Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
GAIR AT MR. WILLIAM I RICHARDS.
GAIR AT MR. WILLIAM I RICHARDS. Anwyl Frawd,-I)ia i'r byd Wesleaidd yw gweled pwy ydych o'r diwedd. ond am ddeall eich safle riid yw neb yn fawr nes i'r lan. Gwelir hyn, fodd bynag, mai i'r hen ysgol y perthynwch, ac mai ynddi yr ym- ogoneddwch, ac nad oes ynoch fawr o awydd i wir ddeail, heb son am dderbyn diwinyddiaethsafonoPeich hoes. Par hyn nad oes bron dditn yn gyffrcdin cydrhyng- om, gan eich bod gymaint ar eich pen eich hun—Mr W. Richards ynerbyn holl ddiw- inyddion cymedroT ei ddydd. Y mae dadlu i bwrpas o dan y fath amgylchiadau yn beth annelwig iawn, ond rhaid gwneyd y goreu o bethau fel y maent, er budd y gwirionedd. Heblaw hyny, fe ddanghos- wch y fath ragfarn fel y mae yn amheus genyf a ydych yn agored i unrhyw oleuni, yn enwedig, gan y gosodwch eich hun yn erbyn nid un na dau, ond yn ymarferol holl ddiwinyddion o bwys yn y deyrnas. Nicharwnfod yn angharedig gyda chwi, ond gwyr pob dyn cyfarwydd pa farn i ffurfio am danoch. Er yn hen ffasiwn eich syniadau, chwedl chwi, dylech betruso Jlawer rhag bod yn rhy honiadol. JParhewch i fyntamio'n facia ac i hgp"n ddisail ar eich. Cyfcr arti em diwinyddion mawr. Da chwi, rhowch hyn i fyny, er eich mwyn eich hun, arwydd sal yw, a bwrn ar bawb deallgar, mi goeli^f. Perchir gwir ddysg gan fawredd a diwilliant bob amser ac nid oes ond corach a wna yn am- gen, Gg9: barn cariad, arweinir fi i gredu nad ydych wedi meistroli eu gweithiau i bwrpas, onide fe welsech fod ganddynt, yn mhethau mawr Duw a chrefydd, Grist- wybodused a'r eiddoch chwithau, bob mymryn. Credant, loewed a chwithau, mai Crist yw athro crefyddol anffaeledig y byd, er yn addef fod cyfyngu yn ei wy- bodaeth ddynol. A chydallaw, sut y gallai Crist fod yn wir ddyn heb wybodaeth ddynol, ac un o nodau hono yw cyfyngiad —gwybodaeth yn tyfu trwy ddatblygiad ac o dan gyfyngiadau dynol ydyw. Gall- wch fod yn dawel eich meddwl, frawd, y tystia diwinyddion diweddar fod ganddynt Grist-wybodused a'r eiddoch chwithau, ie, ac un mwy na chwi, sef Crist gyda phiofiad dynol gwir a buddugoliaeth&u moesol Ilawn-Crist wedi'L demtio ym mhopeth yr un ffunud a ninau, etc h,1) bechod." Nid y,r Crist hwn genych chwi oi oedd yn lioll-wybodol yn nyddiau Ei gnawd- Ni ellir temtio holl- wybodaeth, mewn llavrer engraifft, am fod hyny'n tori min yr hudol- iaeth bechadurus. Yn ol Dr Peake" There are some temptations, and those amongst the most difficult to resist, which would be impossible to omniscience. They derive all taeir power from the imperfection of know- ledge in those to whom they are addressed. Knowledge is a counter-spell which breaks at once the fascination they would cast over them." Gan hyny, pa ystyr sydd i brofiad dynol, temtasiynau, a buddugol- iaethau moesol Crist, os oedd yn holl- wybodol yn nyddiau ei gnawd ? Y mae Dr Peake, a diwinyddion galluocaf yr oes, yn methu gweled hyny, ond hwyrach y gallwch chwi roi goleuni Ilachar i ni ar y pwnc. Gyda hyder dihysbydd ynoch eich hun dylech fedru gwneyd yr hyn nad all y rhai hyn, gyda'u holl addysg, disgyblaetb, a'r blynyddoedd a roddasant i'r pwnc. Ccfiwch, hefyd, mai nid mympwy un reu ddau o ddiwinyddion eithafol yw hyn, ond barn oleu bob diwinydd ceidwadol o bwys, a'r "ddadl ar y pwnc wedi ei chau," ys dywed Dr