Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
SALEM, LLANDDULAS. 1,
SALEM, LLANDDULAS. 1, CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—NOS Wen- er, Chwefror 27ain, cawsom anerchiad gdn eia parchus Arolygwr sef, y Parch John Kelly ar y cymeriad fythgofiadwy hwnw sef yr anfarwol Dr. Livingstone, ac y mae gan Mr Kelly ddawn arbenig at y gwaith. Daeth cynulliad da yn nghyd, oblegid yr oedd y cyfarfod yn agored i bawb a ddymunant. Yr oedd pawb yn teimlo fod yr anerchiad yn un bendigedig, Mr Kelly yn yr hwyl uwchaf yn bosibl, a'r gynulleidfa gyda'i calonau yn llymed tra yr oedd yr anerchwr yn adrodd rai o weithredoedd arwrol y cenhadwr enwog. Terfynwyd y cyfarfod gyda diolchiadau cynnes i Mr Kelly am ei anerchiad, a phawb yn myned allan gyda phenderfyn- ladau cryfion i wneud rhywbeth er mwyn y Crist ag yr oedd y Doctor wedi gwneud a dioddef cymaint er ei fwyn. Nos Wener, Mawrrh 6ed, cawsom ddar- lleniad o ddau bapur, sef un gan yr Ysgrif- enydd a'r llall gan Miss Nannah Williams. Testyn y papur cyntaf Un o gymeriad- au'r Pwlpud Cymreig, sef y Parch Thomas Aubrey," a'r olaf ar yr Ysgol Sabbothol," a dymunodd y Gymdeithas ar i Miss Wil- liams ddarllen ei phapur drachefn yn y Cyfarfod Ysgol sydd gerllaw. Nos Wener, Mawrth 13eg, cawsom bapur gan Miss Elizabeth Williams, Brynyvoel, ar rhai o Elfenau bywyd Cornelius," a chan nad oedd Miss Williams yn] bresenol, darllenwyd y papur gan Mrs John Davies, a theimlodd pawb fod y papur yn un add- ysgiadol ac yn llawn o wei si buddiol i ni fel Cymdeithas. Terfynwyd y cyfarfod gyda diolchiadau gwresog i Miss Williams am ei phapur, ac hefyo i Mrs Davies am ei ddarllen. Nos Wenerdilynol, sef Mawrth 20fed, cawsom de gan yr Hen Ferched, ac yr oedd y danteithion amrywiol a gawsom yn ddirifedi. Wedi hynny cawsom Gyf- arfod Amrywiaethol. Gan mae hwn oedd cyfarfod olaf y tymor cawsom amser difyr dros ben. Terfynwyd v cyfarfod gyda di- olchiadau cynhes i'r Hen Ferched, ac i bawb gymerodd rhan yn ystod y tymor, ac yn neilltuol felly i'r Llywydd am ei was- anaeth. Wel, daeth diwedd y tymor, a phawb yn teimlo en bod wedi cael amser bendigedig, yn feddyliol ac yn ysbrvdol, ac hefyd wedi su-no yn helaeth o B.A. a B.D., y Llywydd. Mae'r Gymdeithas yn awr yn hiraethu am y tymor nesaf.
ABERDAR. II
ABERDAR. I CWRDD CYSTADLU.—Nos Fawrth, Chwef- ror 24ain, cynhaliwyd Cwrdd Cystadlu. Llywyddwyd gan y Parch H. 0. Hughes. Beirniad y canu, Mr T. Job Davies, Aber- aman; arrirywiaeth, Mr W. J. Nicholas; cvfeily'dd, Mr Thomas Lewis. Unawd, "-Calon Lan," Misses Meiriona Lloyd a Dorothy Evans yn gydradd. Pedwarawd, "Agor i dy Geidwad Mawr," Mr W. J. Nicholas a'i barti; ail, Mr J. E. Jones a'i barti. Ysgrifenu Cymraeg ar y pryd, Miss Katie Lewis. Gwybodaeth Grefvddol, Miss Katie Lewis ac Elizabeth A. Jones. Sain Glust, Miss Dorothy Evans ail, Daniel D. Hughes. Hen Don, saith yn gydradd. Can y Gwcw.—Er allan o'r gystadleui- aeth, mawr ddifyrwch a gafwyd gan y brawd Thomas Owen pan ddaeth ymlaen i esgus gystadlu ar yr Hen Don, gan ddweyd ha wyddai ef am un don hynach na chan y gwcw, a dyma hi meddai, Gwcw." Hen Ganfed Newydd.