Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Adroddiad Pwyllger y Tir.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Adroddiad Pwyllger y Tir. I J. J. XVII, t I Ai mantais y ffarmwr fydd Percii- I enogi y tir y mae yn ei drin ? I Cwestiwn yw hwn i'w ateb yng ngoleuhanes. Mae adeg wedi bod pan oedd yr Yeoman Farmer yn cael edrych arno gyda pharch fel gwr a ystvrid yn elfen o nerth mawr i'r Wladwriaeth; ond sydd wedi myned bron o'r golwg, ac yn parhau i fyned yn fwy o'r golwg. Mae llawet yn y wlad yn credu mai mantais fyddai ei gael yn ol i'w le cyntefig ond mae dwy farn ar y pwngc. Mae Syr Gilbert Parker, A.S., wedi cyhoeddi llyfr gyda'r amcan o dadleu dros i'r ffarmwr fod yn berchenog ei dyddyn. Dyma ddywed ef, Nid ychydig o r tirfeddianau mawnon sydd yn bod yn awr sydd a'u dechreuad mewn sugno i fyny dyddynod bychan berchenogid gan y rhai oeddynt yn byw arnynt-gan gyf. reithwyr a benthycwyr arian, trwy alw y Mortgages i mewn a gwerthu eu tiroedd, a phobpeth arall ou cwmpas oedd yn berchenogaeth y tyddynwr, yn gelfi ac anifeiliaid yn ogystal a'r Freehold—a hynny yn ami yn llai na digon i daiu yr ech- wyn ynghyd a'r Hog eithafol a'r costau cyfreithiol ar ba rai nid oes bron derfyn." Mae adroddiad y Royal Com- mission on Agriculture 1897, yn dacgcj y caledi ddyoddefwyd gan y Yeoman Farmer yn adeg y dir- wasgiad amaethyddol oedd yn bod yn yr adeg yr oedd y Commissiwn I vn ei"ibdd. Wrth gwrs, teimlwyd y F)Oliad yn gyffredinol trwy y > .-j oob gradd a dosbarth o vyi ond, dengys yr ad- yn eglur mai y ffarmwr t perchen (mewn enw} ei liar b i oedd y cyntaf i deimlo y ei theimlo ddyfnaf. Mae taflen yn dangos fod cyfar- taledd o 15.32 y cant o amaethwyr y wlad (Lloegr a Chymru) yn berchenogion y tir lafurient yn 1887. Yn 1900 yn 13.53. Yn 1912 yi* 10.87 y cant. Mewn pum mlyn- edd ar hugain wedi lleihau yn agos i bump y cant. Llwyddodd llawer i werthu eu tiroedd heb y boened- igaeth o ledrych ar waedgwn y Mortgagee a'r cyfreithiwr a'u gos- gorddlu yn ysglyfaethu arnynt ond yn ddieithriad yn dyoddef colled drom, a'u hysigo am eu hoes, tra yr oedd llawer eraill 'yn myned yn ysglyfaeth rhwng y cig- fran a'r cwn. Dengys yr adroddiad yn dra eg- lur fod y Mortgages trymion a'r llogau a'r costau wedi bod yn ddinystr i laweroedd o Yeoman Farmers, tra yr oedd y rhai ddal- ient eu ffermydd dan rent yn gallu cadw (trwy ymdrechion celyd, wrth gwrs) eu penau uwch y don, a chael yr hafan yn y diwedd. Mae y crynodeb byr uchod o hanes yr Yeoman Farmer yn dang- os nad yw y cynllun gynygir i'w adfer i'r wlad yn anffaeledig a dweyd y lleiaf. Yr agwedd gyllidol i'r pwngc. I Gall fod o ryw fantais i'r am- aethwr a fedr brynu ei ffarm a thalu arian parod am dani, a digon o arian wrth gefn i' drin ei ffarm fel ag i gymeryd mantais ar y farchnad oreu i brynu y nwydd- au fydd arno eu heisiau, ac i allu cadw ei stock heb orfod eu gwerthu i gael arian i gyfarfod ei ofynion presenol, ac aros am well march- nad i werthu. Ond, pa nifer o'r ffermwyr hyn sydd i'w cael ? Mae 6 leiaf 99 y cant o amaethwyr Lloegr a Chymru ar eu goreu yn rrieddu digon i allu rhoddi stock gyflawn ar y tir a phrynu y peir- ianau diweddaraf a goreu i drin y tir a thalu eu rhent yn ei bryd heb un ai benthyca arian i aros gwerthu, neu werthu i anfantais yn fynych, neu ynte fod o dan drugaredd y landlord i aros am y rhent. Nid