Mackintosh. Pelican yn yr anial ydych yn y peth hwn, a buasai'n dda gan bawb, mi goeliaf, eich gweled yn fwy gwylaidd pan yn siarad am y dynion hyn. Prun bynag, y mae dyn yn blino arnoch yn darllen eicu mympwyon honiadol a disail i fewn i ddiwinyddiaeth dynion dysgedig sy'n barnu'n wahanol i chwi, yn unfryd. Yn y fan yma heriaf chwi i ddangos i mi fod Crist yn rhywle'n ystod ei fywyd ar ddaear yn honi holl-wybodaeth. Difynwch yr adnod os gallwch. Danghosais, eisoes, iddo ddatgan Ei anwybodaeth am amser Ei ail-ddyfodiad-danghoswch chwitjaau i minau yn mha le y detgyn Ei hell-wybod- aeth. Rhoddaf, fel hyn, short cut i chwi at wreiddyn y maier, a chyfle i brofi eich pwnc ar un ergyd. Gyda llaw, oni wna ychydig benwaig les i chwi weithiau ? Paham y diystyrwch hwynt? Cynwysant gryn fesur o 'phos- phorus '—nwydd da, fe ddywedir, at gryf- nau seiliau anianyddol y meddwl, ac y mae perthynas agosach cydrhwng penwaig a gweledigaethau diwinyddol clir nag a feddyliwch, yn ami. Treiwch ambell un, yn awr ac yn y man, fel newid, a rhag mynd yn hollol' out of-touch a meddwl eich hoes. Cwynwch nad wyf wedi ateb eich gof- yniadau, ond, mewn difrif, a ydych yn dis- gwyl hyny yn awr ? A farnwch eich gof- yniadau yn deg yn wyneb yr honiadau di- brawf sydd ynddynt ? Gan na dderbyniaf yr honiadau di-sail sydd ynddynt, pa ystyr sydd i'ch gofyniadau i mi ? Rhag ofn nad ydych yn deall fy meddwl, rhoddaf eglureb fach i chwi. Golygwch eich bod yn gofyn i mi-" Pa bryd yr ymedy John Jones a'i gartref am y coleg, er mwyn mynd yn weinidog?" a mod innau'n gwadu fod John Jones yn mynd i'r coleg o gwbl, pa ystyr fyddai i "pa bryd" eich gofyniad? Pa rym fyddai yn y cwestiwn o gwbl gan fy mod yn gwadu'r honiad disail sydd ynddo ? A dyma nodwedd eich gofyniadau i mi. ac yr ydych ddiniweitied a disgwyl i mi ateb gofyniad mor anheg ac anmher- thynasol. Caniatewch, yn hollol heb brawf, fod priodoli cyfyngu yng ngwybod- aeth ddynol lesu Grist yn ei ddi-dduwio," a gofynwch gwestiwn i mi yn seiliedig ar honiad ddisail o'r fath, ond gan fy mod yn gwadu eich honiad, atolwg Mr Richards, pa ystyr sydd i'ch cwestiwn i mi, o gwbl ? Gofynwch ef i rywun sy'n credu eich hon- ia 1, os gallwch gael un yn rhy w gongl o'r Cread neu ynte protwch, o'm hysgrif, a'r diwinyddion a nodais, fod sail eich gofyn iad yn gywir i gychwyn. Ni s/mudaf gam gyda chwi nes y gwnewch hyn. Tramwywch hyd a lied eich diwinyddiaeth hen faint fynnoch mae y gwr y sonir am dano yn Job, ond er mwyn anrhydedd a thegwch gwnewch hyn,. yn mlaenaf oil, ac ar wahan i hyn ni thycia'r llu side-issues a godwch ddim. Os nad allwch wneyd chwareu teg a phenwaig, dylech fod yn deg ar y pwynt hv. n a godasoch ac nid rhedeg yn llwfriaidd oddiwrtho. Y mae codi pwynt pero'o! mewn gofyniad, rhedeg i bobman oddiwrtho, a chodi pwyntiau eraill i'w gymylu yn anheg, a dweydvy lleiaf. Y pwynt arall a godasoch ydyw fod un ysbryd yn mherson rhyfedd ein Gwaredwr yn cau allan y posibilrwydd o gyfyngu yn ei wybodaeth ddynol. Gan hyny, gofyn- ais inau pa fodd yr esboniwch anwybod- aeth Crist o amser Ei ail-ddyfodiad ? Atebwch chwithau trwy greu anhawster o gyfeiriad athrawiaeth y Drindod—codi ail bwynt i geisio cymylu'r cyntaf. Nid yw hyn yn ateb o gwbl, oblegid nid ydyw'r anhawster a giewch yn esbonio ymaith, nac yn dileu, datganiad Crist o'i anwy- bodaeth, erys