—Heblaw beirn- iadu cawsom rywbeth tebyg i ddarlith gan Mr T. Job Davies, yn cynwys amryw chwedlau pert ynglyn a chanu. Nid drwg oedd y trefniant newydd ar yr Hen Gan fed," trwy ganu y pedwar nodyn ar ol y cyntaf ymhob llinell yn hanner curiadau. PRIODAs.-Bore Sul, Mawrth 8fed, cym- erodd priodas le yng Nghapel Seion, cyd- rhwng Miss Hannah Jane Davies, ail ferch Mrs Lloyd, 8 Hawthorne Terrace, a Mr Jack Voss, mab Mr Voss, Moss Row, Abernant. Gweinyddwyd gan y Parch H. 0. Hughes. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei hewythr Mr William Jones, pregethwr. Mr Ivor Davies, brawd y briodasferch oedd cyfaill y priodfab. CYFARFODYDD ADFYWIADOL.—Cafwyd pedwar gwr dieithr i bregethu, un bob nos yr wythnos ddiweddaf, sef y Parchn E. D. Thomas, Abercvnon; J. Fisher Griffith, Hirwain Thomas Rowlands, Treharris, a Fobert Lewis, Pontypridd. Cafwyd un- awd gan Mr Griffiths nos Fawrth, ac ar gais y gweinidog (y Parch H. O. Hughes), cafwyd unawdau y ddwy noson ddilynol un gan Miss Kate Williams, a'r lllall gan Mr Hy. Lloyd (Ab Hefin). Yr oedd wyth- nos o gyrddau gweddio wedi bod yn flaen- orol ac er i'r cyrddau gael eu hysbysu ni ddaeth, cvnifer ddieithriaid ynghyd ag a ddisgwyiieir, ond nichredwn yra y fath bregetb u yn ofer. PURDEB A MOES.—Cynhaliwyd cynhad- ledd dan aawdri EglwysiRhyddion Aber- dar, 'nawn Mawrth, pryd y darllenwyd papur gan y Parch James Evans. Pender- fynwyd fod y cynyrch yn cael ei argraffu. Siaradwyd gan amryw. Yn yr hwyr caf- wyd areithiau g; n v Parch Charles Davies, Caerdydd, a D:. Arthur T, Jones, Mount- ain Asli; a'r Parch James Evans. Lly- wyddwyd gan y Cynghorwr George Powell Yr oedd cynhulliad cryf o wryw- od yng nghapel Siloa yn gwrando dat- guddiadau difrifol o fywyd cymdeithas gan yr enwogion L chod. AB HEFIN. I
ELIM, PORTDINORWIC. I
ELIM, PORTDINORWIC. I CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.-Nos Wen- er, Chwefror 20fed, cyfarfu Cymdeithasau Diwyliiadol Elim a Brynmenai, M.C. i ddB,dlell'n gyhoeddus ar y testyn, A ydyw y B.egctu ar y Mynydd yn ^ymarferol ? I Dros ei bo J dadleuai Bry nmenai, yn cael ei agor gan Mr John 7/illiams, Augusta I Place, a'i Tefu-i gan Mr W. R. Williams, Llanfair riouse. ) dy Elim yn nacaol gan Mr Richard Hughes, Terfyn Terrace. Cymerwyd r¡¡an ymheHach gan y Paich J. E. I Itiglies, f". A., B.D., Dr. Edwarcs, Tre- fedc>yg;Mr R. Robeits, Menai Street; Mr Richie Thomas. Seliool, House Mr R. O. Williams, NoddFa; Mr Henry Jones, Au usta Place;. fdr\V. D. Rowlands, I Maelog Hcuf:, a Mr R. Pierce, Perthi. Y Parch R. W. Jones lywyddai. Cyfaifod da iawn. I Chwefror 20ain, cawsom bedwar o pap. I urau rhagorol gan ferched jeueng(lf n Gymdeithas ar "Ann Griffiths," "Ei Hanes," gan Miss Eira G. Jones. Ei cyfeillion," gan Miss A. M. Hughes. Ei Liythyrau." gan Miss M M, Hughes." Ei Hemynau," gan Miss Nellie Thomas. Siaradwyd ar y testynau gan y llywydd, Parch R. W. Jones, Mri J. G. Jones, E. J. Hughes, J. E. Williams a R. O. Williams a diolchwyd yn gynes iddynt. Mawrth 13eg, treuliwyd noson mewn modd difyr a diddan, trwy i chwiorydd ieuainc y Gymdeithas roddi perfformiad rhagorol o ddwy ddrama fechan Gymreig fel y canlyn: Rhanu y Ferins." Cym- erwyd rhan gan Misses Nellie Thomas, Waterloo House; Jennie B. Jones, Felin- heli Terrace Annie M. Hughes, Augusta Place. Yn y ddiama "Y Forwyn