oes cynllun wedi ei gynyg hyd yn hyn ar nad yw yn cynwys fod i'r ffarmwr sydd yn prynu ei ffarm dalu cyfran o'r gwerth, y bedwerydd neu y burned ran. Dy- weder fod y gwerth yn dair mil o bunau. Dyna y prynwr yn talu £ 600 i lawr o arian sychion. Mae y ffarmwr fedr dalu £ 600 yn Wf lled anghyffredin yn y wlad, gellir teithio ami filltir cyn dod o hyd iddo ac wedi dod o hyd iddo, mae ganddo log blynyddol 0 4t y cant i'w dalu, y degwm, y Land Tax, repairs-pethau y mae y ten- ant yn eu taflu ar y landlord. Nid oes cynllun wedi ei gynyg hyd yn hyn gydag unrhyw awdurdod o bwys o'r ta cefn iddo, ar nad yw yn rhoddi 4i y cant i gyfarfod llog a Sinkiiig P und fydd yn diogelu adaliad y corff mewn deg neu bymtheng mlynedd a thri ugain, tua thair oes cyn y daw yn eiddo clir y prynwr. Mae y Landlords yn dweyd mai eithriad anaml ydyw 3 y cant o log am eu harian iddynt oddiwrth eu tiroedd. Mae hon yn broblem gyllidol i'r amaethwyr sydd yn galw am ys- tyriaeth ddoeth a phwyllog. Mae tir yn cael ei werthu am bris llaw- er uwchna'i wir werth amaethydd- ol. Mae Sporting Value yn cael ei gysylltu a'r tir, yn gyrru y pris i fynu yn afresymol o safbwynt am- aethyddol. Dywed Mr W. Anker Simmons. Gall y ten ,nt gymeryd tir am lawer llai o rent na'r Hog, &c., blynyddol fydd raid idio ei dalu trwy brynu, oblegid yr amodau yn yr ardaloedd gwledig yn Lloegr a Chymru lie y cysylltir Sports a difyrion gyda'r tir. Mae pris y tir i'w brynu, ailan o bob cyfartaledd a gwerth amaethyddol y tir. Ar watiani uchelgais am berch- enogi a Sport, nid oes nemawr d?im yn atdynu yr amaethwr i! brynu ei ffarm i'w thrin er gwneud bywiolaeth o honi." Ceir barn unol y Farmer's Clubs yn y frawddeg fer a ganlyn :—" We want our capital infested on the land but do not wish to sink it in the land." Adroddir y frawddeg hon gan lawer o'r tystion air am air. Mae yr uchod yn ddatganiad cyffredinol yn enwedig ymhlith y Small Holders. Iddynt hwy, mewn modd arbenig, mae talu y burned ran o'r gwerth yn ystyriaeth dra difrifol, yn gymaint fellv ag i'w gosod tuallan i derfyny r, possibil- rwydd gan arnlaf. Wedi rhoddi sylw macylaf ar ystyriaeth ddyfal^f i'r pwnc yn ei holl agweddau, r e 17Jlgor yn dyfod i'r casgliat' 1. "Mae dosbarth dylanwadol or amaethwyr yn barnu yn ffafr cyn- llun i brynu eu ffermydd gyda chymorth arianol y wladwriaeth." 2. Mae y mwyafrif o'r dosbarth hwn yn cefnogi pwrcasiad trwy gynorthwy gwladwriaethol ar y llinellau gynigid gan Mr Jesse Collings." 3. "Mai amhosibl yw sefydlu cyn- llun ar y llinellau hynny h.y., Jesse Collins. Byddai yr amodau mwyaf ffafriol a ellid eu gosod ar hyn o bryd yn rhwym o gynwys (a) I'r wladwriae,Lh feiithyca rhan o'r gwerth, yn debygol tua phedair rhan o bump. (b) Benthycid yr arian am 4-1 2 y cant yn cynwys Hog, Sinking Fund a'r costau. Byddai amser i dalu yn ol y corff o angenrheidrwydd yn bymtheng rnlynedd a'r hugain, os yn fyrach na hynny byddai y taliad blynyddol o angenrheidrwydd yn fwy." 4. "Mae y dymuniad i berchenogi, nid am y mwynhad o berchenogi, ond er mwyn sicrhau daliadaeth ddirwystr, ynghyd a phob peth sydd gynwysedig mewn Security of Tenure. 