Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"Y Gwyliedydd Newydch" SCALE OF CHARGES FOR Small" Prepaid Advertisements IN GWYLIEDYDD NEWYDD." Situations Vacant or Wanted. Apart- ments to Let or Wanted, Miscellaneous Wants and Sales, Houses, Shops, Business, etc., to be Sold, Let, or Wanted, Partner- ships Wanted or Offered, <S-c. One Three Six 13 week. weeks, weeks, weeks s. d. s. d. s. d. s. d. 18 words 1 0 20 3 9 70 30 „ 1 6 3 0 5 9 11 0 40 „ 2 0 4 0 7 9 15 0 50 „ 2 6 5 0 9 9 18 0 63 „ 2 9 5 G 10 6 20 0 In future all "small" advts. sent for inser- tion must be prepaid. The inconven- ience of booking small amounts, and the subsequent expense of collecting the same, renders it necessary that this rule should be strictly observed, otherwise insertion cannot be guaranteed. Trices for larger spaces on application. ALL ORDERS, ADVERTISEMENTS, P. ORDERS AND CHEQUES TO BE SENT TO- The Manager, "The New Watchman," Qelli, Flint Mountain, Flint, North Wales. AT EIN DOSBARTHWYR. Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdyam Saen-dal 0.1/8; dau gopi 3/3; 0 dri i fyny i 6 copi, Ceiniog yr un chwe' copi ac uwchlaw hyny, 10c. y dwsin. Pan anfonir i Wledydd Tramor, bydd y prisiau uchod yn uwch, yn ol fel y byddo y tal am y cludiad. ANFONER POB ARCHEBION F.RBYN BOREU SADWRN YMI-IOB WYTI-INOS I'R- Rheolwr, "OwyJiedydd Newvdd, Y Gaiii, Coed-y-Flint, Flint, Gogledd Cymru. KSP'Ni ellir gwneud gostyngiad ar gyfrif copiau heb eu gwerthu, ac erfynir am i'r dosbarthwyr ohehu yn ddioedi a'r Rhe- olwr pan y bo'nt yn derbyn mwy o gopiau nag y gellir eu gwerthu. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter, ac oddigerth mewn amgylchiadau eithriad- 01 iawn, ni ellir rhagllaw aMon y papur am fwy na mis ar ol terfyn y chwarter i unrhyw ddosbarthwr a fo heb dalii ei gyfrif. k TO OUR AGENTS. TERMS. On copy of "Gwyliedydd Newydd" for One Quarter with Postage Ppaid-lJ8; Two Copies of .Gwyliedydd Newydd" for One Quarter with Postage Prepaid- 3/3; Three, and up to 6 Copies, will be sent at the rate of One Penny per Copy Upwards of 6 Copies—lOd. per Dozen. No allowance can be made for returns; and the Agent is earnestly requested to communicate with the Manager when he is in receipt of more copies than he can sell. When copies are sent to Foreign Countries, the above prices will vary according to postal charges. fS&*No Parcels will be sent to any Agent whose Account is more than One Month overdue. ALL ORDERS TO BE SENT FOR SATURDAY MORNING EACH WEEK TO— The Manager, "New Watchman," Flint Mountain, Flint, North Wales. AT EIN COHEBWYR. CYFEtRIER POB GOHEBIAETH- Y Golygydd, "Owylledydd Newydd Y Oelli, Coed-y-Flint, Fliitt, Gogiedd Cymru. Anfoner Newyddion erbyn boreu Iau neu byddant yn rhy hwyr. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser, a phob item ar ddalen wahanol. Rhodder VrlVa sg neu Press News ar yr amlen. Os yn anfon gair cyfrinachol rhoddwch stamp ceiniog. Os na wneir hyn rhaid ini dalu yn ddwbl. Jiaid i bob G)hebydd-hen yn ogystal a newydd—anfon ei enw a'i gvfeiriad bob tro.
