Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

SALEM, LLANDDULAS. 1,

ABERDAR. II

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERDAR. I CWRDD CYSTADLU.—Nos Fawrth, Chwef- ror 24ain, cynhaliwyd Cwrdd Cystadlu. Llywyddwyd gan y Parch H. 0. Hughes. Beirniad y canu, Mr T. Job Davies, Aber- aman; arrirywiaeth, Mr W. J. Nicholas; cvfeily'dd, Mr Thomas Lewis. Unawd, "-Calon Lan," Misses Meiriona Lloyd a Dorothy Evans yn gydradd. Pedwarawd, "Agor i dy Geidwad Mawr," Mr W. J. Nicholas a'i barti; ail, Mr J. E. Jones a'i barti. Ysgrifenu Cymraeg ar y pryd, Miss Katie Lewis. Gwybodaeth Grefvddol, Miss Katie Lewis ac Elizabeth A. Jones. Sain Glust, Miss Dorothy Evans ail, Daniel D. Hughes. Hen Don, saith yn gydradd. Can y Gwcw.—Er allan o'r gystadleui- aeth, mawr ddifyrwch a gafwyd gan y brawd Thomas Owen pan ddaeth ymlaen i esgus gystadlu ar yr Hen Don, gan ddweyd ha wyddai ef am un don hynach na chan y gwcw, a dyma hi meddai, Gwcw." Hen Ganfed Newydd.—Heblaw beirn- iadu cawsom rywbeth tebyg i ddarlith gan Mr T. Job Davies, yn cynwys amryw chwedlau pert ynglyn a chanu. Nid drwg oedd y trefniant newydd ar yr Hen Gan fed," trwy ganu y pedwar nodyn ar ol y cyntaf ymhob llinell yn hanner curiadau. PRIODAs.-Bore Sul, Mawrth 8fed, cym- erodd priodas le yng Nghapel Seion, cyd- rhwng Miss Hannah Jane Davies, ail ferch Mrs Lloyd, 8 Hawthorne Terrace, a Mr Jack Voss, mab Mr Voss, Moss Row, Abernant. Gweinyddwyd gan y Parch H. 0. Hughes. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei hewythr Mr William Jones, pregethwr. Mr Ivor Davies, brawd y briodasferch oedd cyfaill y priodfab. CYFARFODYDD ADFYWIADOL.—Cafwyd pedwar gwr dieithr i bregethu, un bob nos yr wythnos ddiweddaf, sef y Parchn E. D. Thomas, Abercvnon; J. Fisher Griffith, Hirwain Thomas Rowlands, Treharris, a Fobert Lewis, Pontypridd. Cafwyd un- awd gan Mr Griffiths nos Fawrth, ac ar gais y gweinidog (y Parch H. O. Hughes), cafwyd unawdau y ddwy noson ddilynol un gan Miss Kate Williams, a'r lllall gan Mr Hy. Lloyd (Ab Hefin). Yr oedd wyth- nos o gyrddau gweddio wedi bod yn flaen- orol ac er i'r cyrddau gael eu hysbysu ni ddaeth, cvnifer ddieithriaid ynghyd ag a ddisgwyiieir, ond nichredwn yra y fath bregetb u yn ofer. PURDEB A MOES.—Cynhaliwyd cynhad- ledd dan aawdri EglwysiRhyddion Aber- dar, 'nawn Mawrth, pryd y darllenwyd papur gan y Parch James Evans. Pender- fynwyd fod y cynyrch yn cael ei argraffu. Siaradwyd gan amryw. Yn yr hwyr caf- wyd areithiau g; n v Parch Charles Davies, Caerdydd, a D:. Arthur T, Jones, Mount- ain Asli; a'r Parch James Evans. Lly- wyddwyd gan y Cynghorwr George Powell Yr oedd cynhulliad cryf o wryw- od yng nghapel Siloa yn gwrando dat- guddiadau difrifol o fywyd cymdeithas gan yr enwogion L chod. AB HEFIN. I

ELIM, PORTDINORWIC. I

LLANEGRYN.I

CEFN MAWR. I

YNYSYBWL.,I

I -IBETHESDA.,

.CAEMNARFON.I

I IMEIFOD. I

I YSGREPAN Y LLENOR. I

[No title]