hwnw ar eich ffordd er gwaethaf pob anhawster a welwch. Ni all mil o ddogmatic assertions' ddiddymu datganiad syml a phlaen lesu Grist Ei hun. Ni aliaf fi weled ond un ystyr i'r anhawster a grewch, sef, dangos fod perthynas y personau Dwyfol a'u gilydd yn y Drindod yn ein gorfodi i gasglu fod datganiad Crist am dano Ei hun yn ffug—yn mere pre- teure," chwedl y Sais. Yn ol yr anhawster a godwch ni allai Crist beidio gwybod am Ei ail-ddyfodiad, ac felly ffug neu put on" ydyw Ei ddatganiad plaen a syml. Gwyddai yn burion," medd yr anhawster a grewch, na wn," ebai lesu Grist Ei Hun. Welwch chwi, frawd, y mae un peth gwaeth na bod yn Undodwr.-gwneyd y Cristgonestachywiryn ffug a'sham,' a gwareded y nefoedd chwi rhag hyny. Na, y mae'r pwynt a godasoch vn aros J¡yb ei brofi. ac ni ellwch ei brofi tra bo datganiad Crist o'i anwybodaeth am amser Ei ail-ddyfodiad ar eich ffcrdd. Codwch faint fynoch o anhawsterau—a- y mae hawdded ag anadlu, gydag athrawiaeth J sy'n ddygyfor ohonynt ac nid oes slsiau Jlawer o gywreinrwydcl at y gwaith— coehaf, y gallaf godi d wy am bob un a godwch chwi-ond, da chwi, profwch y pwyntiadau a godasoch cyn rhedeg at rai eraill. Gwnewch hyn fel pwnc o deg- wch a chwi eich hun, heb son am wneyd tegwch a'r diwinyddion a fychanwch mor ddigywilydd. Nid af ar ol ddim arall, hyd nes y gwnewch yr hyn a ddylech gyda graen a gras, ac os nad allwch rhoddwch eich ffidil hen yn y to, a dysgwch beidio darllen eich honiadau disail i mewn i ysgrifau dynion sy'n credu yn wahanol, ac mor gydwybod- ol a chwithau. ¡ Y mae gwedd arall i ofyniadau, dywed- iadau, ac erfyniadau lesu Grist, ie, hyd yn oed i'r rhai a ddewiswch mor unochrog i'ch pwrpas, ac y mae'n rhaid i'r syniad cywir am Berson Crist gynnwys y ddwy ac nid un, mal y tybioch. Ni all dim a ddif- ynnwch chwaith ddileu yr ansicrwydd sydd yng ngweddi Crist yn yr ardd. Prun bynnag, profwch sail yr honiadau a nodais i gyehwyn yn lie neidio fel ceiliog-rhedyn i bob man i'w hysgoi. Hyn yn unig a ddisgwyliaf yn eich nesaf, ac ni sylwaf ar ddim arall—arbeda hyn pob ofer-drafferth i chwi. Syhvch, os gwelwch yn dda. Yr eiddoch, &c., Abergele, JOHN KELLY. I Mawrth Slain, 1914.
DAMHEGION YR ARGLWYDD IESUI…
DAMHEGION YR ARGLWYDD IESU I GRIST, GAN Y PARCH ROBERT W. JONES. Dyma lawlyfr hwylus gyhoeddwyd yr wythnos hon gan ein Llyfrfa at wasanaeth Dos. II. a III, yn ein Hysgolion Sabbothol, ac nid oes amheuaeth ar ein meddwl ar ol ei ddarllen y caiff dderbyniad cynnes a chylchrediad mawr. Llwyddodd yr awdwr i grynhoi i gylch bychan wybod- aeth lawer. Yn ei Ragarweiniad rhydd 1, Ystyr y gair dameg 2, Y gair'dameg yn y Bibl; 3, Darnodiad o Ddameg 4, Dameg ac ymadroddion ffigyrol eraill; 5, Dibenion y Damhegion 6, Dehongliad y Damhegion 7, Rhifedi'r Damhegion 8, Dosbarthiad y Damhegion. Ymddengys mai y Rhan I. yn unig yw hwn, ac ymdrin- ir ynddo a 14 o'r damhegion. Ceir ym- driniaeth lwyr, glir a meistrolgar ar bob un ohonynt, dihysbydda bob dameg, ac anodd meddwl beth rhagor allesid ei ddweyd ar yr un ohonynt. Dyma ei ran- mad o un ohonynt er engraifft 1, Arben- igrwydd y Ddameg 2, Achlysur llefariad y Ddameg; 3, Rhai o dermau'r Ddameg; 4, Pwyntiau amlwg yn y Ddameg 5, Neges neillduol y Ddameg G, Gwers gyff- redinol y Ddameg. Terfynna ei sylwadau ar ddameg aral fel hyn, Deil y ddameg i'w chymhwyso hefyd at