Ne- wydd cymerwyd rhan gan Misses Morfudd Jones, 21 Bangor Street; Enid Jones a Gretta Jones, Cartref Ceinwen Hughes, Augusta Place; Mri R. O. Wil- liams, Noddfa, a Llewelyn Jones 311 Bangor Street. Dangosodd yr holl gym- eriadau rhyw fedr neillduol yn eu gwaith, a mwynhawyd, y ddau berfformiad ynl fawr gan y cynulliad da a ddaeth ynghyd. Yn ystod y cyfarfod darllenodd Miss Gretta Jones, Cartref, ystori ddiddorol am Modryb Modlan," un o hen gymeriadau Cymreig. Ar y diwedd caed anerchiad gan y llywydd, y Parch R. W. Jones, ar y Ddrama Gymreig. Mawrth 20fed, cafwyd ymgomwest ddiddorol er terfynu gwaith y tymor. Yr oedd y te a'r danteithion yn rhoddedig trwy garedigrwydd Mr John E. Williams, Noddfa. Gwasanaethwyd mewn canu, adrodd, ac yn y blaen, gan y dosbarth ieuengaf, a chaed nifer o gystadleuaethau rhagorol yn ystod y noswaith, Cyfeil- iwyd gan Mrs R. W. Jones, Llys Menai, a Miss Annie M. Hughes, Augusta Place. Ar y diwedd caed adolygiad ar, waith y tymor gan y llywydd, y Parch R. W. Jones, yr hwn oedd yn arddangosiad j amlwg pa mor lewyrchus ydoedd gwaith y Gymdeithas ar hyd y gaeaf. Cafwyd cyfarfodydd da a buddiol ynghyda thest- ynau chwaethus a dyrchafol. Yna caed sylwadau pellach gan Mri J. G. Jones, 31 Bangor Street, a O T. Williams, Noddfa. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgar- wch gwresog i Mr J. E. Williams am ei haelioni, ac hefyd ddiolchgarwch i Ysgrif enyddes y Gymdeithas. YSG.
LLANEGRYN.I
LLANEGRYN. GWYL DE. Prydnawn dydd Mawrth, 17eg cyfisol,. daeth cynulliad Iluosog o blant Gobeithln Wesleaid Bethel ynghyd i fwynhau gwledd wedi ei pharotoi gan chwiorydd yr eglwys yn y Vstri newydd. Cawsant ei hanrhegu ac orange a choco- late. Wedi gwneud cyfiawnder a'r dan- teithion hyn, cafwyd cyfarfod adloruadol yn yr hwyr, dan lywyddiaeth y Parch R. Jones Williams, gweinidog. Aed trwy raglen faith yn hwylus a boddhaol. Can- moliaeth uchel roddid i'r gwahanol ad- ranau, megis yr adroddiadau, y dadleuon, a'r gerddoriaeth. Diolchodd Mr Williams i'r chwiorydd am eu caredigrwydd yn dar- paru mor helaeth, ac amrywiol tu ac at yr amgylchiad. Hefyd i'r brawd James Jones am ei lafur yn addysgu y plant a'u hyffor^di erbyn y noson. Ymwahanwyd wedi i'r cor ganu yr anthem Noah yn yr Arch." A ganlyn ydyw anerchiad dradd- odwyd ar yr achlysur. Bu yr awen eto yn dirion Cefais ganddi rai penillion, Ac os byddant yn dderbvniol Gwnewch wrando yn heddychol. Daeth v noson i'r Wesleaid Ddod ynghyd i gael cwpanaid, Wedi ei barotoi yn flasus Gan chwiorydd glan a medrus. Y mae diolch yn rhesymol, Ydyw, maent yn haeddu eu canmol, Cawsom credaf ein boddloni Wrth y byrddau eto eleni. Brawd James Jones sydd yn gofalu Am y plant a'r cyfarfod canu, Y mae golwg pur addawol Am ganiadaeth y dyfodol. Brodyr Griffiths sy'n blaenorl Ac yn dysgu i wneud daioni, Rhoi ufudd-dod a gwrandawiad Fydd yn gymorth i ddyrchafiad. Bod yn hoff o ddarllen llyfrau, Sydd yn un o'r pethau gorau Dyfal chwilioam wybodaeth Felly deuwch o wasanaeth. Dewch yn gyson i'r addoliad A gynliqiir gan eich henwad, Ysgol Sul a'r Cyfarfod Gweddi, Seiat hefyd a'r pregethu. Parch Jones Williams sy'n gofalu Am y .pwlpud a'r pregethu, Fyddlon ydyw ef i'r planiau Ond ar ol yr amser weithiau. W. J.
