Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYNHADLEDD GWEINIDOGION IEUAINCI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNHADLEDD GWEINIDOGION IEUAINC I Y DALAITH GYNTAF. Cynhaliwyd yr ail o'r Cynhadleddau whodyng Ngaerlleon dydd lau wythncs fr diweddaf, a daeth nifer dda o weinid- ogion ieuainc y Dalaith at eu gilydd. Yn un o ystafelloedd addoldy Queen Street croesawyd ni gan y gweinidog poblogaidd a charedig, y Parch T. Glyn Roberts, a buan iawn y teimlem yn gartrefol. Ar ddymuniad y brodyr, cadeiriwyd yn 4doeth gan y Parch T. Charles Roberts, Wrexham, ac ni raid dweyd i'r cyfarfod fyn'd ymlaen yn dawel a dirwystr o dan ei lywyddiaeth. Prif waith y cyfarfod yd- oedd cael ymdriniaeth ar lyfr ddaeth allan o'r wasg yn ddiweddar gan y Parch A. S. Peake, M.A., D.D., ar y Beibl, The Bible its Origin, its Significance, and its Abiding Worth." Yn y gynhadledd ddiweddaf gofynwyd i'r Parch Arthur W. Davies, y Rhyl, ddarllen papur adolygiadol a beirn- iadol ar ei gynwys, ond oherwydd gwael- edd diweddar Mr Davies bu raid newid v trefniadau, a gofynwyd i'r esboniwr a'r pregethwr hynaws, y Parch E. Berwyh Roberts, gymeryd y gwaith mewn 11aw, a chydsvniodd Mr Roberts gyda'i barod- rwydd arferol. Wedi penodi gohebydd a phenderfynu rhai materion ereill galwodd y Cadeirydd ar Mr Berwyn Roberts i ddarllen ei bapur. Cawsom anerchiad goeth, ond gan v de- allwn yr ymddengys yn gyfan yn y "Gwyliedydd,"nicheisiwn ond rhoi am- lineiliad byr o'i chynwysiad. Dywedai Mr Roberts na fwriadai i'w fcapur fod yn feirniadoi, ond yn hytrach yn adolygiadol. I'r pwrpas hwnnw edrych- odd ar y mater fel hyn :—1, Beirniadaeth Ysgrythyrol. 2, Yr hyn yw y Beibl. 3, Ei ysbrydoliaeth a'i awdurdod. 4, Ei werth parhaol. Sylwodd Mr Roberts ym mhell- ach fod yr awdur wedi ysgrifenu ei lyfr mewn tymer dda, ac o dan ddylanwad syniadau aruchel am y Beibl, ac yn ei farn ef, er i feirniadaeth ein gorfodi i newid ein safleoedd, gesyd ni ar graig. Symuda y pwyslais oddiar yr ailraddol a gesyd ef ar yr uwchraddol. Dylem, meddai'r siaradwr, oddef i'J Beibl gael ei chwilio yn ysbryd beirniad- aeth deg fel y gwneir gyda'g unrhyw 4darn arall o lenyddiaeth. Ymfydrwydd yw dweyd na ddylid myned at y Beibl yn feirniadoi am ei fod yn wahanol i bob llyfr arall. Mae'n rhy ddiweddar bellach i gymeryd y cwrs hwn. Dylai ein syniad am ei le anghydmarol, ei ysbrydoliaeth a'i awdurdod, gael ei benderfynu gan ym- chwiliad teg a diduedd i'r Beibl ei hun, ac nid gan unrhyw dybiaeth a goleddwn ymlaen Haw. Dylai y feirniadaeth fod yn >01 rheolau gwyddonol. Mae'r Beibl yn dai ei dir, i ateb y pwrpas y bwriadwyd ef, er i feirniadaeth newid cryn lawer arno Mae myned at y Beibl fel cynt yn amhosibl yn awr yn wyneb darganfyddiadau di- weddar. Caed goleuni lawer yn gymhar- ol ddiweddar ar yr Hen Destament mewn ysgrifau a thablau, megis maen Moab a'r Aramaic Papyri gaed yn yr Aifft. Hefyd mae darganfod y Greek Papyri wedi taflu goleu tebyg ar y Testament