At ein Dosbarthwyr an Derbynwyr.i
At ein Dosbarthwyr an Der- bynwyr. Yr ym ar ben y chwarter yma wedi derbyn llawer o gwynion oddiwrth y Dosbarthwyr, nad yw eu parseli ambell wythnos wedi dod i'w Haw o gwbl, ac ambell wythnos arall fod y parcel un neu ddau neu dri yn llai nag a ddylai fod. Pan y digwydda fel hyn diolchwn am air gyda'r post cyntaf, er mwyn i ni geisio gwneud pethau yn ia wn- peidier aros heb anfon hyd ddiwedd y chwarter. Eto, pe digwyddai i rywun beidio derbyn Receipt, o leiaf ymhen tridiau wedi derbyn y tal, diolchwn am air. Mae Postal Orders yn colli weithiau yn y tran- sit, neu rywle. Yn awr y mae yn amhosibl ymorol am danynt os na cheir y gwyn yn ddiymdroi. Diolchwn os bydd ein Dosbarth- wyr caredig fwyned a chadw y pethau hyn mewn cof. Gair arall, rhaid i ni atal anfon y "Gwyliedydd" i'r rhai fyddo a mwy nag un chwarter yn ddyledus. Rhoddwn ein llafur gvdag ef o galon, heb unrhyw dal, ond ni allwn fforddio mynd yn gyfrifol tres fesur gyda'i gvllid yn y banc. Mae y corff o'n dosbarthwyr yn brydlon a rheolaidd iawn. Diolch lawer iawn i chwi, frodyr hoff, ond y mae eraill dipyn yn anghofus.
[No title]
1 ■■ »» 'f' Un o'r materion yr Undeb yr ymdrinid ag ef yn Eglwysi. Nghyngrhair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, a gynhaliwyd yn Ninbych, yr wythnos o'r blaen oedd "A ellir dwyn yr eglwysi efengylaidd i fwy o undeb os gellir, sut ?" Agorwyd y mater gan y Parch J. Puleston Jones, M.A., Pwllheli, yr hwn a gyfeiriodd at awgrymiadau wnaed tuag at gael mwy o gyd- weithrediad. Un o honynt ydoedd cael llyfr emynau ar gyfer yr holl enwadau. Credai y byddai hyn yn help, a buasai ef yn barod iawn i dderbyn yr Eglwys Sefydledig i'r undeb, pe ond heb feddwl nad oedd hi yn barod i hynny. Ar y cyfan, credai ef mewn cael cyttundeb rhwng y gwahanol enwadau yn hytrach nag undeb, ac fel moddion i sicrhau hynny, anogai gynnal dosbarthiadau Be:blaidd unol a chyfarfodydd gweddiau mewn Ile- oedd ag yr oedd lliosogrwydd cy farfodydd yn rhwystr diangenrhaid i lwyddiant mewn mwy nag un cyfeiriad. Y Parch Thomas Hughes, Llan dudno, a ddywedai fodyna undeb ysbtydol eisoes yn bodoli. Dadleu- ai dros gael gwell trefniadau er pa'rotoi ymgeiswyr at y weinidog- aeth, a mwy o ofal wrtti dderbyn y cyfryw ymgeiswyr. Credai fod gaiddvnt ormod o weinidogion ordeiniedig, ac onibae am hynny, buasai yr EglwysiRhyddion wedi dyfod yn fwy agos at eu gilydd. Yr oedd yr enwadau yn y gorffenol wedi gwneud gwaith rhagorol er 1 lwyddiant ysbrydol y wlad, ond yr oedd ganddynt yn awr anhawder- au newyddion i'w gwynebu, ac yr I I oedd hyn yn galw arnynt i uno eu rhengau.