CEFN MAWR. I
CEFN MAWR. Nos Sabboth o'r blaen gwnaed coffa arr y diweddar Mrs Mary Davies (mam y di- weddar Barch Thomas Davies), yr hon oedd chwaer ffyddlon a chywir iawn, a boneddigaidd ei hyrhryd. Traddodwyd pregetir hynod o effeithiol gan y Parch T. Gwilym Roberts, ar y geiriau, Yn nhy fy Nhad y mae llawer o dngfanau." Gwnaeth gyfeiriadau hollo briodol am y chwaer. Dewiswyd emynau cyfaddas i'r amgylch- iad, a chwareuwyd y Dead March gan yr Organydd, Charles E. Jones. GOH. I
YNYSYBWL.,I
YNYSYBWL. I GWYL DEWI.—Nos Lun. Mawrth 2il, cynhaliwyd Social Tea dan nawdd yr eg- lwys uchod. Dyma y trydydd Social yn ystod y gauaf yma. Mae hyn yn dargGs fOli yma fwy o awydd gweithio Y1 yr eglwys na s) ddweci bod er's amser. Mae yn dda genyf glywed ei borlwedi troi- allan yn llwyddiant, ac wedi swm go dda yn mhoced y trysorydd. Da iawn. digon o'i hangen arnom fel eglwys, one1 mae yn well heddyw na mae hi wedi bod er's rhai blynydcfeu. Wel, lrJoL, mae yn debyg mae y brodyr oedd i ofalu arh hwn, sef am gasgiu y danteithion a'r cwbl oedd angenrheidiol. Y brodyr fu yn casglu y tro yma oeddynt Mri Edwaid Jones a Lewis Edwards, Gwnaetllant eu gwaith yn dda iawn. Traynmwynhau y te cafwyd unawdau ac adroddic 1 gan blant y Band o Hope ac amryw aill o'r lIe Llywyddwyd gan y Parch ¿. Davy I "J I.O'nas, Abercynon, yr hwna wnaeth ei waith i foddlonrwydd pawb, ie, fe lanwodd y gadair hyd yr ymylon mewn mwynac un ystyr. Aed trwy y program fel y can- lyn:—Can gan Miss M. E. Lewis adrodd- iad gan Master Morddal Evans deuawd gan Miss 0. Williams a Mr G. O. Williams; can gan Mr J. Hughes adroddiad gan Miss Nancy Edwards can gan Miss Jennie Jones adroddiad gan Miss Maggie Ed- wards deuawd gan Miss O. Williams a Mr G. O. Williams; adroddiad gan Mr Morddal Evans adroddiad gan Mr Gordan can gan Miss M. E. Lewis; ad- roddiad gan y Parch W. Williams (A.); can gan Miss Katie Pugh adroddiad gan J. Hughes; deuawd gan Misses Katie Pugh a Maggie Edwards adroddiad gan Miss Katie Pugh deuawd gan Miss O. Williams a G. O. Williams; adroddiad gan Mr J. Hughes; wrth yr offeryn, Miss Maggie Griffiths. Cafwyd ychydig eiriau gan y Llywydd, a diolchodd i bawb am eu gwasanaeth gwerthfawr. Yr un modd di- olchwyd i Miss. Olwen Williams a Mr G. O. Williams, mab a merch Mr G. O. Wil- liams, Abercynon, am eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Swyddogion y Social oeddyntMr Hugh Roberts, ysgrifenydd; a Mr Thomas Evans, yn drysorydd. Try eu gwasanaeth allan yn Ilwyddiant per- flEaith. RHODD I'R EGLWYS.—Nos Sul, Mawrth 15fed, cafwyd y fiaint o ddefnyddio y Cwpanau Unigol am y tro cyntaf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch D. Creigfryn Jones. Diolchwyd i Mr a Mrs W. Evans, a Mr a Mrs J. J. Price, am eu rhodd werth- fawr i'r eglwys. Siaradwyd gan Mr Lewis Jones a Mr Evan Jarman ar rhan yr eglwys, a chan Mr David Pugh ar ran Trustees yr eglwys, pethau ac y mae gwir angen am danynt yn nihob eglwys. Er bod rhai wedi bod yn awgrymu eu cael, mae yn rhaia dweyd ein bod wedi rhagflaenu pawb, ac yn sicr i chwi, Mr Gol., yr ydym yn falch iawn fel eglwys o honynt, a gallwn ddy- wedyd ein bod wedi rhagflaenu'r holl eg- lwysi ar y mater hwn eto. Mawr hyderaf y cawn weled holl eglwysi y Gylchdaith yn dilyn ein camrau ar y mater yma. Mae yn sicr o fod yn fantais hyd yn nod mewn iechyd. Yr Arglwydd a dalo i'r ddau deulu am eu rhodd werthfawr i'r eglwys. I DYFI.
