Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA WESLEAID LER-I PWL…

BIRMINGHAM.I

PONTRHYDYGROES. I

JERUSALEM, WREXHAM.I

DYSERTH. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYSERTH. I MARWOLAETH.—Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth y chwaer Jane G. Lewis, priod Mr W. H. Lewis, Bron y Berlin. Nid oedd ei hiechyd yn gryf er's peth amser beliach, yr oedd yn dioddefi gan wendid. Bore Llun, Chwefror 23ain, yr oedd ar ei ffordd i'r station ar y bwriad o fyred -gyda'r tren, pan y tarawyd hi yn wael—fe gollodd hunan-ymwybyddiaeth tua un o'r gloch. Bu farw am haner awr wedi pump, yn gadael un eneth bach i alaru am ei mham a gwr am ei briod anwyl, a thad,a chwiorydd. Dyrnod drorn oedd colli mor sydyn ac anisgwyliadwy, un mor dyner a gofalus. Hebryngwvd ei gweddillion i fynwent y plwyf. Gwas anaethwyd wrth y ty gan y Parch R. Lloyd Jones, Prestatyn. Ni fu erioed gladdedigaeth luosocach yn y lie. Yr oedd hyn yn profi ei chymeriad a'i dylan- wad da yn y lie. Nid oedd ond 38 mlwydd oed. Anodd yw deall ffyrdd croes- ion bywyd, ond mae yn dda genym fedclwl fod y brawd yn gwybod i ba "le i droi. Gwyddom ei fod yn gallu dweyd '• Fy I nghymorth a ddaw oddiwrth yr Ar- glwydd, a'n dymuniad a'n gweddi yw am iddo a'r teulu gael llawer cymorth yn eu tra llod. PRIODAS, Yn nghapel Wesleyaid dydd Iau, Mawrth 5ed, unwyd mewn priodas Mr R. Hughes, sydd yn bresenol yn Station Master yn Egarth, a Miss Williams, Llew- erllyd Mills, Dyserth. Derbyniasant lawer o anrhegion a dymuniadau da. Yr oedd yno lawer o gyfeillion wedi ymgasglu i'r capel. Chwareuwyd y Wedding March" gan Miss E. Williams, Clwyd Villa. Y Parch A. W. Davies oedd yn gwasanaethu, a da oedd genym ei vfeled yn edrych mor dda a deall ei fod yn gwella yn raddbi. Aeth y cwmni i gartref y briodasferch i wledda ar y danteithion oedd wedi eu darparu ar eu cyfer. Hefyd gwnaeth I Trustees y capel anrheg o Feibl iddynt. Duw yn rhwydd iddynt. J. E. I

ITRELOGAN. CYLCEDAITH LLANASA.…

CORWEN..-1

POPLAR, LLUNDAIN.

COEDPOETH.