wrandawyr yr Efengyl yn y dyddiau hyn. Dyna wers neu dciwy," &c., a dengys berthynas y ddameg a bywyd Cymru heddyw. Gochelodd rhag darllen i mewn i'r damhegion fwy nac sy'n gyf- reithlon, ac mae'n amlwg nad oes ganddo gydymdeimlad a'r sawl wna hynny. Eto gofalodd ddwyn allan gennadwri pob dameg a'i gosod ger ein bron yn glir ac yn effeithiol. Dengys y Llawlyfr drwyddo, feddwl annibynnol, ol astudiaeth fanwl, a medrusrwydd eithriadol i gyfleu y wybod- aeth mewn arddull ddealladwy a swynol. Y mae delw naturioldeb ac yspryd diym- hongar yr awdwr at ei waith. Dywed yn ei Ragarweiniad mai Anhebgor yr athro llwyddiannusydyw deheurwydd i ddeffro'r disgybl i ddarganfod y gwirionedd drosto ei hun." Nis gwyddom am gynhorthwy gwell i athrawon ein Hysgolion Sabbothol i wneud hyn ynghlyn a'r damhegion na'r Llawlyfr hwn. Yr ydym yn ddyledus iawn i'r awdwr ac i'r Llyfrfa am y cyfraniad gwerthfawr hwn at lenyddiaeth ein Hys- golion Sabbothol. Y mae i'w gael yn y Llyfrfa am y pris rhesymol o 4c yr Un, neu 3/3 y dwsin. CHARLES JONES. I
I BYCHANU CRIST. I
BYCHANU CRIST. I Anwyl Syr,-Dywed y Parch R. Lloyd Jones yn ei Esboniad ar Efengyl loan fod gofyniad Crist i Mair a Martha-" Pa le y dodasoch chwi ef"? gan gyfeirio at gorff marw Lazarus, yn profi cyfyngrwydd gwybodaeth y Gwaredwr, na wyddai pa le yr ydoedd. Hoffwn gael deall ganddo pa fodd nad oedd cwestiwn Duw i Balaam —" Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi ?" -yn profi cyfyngrwydd gwybodaeth Duw. A pha fodd nad oedd cwestiwn Crist i'r dyn ieuanc—" Paham y gelwir fi yn dda nid oes neb da ond un, sef Duw ? "-yn profi rhyw amherffeithrwydd yn ei gymer- iad. Dymunwn yn fy nghalon gael fy nhynu o'r gors yr wyf ynddi ar y mater hwn. FFWNDRYS. I
BWRDD Y GOL. -1
BWRDD Y GOL. -1 RHY HWYR.—Pisgah, Coedpoeth, Cylch- daith Llanrhaeadr, Merthyr Vale. Y TRO NI;SAF.—Bu raid gadael allan o herwydd diffyg gofod Aberpennar, Towvn, Cyffin, Pwllheii, Llanrhaeadr- ym-Mochnant.
ABERTAWE.I
ABERTAWE. I lVIanvoJaeth a Chladdedigaeth Mrs Ed- wards, Ty'r Capel.—Blin iawn yw genym orfod cofnodi am farwolaeth yr hen chwaer anwyl uchod, yr hyn a gymerodd le nos Wener, Mawrth yr 20fed, ar ol cvstudd hir aphoenus. Bu'n dioddef am flynyddau, ond yn hollol dawel ac amyneddgar. Gen- edigol o'r Glais, Cwmtawe, daeth vn ieu- ainc i wasanaethu ar y diweddar Mr a Mrs Jones, teulu parchus ffarm Llynmeirch, Pontardawe, a dyma'r adeg y daeth i gy- ffyrddiad a'r enwad Wesleyaidd o dan weinidogaeth yr hybarch Father John Rees, ac oddiyno symudodd i dref Aber- tawe, a daliodd ei chysylltiad yn dyn a ffyddlon hyd ddydd ei marwolaeth, dros haner can mlynedd a'r eglwys yno. Yr oedd ei serch hi'n fawr tuag at bawb a phobpeth Duw. Carai yn fawr roddi y goreu allai i Weision Duw bob amser, ac yr oedd ganddi air siriol a chroesawgar i bawb ddeuai i gyffyrddiad a hi, a'i phrawf hjthau fel yr eiddo yr Apostol Paul oedd, "Y mae arnaf chwant i ymddatod a bod gyda chwi, canys llawer" iawn gwell ydyw," a thua'r terfyn yr oedd mewn gwendid I mawr. Sibrydai, Dyma Fe'n dod," ac ar ol ryw ychydig boen, gosodwyd ei phen i lawr ar y gobenydd, hunodd yn dawel yn yr lesu, gan sibrwd yn dawel "Yr Arglwydd fyddo gyda chwi," Dydd ei chladdedigaeth, sef dydd lau, y 2Gain o Fawrth, daeth y lliaws perthynas- au a chyfeillion ynghyd i'r Tabernacl, Alexandra Road, i