5. "Mae yn ffaith fod Yeoman Farmer y mynedol wedi myned o'r golwg gyda'g ychydig eithriadau ar ol eu gorlwytho gyda Mortgages neu gael eu temtio gan gyfoethog- ion llaw-weithfaol ac eraill i werthu. Ymhellach, mae yr ychy- dig a brynasent eu tiroedd yn ddi- weddar, a siarad yn gyffredinol, mewn sefyllfa arianol lawer gwaeth na'r rhai a ddalient dir o dan rent." 6. Os sefydlir pryniant trwy gymorth gan y Wladwriaeth ar amodau cyllidol ddyogel, bydd y ffarmwr mewn amgylchiadau gwaeth yn gyllidol," oblegid- (a) Byddai rhan o'i gyllid yn suddedig.-yw y tir, yn troi allan y llog lleiaf, gyda'r canlyniad nas gallai ei weithio ar y tir i'r fantais oreu. (b) Os byddai gan yr amaeth- wr ychwaneg nac un plentyn, er mwyn darparu ar gyfer yr ieuengaf, byddai raid gwerthu neu godi Mortgage ar y tir mewn achos o farwolaeth y tad." (c) Byddai mewn cyflwr gwaeth yn gyllidol am y byddai y Hog, Sinking Fund, degwm, costau trwsio yr adeiladau, a'r trethi breiniol gyda'u gilydd yn llawer mwy na'r rhent." 7. Os byddai y prynwyr yn rhyddion i werthu y tir pan y myn- ont, ac fel y mynont, ni byddai dim yn rhwysto i werthu i gyfoethog- ion, a thrwy hyny beri yr un peth i ddigwydd eto ag y cwynir o'i her- wydd ar hyn o bryd. O'r ochr arall, os na byddant yn rhydd i werthu, byddant yn rhwym i'r un Ile ar un amgylchiadau, ac amaeth- yddiaeth yn dyoddef o'r cyfeiriad hwnw." 8. "Ar wahan i'r gwrthwynebiad- au a'r anhawsderau o du y ffarmwr ei hun, nid yw yn ddymunol o du v wladwriaeth. Pe byddai i'r cynllun droi allan yn golled, bydd- ai y golled yn disgyn ar y treth- dalwyr. O'r ochr arall, os byddai yr amodau yn gyfryw ag i wneyd y cynllun yn gyllidol ddiogel i'r wladwriaeth, byddai y baich ar y ffarmwr yn ei analluogi i wneyd y defnydd goreu o'r tir oblegid diffyg cyllid a'r cynyrch yn llai na'r hyn yw ar hyn o bryd, ac yn enwedig o dan gynllun ddiogel ai sicrwydd daliadaeth." Llys Tirol (Land Court) Dangoswyd eisoes nad oes un rhyw gynllun o ddaliadaeth ar nad yw yn diogelu y tenant a saif i fynu am eihawliau gan y landlord rhag cael ei droi allan o'i ffarm yn 01 mympwy ei feistr tir yn fodd- haol-, nac yn fanteisiol i'r wladwr- iaeth. Dangoswyd hefyd nad oes un rhyw gynllun i brynu y tir gyda chynorthwy y wladwriaeth ar raddfa eang, debyg i'r cynllun Gwyddelig-yn gyllidol ddiogel i'r amaethwr- ac i'r wladwriaeth, ar yr un pryd, byddai y naill neu y Hall yn dioddef colled. Mae llawer wedi awgrymu i'r pwyllgor mai buddiol fyddai i'r wladwriaeth neu y cynghorau sirol &c., brynu y tir allan ac allan a'i osod i'r unigolion o dan rent rhesymol. Pan gofier fod pedwar can mil o dyddynod mawrion a bycliain, eglur yw mai amhossibl yw i'r wladwriaeth weithio allan unrhyw gynllun i bwrcasu yr oil mewn arrserrhesymol fel a.g i roddi sicr- wydd daliadaeth ond i nifer gyd- marol fechan o'r amaethwyr. Bernir gan hyny mai bnddiol fyddai sefydlu llys tirol gydag I awdurdod i benderfynu rhent rhes- ¡ ymol, ynghyd a phenderfynu I i i rhwng y pleidiau mewn achos o anghydwelediad ar y pwngc o Compensation ar ymadawiad. Hefyd, mae profiad y cyngorau sirol o'r anhawsder i brynu tir.i'w osod yn Small Holdings, oblegid y crogbris ofynir am y tir ynghyd ag anfoddlonrwydd y tirfeddianwyr i werthu o dan unrhyw amodau-yn gwneyd yn angenrheidiol rhoddi yr hawl i orfodi tirarglwyddi i werthu tir i Small Holdings, ac hefyd i ddybenion cyhoeddus pan fyddo mantais y gymydogaeth yn galw am hyny. Ac i brynu y tir am ei briodol werth ac nid yn ol mympwy y tirfeddianydd sydd yn gwylio ei gyfleusdra i gymeryd y fantais arno i ddyblu a threblu y