I -IBETHESDA.,
I BETHESDA. y GYMDEiTHAS.—Ionawr 29, t-yfarfu y Gymdeithas dan lywyddiaeth y Parch R. Jones, B.A., pryd y cafwyd pedwar papur rhagorol gan bedair o chwiorydd ieuainc, sef -williams y Wern, gan Miss Gwladys Williams; Christmas Evans, gan Miss Harriet Thomas; Daniel Rowlands, gan Miss Gladys J. Williams; Rowland I Hu ghe s, gan Miss Lizzie Grace Williams. Chwefror 12fed.-Yn y cyfarfod hwn dan arweiniad Mr Evans, Gerlan, cafwyd ar. aeth benigamp gan ein gweinidog hoff—y Parch Richard Jones, B.A., ar Y Meudwy a'i Gell." Taflwyd goleu clir ar gychwyn- iad, cynydd, a diraddiad y symudiad meu dwyol. "Mwynhaodd pawb eu hunain, a diolchwyd i' Mr Jones am ei anerchiad rhagorol. .=. Chwefror 26, llywyddwyd gan ein gwein- idog. a chafwyd noson ddifyr, yn gwrando ar dri phapyr rhagorol ar Daniel Owen, ei hanes a'i weithiau; Ei hanes gan Mrs Jones, Brynmyfyr. Enoc Huws, gan Mrs Moses, Pant. Y Dreflan, gan Miss Gracie Thomas. DangQsodd y chwiorydd nad oedd anrhydedd ein prif nofelydd wedi ei ymddiried i ddwylaw anfedrus, a diolch- wyd yn gynes iddynt am eu llafur. Mawrth 12, dan lywyddiaeth ein. parchus weinidog, cafwyd anerchiad diddorol gan y parch James Jones (A.) ar Mynyddog. Ni threuliodd y darlithydd fawr o amser gyda hanes Mynyddog, ond yn hytrach er ein buddiant gyda chenhadaeth Mynyddog at ieuengctyd ein gwlad. Diolchwyd yn gynes i Mr Jones am ei barodrwydd i'n gwasanaethu fel cymdeithas, dyma'r try- dydd tro i ni gael y fraint o wrandaw arnb. Y nosweithiau cydrhwng yr uchod cynhelid dosbarth Duwinyddol, a chafwyd amser da. Mawrth 13, dirwynwyd ein cymdeithas i ben gyda swper ardderchog, a mwynhaodd pawb eu hunain gyda'r danteithion am- rywiol. Wedi'r swper cafwyd cyfarfod difyr. Agonvyd y cyfarfod gydag unawd gan Mrs Joseph Evans, I fyny bo'r nod," yna cafwyd deuawd gan Misses Lizzie Davies a Morfudd-Williams--Y plant sy'n hoff gan Iesu. Gan fod trydydd flwyddyn y Parch a Mrs Richard Jones yn prysur ddirwyn i ben er ein gofid-ac fod eu tymor olaf ar iiyn o bryd wedi mynd heibio, penderfyn- odd y gymdeithas ddangos ei gwerthfawr- ogiad o'u llafrr, a'i theimladau da tuag atynt, ac i'r amcan hwn cyflwynwyd Mar- ble Timepiece hardd iddynt gan Mrs Lloyd William. ar ran y gymdeithasa'r ■ losbarth Duwinyddol, yr hon a wnaeth sylwadau pwrpasol ar yr achlysur. Dat- ganodd Mr E. Evans, Mr Owen Jones, Mr Henry Edwards Mr Robert Jones, a Mrs Moiris, yrr hellac.. deimladau y gymdeith- ac" Diolchodd Mr Jones am yr anrheg a'r dymuni. JaLi da. Yna ac1 oddodd Miss Gwladys J. Wil. liams Fvaagorfraint y gweithiwr," a -haed unawdau gan Mr Hugh Thomas, h"iss Pritchard, a Mrs Evans. Terf; wyd y cwrdd trwy ganu Hen Wlad fy NhL dau. I- D. H. T.