dalu'r g) mwynas olaf o barch i'r ymadawedig, lie ? cynhaliwyd gwasanaeth byr ond hynod ddifrifol, o dan arweiniad ein hanwyl V,-einidog, y Parch T. J. Pritchard, Gorseinnn, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Jones- Davies o Bontardawe. Dechreuwyd trwy ddarllen rhan o Air Duw a gweddio gan Mr Jones-Davies, yna dywedodd Mr Pritch- ard ychydig eiriau pwrpasol iawn am yr ymadawedig, a therfynodd y cyfarfod tr^ v weddi. Ar eu gwaith yn codi'r corvAi, chwareuwyd y Dead March in Saul," gan yr organydd Mr J. W. Jones, a'r gynulleidfa ar eu traed. Yna cychwynwyd tua'r gladdfa, sef Cemetery Danygraig, St. Thomas, lie yr oedd lluaws o gyfeillion wedi cyrhaedd yn barod. Trodd y tywydd aUan yn hynod o ddymunol. Gweinydd- wyd ar lan y bedd gan y Parch T. J. Pritchard. Wedi canu yr hen emyn bendi- gedig Bydd myrdd o ryfeddodau," gwas- garodd y dorf gan adael gweddillion mar- wol yr anwyl Mrs Edwards i orphwys yn dawel hyd ganiad yr. udgorn y dydd diweddaf, pan y bydd pawb yn adgyfodi i gyfarfod a'u Harglwydd. Nawdd Duw fyddo dros ei phriod hoff yn ei drallod blin I a'i unigrwyad, ac hefyd dros ei deulu sydd mewn galar dwys ar ei hoi. Gen. I
TREORCHY. I
TREORCHY. I Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. Nos I Fercher, Mawrth 18fed, o dan lywyddiaeth ein gweinidog, y Parch Evan Isaac, dar- llenwyd dau bapur: un gan Miss A. J. Edwards ar Wragedd dinod y Beibl," a'r llall gan Miss L. A. Parry ar Ddynion adnabyddus yr Hen Destament." Cafwyd dau bapur gwir dda, ag ol llawer o latur arnynt. Siaradwyd ymhellach ar y papur au gan amryw o'r brodyr, ac hefyd gan y Llywydd. Diolchwyd yn gynes iddynt. Wedi canu emyn terfynwyd trwy weddi. Nos Fercher, 25ain, cafwyd popur eto gan Mr J. E. Jones ar Manau Hanesyddol Dyffryn Rhondda." Papur diddorol iawn yn desgrifio y Cwm pan nad oedd ond anialwch, a'i hanes yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn hyd nes y mae wedi dod y cwm mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Dyma ein cyfarfod olaf o'r tymor. a llawenydd genym ddweyd fod y tymor ar ei hyd wedi bod yn llwyddiant hollol, a phawb yn teimlo eu bod wedi cael amser bendigedig, yn feddyliol ac ysbrydol, ac yn hiraethus fod y cyfarfodydd wedi diweddu. Wedi diolch i'r brawd am ei bapur diolchwyd i bawb gymerodd ran yn ystod y tymor i'r Trysorydd, Mr Lewis Edwards, a'r Ysgrif- enyddes, Miss L. J. Jones (Llinos Orchwy), ac yn neillduol felly i'r Llywydd, i'r hwn y mae y Gymdeithas yn ddyledus am ei llwyddiant. Ategwyd y diolchgarwch yn dra deheuig gan yr Is-lywydd, Ap Mald- wyn. Wedi canu emyn terfynwyd trwy weddi gan y Llywydd. M. M. I
COEDLLAI. I
COEDLLAI. I Nos Lun, Mawrth 23ain, cynhaliwyd Cyngherdd Blynyddol plant y Band of Hope yn Ysgoldy y Wesleaid, Coedllai. Llywyddwyd gan y Parch Griffith O. Rob- erts. Dechreuwyd ar y rhaglen fel y canlyn :—Ton gynulleidfaol. Anerchiad gan y Llywydd. Can gan Miss Gertie Jones. Adroddiad gan Miss Ceridwen Hughes. Ton gan y genethod. Unawd gan Edwin Trevor. Adroddiad gan Mr Howell Jones. Unawd ar y Cornet gan Mr Ellis Davies. Deuawd gan Miss Gertie Jones a Wilfred Rogers. Adroddiad gan Master Howell Prydderch. Adroddiad gan Fred Hughes. Cystadleuaeth darllen adnodau 1, H. J. Whitley 2, L. J. Whitley. Unawd gan Mr Joseph Hewitt. Dadl' gan H. J. Whitley ac M. E. Whitley. Can gan Master Wilfrid Rogers. Adroddiad gan Master Cyril Prydderch. Can gan Edwin Trevor. Adroddiad gan Mr Howell Jones. Deuawd gan Miss Gertie Jones a Wilfred Rogers. Adroddiad gan Edwin Trevor. Unawd gan Mr Mesech Roberts. Unawd ar y Cornet gan Mr Ellis Davies. Unawd gan Mr J; Williams. Ton gan y genethod. Mwynhaodd pawb y cyfarfod. Yr elw i fyned at Treat y plant. R. R. I