gwerth. Ystyriai y pwyllgor mai tra manteisiol fyddai fod llys o'r natur yma ynJ bod i apelio ato, ac aw- durdod derfynol ganddo ar y peth- au a nodwyd, ac at hynny i ddyog- elu y tenant rhag cael ei droi allan o'i ffarm ond am resymau digonol o afreoleidd-dra ar y tenant ei hun, neu fod angen am y tira ddehr gan- ddo iiddybenion cyhoeddus a man- tais y lluaws. Mewn achos o'r natur hwnw, wrth gwrs byddai y llys tirol yn gofalu ei fod yn der- byn iawn digonol am bob colled. Bernir hefyd y byddai llys o'r natur yma yn parotoi y ffordd yn dra effeithiol i bryniad cyffredinol y tir trwy attal y tirarglwyddi i godi y rhenti yn afresymol fel y gwneir yn awr i'r amcan o yru pris y tir i fyny yn y farchnad. Mae yr agwedd yma wedi cael sylw eisoes. Mae llys tirol wedi ei sefydlu yn ucheldir Scotland er y flwyddyrn 1886 yn dal perthynas gyda thydd- ynod £ 30 yn y flwyddyn ac o dan hynny. Yn y flwyddyn 1911 estynwyd awdurdod y llys hwn hyd ddaliad- au o £50 neu 50 acer. Nis gall tir arglwydd droi tenant allan o'i ddaliadaeth wrth ei ew- yllys ei hun yn y rhan honno o'r deyrnas. Gall y llys tirol awdur- dodi gyru y tenant allan os bydd y llys yn argyhoeddedig o afreoleidd- dra o du y tenant gyda thalu y rhent, neu niweidio y property yn fwriadol, trwy esgeulusdra." neu rywbeth arall. Gall y meistr tir neu y tenant roddi rhybudd i'r llys pan fyddo cwyn nas gall y pleidiau eu hunain gyttuno ami, h.y., os bydd y tenant eisiau gostwng ei rent, neu y meistr tir eisiau codi y rhent, neu yn ymadael o'r ddaliad- aeth, ac yn methu cyttuno ar y swm ddylid ei dalu am welliantau neu am ddirywiad yng werth yr Holding. Mae gweithrediadau y llys yn Scotland yn cael eu gwneud mor syml a qealladwy i bawb ag sydd yn bosibl, a'r costau yn cael eu cadw i lawr gymaint ag a ellir. Mae y llywydd, ac efe yn unig yn gyfreithiwr, y pedwar aelod eraill yn lleygwyr, sef un tirfeddianydd. un land agent, un grazing farmer,' ac un arable farmer.' Er fod y llys yn dal awdurdod gyfreithiol derfynol ar bob pwnc perthynol iddo eto, mae gweith- rediadau y llys yn fwy o drafodaeth gyfeillgar—yn amcanu at gytundeb ddiddig—nac o lys barn yn myned ar linellau celyd a manwl deddf, ac y mae y pleidiau yn deall ac yn gwerthfawrogi hyny, ac y map y cynllun yn gweithio yn dra bodd- haol i'r naill blaid yn ogystal a'r Hall. Mae profiad y llys tirol yn Scot- land yn dangos yn eglur fod llawer lav/n llai o achosion yn cael eu dwyn iddo nac a ofnid ar y dechreu, am fod y pleidiau yn rhoddi fY is uchel ar ddyogelu y teimladau goreu rhyngddynt a'u gilydd, ac1 yn cyfarfod eu gilydd gyda rhydd- frvdigrwydd canmoladwy. Dyma ddywed y pwyllgor ar ol ymholiad tra manwl i weithrediad- au a hanes y Scottish Land Court: "The proposal to give security of tenure is really nothing more than to confer legislative sanction upon the custom and the usage prevail- ing on well and benevolently man- aged estates." Mae y ddeddf wedi bod o werth anrhaethol i'r Crofters. Gellid nodi lluaws mawr o dir- feddianwyr, goruchwylwyr, ynad- on, barnwyr, ac amaethwyr, yn nghyd a difyniadau o sylwadau yn nau dy y Senedd, yn cyd-dystio^- aethu i werth mawr y ddodui a Scotland. Gwelir mai nid naid yn y tyw- yllwch ar un cyfrif ydyw sefydlu llys cyffelyb i Loegr a Chymru, Mae yr arbrawf wedi profi yn llwyddiant yn Scotland.

[No title]

Ai Ffug ynte Ffaith ydyw ?I