oes iddynt. f Goi-i. I (
TREUDDYN.I
TREUDDYN. I WYTHNOS WEDDIO, CCC.~ Yn r ol a'r cais Cyfnndebol, trefmvÝd i gyn cyfres o foddiannau., Dechreuwyd y "farfodydd nos Lun, yr IGeg: cyfisol, dan c'.ylanwad grasusoi. Er gofid, methodd y Parch G. 0. Roberts (Trefnwr y cyfarfodydd) a chyraedd oherwydd afiechyd. Adferiad buan iddo. CYF IRFO.D YSGOL.—Cynhaliwyd y Cyf- arfod Ysgol dan nawdd Up.deb Ysgolion Sabbothol Dosbarth Coedllai, dydd Sul yr 8fed cyfisol. 'Roedd cynrychiolwyr yn bresc-nnol o Ysgolion Nercwys, Salem a Moriah yhghyd, a'r Ysgri.fen.nydd, Mr Arthur Jones L 1101. Lly- wyd." -vyd y cyfarfod prydnawnol gan Mr E. Roberts, Monah. a'r un hwyiol gan Mr E. Jones, Well Street. Cyflawnodd yr Ysgolorion eu gwahannol rannau yn yr HyHorddydd, etc., i foddlonrwydd yr hol- wyr pennodedig, a threuliwyd ychydig amser "n fuddiol gyda'r Maes Llafur yn Efengyl loan. Yn ystod y cyfarfodydd cyfrannood Mrs H. A. Jones a Miss S. A. Jones, unawdau. Yn eisteddiad y pwyll- gor, golliriwyd mater ail-etholy swyddog- iozi ",iycl,y Cyfarfod Ysgol nesaf gynhelir "n Nercwys: Cafwyd arnser da ar hyd y dydd. PWYLLGOR EGLWYSI RHYDDION.—Cyfarfu Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y cvlch, nos .Fercher, yr lleg cyfisol Cadarnhawyd cofnodion y Pwy.lgor blienoicl. ac Adroddiad Archwiliad y Cyfrifon. Pas- iwyd i anfon un Cynrycniolydd i'r cyfar- fodydd gvnhelir yn Nilbych gan C-vng- rhair Uncdig Gogledd Cymru. Vii-.10I-j wyd yn i/ywyd'1. M,"T. Hop wood: Ysgrd'- en.nyd<? Mr R. Oidncid? TrysGr?'!d. Mr | G. Ingman. j I I C'H. I
I TREORCHY.
I TREORCHY. DARLITII.-Mawrth lleg, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, traddodwyd Darlith gan y Parch D. L. Jones, Caerau, ar Robert Owen." Ganwyd ef yn Dref- 1 newydd, Sir Drefaldwyn, ond gadawodd ei gartref yn ieuahc, ac wedi byw blynydd oedd yn Llundain, sefydlodd yn Lanark, ac yno gymerodd i wella bywyd y werin a chodi safon moesoldeb. Gwariodd gan- oedd o bunau trwy godi tai i'r gweithwyr a rhoddi rhagor o gyflog iddynt. Efe oedd y cyntaf i gychwyn ysgol i blant ieuanc, casglau hwynt at eu gilydd i'r ysgol er mwyn i'w mamau gael mynd i enill i'r Gwaith Cotwm. Efe hefyd oedd sylfaen- ydd y Co-operative System." Teithiodd lawer trwy'r America a'r Almaen gan ddadlau dros hawliau y werin, ac mae enw Robert Owen mor adnabyddus yn y Al- maen ag ywyn Nghymru, oherwydd yr hyn a wnaeth dros addysg y wlad trwy gyf- ranu tuag at godi ysgolion a theithio'r wlad er ceisio deffro y werin i'w dyled- swyddau. Yr oedd Robert Owen fel Prophwyd yn ei oes, ac os gwireddwyd y ddihareb hono erioed, Nid oes anrhyd- edd i Brophwyd yn ei wlad ei hun,' gwireddwyd hi yn hanes Robert Owen er iddo fodoli yn y ddeunawfed ganrif. Mae ei enw yn adnabyddus iawn i Gymru, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Daeth adref 1 Drefnewydd yn wael iawn a bu farw mewn ychydig dyddiau ar ol dod, wedi cael oes o dros 70 (triugain a deg) o flyn- yddoedd. Cymerwyd y gadair gan Mr Thomas Parry. Siaradwyd ar y ddarlith gan amryw o'r brodyr a'r Llywydd. Wedi diolch i Mr Jones am ei wasanaeth terfyn- wyd trwy ganu emyn. M. M.