COLWYN BAY. --I
COLWYN BAY. I Daeth tymor y Gymdeithas Lenyddol yn Horeb i derfyn nos lau, Mawrth IDeg, pryd y daeth yr aelodau ynghyd yn llu mawr i fwynhau gwledd a ddarparasid gan y Misses Jones, Elian House. Y tro yma dis- gynodd i ran y meibion i wasanaethu wrth y byrddau, ac edrychent yn dda yn eu ffedogau gwynion. Dyma enwau'r Waiters, Mr J. R Williams, Preswylfa Parch Rhys Jones, Mri Abel Jones, David Ellis, D. W. Griffiths, J. C. Jones, E. O. Davies, a J. Meirion Hughes, a chawsant bob cynorth- wy gan aelodau ieuengaf y Gymdeithas. Daeth oddeutu 90 ynghyd, a chanmolai pawb y te poeth, blastis a gawsant, a'r modd trefnus y gwnaeth y brodyr eu gwaith. Diddorol oedd eu gweled ar y diwedd yn gplchi'r llestri, ond aeth y t gorchwyl pwysig hwnnw heibio heb gym- aint a thorri un gwpan de. Wedi'r wledd, cafwyd cyfarfod adlon- iadol o dan arweiniad y Parch. Rhys Jones. Llywyddwyd gan un o aelodau ieuengaf y Gymdeithas (o ran ei ysbryd), sef yr hybarch Jonathan Roberts, ein G.O.M. Anerchodd v cyfarfod yn ddoetli a doniol fel arfer. Datganwyd gan Miss Williams, House a Mr Shadrach Evans, c chaed adroddiadau gan Mri Abel Jones a John C. Jones. Master J. D. Evans, Horeb Cottage, enillodd y wobr mewn cystadleuaeth ddoniol. Cyfeiriwyd yn ystod y cyfarfod at y goll- ed a gawsom trwy farwolaeth Miss A. M. Jones, ac hefyd Mrs R. T. Jones, Bryn Howell. Diolchwyd i bawb a fu'n gwneud rhyw- beth at lwyddiant y noson gan Mr D. W. Giiffith. Yn ystod y cyfarfod darllenodd Mr E. Brookes Jones nifer o linellau a wnaeth yn llongyfarch Mr Jonathan Rob- erts ar ddathliad ei ben blwydd oedd i gymeryd lie drannoeth. Diolchwyd i'r Parch. Rhys Jones am ei ffyddlondeb a'i lafur yn ystod y flwyddyn, ac yn gresynu mai dyna'r tro olaf i'r Gymdeithas ac yntau gyfarfod eu gilydd. Terfynwyd trwy gael Selections ar y Gramoplione gan MrJ.C. Jones. Prynhawn Gwener, Mawrtli. 20fed, yr oedd plant y Band of Hope yn cael te ar derfyn y tymor. Daeth nifer dda ohonynt ynghyd, a gweinyddwyd arnynt gan Miss Williams, Cartref; Mrs Rhys Jones, Mrs Edwin Evans, Mrs Roberts, Horeb Cot- tage; Mis6 Edith Jones, Elian House, Miss Annie Williams, Preswylfa a Miss C. M. Williams, Henllys. Yr oedd hefyd yn bresenol Mri Enoch Jones a Jonathan Roberts (y cyntaf wedi bod yn gofalu am y Band of Hope yn ystod y flwyddyn), yn nghyd a'r Parch Rhys Jon'es. Cafodd Mr Jonathan Roberts cheers byddarol gan y plant pan ddeallwyd ei fod yn cael ei ben blwydd y diwrnod hwnw. Wedi gorphen te, a chael ychydig chwareu,cafwyd amryw ganeuon ac adroddiadau gan y plant, a chyn iddynt fynd adref, rhanwyd bananas ac oranges iddynt, wedi eu rhoi gan Miss Williams, Henllys, a Mrs Rhys Jones. Gwnaeth y rhai a fu'n gofalu am y plant yn ystod y gauaf bob peth i'w dysgu yn egwyddorion dirwest. Eu Miss Wiiliams, Cartref; Mr Enoch Jones, a'r Parch Rhys Jones yn ffyddlon iawn, a chawsant help mawr gyda'r canu gan Miss Amy Jones, Hampden, a fu'n ffyddlon gyda'r offeryn.