[No title]
Un o faterion eraill y Gormod o Cyngrhair oedd Y Gapeli. niwed a ddeillia o or- liosogi capelau." Ag- orwyd ef gan y Parch. W. O. Evans, Lerpwl. Pe cymerid ffeith- iau i ystyriaeth, ebai Mr Evans, nis gellir amheu'r gosodiad fod gor- mod o gapelau yng Ngogledd Cymru, oblegid yr oedd llawer mwy o eisteddleoedd wedi eu trefnu yn y capelau a'r ysgoldai nag oedd rhif y boblogaeth, heb gymeryd i ystyriaeth yr eglwysi sefydledig. Er enghraifft. yn sir- oedd Mon, Arfon, a Meirionydd, darperid eisteddleoedd yn y capel- au Ymneillduol nid yn unig i bob dyn, dynes, a phlentyn o'u mewn, ond gyda hynny 1 33,479 o bobl yn chwanegol. Yr oedghyn yn wir, hefyd, yn mherthynas j'r trefi-Ile i lawer o filoedd o bobl uwchlaw rhif y boblogaeth. Ar^un Haw yr oedd lliosogiad capelau yn destyn diolch, oblegid tystiept i grefydd- older Ymneuilduaetfl "gynnyrchiol y genedl. Yr oedd pob capel yn gof-golofn i haelioni a hunanym- wadiad y bobl. Er hynny, o edrych ar y mater oddiar safle uchel ac eang, rhaid addef fod gor-liosogi capelau yn achlysur colled a niwed mewn ami i gyfeiriad. Bernid fod gwerth yr holl eiddo Ymneillduol yn Ngogledd Cyna'u'-yn ddwy filiwn a chwarter o bunnau, a chy- frenid yn flynyddol tuag at gynnal 4." 0 0 0 p. Tystiai yr achosion tua 225,000p. Tystiai hyn i haelioni gwerin Cymru, ond er hynny, yr oedd llawer achos yn gruddfan dan feichiau anhawdd eu dwyn. Peth costus ryfeddol oedd cystadleuaeth enwadol. obJegid yr oedd yn esgor ar gostau diangen- rhaid. Suddid arian yn ormodol mewn ceryg a chalch ar draul tlodi'r weinidogaeth a lleihau eff eithiolrwydd yr eglwysi. Nid da ydoedd amlhau yr achosion gartref tra paganiaid wrth y miliynau yn amddifad o'r Efengyl. Onibae am gystadleuaeth enwadol diamheu y gellid cyfranu mwy, nid mewn arian yn unig, ond, hefyd, mewn dynion i'r gwaith cenhadol. Tuedd y Cymry ydoedd croni ffrydiau eu sel mewn llynoedd bach yng Nghymru, yn lie gadael iddynt redeg allan yn afonydd i ddyfrhau'r byd. Yr oedd gor liosogi capelau yn golygu gor-liosogi pregelhwyr, a thuedd hynny drachefn ydoedd gostwng safon y weinidogaeth. Pe gellid symud ymaith ragfarnau enwadol mewn llawer ardal, a pherswadio y cynulleidfaoedd i ymuno mewn un capel, fe wedd- newidid achoscrefyddyn bur fuan. Yn lie dau neu dri o achosion gweiniaid yn dyhoeni ar wahan, ceid un achos cryf a chryno, a rhoddai hynny ysbryd newydd i'r bobl, a chalon newydd i'r gweini- dog. Wrth derfynu awgrymai Mr Evans fod i bwyllgor arhosol gael ei sefydlu o ddyaion mwyaf dylan- wadol y Cyfundebau i'r amcan o attal cystadleuaeth enwadol mewn ardaloedd sydd yn dadblygu, yn gystal ag i ddarparu ar gyfer y lleoedd a egeuluswyd. -———— »» » —————
[No title]
