Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

GAIR AT MR. WILLIAM I RICHARDS.

DAMHEGION YR ARGLWYDD IESUI…

I BYCHANU CRIST. I

BWRDD Y GOL. -1

ABERTAWE.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERTAWE. I lVIanvoJaeth a Chladdedigaeth Mrs Ed- wards, Ty'r Capel.—Blin iawn yw genym orfod cofnodi am farwolaeth yr hen chwaer anwyl uchod, yr hyn a gymerodd le nos Wener, Mawrth yr 20fed, ar ol cvstudd hir aphoenus. Bu'n dioddef am flynyddau, ond yn hollol dawel ac amyneddgar. Gen- edigol o'r Glais, Cwmtawe, daeth vn ieu- ainc i wasanaethu ar y diweddar Mr a Mrs Jones, teulu parchus ffarm Llynmeirch, Pontardawe, a dyma'r adeg y daeth i gy- ffyrddiad a'r enwad Wesleyaidd o dan weinidogaeth yr hybarch Father John Rees, ac oddiyno symudodd i dref Aber- tawe, a daliodd ei chysylltiad yn dyn a ffyddlon hyd ddydd ei marwolaeth, dros haner can mlynedd a'r eglwys yno. Yr oedd ei serch hi'n fawr tuag at bawb a phobpeth Duw. Carai yn fawr roddi y goreu allai i Weision Duw bob amser, ac yr oedd ganddi air siriol a chroesawgar i bawb ddeuai i gyffyrddiad a hi, a'i phrawf hjthau fel yr eiddo yr Apostol Paul oedd, "Y mae arnaf chwant i ymddatod a bod gyda chwi, canys llawer" iawn gwell ydyw," a thua'r terfyn yr oedd mewn gwendid I mawr. Sibrydai, Dyma Fe'n dod," ac ar ol ryw ychydig boen, gosodwyd ei phen i lawr ar y gobenydd, hunodd yn dawel yn yr lesu, gan sibrwd yn dawel "Yr Arglwydd fyddo gyda chwi," Dydd ei chladdedigaeth, sef dydd lau, y 2Gain o Fawrth, daeth y lliaws perthynas- au a chyfeillion ynghyd i'r Tabernacl, Alexandra Road, i dalu'r g) mwynas olaf o barch i'r ymadawedig, lie ? cynhaliwyd gwasanaeth byr ond hynod ddifrifol, o dan arweiniad ein hanwyl V,-einidog, y Parch T. J. Pritchard, Gorseinnn, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Jones- Davies o Bontardawe. Dechreuwyd trwy ddarllen rhan o Air Duw a gweddio gan Mr Jones-Davies, yna dywedodd Mr Pritch- ard ychydig eiriau pwrpasol iawn am yr ymadawedig, a therfynodd y cyfarfod tr^ v weddi. Ar eu gwaith yn codi'r corvAi, chwareuwyd y Dead March in Saul," gan yr organydd Mr J. W. Jones, a'r gynulleidfa ar eu traed. Yna cychwynwyd tua'r gladdfa, sef Cemetery Danygraig, St. Thomas, lie yr oedd lluaws o gyfeillion wedi cyrhaedd yn barod. Trodd y tywydd aUan yn hynod o ddymunol. Gweinydd- wyd ar lan y bedd gan y Parch T. J. Pritchard. Wedi canu yr hen emyn bendi- gedig Bydd myrdd o ryfeddodau," gwas- garodd y dorf gan adael gweddillion mar- wol yr anwyl Mrs Edwards i orphwys yn dawel hyd ganiad yr. udgorn y dydd diweddaf, pan y bydd pawb yn adgyfodi i gyfarfod a'u Harglwydd. Nawdd Duw fyddo dros ei phriod hoff yn ei drallod blin I a'i unigrwyad, ac hefyd dros ei deulu sydd mewn galar dwys ar ei hoi. Gen. I

TREORCHY. I

COEDLLAI. I

COLWYN BAY. --I

Advertising

NODION 0 LEYN.-I

DINBYCH. !

NODION 0 GAERDYDD.

BRONYNANT.

11Asquith.