TRINITY ROAD, BOOTLE.I
TRINITY ROAD, BOOTLE. I Y GYMANFA.—Wele ni wedi mwynhau un Gymanfa eleni eto.yn nghylchdeithiau Cymreig Lerpwl. Eglui yw y cafwyd oed faon grymus trwy y gweision fu yn gwas- anaethu. Nos Wener arweiniwyd ni tan weinidog- aeth y Parch J. Parry Brooks i faes.brwydr y temtiad." Y mae i'r hanes am demtiad ein Harglwydd ei gyfriniaeth ac anogaeth ystyrigethau mWyaf difrifol. Ceisiwyd egluro hyn trwy ddarlunio y cymellion i fywyd o enwogrwydd ar linellau hawdd a diaberth. Boreu Sul, yn nodweddu y dydd a boreu Dydd yr Arglwydd, cymhellwyd ni gan y Parch Owen Evans, Rhag ein symud oddiwrth obaith yr Efengyl"— gobaith yr adferid y byd; gobaith per- ffeithiad credinwyr, a'r gobaith gwynfyd- edig wedi ymadael, ag ymdrechion y byw- yd 'rym ynddo yn bresenol. Arcfrwiliaeth i fywyd dirgel yr eglwys oedd cenadwri y Parch R. Garrett Roberts yn y prydnawn-y camwedd niweidiol i'r eglwys nas gall cyngor na brawdoliaeth ei ddiorseddu, eta yn peri colled a niwaid i'r eglwys. Yr hwyr argymhellwyd ni i wir brof- iad o lwyredd argyhoeddiad yn arllwys ar y dynminiad cywir o adael pechod ac erfyn am faddeuant, aco'r ymdeimlad, i ddyheu am wasanaeth Wele fi, anfon -ri oedd neges y Parch J. Pugh Jones, a gwnaelh hynny yn yr ysbryd mwyaf dwys-difrifol ac apeliadol. Gwnaed ymgais i ddeffro ein hystyriaethau yn y modd mwyaf teg a rhesymol. Dymunem fendith a lies yn ffrwyth y cyfarfodydd. I- E. R. I
PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION.…
PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION. I SOCIAL.-Nos Iau, Mawrth 12fed, cyn- haliwyd Social dan nawdd yr hen langciau a'r llangciau ieuainc. Ar ol ein digoni wrth y byrddau, y rhai oedd wedi eu hulio gyda'r danteithion goreu, aed ati i ganu a chystadlu mewn adrodd, areithio a bardd- oni, ac hefyd i ymweled a'r Museum ar- dderchog oedd wedi ei gosod i fyny yn y Class-room mor chwaethus. Cawsom noson hynod o ddifyr, pob peth p fewn terfynau, heb fod rhy wael a gwamal fel mae tuedd cyfarfodydd o'r fath i fyned; ond 'roedd graen ar bob peth. Aeth pob peth yn mlaen yn drefnus a hwylus o'r dechreu i'r diwedd. Rhaid tod llafur a gofal wedi bod yn ddistaw o'r golwg yn rhywle cyn gallesid cael cyfarfod mor dde- heuig. Ofnid ar y dechreu am ei hvydd- iant, am mai tipyn yn drwsgl ac arfosgo yw hen langciau ar y goreu ond chwareu teg iddynt, gwnaethant, yn well hyd nod na'r merched ieuainc. Gwnaed elw clir o £ 8 Is. Diolchwn i Mr R. H. Williams, Mr W. H. Roberts, a Mr E. Williams a'u Colleagues am eu llafur diflino. Bwriedir cael cyfarfod eto cyffelyb Ebrill 2il, dan nawdd y gwyr priod. PREGETHWYR DIEITHR.—Sul, Mawrth laf, cawsom ein breintio a gwasanaeth Dr H. Jones, Bangor. Dywedodd un na phre- gethodd erioed yn wael, ond yn sicr ni phregethodd erioed yn well nac y gwnaeth yma. 