Yn ei anerchiad yng Eglwys nghyfarfod cyhoeddus Sefydledig a y Cyngrhair uchod, Moesoldeb. gwnaeth y Prif Ath raw Thomas Rees, Bangor, sylwadau byw iawn yng- hylch perthynas Eglwys Sefydledig a moesau cyhoeddus Dywedai fod rhagolygon Ym. neillduaeth yn llawer mwy yn awr nag y buont yn y gorphenol: Wrth siarad a nifer o wragedd yn Llun- dain y dydd o'r blaen, dywedai esgob Llanelwy fod Ymneilldu- aeth, ac yn enwedig y syniad o ryddhad crefydd yn Nghymru, ddechreuodd yn 1811, yn awr yn marw o fodolaeth. Yr oedd hyny yn ddarlleniad mor anghywir o hanes a dim allai fod yn bosibl. Yr oedd hanes Cristionogaeth yn cael ei ranu i dri chyfnod pwysig. Y cyntaf ydoedd cyfnod y Testa- ment Newydd, pryd y sylfaenid crefydd ar ffydd yn Nghrist. Yr oedd crefydd y pryd hwnnw yn golygu undeb ysbrydol a Christ, ac nid undeb allanol alr Wladwriaeth. Yr ail gyfnod ydoedd pryd y daeth Philosophyddiaeth Groeg i gymer- yd lie Cristionogaeth daeth Crist- ionogaeth baganaidd i gymeryd lie addoliad Cristionogol a daeth gallu Ymherodraeth Rhufain i fod y gallu llywodraethol ar Gristion- ogaeth. Y trydydd cyfnod ydoedd adferiad Cristionogaeth, yn dech- reu gyda'r Diwygiad Protestan- aidd yn y wlad hon, gan dyfu ar hyd llinellau Ymneillduaetl-4 pa un yn raddol oedd wedi bod yn darganfod ei gwir egwyddorion, gan ymwithod undeb a'r 'Wladwr- iaeth; peidio dibynu ar alluoedd bydol, a gwrthod credoau a wthid gan Senedd ac yn awr yr oedd Ymneillduaeth yn edrych yn-mlaen I at sylweddoliad llawnach o brif egwyddorion Cristionogaeth foreu- ol. Yr oedd Eglwys Sefydledig yn sefyll ar ffordd dyrchafiad bywyd moesol y wlad. Yr oedd ar sylfaen orfodol, ac yr oedd ei dibyniaeth I ar Wladwriaeth yn parlysu ei dylanwad moesol. Fel mater o ffaith a hanes yr oedd yr Eglw: wedi bod ar ochr ygormeswyr." Yn y frwydr gyda'r fasnach feddwol yr oedd yr Eglwys wedi bod ar ochr y bragwyr. Yr oedd gwrth- wynebiad Mr Ormsby Gore, A.S., i ddarlleniad cyntaf mesur Syi Herbert Roberts yn profi yr hyn a ddywedai. Aeth y Prifathraw Rees yn mlaen i gyfeirio at y Protest Ymneillduol,' gan ddy- weyd fod Eglwyswyr yn temtio Ymneulldtiwyr oeddynt mewn safle ddibynol i fradychu eu heg- wyddorion. Yr oeddynt yn myned tu cefn i'r Ballot Act, ac yn ceisio ail chwareu trie 1868. Yr oedd Dadgysylltiad i glirio y dec o bob rhwystrau ag oedd Eglwys Sefyd- ledig yn eu gosod ar ffordd moesoli y wlad. Edrychent yn mlaen fel Ymneillduwyr am gael rhoddi mwy o yni er ymladd a phechod a gormes ac anghyfiawnder. Nid oedd Dadgysylltiad ond un cam bychan—angenrheidiol iawn—yn nghynnydd Ymneillduaeth yn ei mynediad i mewn i etifeddiaeth Cristionogaeth oedd yn gorwedd o'i blaen. »» »
[No title]
Y mae yr holl fyd Mr Asquith fel gwleidyddol wedi Ysgrifenydd ei daraw a syndod Rhyfel. neillduol. Y mae y Milwriad Seely wedi ymddiswyddo yn derfynol fel Gweinidog Rhyfel, ac y mae y Prifweinidog wedi ymgymeryd a'r swydd. Dywedodd Mr.Asquith fod hyn wediderbyncymeradwyaeth y Brenin. Ar gynghor swyddogion y Gyfraith, y mae Mr Asquith wedi penderfynu sefyll etholiad ynrhan- barth East Fife, yn Ysgotland, ar ei dderbyniad o swydd arall dan y Goron. Y mae Syr John French a Syr Spencer Ewart, hefvd, wedi ymddi- swyddo oddi ar Gynghor y Fyddin, a dymuna y swyddogion hyn wneud yn hysbys eu bod yn ymddi- swyddo nid ar gyfrif unrhyw wa- haniaeth gyda'r Llywodraeth ar faterion o bolisi, ond yn syml am eu bod wedi arjvyddo y dadganiad o sicrwydd' i'r cadfridog, pa un a wnaed yn ddirym gan y Llywod raeth wedi hynny. Fe gofir fad Arghvydd Morley yn