.CAEMNARFON.I
CAEMNARFON. I CYFRES o BREGETIlAu.-Cafodd eglwys Ebenezer ei breintio a gweinidogaeth fen- dithiol y Parch E. Mostyn Jones, Pwllheli, Sabboth y 15fed, a'r tair noson dilynol. mean y gyfres hon oedd enyn adfywiad ym my wyd ysbrydol yr Eglwys. Tradd- o 'odd Mr Mo: tyn Jones bump o bregethau cryfion a gwir bwrpasol. Pregethai gydag yni ac eneiniad dw3 s. Teimlai yr eglwys y naill odfa ar ol y llall fod gwir amcan y gyfres yn cael ei gyraedd. Ar derfyn yr odfa olaf cawsom y pleser o weled un yn lhc i buni fynu i Grist a'i eglwys. Cani Uuu.etn gvffredinol glywir i'r preg- en yn y Iref, a cliredwi-i y gwelir eu dyl "ad e- daioni ar fyvtyd yr eglwys.. 2DD MOR Y GYMDEITHAS.—Er nad •-nd ychydig amser er pan gafodd yr aeloi tu f o'r fath oreu gan Mr D. Roberts, I Bcir k House, a Chyfarfod A-ywiaeu.ol yn i d"ilyn dan ai Mr John Henry Thomas, Sunny Cliff, eto teimlaiy chwiorydd sydd yn aelodau ffyddlon o'r Gymdeitbas mai y peth goreu i derfynu tymor llwyddianus oedd cael swper arall. Yr oedd hon yn wledd rag- orol heb ei disgwyl i'r aelodau. Cafwyd Cyfarfod Amrywiaethol diddorol dan Jywyddiaeth Mr John Huw Williams, Bryn Noddfa. GORFFEN TYMOR Y BAND OF HOPE.—BU y tymor hwn y mwyaf llwyddianus er's blynyddoedd yn hanes y Band of Hope. Bu Mri John Price, Brynarfon, a Robert Griffith, U.H., Epworth, y ddau lywydd, a Mr G. T. Jones, Assheton Terrace, yr ysgrifenydd yn hynod ffyddlon a gweith- gar ar hyd y tymor. Cawsant afael ar ben y ffordd i'w wneud yn llwyddiant drwy ofyn i nifer dda o frodyr a chwiorydd ieuainc yr eglwys ddyfod i helpu. Caf- wyd cyfarfodydd diddorol a bendithiol. Agorwyd a therfynwyd y tymor trwy roi te i'r plant. Wedi cael te diguro cafwyd Cyfarfod Amrywiaethol mewn adrodd, canu, a dadleu, dan arweiniad Mr Walter Thomas, Fernleigh, arweinydd y canu yn Ebenezer. Beirniadwyd y canu gan Mr W. D. Evans, a'r adroddiadau gan y Parch R. Mon Hughes a Mr John Huw Williams. Cyfeiliwyd gan Miss Williams, Brynarfon. I A.B.
I IMEIFOD. I
I MEIFOD. Parhau yn lied wael wna ein blaenor ffyddlon, Mr Richard Hughes, a theimla yr eglwys golled fawr heb ei bresenoldeb. Hefyd drwg genym am waeledd Mrs John Davies, Rhosyglasgoed Cottage (mam Mr W. Davies sydd yn bregethwr cymeradwy ar gylchdaith Llanfyllin). Dymunwn i'r ddau adferiad buan i lenwi eu gwahanol gylchoedd. Llawenydd,genym weled Miss Morfudd Griffiths wedi dychwelyd ar ol bod oddi- cartref am beth amser yn ceisio adgyfner- thiad. Da gennym ei bod yn gwella. Nos Fercher, Mawrth 25ain, ymwelwyd a'n pentref gan y Parch Gwynfryn Jones ar ran United Kingdom Alliance. Cynhal- iwyd y cyfarfod yng nghapel y Methodist- iaid Calfinaidd, a llywyddwyd gan y Parch Edward Griffiths. Cafwyd anerchiad ys- blennydd, a chodwyd y cyfarfod i frwd frydedd uchel. Brysied yma eto. Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod pre- gethu blynyddol, gynhelir dydd Gwener y Groglith fel arferol. Y gweision gwa- hoddedig eleni ydynt y Parch Gwilym R. Roberts, Hanley, a'r Parch D. R. Rogers, B.A., Llansilin. Disgwylir adeg fendith- iol a chynulleidfaoedd mawr. Cyferfydd y Cor Undebol bob wythnos o dan arweiniad Mr Evan Rowlands (leuan Mai). Ar hyn o bryd paratoir at Eistedd- fod dair blynyddol Pont Robert. I J. I