Advertising
-=- (. !;¡1.¡" or L- ,0, Argraffuyd "Hanes lesleyaeth Gymreig" yny Swyddfa eang uchod. Banfonwch chwithau eich Gwaith Printio yno. ———— EVAN THOMAS, BANGOR.
NODION 0 LEYN.-I
NODION 0 LEYN. TYDDYN.—Cynhaliwyd cyfarfod amryw- iaethol yn y lie uchod nos lau, 23ain cyfisol. Arweiniwyd gan Mr John Thomas, Bron- Ilwyd, gyda'i fedr arferol. Wele y rhaglen Adroddiadau, Mr John Griffith, Bodgaeaf, a Mr Ellis Roberts, Ty Capel. Areithio, Mr Hugh Evans. Limerick, Miss Jones, fy Cerrig. Ateb cwestiynau, Mr Ellis Roberts. Araeth Seneddol gan Mr John Thomas, sef yr hyn a welodd yn St. Stephan ar ol ei ethol yn'gynrychiolydd. Detholiad ar y Gramaphone, Mr David Roberts, Ty Engan. Cyfarfod llawn o adloni-ant iach. CYDYNIDE, IMLAD.-Estyna eglwys Horeb, Uwchymynydd, ei chydymdeimlad llwyraf a Mr William Griffith, Bwlch, yn marwol- aeth ei anwyl dad, yr hyn a gymerodd le Mawrth 20. Cymeriad tawel a diddan vdoedd, ac yn fawr ei sel at dy Dduw. Claddwyd ei weddillion yn mynwent Llangian y dydd Mawrth canlynol. Gwas- anaethwyd wrth y ty gan Mr John Wil- liams, Rhiw. lor Nef fyddo'n gysgod i'r teulu. YN GWELLA. -Nid bychan yw ein llaw- enydd fel eglwysi wrth ddeall am adferiad y Parch W. G. Hughes, Criccieth. Yr ydym wedi bod gyda ef yn agos o ran ein medd- yliau, tra ef yn mhell o dan oruchwyliaeth law feddygol. Yr ydym yn llawenhau wrth glywed ei fod wedi dechreu eto ar y gwaith sydd mor agos at ei galon, sef pregethu Crist. Hawddamor, gyfaill mwyn W.
DINBYCH. !
DINBYCH. DERBYN AELODAU NEWYDD.-Nos Sul diweddaf derbyniwyd oddeutu dwsin o blant Pendref i mewn yn gyflawn aelodau. 'Roeddent wedi bod o dan ofal eu gwein- idog, Mr Darley Davies, am rai wythnosau yn flaenorol i hyn mewn trefn iddynt gael eu parotoi ar gyfer y cam pwysig hwn yn eu hanes, Ar ol iddynt ateb cwestiynau yn dal perthynas a'r wasanaeth cyfran- asant o'r Sacrament. Hyderwn yn fawr y profa yr oil ohonynt yn ffyddlon i'r adduned yn holl droion yr yrfa. RHODD.—Cyflwynwyd i Ymddiriedolwyr Pendref anrheg sycld yn un amserol a der- byniol iawn, pan gofir am y teimlad sydd yn ffynu drwy y wlad, bron yn gyffredinol yn y dyddiau hyn, sef yw hono—Set of Individual Communion Cups, at wasan- aeth yr eglwys, gan Mr a Mrs D. H. Davies, Berwynfa. Nos Sabboth diweddaf cymun- wyd am y tro cyntaf gyda hwy. Derbyn- iodd y Trustees y cyfryw gyda dwylaw agored, a phasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch cynhesaf y cyfryw i Mr a Mrs Davies am yr anrheg. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Mae cyfnod arall yn hanes hon erbyn hyn wedi dirwyn i ben. Wrth daflu ein golwg yn ol dros y tymor gallwn ddweyd i ni gael amser difyr ac adeiladol. Profodd yr un lad rhwng Pendref a Salem yn un llwyddianus. Caf- wyd yn ystod y ddwy noson olaf bapyrau gan Mrs E. T. Williams ar Paul fel Cen- hadwr," a chan Mr Leonard Williams ar Doctor Coke." Diolchwyd yn wresog i'r naill a'r llall am eu papurau, pa rai ddangosent ol chwilio manwl. I ddiweddu y tymor caed Social, yn gyfyngedig i'r aelodau. Cafwyd noson ddymunol iawn o dan arweiniad Mr Llewelyn Jones.