'Roedd yn codi rhyw hiraeth arnom am yr hen amserau pan y byddai ef a'r Eglwysbach, Edward Humphreys, D. O. Jones, ac eraiU yn anterth eu nherth yn ein huchel-wyliau yn ysgwyd y wlad. SuI, Mawrth lofed, yn y bore ,cd gwasanaeth y Parch Ishmael Evans. 'a.r- narvon, a'r hwyr y Parch Hugh Hughes. Dau hen filwr, os wedi yrnneiilduo sydd a'u harfau mor loyw ac erioed, a cnaed dwy bregeth nad anghofir hwy yn fuan. C. I
I DYFFRYN ARDUDWi. I
DYFFRYN ARDUDWi. I 0 flaen ynadon Abermaw y dydd o'r blaen gwnaed cais am drwydded i dafarn- dy yn mhelitref prydferth Dyffryn, lie nad oes dafarndy er's saith mlynedd. Cododd dirwestwyr yr ardal fel un gwr yn erbyn, a rhoddwyd gofal yr achos i Mr R. Guthrie Jones, Dolgellau, yr hwn a wrthwynebai dros yr ardaiwyr a'r heddlu, Un peth nodedig yn y gwrthwynebiad ydoedd tystiolaeth' y Parch D. R. Lewis, M.A., y rheithor. Dywedai Mr Lewis- ei fod ef yn erbyn cau y dafarn olaf yn yr ardal; ond yr oedd saith mlynedd o broiiad heb daf- arn wedi ei arwain i gredu mai lies ymhob ystyr oedd bed hebddi. Gallai bod heb clafarn achosi ahgbyfleusdra i ychydig .ond byddai y fendith i'r lliaws yn gorbrisio Daliodd Mr Lewis ei dir yn gadarn yn erbyn hen ddadleuydd fel Mr Arthur Hughes, Aberyshvyth, 8C nid rhyfedd i'w ddadganiad clir ymhlaid diddymu tafarn- dai godi ton c gymeradwyaeth frwd hyd vn nod mewn LINs Nnadol. Allan o 17 o dvstion ni fu raid galw ond tri o wrth- wyneowyr y cais.—Mr Lewis, Mr R. J. Williams, a'r Prif GwnstabL Yr oedd y IIliams, unol hoMol yn gwrthod y cais.\ Llor.^yfarchiadau i Mr Lewis ar ei waith v*i meryd y srlle ardderchog a gymer-1 odd yn Tr achos hwn. I • >
I CONGL YR AWEN./'-ri"'
I CONGL YR AWEN. r i I YR AELWYD. Rwyf yn caru yr hen aelwyd Lie y clywais gynta 'rio'd, Fod na fywyd i bechadur Ond ymestyn at y nod. "? Z V%7 yf y r 'Rwyf yn caru yr hen aelwyd Dysgais arni'r ffordd i fyw, Byw i fyny a'r gorchmynion, Byw i'r gwir, a byw i Dduw. < 'Rwyf yn caru yr hen aelwyd, Ami y'm dysgwyd am y Groes, Croes yr hoeliwydfy Nghwaredwr, Pan wnaeth iawn am feiau f'oes. 'Rwyf yn caru yr hen aelwyd, Lie y dysgais wrth fy hun, Adnod fechan, llawn gwirionedd. Fod yr lesu byth yr un. 'Rwyf yn caru yr hen aelwyd I Yno dysgais barcliu'r gwir, Yno dysgais yn fy mebyd, Fod yn rhaid cael calon bur. 'Rwyf yn caru yr hen aelwyd, Lie gwnes gyntaf blygu glin, Lie ces hefyd wir esmwythdra, Yn yr lesu'i f'enaid blin. 