I YSGREPAN Y LLENOR. I
I YSGREPAN Y LLENOR. I Esponiad Newydd gan Esponiwr Newydd. Gan T. J. PRITCHARD. I Y dydd o'r blaen daeth i'm Haw ranau dechreuol o Esboniad ar yr Epistol at y Rhufeiniaid, gan W. 0. Evans. Cyfrol 1. penodau 1-7. Bangor, cyhoeddedig yn y Llyfrfa, gan P. Jones Roberts. 1914. Wrth gwrs, prin y mae angen hysbysu mai yr awdwr yw y Parch- edig William Owen Evans, gwein- idog Wesleaidd, Lerpwl. Brysiais i ddarllen y rhanau hyn o'r ffurf-gopiau cyntaf gydag awch. Gwyddwn am yr awdwr yn flaenorol yn ngoleuni ei lythyrau canmoliaeth" yn yr holl eglwysi fel pregethwr amlwg, meddyliwr gwrteitiuedig, yggrifenydi hylithr, a'boneddwr Cristionogol o safle ac o gymeriad uchel. Heblaw hyny yr oeddwn yn bur gynefin ag ef fel lienor gwych, ac awdwrx cyfrol goffa ddarllenadwy o Dr Thomas Coke. Yr awrhon, wele y gwr parchedig ar gais y Gymanfa Wes- leaidd yn anturio i reng anrhyd- eddus yr esponwyr. Ac os iawn- dda yw barnu oddiwrth ranau yn unig o'r Gyfrol I., profa ei hun yn deilwng o'r urdd, as to the man- ner born." Haedda Ie urddasol yn mhlith y esponiadol. Nid gorches soafn fyddai i un- rhyw un ymg leryd a chyhoeddi Esponiad New dd ar draethawd dihefelydd y penaf o Dduwinydd- ion Cred yn enwedig, pan y cofir ei arddull ddyrus, ei gynwys dwfo, ei feddyliau ariichel, a'i ymresym iadau cymhlethedig. Hwyhr ei gamrau yn hy fedr as a didran- gwydd ar hyd y lhvybr anhygyrch hwn, a brofai fod y sawl a lwydda wedi croesi yn cdiogel POi s Aš> inorum" bron bob problem ddiwin- yddol sylfaenol a berthyn i'r ffydd Gristionogol. Ymhellach, onid oes ar gael leng o bob math o Es- poniadau cyhoeddedig ar yr Epistol hwn, ac yn eu plith nifer mawr o'r dosparth uchaf, gan wyr etholedig yr eglwys, ac ereill, o ddyddiau Pelagius i lawr i'r dyddiad presen- 01. Cawn hefyd yn eu plith amryw Gymry galluog diweddar. Golyga hyn y rhaid i wr feddu ar feddwl gwahanfodol a chryf er gallu c hono droedio llinell gydredol a'r, ac eto, wahaniaethol i'r lluaws a nodwyd. Cyd- rededd y cynyrch a brofai gysondeb ei ddehongliad ag eiddo etholedigivm tcponiad- i aeth ar y maes eisoes, ac ag y,pryd, syniadaeth, a theit m^'lviiol yr ( Apostoi. Y gw. ha ae.?? ar y ji Haw arall,abrcia ?ia'ter y de- 11 honglydd, a chyfoeth dihysbydd yr Epistol. Ni phetrusaf ddweyd ddarfod i Mr Evans Iwyddo yn ar- dderchog. Y mae efe wedi ei gyn- ysgaeddu a medr esponiadol a hawlia sylw, ac os meiddiaf farnu oddiwrth yr adran sydd mewn Haw, nid ofnaf broffwydo y prawf ei esponiad hwn yn wir gaffaeliad i'r efrydydd, ac yn un o'r cynyrch- ion mwyaf cynorthwyol yn yr iaith er deall yr Epistol at y Rhufein- iaid. Eiddunaf i'r awdwr parch- edig iechyd a nerth i orffen ei waith rhagorol. Cyrhaedda y gyf- rol gyntaf hyd ddiwedd yr wythfed benod. Cyhoeddir y rhelyw mewn ail gyfrol. Y maey Rhagarweiniad yn eith- riadol faith, rhed dros 30 tudalen, ond y mae yn llawn o hyfforddiant, ac nis gallwn feddwl am ddim cymhwysach, ac effeithiolach fel arweiniad i fewn i gynnwys y gwaith. Ymdrefyd yr awdwr yn y modd mwyaf diddorol, 1, Ag amser, lie, ac achlysur yr Epistol; 2, Y Crisionogion yn Rhufain 3, Ffynhonellau Diwinyddiaeth yr Epistol; 4, Dilysrwydd yr Epistol. Amlwg yw fod Mr Evans wedi ymgynghori a llenyddiaeth ddi- weddaraf y pwngc, ac i'r pwrpas goreu. Dylai athrawon ein Hys- goiion Sul, eu disgyblion, ac aelod- >- au ein Beibl-restrau ei fwyta bob gair, a phenderfynnu ei dreulio yn dda, a'i gyfathu yn llwyr. 