Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

GAIR AT MR. WILLIAM I RICHARDS.

DAMHEGION YR ARGLWYDD IESUI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAMHEGION YR ARGLWYDD IESU I GRIST, GAN Y PARCH ROBERT W. JONES. Dyma lawlyfr hwylus gyhoeddwyd yr wythnos hon gan ein Llyfrfa at wasanaeth Dos. II. a III, yn ein Hysgolion Sabbothol, ac nid oes amheuaeth ar ein meddwl ar ol ei ddarllen y caiff dderbyniad cynnes a chylchrediad mawr. Llwyddodd yr awdwr i grynhoi i gylch bychan wybod- aeth lawer. Yn ei Ragarweiniad rhydd 1, Ystyr y gair dameg 2, Y gair'dameg yn y Bibl; 3, Darnodiad o Ddameg 4, Dameg ac ymadroddion ffigyrol eraill; 5, Dibenion y Damhegion 6, Dehongliad y Damhegion 7, Rhifedi'r Damhegion 8, Dosbarthiad y Damhegion. Ymddengys mai y Rhan I. yn unig yw hwn, ac ymdrin- ir ynddo a 14 o'r damhegion. Ceir ym- driniaeth lwyr, glir a meistrolgar ar bob un ohonynt, dihysbydda bob dameg, ac anodd meddwl beth rhagor allesid ei ddweyd ar yr un ohonynt. Dyma ei ran- mad o un ohonynt er engraifft 1, Arben- igrwydd y Ddameg 2, Achlysur llefariad y Ddameg; 3, Rhai o dermau'r Ddameg; 4, Pwyntiau amlwg yn y Ddameg 5, Neges neillduol y Ddameg G, Gwers gyff- redinol y Ddameg. Terfynna ei sylwadau ar ddameg aral fel hyn, Deil y ddameg i'w chymhwyso hefyd at wrandawyr yr Efengyl yn y dyddiau hyn. Dyna wers neu dciwy," &c., a dengys berthynas y ddameg a bywyd Cymru heddyw. Gochelodd rhag darllen i mewn i'r damhegion fwy nac sy'n gyf- reithlon, ac mae'n amlwg nad oes ganddo gydymdeimlad a'r sawl wna hynny. Eto gofalodd ddwyn allan gennadwri pob dameg a'i gosod ger ein bron yn glir ac yn effeithiol. Dengys y Llawlyfr drwyddo, feddwl annibynnol, ol astudiaeth fanwl, a medrusrwydd eithriadol i gyfleu y wybod- aeth mewn arddull ddealladwy a swynol. Y mae delw naturioldeb ac yspryd diym- hongar yr awdwr at ei waith. Dywed yn ei Ragarweiniad mai Anhebgor yr athro llwyddiannusydyw deheurwydd i ddeffro'r disgybl i ddarganfod y gwirionedd drosto ei hun." Nis gwyddom am gynhorthwy gwell i athrawon ein Hysgolion Sabbothol i wneud hyn ynghlyn a'r damhegion na'r Llawlyfr hwn. Yr ydym yn ddyledus iawn i'r awdwr ac i'r Llyfrfa am y cyfraniad gwerthfawr hwn at lenyddiaeth ein Hys- golion Sabbothol. Y mae i'w gael yn y Llyfrfa am y pris rhesymol o 4c yr Un, neu 3/3 y dwsin. CHARLES JONES. I

I BYCHANU CRIST. I

BWRDD Y GOL. -1

ABERTAWE.I

TREORCHY. I

COEDLLAI. I

COLWYN BAY. --I

Advertising

NODION 0 LEYN.-I

DINBYCH. !

NODION 0 GAERDYDD.

BRONYNANT.

11Asquith.