Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA WESLEAID LER-I PWL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA WESLEAID LER-I PWL A'R CYLCH. (Gan HEN WYLIEDYDD). I Cynhaliwyd y Gymanfa uchod ar Mawrth 6ed, 7fed, a'r 8fed, a throdd ailan vn dra llwyddianus. Nos Wener, pregethwyd yn Oakfield gan y Parch J. Pugh Jones ym Mynydd Seion gan y Parch W. R. Roberts yn Birkenhead gan y Parch R. W. Jones; yn Bootle gan y Parch J. Parry Brooks ac yn Egremont gan y Parch J. Roger Jones, B.A. =. Swn canmol cyffredinol glywir am oed- faon y Sui. Ymhob capel bron cafwyd cynhulliadau Iliosog, a thvstiolaethir fod y weinidogaeth yn efengylaidd a grymus. Erbyn hyn, mae'r Gymanfa wedi dyfod yn lied hysbys i'r miloedd Cymiy sydd ar ddau tu i'r afon yma, ac nid oes ond y dydd mawr a ddengys ei dylanwad ar fywyd ein cydgenedi. Daeth cynhuliiad hardd i Fynydd Seion, nos Sadwrn, i'r Seiat Fawr. Gwelwyd yno amryw o ddieithriaid o Gymru a manau eraill-yn eu plith Mr E. L. Rowlands, Y.H., Aberdyfi-yn gystal ag amryw wein- idogion gwahanol enwadau y cyich. Lly- wyddwyd gan y Parch. John Felix, Ysgnf jeunvdd y Dalaeth, ac yn ei anerchiad agoriadol, cyfeiriodd at y rhai a hunas- ant er y Gymanfa o'r blaen, gan nodi yn arbennig y Parch. Edward Humphreys, yr hwn, gyda Haw, oedd lly wydd cyntaf Seiat Fawr Cymanfa y cylch hwn, megis ag yr <)edd hefyd yn llywydd cyntaf y Gymanfa Wesleaidd Gymreig, a chadeirydd cyntaf Talaith Gyntaf Gogledd Cymru. Gyda phriodoldeb y gallesid ei alw'n Edward y Cyntaf yn hanes blynyddau diweddaf ein Hisrael yng Nghymru. Erys ei goffadwr- iaeth yn fendigedig. Cyfeiriodd Mr Felix I hefyd at Mr T. W. Griffiths, Bootle, gwr tawel, tyner, duwiolfrydig. J Yr oedd y gwr ieuanc a ddechreuodd y Seiat trwy weddi (y 1 l-arch. J. Parry Brooks) yn lied ddieithr yn y cylch hwn, ond cafodd rwvdd-deb i arwain y gynull- eidfa at borth y nefoedd. Y Parch. Owen Evans a siaradodd gyntaf, ac, fel arfer, siaradodd gyda phwyll, eglurder, a graen. Agorodd y cwestiwn gyda medr meddyliwr ciir, darllenwr eang, coetn ei eiriau, a di- wastraff ei svlwadau. Dilynwyd ef gan y Parch. R. Garrett Roberts, a buan y tan- iodd ei ysbryd i'w bwnc. Aeth ymaith fel rocket," ac fel rocket hefyd terfynodd trwy lenwi yr awyrgylch gyda ser disglaer —ser fu'n addurnoflurfafen yr eglwys gyda gweithiau dyngarol a ChristionogoL Fel pob amser, daeth y Parch. Thos. Hughes, Cadeirydd yr Ail Dalaith, i fyny i'rachlys- ur, ac yr oedd ei sylwadau mor ffresli ag oeddynt o gyrhaeddgar a phwrpasol. Yr oedd ei eglurhad o sancteiddrwydd," neu sancteiddiad," seiat,' a'r cyffelyb, yn .dra angenrheidiol ac amserol. Cadwodd y tri hyn o fewn yr amser penodedig, ond cymerodd y siaradwr olaf, y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., bron ormod o ryddid ar amser ac ar ei destyn; ond ar ol ym- helaethu ar anfarwoldeb yr enaid, terfyn- odd yn hwyliog a gafaeigar iawn. Yr hybarch Ddr. Owen Evans (A.) a weddiodd i derfynu Seiat ragorol a thra bendithiol. Gresyn na fuasai pregethwyr y Gymanfa wedi mynd i eistedd ar y cadeiriau a baro- towyd iddynt yn ymyl y pulpud, fel yn y blynyddau gynt. Cymerir yr hyfdra i ddi- fyrm y crynhodeb a