Newydd. Adweinid beirniadaeth ysgrythyrol dan ddau enw—Is-feirniadaeth ac Uwch-feirn- iadaeth. Yn iaith a barn y werin yr un ;peth yw yr Is-feirniadaeth a'r golygiad ceidwadol, neu draddodiadol o'r Beibl Ond enw ar ran c feirniadaeth ysgrythyr- ol ddiweddar yw. Mae'r Is-feirniadaeth yn gyfystyr a beirniadaeth destunol (Tex- tual Criticism). Gwaith y feirniadaeth hon ydyw adfer y testun i'w ystad wreidd- iol hyd y gellir, tra mai gwaith yr Uwch- feirniadaeth yw chwilio i gyfansoddiad neu natur y llyfr, ei awduraeth, ei ddydd- iad, a'r amgylchiadau. Dylid cofio fod yr Is yn feirniadol mewn ystyr gyffelyb i'r Uwch. Gall casgliadau yr Is fod mor .chwyldroadol i'r Ysgrythyr a'r Uwch. Cydweithia y ddwy feirniadaeth i'r un amcan gonest. Dywedai Mr Roberts ym mhellach mai ,nid busnes beirniadaeth ydyw dynoethi gwendid, neu 'llunio bai lie ni bydd," a chredai y dylid egluro mai nid oddiar y cymhellion anheilwng yna y gweithia y beirniaid. Dylem ofyn beth yw y Beibl, nid beth ddylasai fod. Nid datguddiad yw y Beibl, ond cofnodiad o'r datguddiad roddodd Duw o hono ei hun yn hanes y genedl Idd- ewig ac yn mhrofiad yr unigol. Cwrs- weithrediad mewn hanes yw. Cofnodiad o hono yw y Beibl. Os na edrychir fel hyn arno, ni ddeallir ef byth. Hanes y genedl ydyw yn siarad y datguddiad dwyfol. a phrofiad personau unigol (megis y proff- wydi Iddewig) oecid y Hall. Mae yn y Beibi hanes tn math o brofiad yn sianelau y datguddiad. 1, Profiad mewn gweledig- aeth. 2, Profiad mewn cwrsweithrediad araf. 3, Profiad anmherffaith yn cael ei fynegi. Yr oedd y datguddiad yn bod ar wahan i'r ysgrythyr, ond mynegwyd ef, a -chadwyd ef rhag ei lygru pan glowyd ef mewn ysgrifen. Ynglyn a chwestiwn mawr ysprv"V.a?ith y Belbl dywedai Mr Roberts ■ • <• .¡jr1 -syniad caeth, peirianol am .ieth unwaith, a gwneir hyny eto guu rai. Gan y syniad peirianol am ysbrydoliaeth ai dynion mor bell a dweyd mai ofer holi am awduraeth y llyfr hwn ac arall, gan mai yr Ysbryd Glan yw awdur yr holl ysgry- thyr. Pen ac nid penman oedd yr ysgrifen- ydd yn llaw yr Ysbryd Glan yn ol yr ath- rawiaeth gaeth hon. Ond dylem gofio gan mai datguddiad yn dyfod atom trwy sianelau hanes a phrofiad yw y datguddiad ,dwyfol, rhaid i'r elfen ddynol o angenrheid- rwydd fod yn amlwg yn y Beibl. Y ffordd •o synied yn briodol am ysbrydoliaeth y Beibl yw ei gymeryd yn ei gyfanrwydd fel adroddiad o Duuw yn datguddio ei hun yn raddol yn ol cymhwysderau dynion i dderlpyn y datguddiad. Mae gofyn a yw pob rhan o'r Beibl mor ysbrydoledig a'u gilydd yn cyfodi o syniad cyfeiliornus am yr oil o hero. Cam a'r Beibl yw ei ranu yn hytracn nac. edrych arno fel un cyfan- waith. Mae gwerth arhoso! i'r Beibl, er y creda'r Uiaws mai ei jylodi a wna beirniadaeth, tra fel matsr c iCaitti ei gyfoethogi a wna. Mae Beirniad eth eisoes wedi enill inni rai pethau gwerthfav, jp. Gwna y Beibl yn fwy rhesymol drwy roddi i'r elfen ddynol ei lie priodoi yntido: gwna ei unoliaeth yn fwy bywiol ac yn llai