Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Cenhadaethaa Efengylaidd,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cenhadaethaa Efengylaidd, I (Adgofion Cysurlawn) I (Gan y PARCH HUGH HUGHES). I IX. I CAERNARFON. I Yn Nghyfarfod Cyllidol y flwyddyn 1881, penodwydfi i gynal Cenh adaeth yn Penygroes, Cylchdaith Caernarfon, yn Ionawr 1882. Oherwydd marweiddiad dyddordeb llawer o'n pobl yn y gwaith pwysig, mae y cyfryw bennodiadau wedi syrthio er's llawer o flynyddoedd. Y mae yna rhyw ymdrech afler i godi y symudiad i sylw yn y dyddiau hyn trwy alw nifer o frodyr i draddoai pre- geth yn ystod yr wythnos, cynllun na Iwyddodd nemawr un amser i wneud llawer mwy na chynyrchu chwiifrydedd dynol. Ychydig o amser cyn yr adeg yr oeddwn i lafurio yn Penygroes, yr oedd genyf i gynbal Watchnight, a chyfarfod y Calan yn Nghaernarfon. Cynhaliwyd y Watchnight y flwyddyn bono ar nos Sadwrn, a'r cyfarfod ar y Sul. Ac yn y Watchnight bythgofiad- wy honno y torodd gwawr ysprydol ogoneddus, nid pan oeddwn i yn pre- gethu, eithr pan oedd merch ieuanc o'r enw Jennie Owen, Treffynon, yn canu dernyn effeithiol ryfeddol o waith Pen- cerdd Gwynedd rwyn meddwl, ar yr emyn Ar lan Iorddonen ddofn." Fy nghyfaill Glanystwyth oedd gwein- idog Caernarfon ar y pryd, ac yr oedd yn y pwlpud i reoli y Cyngerdd Cyseg- redig. Ac er ei fod yn ddyn o feddwl cryf, ac o dueddfryd naturiol i feirniadu a testio pob path cyn ei dderbyn yn derfynol, datganai yn gryf ei fod wedi gweled colofn o oleuni gwyn yn ym symud ar draws y capel nes ei lanw a pheth braw ar y cychwyn, ac ar yr un pryd ei lanw a rhyw sicrwydd fod peth mawr ar gymeryd lie. Pa fodd by nag hawdd oedd gweled fod rhyw nerthoedd dyeithriol iawn wedi ymaflyd yn y dorf fawr oedd wedi dod ynghyd. Onid rhyfeddod ydyw gweled diwygiad crefyddol mawr yn tori allan mewn cyngerdd. Wedi terfynu y rhanau cerddorol, yr oedd genyf tuag awr o amser i fyned trwy y gwasanaeth crefyddol. Yn gyffredin, colli rhai o'r hobl ieaaingc y byddid eydrhwng y cyngherdd a'r gwasanaeth, ond yn wahanol hollol y digwyddodd y noson hono. Ymwthiai pobl i mewn yn llu ar ol y cyngerdd er cael y gwas-- anaeth. Caniateid hyny os byddai awydd ar neb ddod i mewn ar gyfer y rhan olaf. Ymddangosai y noson bono fel pe buasai rhyw Wireless Telegraph wedi cludo rhyw neges ysbrydol i bobl yr heolydd. Wrth ganu yr emyn cyn- taf yn y gwasanaeth fe ddyfnhawyd yr argyhoeddiad fodyr Arglwydd yn cynyg ei hunan gogoneddus i'w bobl mewn rrodd amlwg ryfeddol. Teimlais inau wrth bregethu fod rbyw eneiniad dwfn a gorchfygol ar fy ysbryd i fy hunan, ac ar y gwrandawyr. I mi o'r pwlpud yr oedd golwg ddyeithriol ar y gynull- eidfa, a rhyw ddistiwrwydd poenus yn Ilanw y lie. ArlicS-Li pwysau gorth- rechol ar ysbryd y dorf, ac o dan y dylanwad anesboniadwy hwn yr ym- neillduodd y dyrfa i'w cartrefi, a siarad y bobl ar eu ffordd gartref, oedd mai dyma y Watchnight ryfeddaf y buont ynddi erioed. Tranoeth yr oedd ein gwyltlynyddol i'w chynal fel yr arferid er's gesau. Yn yr oedfa foreuol gvvelid arwyddion diamheuol o rhyw ddiddor- deb uwcblaw y cyffredin. Yr oedd y cynulliad yn fawr, a'r