NODION 0 GAERDYDD.
NODION 0 GAERDYDD. Y GYMDEITHAS; Mae tymhor y Gym- deithas wedi dirwyn i ben. Cafwyd tymor hynod o lwyddianus. Nos Fercher di- weddaf cynhaliwyd Social rnewn cysyll-, tiad a'r Gymdeithas. Yr oedd y merched ieuainc wedi darparu ymborth ardderchog, a chafwyd cyngherdd ar ol o dan lywydd- iaeth ein parchus weinidog. Treuliwyd noson hynod o hapus. Yn y cyfarfod hwn anrhegwyd ar ran yr eglwys ddau o'n pobl ieuainc oedd wedi ymbriodi, sef Mrs Wyn- ham Lewis, Mus. Bac., merch Mr a Mrs J. P. Powell, a Mr W. R. Davies, Draper, Paget Street. Gwnaed sylwadau pwrpas- ol gan y Parch W. J. Arter, ac anrhegwyd Mrs Lewis gan Mrs Sergeant Morris mewn geiriau doeth iawn, ac anrhegwyd Mr W. R. Davies gan Mr J. P. Powell mewn geir- iau doniol ac effeiihiol. Mae Mrs Lewis wedi graddio yn uchel mewn music," ac y mae yr eglwys yn falch o honni, ac yn gwerthfawrogi yn fawr ei gwasanaeth wrth yr Organ. Mae Mr W. R. Davies hefyd wedi bod yn swyddog amlwg yn Bethel er ys blynyddau, a gwerthfawroga yr eglwys ei ffyddlondeb gyda gwaith y Meistr Mawr. Dymunwn i'r ddau ddyfod- ol gwyn, yn llawn o ddedwyddwch yn ngwasanaeth eu Duw. Llawenydd i'm calon oedd deail fod Nanci Williams, merch fach y di weddar Gynghoiwr John Williams, Barry D:.dc, wedi cipio eto eleni y wobr am Gymraeg yn Barry a'r cylch. Aed yn rnlaen yn nghamrau ei thad duwiol. Credwn fod iddi ddyfodol disglaer. GOH.
BRONYNANT.
BRONYNANT. Nos Lun, Mawrth SOain, daeth tymor y Baud of Hope i fyny, a rhoddwyd swper ardderchog iddynt gan Mr a Mrs David Morris, Graianllyn. Mr Morris ynghyda'r Parch Rhys Jones a Miss Barlow sydd wedi bod yn gofalu am y plant y gaeaf diwedd- af. Daeth y plant yn dyrfa Ion i Seion erbyn saith, ac nid hir y buont heb roddi prawf ymarferol eu bod yn mwynhau eu hunain. Gweinyddwyd arnynt gan Mrs Morris, Miss Barlow, Miss Evans, Miss Jenny Jones, a chynorthwyid hwy gan chwiorydd ereill. Ar y terfyn cafwyd amryw ganeuon, a chanwyd rhai o donau y Gymanfa, Mr Robert Roberts yn arwain. Cyn iddynt ymwahanu rhoddodd Mrs Rhys Jones I orange' i bob un o'r plant, a chafodd hi a Mr a Mrs Morris 1 hearty cheers gan y plant. Diolchwyd i'r Parch a Mrs Rhys Jones am ddod atom. Treuliwyd noson ddifyr. (JOH.
11Asquith.
11 Asquith. Y dyn eill wel'd y#hell-pa beth a'i syfl ? Gsill gerdded at ernod a dewrder dwfn, Pwyll goleuedig, ac amynedd mawr; Tyrr llwybr i'w droed—a'r wawrddyd yn ei drem- Drwy ganol 'strywiau ynfyd lluoedd brad, Heb gym'ryd arno'u gwel'd. A chwardd y vVlad! Arglwyddi beilchion! Gyrrwch yn eich blaen I'ch gwallgo'hynt; mae'r dibyn dwys ger- lIaw- Ar Werin wedi ddeffro Oni chlywch Gloch fawr ei chad-a chnul eich Gormes chwi ? Mae'r lluoedd wrthi'n hogi eu harfau fflam- A'u llywydd cadr yn tawel wylio'r maes. Rhyddid yw'r nod—lleted a hawliau dyn Urddas Dynoliaeth nid gwaseidd dra llwgr; Parch i bob dosbarth—nid i'r "ddelw aur, I'r Orsedd ie, i fwrth gwerinwr tlawd A Chrefydd Rhydd—yn rhydd o rwmau'i gwddf." Ha 'r dyn eill wei'd ymheU—pa beth a't syfl ? "A OES HEDDWCH? Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Swyddfa'r Gwylied- ydd Newydd," Blaenau Ffestiniog,