ganlyn o'r anerchiad- au a ymddangosodd yn y Brython." PARCH. JOHN FELIX. Hwyrach mai priodol ydyw i ni heno atgoffa ein gilydd ar ddechreu Seiat fod lie rhai brodyr yn wag. Yr ydym i gyd yn gweled lle'r annwyl Edv;ard Humphreys yn wag heno. Gwr fu am fiynyddoedd yn un o'n pregethwyr blaenaf ni fel enwad vng Nghymru, a gwr fu am flynyddoedd vn sefvll yn ddiddacll, yn rheng pregethwyr goreu'i genedl. Y mae wecii myn'd, a'i le nid edwyn ddim ohono mwy, eto y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Y mae Ite I brawd arall yn wag heno, y tyner a'r add- fwyn T. W. Griffiths, Bootie, gwr fu'n swyddog. defnyddiol a biaenor llwydd- iannus am lawer o flynyddoedd. Ac y mae ereill hefyd. Gobeithio y bydd i'r bechgyn ddod i lenwi lle'r tadau, a'r gen- ethod i lenwi lle'r mamau. I PNnc y Seiat oedd Rhufeiniaid vi. 22. Ac yr awrnon, wedi eich rhyddhau oddi- wrth beehod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i cliwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a'r díwedd yn fywyd tragwyddol." PARCH. OWEN EVANS. "Wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod." Sylwer rnai nid rhyddhad oddiwrth gosb- edigaeth pechod. Y mae llawer yn meddwl ar nyd y llineil yna, yn meddwl am faddeuant fel diangfa oddiwrth gosb, ac yn meddwl am nefoedd fel He i fyrÙl i ddianc oddiwrth gosb. Na nid ydyw y Beibi yn son am ryddhad oddiwrth gosb fel y cyfryw, ond rhyddhad <••' Irth bechod sydd yn gofya am haeddu. ydc' act odd: —dyna'r gair sydd yn drwy'r Beibl. Ac y mae y rhyddhad yma yn gol- ygu mewn modd arbennig fod grym pechod yn cacl ei dorri yn y bywvd, a bod y dyn wedi dod i gyflwr y medr o for- dwyo'n llwyddiannus a phechod. Nid vdyw'r gwaith wedi ei orffen pan y mae'r rhyddhad yma'n bosibl. Yr atebiad ¡ mewn un gair ydyw—trv.'y Iesu Grist. Efe ydyw'r Un fedr dorri'r cadwyni. Os y Alab a'ch rhyddLa chwi, rhyddion fyddwch ym wir." Ond sut y mae yn gwneud ? Credaf mai trwy greu dymuniadau at y da, a chodi delfrydau newydd sydd yn swyno dyn ar eu hoi. The expulsive power of ~a new affection." Yr wyf yn meddwl 'mai felty y bu gyda'r Apostol Paul Fe fu ef yn brwydro a'i bechod wyncbyn vvyneb am gyfnod, ac yr oedd yn rnethu el goucro. Ond.ar y ffordd i Dam ascus, fe gafodd weiedigaeth newydd fod 1 Duw yn Iesu Grist, yn Ei gariad anfeidrol, wedi cyfarfoÖ ag ef yno. ac y mae'r hen fywyd. yn yn ddarnau o dan ddyl- anwad y weledigaeth. Y mae Iesu Grist vn dod a ni i ryddid. Y mae yn torri gryrn pechod trwy godi delfrydau newydd, rioi grym aswyno dyn at y da, ae ysbryd y cia sydd yn arwain yr ysbryd drvvg aliac. Y mae rhyddid yma yn gotygu, tiid 'orifeniad y gwaith, ond ei gychwyn. Tybed nad ydyw Eglwys -D d dd' h ¡ Dcluw yn y dyddiau hyn wedi colli ei I chred i fesur yn Efengyl Crist i allu dorri cadwyni pawb trwy'r ddaear i gyd? Fe ddymuIlwn ddweyd mai nid dyna ysbryd1 yr Arglwydd Iesu. Yr oedd ef yn edrych yn fwy difrifol ar bechod na neb, ond y I mae yn fwy gobeithiol am roi ymwared oddiwrth bechod na neb hefyd. Y mae efengyl Iesu Grist yn gofyn inni gredu y gellir codi'r gwaethaf, y dyn sydd wqdi suddo ddyfnaf i'r pydew—y mae modd ei godi i'r lan. Y dyn sydd wedi myn'd ddyfnaf i gaethiwed, y mae Un wedi ei eni fedr agor drysau y carchar a thorri'r I cadwyni i gyd. Y PARCH G GARRETT ROBERTS. I A'ch gwneuthur yn weision i Dduw." Nis gall ond yr ysbrydol fyw i wasan- aethu'r Arglwydd, ac y mae yn amhosibl i ni fyw'n ysbrydol heb i ni yn gyntaf farw i bechod. 