Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYNHADLEDD GWEINIDOGION IEUAINCI…

ILLITH JOHN HENRY.

I - RHUTHYN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I RHUTHYN. DARLITH.-Nos Wener, Mawrth 6ed, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, traddodwyd darliih ar Lafar Gwlad" gan y Proffeswr Ivor Williams, M.A., Bangor. Buom yn ffortunus trwy offer- ynoliaeth Mr Hughes, Station House, i gael cadeirydd medrus a galluog yn mherson J. C. Davies, Ysw., M.A. (Organ- iser of Education). Er fod y cadeirydd ddim yn aelod o'r Gymdeithas yr oedd yn hynod gartrefol yn llywyddu, ac yn ngwyneb y ffaith o enwogrwydd y dar- lithydd rhoisotn groesaw i'all comers' i ddod i'r cyfarfod hwn, a gwerthwyd toc- ynau am 6 cheiniog yr un, a'i chynal yn y capel. Daeth nifer lied dda ynghyd, a chafwyd darlith addysgiadol a dyddorol yn mhob ystyr. Yr oedd y darlithydd yn feistr ar yr iaith Gymraeg, a thrwy hynny yn gallu dangos i'w wrandawyr tarddiad llawer iawn o eiriau Cymraeg a'u hystyr. Cafodd y darlithydd wrandawiad astud, a phawb oedd yno yn mwynhau ei sylwad- au. Cynygiwyd diolchgarwch i'r darlith- ydd gan ein parchus weinidog, Parch W. G. William?, yn cael ei eilio gan y Parch T. Prichard, Rheithior Eglwys Llanfwrog. Yna yr un modd y cynygiodd Mr Ivor Williams ddiolchgarwch i'r cadeirydd am lywyddu mor ddeheuig. ac eiliwyd gan Mr Hughes, Station House, a pasiwyd y ddau gynygiad yn y modd arferol yn unfrydol. Ymadawyd wedi canu "Hen Wlad fy Nhadau," a phawb yn dwyn tystiolaeth mai dyma y ddarlith oreu a draddodwyd erioed yn Rhuthyn, ac y mae yma edrych yn mlaen am Mr Williams i ddod yma eto i'n gwasanaethu y tymor nesaf. Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. Nos Iau, Mawrth 12fed, dan lywyddiaeth ein gweinidog, y Parch W. G. Williams, dar- llenwyd papyr gan -Miss Bessie Hughes, B.A., County School, ei thestyn oedd Di- wygiadau Methodistiad Cymru." Yn ddiddadl yr oedd yn ddifyrus dros ben yn enwedig hanes alltudiaeth hen gewri ymneillduaeth y Cymru gan yr Eglwys Sefydledig fel Howell Harris, Dafydd Rolant a'r Curad a fu," sef Williams, Pant y Celyn. ac eraill. Yr oedd yn y papyr sylwadau cryf a chynwysfawr parthed yr erledigaeth a gafodd y rhai oedd yn ymneillduo oddiwrth yr eglwys, a'u penderfyniad i bregethu y gwirionedd fel yr oedd yn Iesu Grist. Hyn a ddywed- Wil ar ol y fath bapyr mai gresyn oedd na fuasai yna ragor o lawer yn bresenol, a ninau fel Cymdeithas yn gwybod' am fedrusrwydd Miss Hughes yn y cyfeiriad yma. Yn wir colled fawr gafodd yr ab- senolion y noson hon, ac mae yn ddiameu y buasai darlleniad o bapur o'r fath yma wedi gwneud lies i'r "Solemn Deputation," a aeth am trip i Lundain y dydd o'r blaen, i geisio wella'r clwyf. Siaradwyd ar y papur gan y Llywydd, ac amryw eraill, ac yn unfrydol y pasiwyd y diolchgarwch gwresocaf i Miss Hughes am ei llafur yn darllen papur mor ddyddorol. Gofidus genym mai hwn oedd y cyfarfod diweddaf o'r Gymdeithas am y tymor presenol, am y gallwn dystiolaethu mai nid ofer a fu ail sefydlu y Gymdeithas, canys da iawn a fu bob cyfarfod a gawsom. DATHLIAD GWYL DEWI SANT.