Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

SALEM, LLANDDULAS. 1,

ABERDAR. II

ELIM, PORTDINORWIC. I

LLANEGRYN.I

CEFN MAWR. I

YNYSYBWL.,I

I -IBETHESDA.,

.CAEMNARFON.I

I IMEIFOD. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I MEIFOD. Parhau yn lied wael wna ein blaenor ffyddlon, Mr Richard Hughes, a theimla yr eglwys golled fawr heb ei bresenoldeb. Hefyd drwg genym am waeledd Mrs John Davies, Rhosyglasgoed Cottage (mam Mr W. Davies sydd yn bregethwr cymeradwy ar gylchdaith Llanfyllin). Dymunwn i'r ddau adferiad buan i lenwi eu gwahanol gylchoedd. Llawenydd,genym weled Miss Morfudd Griffiths wedi dychwelyd ar ol bod oddi- cartref am beth amser yn ceisio adgyfner- thiad. Da gennym ei bod yn gwella. Nos Fercher, Mawrth 25ain, ymwelwyd a'n pentref gan y Parch Gwynfryn Jones ar ran United Kingdom Alliance. Cynhal- iwyd y cyfarfod yng nghapel y Methodist- iaid Calfinaidd, a llywyddwyd gan y Parch Edward Griffiths. Cafwyd anerchiad ys- blennydd, a chodwyd y cyfarfod i frwd frydedd uchel. Brysied yma eto. Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod pre- gethu blynyddol, gynhelir dydd Gwener y Groglith fel arferol. Y gweision gwa- hoddedig eleni ydynt y Parch Gwilym R. Roberts, Hanley, a'r Parch D. R. Rogers, B.A., Llansilin. Disgwylir adeg fendith- iol a chynulleidfaoedd mawr. Cyferfydd y Cor Undebol bob wythnos o dan arweiniad Mr Evan Rowlands (leuan Mai). Ar hyn o bryd paratoir at Eistedd- fod dair blynyddol Pont Robert. I J. I

I YSGREPAN Y LLENOR. I

[No title]