un o'r rhai oedd mewn cvsylltiad a'r dadganiad a nodwyd, a c'nredid y byddai iddo yntau ymddiswyddo, ond nid felly y mae erys ef yn ei le. Gadawodd Mr Asquith y Ty yng nghanol banllefau uchel y Rhydd- frydwyr, aelodau Plaid Llafur, a'r Cenedlaetholwyr. Yr oedd y cyffro mwyaf yn bodoli, ac yr oedd yn amlwg fod dyfarniad y Prifweini- dog i weithredu fel Ysgrifenydd Rhyfel-am dymor beth bynag- yn ogystal a Phrifweinidog, yn rhoddi boddhad neillduol i'w gefn- ogwyr; a i fod trwy hyn wedi llwyr droi y byrddau ar y Toriaid, a chymeryd y gwynt yn gyfangwbl o'u hwyliau. Tybir mai Syr Edward Grey, yr Ysgrifenydd Tramor, fydd yn gweithredu fel arweinydd y Ty yn absennoldeb Mr Asquith, tra y bydd ef yn brysur gyda'r etholiad. Y mae Mr Asquith yn cynnrych- ioli East Fife ers wyth mlynedd ar hugain, ac yr oedd ei fwyafrif yn Rhagfyr, 1910, yn 1,799. Nid oes yr un Prifweinidog. Prydeinig o'r blaen wedi bod yn dal y swydd o Ysgrifenydd Rhyfe:, er fod amryw wedi dal swyddi eraill ynglyn a'r swydd o Brif Ar- glwydd y Trysorlys. Mae yn amlwg fod y Llywod- raeth am ymafael yn Mhwnc y Fyddin o ddifrif, ac onid oes eisieu ?
[No title]
Hyd yma nid yw y Cyfrwystra. Torriaid wedi pen- derfynu gwrthwyn- •ebu Mr Asquith: Honnaiu nad ydynt am wneud hyn er mwyn rhoi cyiie i Mr Asquith "amddiffyn y fyddin rhag ymosodiadau personau eithafol ac annoeth." Y fath rag- rith. Ofn sydd arnynt, hynny yw y gwir. Cafodd Mr Asquith dder- byniad ardderchog heddyw yn Fife.
Yr Annibynwyr a Dadgysylltiad.
Yr Annibynwyr a Dadgysylltiad. Yr wythnos ddiweldaf pasiodd Annib.nwyr "Gorllewin Morganwg y y penderfyniad hwn ynglyn a Dadgys- ylitiad 'Fed y Gynhadledd hon yn mawr lawenhau wrth weled arwyddion amlwg y d:, sir Mesur Datgysylltiad Eglwys Lloegr yng Nghymru yn llwyddianus irwy y Senedd ar fyrder, ac fod y Gin ha.dledd yn ymrv-rno i gefnogi y Llywodraeth hyd c; hAf ei gallu tra y glynir wrth y Mesur fel y mae, heb unrhyw newid a cbyfaddawd pellach. Tra yn mawrhau gwasanaeth yr Aelod- au Cymreig ya y gorphenol, apelia y Gynhadledd yn daer atynt i bsidio llaesu dwylaw hyd nes y gwelir y Mesur yn fuddugol ar ddeddf-lyfr y wlad.'
IWyr Henry Rees.
Wyr Henry Rees. Mae'r Times bob amser yn rhoddi llythyren fras i esgob, a rhoddwyd llythyren fras i esgob Llanelwy i dynnu sylw at y ffaith fod wyr yr anfarwol Henry Rees wedi llaw- nodi deiseb yn erbyn Dadwaddol- iad! Cyfeirio y mae at Mr J. R. Davies, Menai Bridge. Nid wyf yn meddu y fraint a'r anrhydedd o adwaen y boneddwr, ond yr wyf yn cofio yn reit dda y don o gywil- ydd redodd dros Gymru gyfan pan roddwyd gweddillion ei anfarwol daid yn y ddaear yn y fynwent fach ar lan y Menai. Er fod mawrion Methodistiaeth yno yn llu mawr yn angladd y tywysog- bregethwr, chafodd yr un ohonynt agor ei enau! Rhyw berson bach dinod aeth drwy y cyfan o'r gwaf- anaeth. Wrth gwrs heretic oedd HenryRees, a hereticiaid oedd pob Methodist yn y lie. Person y plwyf yn unig oedd o-rdeiniedig y nef- oedd.' Dyna'r fel y claddwyd Henry Rees! Wyr i'r dyn mawr hwnnw sydd ar hyn o bryd yn ceisio atal ei gyd-Ymneilltuwyr yng Nghym- ru i gael cydraddoldeb crefyddol.