Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

" LLESTRFR TRYSOR," I Dan…

LLITH OR LLYFRFA, BANGOR.

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.I I

ETO DIWRNOD ARALL. 1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ETO DIWRNOD ARALL. 1 Y geiriau uchod a ddefnyddir yn i deitl i lyfr bychan defosiynol rhag- orol, a gyhoeddwyd yn ddiweddar j gan Gyngor Cenedlaethol yr Eg- i lwysi Rhyddion Efengylaidd, o waith y Parch J. H. Jowett, M.A., D.D. Trowyd y llyfr o'r Saeson- aeg i Gymraeg, gan y diweddar Mr William Thomas, Llangefni, gwr safai yn amlwg iawn yn mysg trigolion Ynys Mon, mewn cylch- oedd cyhoeddus, gwladol a chref- yddol. Adnabyddid William Thomas gan NVesleald Sir Fon, fel un o'r dynion mwyaf deallus a duwiolfrydig a fu yn eu plith er- ioed mewn cysylltiad a'r Cyfun- deb. Yn nechreu y llyfr hwn ceir y nodiad a ganlyn o berthynas iddo Ganwyd y Cyfieithydd yn Llangefni, ac yno y bu farw. Cafodd ei addysg yn Ngholeg Normalaidd Bangor, a bu yn ath- raw ysgol yng Ngwalchrnai, Llan- erch-y-medd, a Llangefni, ac fel athraw yn fawr ei barch a'i ddyl- anwad. Ymneilltuodd o'r gwaith hwn, a gwnaed ef yn bostfeistr Llangefni. Parhaodd yn athraw a chyfarwyddwr i'r ieuanc ar hyd ei oes. Pregethai yn achlysurol bu yn weithiwr ffyddlon ac amlwg gyda'r Wesleaid, ac yn gynhorth- wywr parod i bob achos da. Bu'r gyfrol fechan hon pan ddaeth allan yn Saesneg, yn gysur beunyddiol iddo pan oedd ei iechyd yn pallu. A'i chyfieithu oedd ei orchwyl nes iddo dderbyn yr alwad i wlad nad oes ynddi gyfrif dyddiau. Mae yno yn dragwyddol haf, Ni wywa byth mo'i blodau braf." Credaf y bydd yn dda gan bawb a adwaenant y diweddar William Thomas yn ogystal ac eraill, na chawsant gyfleusdra erioed i'w ad- nabod, gael y fraint o ddarllen y nodiad blaenorol am dano. Gweddi am bob dydd o'r flwyddyn" ydyw cynwysiad y gyf- rol fechan. Yn Saesneg, mae yr unfedarddeg argraffiad o honni eis- oes allan o'r Wasg, er nad oes ond ychydig amser er pan gyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf. Cyhoeddwyd yr argraffiad cvntaf yn Gymraeg, yn ystod y mis hwn, Mawrth, 1914. Os caiff y derbyniad a deilynga, bydd galw yn fuan am argraffiad- au eraill yn Gymraeg. Pris y gyfrol fechan yw swllt, ac mae yn ddiameu gennyf y gellir trefnu i'w chael o'r Llyfrfa Wesleaidd, yn Mangor. Rhoddaf ddwy neu dair o'r gweddiau Am Ionawr 2il, ceir yr un gan lynol:—" Fy Nhad Nefol, dymun- wyf gofio y rhai sydd a thuedd ynof yn fy ngweddi i'w iianghofio. Gweddia dros y rhai nas gallaf eu hoffi. Gwared fi rhag fy nheim- ladau hunanol Newid fy nhu- 'i \? e w' eddiadau Dyro i mi galon dos- turiol. Dyro i mi r purdeb calon sydd yn gallu dod o hyd i"th ddelw ym mhobrnan." Eto am Mawrth 31ain, ceir yr un ganlynol:—" Dduw graslawn, cofia fi wrth fy ngorchwyl. Os yn ol Dy ewyllys, rho i mi ddiwrnod llwydd- ianus. Bydded i'm holl waith gael ei wneud yn iawn. Na foed i mi droi allan unrhyw beth ar haner ei wneud. Bydded i mi Dy ogoneddu Di a gwaith gonest/' 0. H.

ICYFARFOD TALAETHOL. Y DE.

Family Notices