Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ar ol llawer o lol a Tipyn ysgrifenwyd gan rai bobl o a ystyrrir yn gall, y mae synwyr y tamaid a ganlyn yn amaethun. Tamaid ydyw allan o'r Brython o golofn trwy'r Drych gan y golygydd mi goeliaf. Dyma fe :— Gwelsom, awgrym na theimlai llaw- er o'r Wesleaid Cymreig anhawster i droi'n Eglwyswyr yn wir, fe broffwydid y fath beth, ac fel un rheswm yn erbyn disgwyl i'r Wesleaid ymono mor barod ag y gellid disgwyl i'r Annibynwyr a'r Methodistiaid wneuthur. Mae'r awgrym y gallsai'r Wesleaid droi'n Eglwyswyr yn rhwyddach nag yr ymunant ag en- wadau Ymneilltuol ereill-a-hynny heb raid arnynt i golli eu gwahanfod enwadol, o leiaf ar hyn o bryd,—mae'r fath syniad yn syndod aruthr i ni, beth bvnnag. Fe dyb fod trefnyddiaeth Wesleaidd wedi ei gwneuthur o haearn bwrw anwybyddir dyfnder a grym argyhoeddiadau Ymneilltuol a Phrot- estanaidd y Wesleaid-Cymreig; bod y gweinidogion a'r eglwysi Wesleaid yn gaethion diymadferth i'w cyfundrefn enwadol, ac nad allent beri newid nac ystwytho dim ar y rheolau y sydd yr awr hon. Mae'r holl faes yn rhy eang i fanylu arno, ac nid oes achos. Beth bynnag, beiddiwn ddywedyd fod Wesle- aeth Gymreig eisoes wedi peri i'w threfn- yddiaeth gael ei hystwytho i gwrdd a gofynnion arbennig yr enwad yng Nghymru. Credwn hefyd fod arwem- wyr presennol yr enwad yng Nghymru yn ddynion o argyhoeddiadau mor ddyfnion, o ysbryd mor ehangfryd, o welediad mor graff i arwyddion yr amserau, ac mor wrol i ddadlu eu hachos o flaen awdurdodau eu henwad, fel y gorchfygent anawsterau mawrion i sicrhau cytgord rhyngthynt a'r Ymneill- tuwyr Cymreig ereill, i'r amcanion uchaf. Ac mae'r corff Wesleaid a Seis- nig hefyd yn dod yn fwyfwy Ryddfnd ig. Cychwynnodd y diweddar Barch Hugh price Hughes ddiwygiad ynddo, ac mae'n myn'd ar gvnydd fyth. Gwir mai o Loegr y daeth Wesleaeth i Gymru ond daeth yma mewn cenhadaeth, a "chenhadon y gelwid ei gweinidogion cyntaf. Tybed y bydd i'r Wesleaid fod mor anffyddlon i ysbryd eu cychwyniad fel ag i beidio a gwneud ymdrech ac aberth i ymuno a'r enwadau Anghyd- ffurfiol ereill, pan mae'r enwadau hynny wedi dod gymaint i gytgord a'i syniad- au diwinyddol ? Nid yw enw'r diwedd- ar Barch John Hugh Evans (Cynfaen) yn cael agos gymaint o le ag a ddylai yn y son am ymdrechion dros rydcid gwladol a chrefyddol. A meddyliwch am y Parchn Dr. Hugh Jones, Thomas Hughes, Gwynfryn Jones—a'u brodyr yn gyffredinol o ran hynny,—yn troi'n Eglwyswyr 111 H— — — —

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

CYLCHDAITH LL AN FAIR. "

MFRTHYR TYDFIL.

Advertising

[No title]

YR YSGOL SUL a'r MAESI LLAFUR.