0 hyny hwy fyddent yn gryfach ac yn iach- ach, ac o wir werth i'r eglwys. Ar tudalen 36-37, ceir braslun o gyn- wys yr Epistol, penod 1 —7. Ystyr- iaf ei fod yn ddosparthiad cryno, naturiol, a chryf. Ond barnaf mai diffyg yw na argraffesid yr holl gynhwysiad gyda'u gilydd, yn hyt- rach na chadw rhan ar gyfer Cyf- rol II. Manteisiol i'r efrydydd yw fod Mr Evans wedi gofalu gosod ger bron enwau nifer o'r prif esbonwyr ar yr Epistol, ac yn eu plith dri Cymro, un o ba rai yw y teilwng Barch T. Jones Humphreys. Nodwedd darawiadol yw yr arall-eiriad, neu y rhydd-gyfieith- iad o'r testyn, yn ol arddull Dr Beet ac eraill. Yn bersonol gwell f'ai gennyf pe y dilynasid y C. D., gan ei gywirro, lie hynny yn ofynnol, yn nghorff yr esponiadaeth. Serch hynny, diau y gall brofi o gryn gynhorthwy i'r efrydydd. Amlwg yw fod Mr Evans wedi rhoddi efrydiaeth fanwl a dyfal i'r Epistol. Ceir prawf. o hynny ar wyneb pob tudalen, a gesyd ger bron ffrwyth ei lafur yn y modd egluraf y gall iaith syrrtl ei gyfleu. Yn er drafodaeth o'r adrannau mwyaf dadleuol, ceir ol mesur a phwyso manwl, ac yn nglyn a hynny amlygiad eofn o annibyn- iaeth barn, ynghyd a rhesymau cryfion, ond boneddigaidd, dros wahaniaethu. Ac ni adewir i'r darllenydd tyned nepell o ffordd heb ei daro a newydd-deb dehong- liad a bair gyffro weithiau, ac am- heuthyn boddhaol bron bob amser. Ni oddefir na gofod nac amser i fanylu. Llongyfarchaf Mr Evans yn y modd mwyaf calonnog, ar ddygiad allan ei ddehongliad gwych o'r Epistol anodd. Adlew- yrchir wir gredit arno fel esponiwr manwl, medrus, a chlir, ac fel dysgawdwr Cristionogol sydd yn glod i'w eglwys a'i genedl. lawn yw nodi fod yr argraffwaith a'r dygiad allan drwyddo yn up to (1ate. Yr unig fai, os bai hefyd, yw na drefnasid ar gyfer llythyren frasach. Ofnaf y bydd yr un a fabwysiadwyd braidd yn fan i rai mewn oed. Eithr nid diffyg yn yr argraffydd yw hyn. Ni odylai na swydnog na blaen- or, nac athro na disgybl, na lien na lleyg, oedi dlwrnod yn hwy heb ddiogelu copi o'r esponiad cyn- hwysfavvr hwn. Nis gellir dyfalu am ddim mwy cynhorthwyol tuag at feistI ot: y maesllafui. Maepris y gyfrol hefyd 0, fewn cyrhaedd pawb, sef aeur "w ceiniog.
[No title]
Y mae pwyllgcr Eisteddfod Mon sydd i'w chynnal yn jlangefni, dyddiau Llun a M twrtii y Sulg'vyn, wedi derbyn cyn- yg odi wrth Arglwydd Boston y bydd iddo rode' gwcbr o ddeg gini am y cynllru goreu o dy gweithiwr, uyfaddas i sir Fon, gan nodi swm y defnyddiau o-ngfoiirheidiol, a'r gost heb fod dros 18 Op. Nifer y tafarndai yn sir Bentro yw 00 ar gyfer pob 10,000 o'r bobiogaeth. Mae y nifer yn cael ei leibau bob blwyddyn, er hynny, trwy Ddeddf lawn- daliad. Y mae eglwys Methodistiaid Calfiii- aidd Abergele wedi rhodcli galwad i'r Parch W. R. Owen, B.A., Bcthesria, i ddyfod yn weinidogi fel olynydd i'r ai- weddar Barcb Francis Jones. Credir y bydd i Mr Ower- gydsynio ar alwad.