0 lwch yr hen ddyn yr adgyfodir y dyn newydd. Rhagorfraint pob Crist- ion yw cael bod yn gaethwas i Dduw. Nid bywyd goddefol yw hwn "o ran ei natur, ond gweithredol. Nid oes'y fath beth ag unemploy ment yn llywodraeth foes- ol Duw. Y mae cyflwr inactivity allan o'r cwestiwn. Rhaid i bob un weithio. Y mae by w i fwy nag un meistr allan o'r cwestiwn. Nis galiwch wasanaetiiu Duw a Mamon. Nid oes gan yr Argl w ydcl spare timers yn Ei wasanaeth o gwbl. Y mae llawer iawn o'r rhain gyda chrefydd vng Nghymru, ac o bosibl yn Lerpwl, ac ychydig iawn o amser y maent yn gallu ei hebgor at was- anaeth crefydd o gwbl. Am weithwyr y mae Duw yn adferteisio i'w winllan. Y mae gwaith i bob oed yng ngwasanaeth Duw. Lie i'r ieuanc—nid oes neb rhy hen yn haner cant oed yng ngwasanaeth yr Arglwydd. Lie i'r ieuanc, a lie i'r hen. Nid oes supernumeraries. Gweithwyr ydynt 1 gyd. Y mae gweithwyr Duw bob un yn marw yn y gwaith. Y mae cyfleus- terau ar bob llaw yn aneirif. Gweithiwn tra y mae hi'nddydd. Y cwestiwn a ofynir i ni yw, Pa ddefnydd a wnaed a'r dalent sydd gennym, nid pa sawl talent roddwyd i ni. Ac os ydym wedi ei ddefnyddio yn iawn, cawn hynny o ogoniant fedrwn ei ddal. Y PARCH THOMAS HUGHES. I Y mae i chwi eich ffrwyth yn sanctaidd- had." "Your gain," meddai Dr. Moffat, "is consecration." Yr wyf yn ofni bron fod rhai yn parhau i feithrin y syniad o gael eu poeni gan y svniad o fywyd sanctaidd. 0 leiaf, rhvw fath ar atgasrwydd at y syniad o fod yn sant. Paharn ? Oher- wydd eu bod wedi cael eu harwain wrth dclarllen neu weled darluniau, yn peri i ni deimlo yn anymunol wrth edrych ar y darluniau, ac wrth ddarllen amdanynt. Pobl yn byw bywyd annaturiol. Mynach- od rhai Nuns rhai. Dyna'r syniad fu'n ffynnu am lawer oes yn yn yr eglwys-fod yn rhaid byw yn wahanol i bobl gvffredin os am fyw bywyd sanctaidd, a chadw draw 'oddi wrth bobl ereill.. Ond y mae Duw wedi meddwl i bawb fod yn sanct- aidd. Cofnvn hyn-mae pob un, yn ol bwri'ad Duw yn nhrefn Ei ras, i fyw bywyd llwyr gysegredig iddo Ef. Cadw oddiwrth y drwg, a chyflawni ei Ewyllys yn gystal a hynny. Y mae y Duw mawr am i bob bachgen a geneth ieuanc fyw bywyd sant. Yr ydym yn arfer meddwl hwyrach nad oes dim modd byw bywyd hollol gyseg- redig i Dduw, gyda gorchwylion beusydd- iol. Y mae modd i ni fyw bywyd sant heb geisio ymgodi oddiwrth y byd mewn ystyr gorrforol. Nid merched yn byw mewn mynachdai, ond pobl yn byw mewn dinas fawr, a'i hawyr foesol yn llvgredig, ac eto trwy ras Duw yn byw bywyd mor dda nes y mae r Apostol yn edrych arnynt fel saint. "At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint." Y gair arall-ffrwyth a gweith ynddo. Y mae yna ffrwyth pur wahanol yn y testyn rhagor y petli y mae'r Apostol yn son amdano. Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnw o'r peth- au y rnae arnoch yr awrhon gywilydd o'u piegid?' Ond heth bynag yw ein safle, ein goruchwylion cyffredin, y mae byw bywyd cysegredig i'r Arglwydd yn rhoi rhyw dd vrchafiadrnoesol Jïn dyledswydd- au, er eu bod yn ddyledswyddau cyffredin. Y rnae cysegru bywyd yr Arglwydd yn gwneud y gorchwyl mwyaf distadl yn aur, medd George Herbert. Pan mae cynllun- iau dyn yn troi yn fethiant, bydd yn dda i ni feddwl, os ydyw yn gofalu rhoi ei hun i'r Arglwydd, a byw bywyd cy?egredig iddo Ef, y mae gwerth yn ei fywyd, a bydd amcan y Duw mawr Ei Hun gyda golwg ar ei fywyd yn cael ei sicrhau. Y mae yn werth ymgysegru i Dduw. Rhoed yr Arglwydd gymorth i ni i wneud. Y PARCH. D. TECWYN EVANS. I Y diwedd yn fywyd tragwyddol." Dyna ydyw bywyd tragwyddol mewn gwirion- edd—sancteiddrwydd Duw yn y galon. Adnabod Duw. Y bobl sydd yn byw eio ni syd.1 yn ein hadnabod ni Fedrwn ni ddim adnabod Duw chwaith heb fyw efo fo; Byw bywyd o ganad a daioni a hun anabertb-dyna'r bywvd tragwyddol. Yn awr, y mae hyn yn y Testament Newydd, nid fel rhyw syniad diwinyddol yn uriig, ond y mae mewn gweithred ac mewn gwirionedd wedi ei ymgnawdoli mewn Person digyffelyb. Fe fu yr Arglwydd Iesu Grist fyw y bywyd tragwyddol yma ar y ddaear. Yr oedd pob awr o'i fvwyd yn perthyn i'r bywyd tragwyddol. Nid ei eiriau sydd wedi ein dysgu am y bywyd tragwyddol. ond ei bresenoideb. Y ffaith ei fod wedi byw fel v darfu iddo, a marw, ac adgv'v. gyfxeithodd y bywyd i ni. Nid oedd u- yr Arglwydd lesu yn dibynnu ar ;i y pethau oedd ganddo, ond ar .,c gariad, ar ymgysegriad er daioni a lies uchaf ei frodyr a'i chwiorydd yn y byd. Ac os ydym ni am gael y bywyd tra- gwyddol yma, yr unig ffordd yw trwy fvyyta o'i gnawd Ef, ac yfed ei waed Ef; gwneud anian, a chymeriad, a naws ys- prydol yr Arglwydd Iesu Grist yn eiddo i ni. Meithrin y grasusau a'r ansoddau moesol oedd yn harddu ei fywyd a'i gyrner- iad Ef. Cydnabod Duw, a chymuno mewn gweddi, ac ymostwng i ewyllys Duw. A'r neb nid yw'n gwneud hyn, nid yw yn byw. "A'r diwedd yn fywyd tragwydclol." le, a'r dechreu hefyd. Y mae gan y credadyn vn awr. Y mae yn cyfranogi o fywyd Duw ei LILin. Nid yn llmvn, wrtn gwrs, ond. i ratidau digon llawn i fedru byw am byth. Nid oes bosibl adnabod Duw yn llawn, ond y mae yn bosibl ei adnabod ddigon i gael gafael ar yr un bywyd ag Ef. A dyna sycd yn ardderchog efo hwn—-y rnae" yn tyfu o hyd. Os nad ydym yn y nefoedd heno; os ydym yng Nghrist. y mae'r deyrnas ynnom ni. The real life "-ni all y bedd mo'i .lygru, na thragwyddoideb I I ddlffi ond ei datbiygu. • A'r diwedd yn i fywyd tragwyddol." Hynny yw, y diwedd I yr ochr yma. oblegid y beauty ydyw, diwedd diddiwedd ydyw. A cardinal point of Christianity is the life after death," iredd Tennyson. Ond beth ydyw hyn i'r dyn y mae ei fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw ? Nid ydyw yn ddim ond digwyddiad ar ffordd bywyd. Y mae rhai pethau antanteisiol i ni yn y byd yma, ond y mae dydd yn dod y cawn wared a'r peth- au yma i gyd, ac y bydd holl gynheddfau'r enaid ar lawn waith i wasanaethu Duw ac i gyflawni ei ewyllys Ef. Terfynwyd trwy weddi gan yr Hybarch Ddr. Owen Evans.

BIRMINGHAM.I

PONTRHYDYGROES. I

JERUSALEM, WREXHAM.I

DYSERTH. I

ITRELOGAN. CYLCEDAITH LLANASA.…

CORWEN..-1

POPLAR, LLUNDAIN.

COEDPOETH.