'Rwyf yn caru yr hen aelwyd, Lie ces nodded gan fy-mam, Ac i Dduw yr wyf am ddiolch Am yr aelwyd fach ddi-nam. UN O'R DYFFHYX. DANGOS DY HUN." Mae ambell i arwr am ddangos ei glod, Un arall yn ymyl am ddangos ei god, Danghosa rhai rhiaint eu mab neu eu merch Ac ambell i briod anwylyd ei serch, Ond amlach o lawer y gwelwch chwi ddyn Sy'n dal ar bob adeg i ddangos ei hun Sy'n dal ar bob adeg i ddangos ei hun. Pan ddaw yr etholiad i ferwi'r holl wlad A'r gwir wedi codi, a chelwydd yn rhad Cewch weled boneddwyr yn gwneyd gwyneb hir I gynyg eu hunain er llesiant y sir, Ond wedi'r holl helynt mae ambell i ddyn Yn dringo i'r Senedd i ddangos ei hun Yn myn'd yn A.S. er cael dangos ei hun. L BLODEUYN AR FEDD John Lloyd Jones, Llwyngwril, Guard Cynorthwyoi ar Linell y Cambrian Railway. Pan yn rhoddi ein rhai,anwyl Yn unigedd nos y bedd, Y mae hiraeth, yn naturiol, Ar yr aelwyd yn cael sedd'; Egyr dagrau ddrws y galon Llenwa'r cwmwl a thristad, Ar ol symud priod ieuangc Oedd mor amlwg yn ei wlad. Yri Llwyngwril, pentref tawel, Magwyd John yn Eglwys Dduw Dan olygon mwyaf treiddgar Hen fiaenoriaid oedd yn byw, I'r deifrydau mwyaf uchel Gyda'r rhain dechreuodd ef Pdysgu egwyddorion crefydd, Ac i gerdded llwybrau'r nef. Anhawdd ydoedd gwel'd dyn ieuangc Harddach, gwynach yn ei oes Bu'm yn gwylio'i symudiadau Gyda'i freichiau am y groes Gyda'i orchwyl dyddiol byddai 'N fawr ei barch a chyfaill pur Fel mae'r goffadwriaeth annwyl Ar ei ol yn glasu'n hir. Ond pan ydoedd haul y boreu Yn arianu yn y nen, Priod ieuangc, cartref cynes, Duodd cwmwl yn y nen, Trodd ei arfau gwaith o'r neilldu Anhawdd ydoedd gwneuthur hyn Pan oedd baban bach a phriod Y11 eu dagrau'n nos y glyn. Ar ei tedd 3^ carwn blanu Blodyn tyner ei goffbad, Nid oedd neb a'i garedigrwydd Yn fwy pur o fewn y wlad, Ond ynghanol y gobeithion Gwynaf gwywodd, do i fyw Mewn cynhesach' gwlad i'w natur Yn y nefoedd gyda Duw. Gyfaill ieuangc gorphwys bellach Ar obenydd esmwyth hedd, Fe gei gwrdd dy deulu bychan Yn ochr oleu nos y bedd 0 gyfanu mawr fydd rrNnw Bythi aro, tra bo'r nef; Y mae'r cyfan beddyv/n pwyso Ar y fraich dragwyddol gref. Towyn. TLAR. EBRILL. Eto daethost ti, Efo'th gor a'th delyn, E, br"-Ycid eto'r e:L Em prydfertha'r gwanwyn. Brh ill ar y ddoI, Brithyll yn y nentydd, Bref yr oenigvcoll, Banadl yn y gweunydd. Pcddant arwvdd clir, Hbwysg sydd yn dy ddyfod, RLenni'th fendith dlos, Rhaid wrttl haul a chafod. laitii v a roej, Iti Ebnll tirion. Ifanc yw dy wen,* Ir dy berthi gwyrddion. Llonni'r hen a wnei, Llawer claf sirioli, J JLle daw serch i'w oed, L!w r adduned glyw i. Manceimon. E. ROBERTS. 1
Yr Ymnesiituwr Duwiol.
Yr Ymnesiituwr Duwiol. Yr Ymneillduwyr Crefvddol—a'r Lla.ll," dyna benawd ysgrif arweiniol v "Uan a'r Dywysogaeth." Ceir golwg ar y naill, meddai y Golygydd, ar alwad ei gydWy- bod yn ymdrechu gwaredu crefydd Cymru rhag yr hyn fyddai yn drychineb gwlad. Ccir gweled y llall weai ei gorddi gan Bolitics yn difenwi a chamgyhuddo pawb nad ymostyngaxi'w d,ie'tw aur ef -Politics.