Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

BWRDD YR ADOLYGYDD. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD YR ADOLYGYDD. I (Gan y PARCH R. W. JONES, Porth Dinor-I wic). [Anfoner pob llyfr i'w adologu i'r Parch. R. W. Jones, LJlvs Menai, Portdinorwic, ger Bangor, N. Wales]. YR EPISTOL AT Y RHUFEIN- IAID, Pen. i.—vii. Gan y Parch. W. O. Evans, Gwein- idog Wesleaid. Bangor: P. J. Roberts, y Llyfrfa Wesleaid. Gwyddys yn ddiau i Bwyllgor y Gymanfa drefnu ar fod i Ddosbarth IV. yn ein Hysgolion Sabbothol lafurio am y ddwy flynedd nesaf, yn yr Epistol at y Rhufeiniaid ac ymddiried i'r Parch W. O. Evans y gwaith o ysgrifenu llawlyfr esbon- iadol ar y Maes. Gorchwyl digon anodd ydyw ysgrifenu llawlyfr boddhaol ar unrhyw bwnc. Yn wir nid oes a fedr ar y gwaith, ond a fo'n feistr llwyr ar yr holl faes yr ymdrinir arno. Yn nghanol ei holl brysurdeb fel pregethwr poblog- aidd ac Arolygwr Cylchdaith bwysig, llwyddodd Mr Evans i ef- rydu'r epistol yn drylwyr. Amlwg yw, ei fod yn dra chartrefol yn yr esboniadau goreu a feddwn ar y maes. Dyry restr o honynt yn aechreu'r Llawlyfr. Darllenodd ac efrydodd hwy yn fanwl a phwyllog. Y canlyniad ydyw, esboniad clir a chryno, sy'n sicr o fod yn gaffaeliad gwerthfawr i ddeiliaid ein Hysgol- ion Sabbothol. Fe dderbynia bob un a'i hefrydo, gynorthwy syl- weddol i ddeall yr Epistol. Gyda'i grebwyll gyflym a'i ddy- chymyg byw, galluogir yr awdwr i dreiddio at galon, adranau dyrys yr epistol gan ddwyn ohonynt bethau newydd a hen. Cynysgaeth ydyw y rhain, a brofasant yn ber- yglus i ambell un, oblegid eu tu- edd, os na ddisgyblir hwy, ydyw dennulr,esboniwr ar ol y cywrain a'r mympwyol yn unig. Achubir Mr Evans rhag y brofedigaeth hon, gan ei synwyr cyffredin cryf. Cei- dw ar ganol y llwybr, ac fel rheol y mae'n bur sicr o'i gam. Nid ym- honaf i mi ddarllen bob nodiad o'i eiddo, ond darllenais ddigon i fed- ru dweyd ei fod yn hynod lwydd- ianus ar y cyfan, i wneyd perffaith chwareu teg a meddwl awdwr yr epistol. Ni ddamweiniais daro o gwbl ar siampl o' special pleading.' Y pethcyntaf yn y llawlyfr ydyw rhagarweiniad yn trafod awdur- aeth, arddull, amseriad, &c., y lly- thyr. Gan fod llawer llai o daeru ar y cwestiynau hyn ynglyn a'r Epistol at y Rhufeiniaid na'r rhe- lyw o'r epistolau, ni ymhelaethir yn ormodol arnynt. Manylir gryn dipyn ar ffynhonellau'r ddysgeid- •. iaeth geir ynddo, a rhoddir lie dy- ladwy i'r dylanwad dwfn a gafodd llenyddiaeth a thraddodiadau ei genedi, a dysgeidiaeth y Rabbin- iaid ar feddwl yr Apostol Paul, ac y mae y sylwadau'n dra gwerth- fawr. Ar yr un pryd dyry Mr Evans (I bwyslais arbenig ar y ffaith mai profiad personol yr apostol ydvw prif ffynhonell ei ddiwinyddiaeth. Perygl ambell i awdwr ydyw ol- rhain dysgeidiaeth Paul, yn gyfan- gwbl i ddylanwadau o'r tu allan iddo. Nid yw Mr Evans yn euog o hyny. Dyry le mawr i brofiad ac athrylith Paul. Penod ddyddorol a defnyddiol ydyw hon. Buddiol o beth fydd ei darllen yn ddeallus. Yna efrydu'n feddylgar y Braslun o gynwys yr Epistol." Fe dder- bynia y sawl wnelo hyn ddirnad aeth eglur o wirioneddau amlycaf yr Epistol cyfoethog hwn. Mantais fawr, yn ol fy syniad i, ydyw y rhaniad yn adranau byrion, fel bo'r ymresymiad yn galw. Rhagflaenir yr esbonladaeth ar bob adran gan arall-eiriad o destyn y llythyr. Bydd hyn yn help anghy- ffredin i'r efrydydd. Nis gwn pa mor ffyddlon ydyw yr awdwr i'r gwreiddiol, ond derllyn y cyfieith- iad yn rhigyl a hyfryd ac ni syl wais ar gymaint ag un gair trwsgl na brawddeg afler ac aneglur o'i fewn. Gyda golwg ar y nodiadau es- boniadol maent yn fanwl a helaeth. Ymdraffertha'r awdwr yn ddirfawr i glirio'r anhawsderau yn adranau dyrys y llythyr. Y mae'n wirion- eddol feistrolgar ar ambell i bwynt Hwyrach fod ar y mwyaf o'r pre- gethwr yn dod i'r golwg ar adegau, ond ceidw yn gaeth aty peth fydd ganddo tan sylw. Prin y medraf gytuno a'i esboniadaeth ar bob adnod ond nid yw byth yn sgrif- enu ar antur ac oblegid hyny teil- ynga bob nodiad o'i eiddo ystyr- iaeth ddiduedd. Ni cheir yma ddim amrwd ac arnheus. Dengys ofal a phwyll anghyffredin. CyfIea ei feddwl yn glir adigvvmpas heb; guro twmpathau neu feichio ei nodiadau (fel y mae arfer rhai) a rhes anorffen o enwau a syniad U esbonwyr* eraill. Y mae'n gwbl lan oddiwrth bob peth o'r fath. Sgrifenodd bob nodyn mewn iaith syml a phersain, a Ilifa'r brawddeg- au'n rhwydd gan ein cario ymlaen o ddalen i ddalen, ac o benod i benod. Argymhellaf yr esboniad peni- gamp hwn fel un o'r rhai mwyaf darllenadwy a dyrchafol a ddar- llenais^ Llongyfarchaf Mr Evans yn galonog iawn ar ei lwyddiant yn dwyn allan lawlyfr mor werth- fawr. Y mae'r argraffydd yn hae- ddu gair o glod am wneyd ei ran mor ganmoladwy. Anfoner i'r Bookroom, Bangor, am dano'n| ddioed.

Llythyrau at y Gal.

LLITHOEDD AWSTRALIA. I