—I'r pwr- pas uchod, ac er coffa am Dewi Sant fe gynhaliwyd gyfarfod undebol i drefwyr Rhuthyn, nos Fercher, Mawrth 4ydd, yn Neuadd y Dref. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Maer (T. J. Roberts, Ysw.) Trodd y symudiad hwn am y walth gyntaf yn hanes ein tref yn hynod o Iwyddianus, a thrwy fod y pwyllgor gweithiol wedi ltrefnu rhaglen mor ddyddorol, ac amserol, llanwyd y Neuadd hyd y drysnu, pob sedd, chadair, a chongl wedi ei meddianu. Ar y llwyfan oedd y cadeirydd a'r Parch J. Fisher, B.D., offeiraid eglwys Cefn, ger Llanelwy (yr hwn oedd yn rhoddi darlith ar hanes Rhuthyn), ac ar bob llaw iddynt 'roedd plant yr Ysgolion Elfenol, yr oedd hefyd ddosbarth o enethod ac athrawesau o'r Sirol, a dosbarth o fechgyn o'r Ysgol Ramadegol. Cafwyd darlith Historical iawn o hanes Rhuthyn, dywedodd fod hanes Rhuthyn yn dechreu ir derfyn y 13eg ganrif, ac mai ystyr yr cnw Rhuthyn yw, rhydd, coch, sef lliw y gareg a adeiladwyd y castell gyda hi. Gwnaeth sylwadau hefyd a'r hen ffeiriau a: marchnadoedd yn y dref. ac am yr hob Rhuthyn, sef y mesur gyda ydau, haidd, cdrch ac felly mlaen. Cawsom wrandaw ar lawer iawn o ganeuon Cyi-nrae- a phenillion fel" Hop y Deri Dando," Ymdaith Gwyr Harlech," Gogoniant i Gymru," y rhai hyn gan blant yr Ysgolion Elfenol. Canwyd pen- illion gan Mr J. H. Simon, Llanrhydd. Unawdau, Nant y Mynydd," gan Madame Maggie Williams, R.A.M., Roscoe, a Gwlad y Delyn," gan Mr Gwilym Dowell. Adroddwyd yn effeithiol Cymru Fydd," gan Miss Bessie Hughes, B.A., a rhoddwyd rhan ganeuon gan y Parti meibion o dan arweiniad Mr R. A. Jones. Cynorthwyid y caneuon gan y Clwydian Orchestra, yn cynwys 11 o offerynau cerdd a'r berdoneg. Arweinydd yr Orchestra oed Mr Bonner Thomas. Cynygiwyd diolchgarwch i'r darlithydd gan y Parch Thomas Prichard, Rheithior Llanfwrog, ac eilwyd gan Nlt Ij. C. Davies, a phasiwyd yn unfrydol. Diolchwyd hefyd i'r Maer am lywyddu ac i Mr J. C. Davies am iddo fod yn offeryn cyntaf i feddw] am y sym- udiad cyhoeddus hwn i ddathlu Gwyl Dewi. Ysgrifenydd y symudiad oedd Mr Baldwin Griffith (Ysg. y Cynghor Trefol). Yrnwahanwyd wrth g-)u Heri Wlad fy Nhadau." Llawer o ganu sydd'ar yr hen Anthem Genedlaeriol y dyddiau hyn. Ac o wneyd ei fuchcdd yn rheol i fyw, I Po nesaf Nat Ddewi agosai at Dduw. j

NODION 0 ABERPENNAR, MOUNTAIN…

NODION 0 LEYN. I

I CAERDYDD.

I DINAS MAWDDWY.

TREGARTH.

BETHESDA, BWLCHGWYN.