peirianol, lliosga lwybrau ysbrydoliaeth ddwyfol a thiwy hynny gwra fyvryd Israel yn gyfoethocach, gwasgara ysbrydoliaeth dros bob matho ddynion o athrylith grefyddol, a dengys inni na fu cyfnod yn hanes y genedl heb fod Duw yn siarad wrthi drwy ei phroff- wydi. Ond dyweder a fyner am y Beibl, beirniadaeth neu beidio, perthyn iddo werth amhrisiadwy. Mae yn gyfoethog mewn maeth i'n henaid, a sieryd wrthym mewn iaith a chenadwri na heneiddiant. Daw atom pryd na wiw i un math o len- yddiaeth arall ddod. Dywedodd Renau mai yr unig lyfrau gaiff eu hail argraffu yn mhen mil o flynyddoedd fydd Homer a'r Beibl. Nid rhyfedd i'r Frenhines grefu gan ei mhab, ein Brenin Sior V, i ofalu darllen rhan o'r Beibl bob dydd, a'i fod yntau yn beunyddiol gyflawni ei hadd- ewid. Nid yw'n syn fod bywyd ysbrydol yr eglwysi yn isel tra y ffyna cymamt o an- wybodaeth am y Beibl, oblegid fel y dywed Dr. Peake, mae'r ddau yn cydfynd. Terfynodd Mr Roberts ei bapur coeth trwy ein hatgofio o'n cenadwri i'n hoes i ddeffro dyddordeb yn y Beibl er lies dynion a gogoniant i Dduw. Agorwyd ymddidd- an ar gynwys y papur gan y Parch W. Morris Jones, B.A., Bagillt, a chafwyd gan- ddo anerchiad fyw. Cymerwyd rhan yn yr ymddiddan gan y Parchn D. Meurig Jones, Treff vnon W. R. Roberts, Llan- gollen Lewis Edwards, Seacombe F. E. Jones, Lerpwl; T. Isfryn Hughes, Birken- head, a'r Cadeirydd. Cafwyd adeg hwyl- iog ac adeiladol. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r Parchn E. Berwyn Roberts a W. M. Jones, B.A., am eu llafur. Hefyd pasiwyd pleid- lais i longyfarch y Parchn A. W. Davies a G. O. Roberts (Morfin), ar eu gwellhad o'u cyscudd diweddar. Llawenydd hefyd oedd ini wel'd y Parch Llewelyn Kendrick, yn bresennol, ac wedi gwella yn dda o'i af- iechyd diweddar. Ar derfyn y gynhadledd eisteddasom wrth fwrdd bras wedi ei barotoi trwy haelioni swyddogion eglwys Queen Street, a gofalwyd am ein digoni gan y chwior- ydd caredig, Mrs Glyn Roberts, Mrs Price, Mrs Everett Lewis. Mrs H. L. Jones, Mrs Edward Jones, Mrs T. Davies Jones, a Miss Lloyd Jones, Prestatyn. Diolchwyd idd- ynt ar ran y gynhadledd gan y Parchn T. Gwilym Roberts a D. Roberts, ac hefyd gan y Cadeirydd. Rhoddwyd diolch gwresocaf y cyfarfod hefyd i'r Parch T. Glyn Roberts am ei drefniadau godidog gogyfer a'r gynhadledd, yn ogystal ag i'r Parch Lewis Edwards (ysgrifenydd), a'r Parch R. J. Parry (trysorydd) am eu llafur. Dygwyd prydnawn difyr i ben trwy wneud trefniadau at y gynhadledd nesaf sydd i'w chynal ynglyn a Chyfarfod Tal- eithiol Mai yn Ninbych. Pasiwyd i'r Parch J. Williams Davies, Rhos, agor ym- ddiddan defosiynol. Y pwnc i'w ystyried fydd Ein Bywyd Ysprydol." Am 7 o'r gloch Ilanwyd pulpud Queen Street gan y Parch T. Charles Roberts, Wrexham, a chafwyd ganddo bregeth od- idog i gynulleidfa dda. J. MEIRION JONES.

ILLITH JOHN HENRY.

I - RHUTHYN. I

NODION 0 ABERPENNAR, MOUNTAIN…

NODION 0 LEYN. I

I CAERDYDD.

I DINAS MAWDDWY.

TREGARTH.

BETHESDA, BWLCHGWYN.