Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

GAIR AT MR. WILLIAM I RICHARDS.

DAMHEGION YR ARGLWYDD IESUI…

I BYCHANU CRIST. I

BWRDD Y GOL. -1

ABERTAWE.I

TREORCHY. I

COEDLLAI. I

COLWYN BAY. --I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLWYN BAY. I Daeth tymor y Gymdeithas Lenyddol yn Horeb i derfyn nos lau, Mawrth IDeg, pryd y daeth yr aelodau ynghyd yn llu mawr i fwynhau gwledd a ddarparasid gan y Misses Jones, Elian House. Y tro yma dis- gynodd i ran y meibion i wasanaethu wrth y byrddau, ac edrychent yn dda yn eu ffedogau gwynion. Dyma enwau'r Waiters, Mr J. R Williams, Preswylfa Parch Rhys Jones, Mri Abel Jones, David Ellis, D. W. Griffiths, J. C. Jones, E. O. Davies, a J. Meirion Hughes, a chawsant bob cynorth- wy gan aelodau ieuengaf y Gymdeithas. Daeth oddeutu 90 ynghyd, a chanmolai pawb y te poeth, blastis a gawsant, a'r modd trefnus y gwnaeth y brodyr eu gwaith. Diddorol oedd eu gweled ar y diwedd yn gplchi'r llestri, ond aeth y t gorchwyl pwysig hwnnw heibio heb gym- aint a thorri un gwpan de. Wedi'r wledd, cafwyd cyfarfod adlon- iadol o dan arweiniad y Parch. Rhys Jones. Llywyddwyd gan un o aelodau ieuengaf y Gymdeithas (o ran ei ysbryd), sef yr hybarch Jonathan Roberts, ein G.O.M. Anerchodd v cyfarfod yn ddoetli a doniol fel arfer. Datganwyd gan Miss Williams, House a Mr Shadrach Evans, c chaed adroddiadau gan Mri Abel Jones a John C. Jones. Master J. D. Evans, Horeb Cottage, enillodd y wobr mewn cystadleuaeth ddoniol. Cyfeiriwyd yn ystod y cyfarfod at y goll- ed a gawsom trwy farwolaeth Miss A. M. Jones, ac hefyd Mrs R. T. Jones, Bryn Howell. Diolchwyd i bawb a fu'n gwneud rhyw- beth at lwyddiant y noson gan Mr D. W. Giiffith. Yn ystod y cyfarfod darllenodd Mr E. Brookes Jones nifer o linellau a wnaeth yn llongyfarch Mr Jonathan Rob- erts ar ddathliad ei ben blwydd oedd i gymeryd lie drannoeth. Diolchwyd i'r Parch. Rhys Jones am ei ffyddlondeb a'i lafur yn ystod y flwyddyn, ac yn gresynu mai dyna'r tro olaf i'r Gymdeithas ac yntau gyfarfod eu gilydd. Terfynwyd trwy gael Selections ar y Gramoplione gan MrJ.C. Jones. Prynhawn Gwener, Mawrtli. 20fed, yr oedd plant y Band of Hope yn cael te ar derfyn y tymor. Daeth nifer dda ohonynt ynghyd, a gweinyddwyd arnynt gan Miss Williams, Cartref; Mrs Rhys Jones, Mrs Edwin Evans, Mrs Roberts, Horeb Cot- tage; Mis6 Edith Jones, Elian House, Miss Annie Williams, Preswylfa a Miss C. M. Williams, Henllys. Yr oedd hefyd yn bresenol Mri Enoch Jones a Jonathan Roberts (y cyntaf wedi bod yn gofalu am y Band of Hope yn ystod y flwyddyn), yn nghyd a'r Parch Rhys Jon'es. Cafodd Mr Jonathan Roberts cheers byddarol gan y plant pan ddeallwyd ei fod yn cael ei ben blwydd y diwrnod hwnw. Wedi gorphen te, a chael ychydig chwareu,cafwyd amryw ganeuon ac adroddiadau gan y plant, a chyn iddynt fynd adref, rhanwyd bananas ac oranges iddynt, wedi eu rhoi gan Miss Williams, Henllys, a Mrs Rhys Jones. Gwnaeth y rhai a fu'n gofalu am y plant yn ystod y gauaf bob peth i'w dysgu yn egwyddorion dirwest. Eu Miss Wiiliams, Cartref; Mr Enoch Jones, a'r Parch Rhys Jones yn ffyddlon iawn, a chawsant help mawr gyda'r canu gan Miss Amy Jones, Hampden, a fu'n ffyddlon gyda'r offeryn.

Advertising

NODION 0 LEYN.-I

DINBYCH. !

NODION 0 GAERDYDD.

BRONYNANT.

11Asquith.