dylanwad distaw ac angerddol yn cael ei deimlo yn y canu, y darllen, y gweddio a'r pregethu. Yr oedd yn eglur bellach fod ysbryd yr Arglwydd yn llanw y lie. Yn yr hnvyr teimlwyd nerthoedd rhuthrol yr ysbryd yn ysgubopopeth o'i flaen, ac wedi galw yr eglwys yn ol, caed fod tua dau ddwsin wedi penderfynu cyflwyno eu hunain i'r Arglwydd, ac i'w bobl. Ych- ydig nifer o'r Cor eisteddent tu ol i'r pwlpud oedd yn aelodau cyn hyn, eithr ymunasant bron oil y nos Sul ben- digedig hwnw. Yroedd yr olwg" arnynt yn y fan hono yn Solid gyda'u gilydd wedi eu llwyr orchfygu gan y nerthoedd tragwyddol, yn cael dylanwad annes- grifiol a'r aelodau yr eglwys, a chlywid rhieni a pherthynas y bobl ieuainc j n wylo yn uchel o lawenydd. Ac yn sicr teimlai yr Angylion fod yr olygi'a yn treat mewn gwirionedd- At derfyn y gwasanaeth mae swydd- ogion yr eglwys yn ymneillduo i ym- gyngori i ystyried y sefyllfa, a daeth- pwyd i'r penderfyniad mai yn Nghaer- narfon yr oedd penodiad yr Arglwydd i'r Genhadaeth ddyfodol, ac felly y bu-. Bum gartref am tuag wythnos, ac yna treuliais bum wythnos yn Nghaernar- fen, ond aethum am un wythnos gartref yn Birkenhead cydrhwng y tair wyth- nos gyntaf a'r ddwy olaf, C-ymsrodd y symudiad feddiant 11awn o'r dref hyd Jnoed yr wythnos gyntaf. Yrcedd pob galluaran yn cael ei ddiddvim yn llwyr yn >3i at yYr I cedc1 yna IT.. A v >blogaidd o Mia- -strels pan -dd I ar y !!•), o i buor.t dan orfod gadael y I dref cyn cli d yr wythnos g YD tat' j gan nad oedd neb yn cymeryd unrhyw sylw o honynt. Crist oedd yn bob peth, ac yn mhob peth. Yr oedd y dylanwad yn angerddol, a'r dychweled igion yn lliosog yn mhob gwasanaeth. Llenwid yr ystafell helaeth yn y cyfar- fodydd gweddio ganol dydd, ac aeth y capel eang yn rhy fychan o lawer i gynwys y tyrfaoedd, ac o'r herwydd dechreuid llenwi y capel tua phump o'r gloch. Yr oedd pob math o bobl yn cael eu cyffroi gan y dylanwad gogon- eddus, o'r goreuon oll, at y gwehilion isaf. Na ryfedder am hyn, oblegid y mae Crist wedi "dwyn Iachawdwriaeth i bob dyn." Yr oedd solos cysegrei- ig yn rhan o bob gwasanaeth o'r dechreu i'r diwedd, ac y mae digon o dystiol- aethau i werthfawredd a llwyddiant y rhan hon o'r gwaith. Dyma oedd yn symud rhai yn fwysf effeithiol. Y mae yn Nghaernarfon heddyw frawd a ys- tyrid yn un o'r annuwiolaf yn y dref a'r cylcb, a argyhoeddwyd trwy y canu yn benaf. Gweithiai mewn Shop lie yr oedd rhai dynion crefyddol yn gyd weithwyr ag ef, ac ymdrechent o ddydd i ddydd ei berswadio i fyned gyda hwynt i'r gwasanaeth, eithr ni cheid ond gwrthodiad penderfynol yn cael ei selio gyda rbeg a llw. Gwyddent ei fod yn bur hoff o ganu, a tharawodd yn medd- wl un o honynt i ddyweyd wrtho fod y pregethwr yn canu solos cysegredig Well i ti ddod heno," meddai, i'w glywed yn canu, os nad wyt ti yn malio llawer am bregethu." Wel os doi gwbl i wrando y canu y doi, a li wyr ich y doi heno." Cyflawnodd ei addewid, ond er cyraedd y capel yn mhell cyn yr amser dechreu, ni chafodd le i eistedd o'r dechreu i'r diwedd—dim ond sefyll yn mben y grisiau, ac yn ystod gwasan- aeth oedd yn llawn o'r eneiniad dwyfol, canwyd Y ddafad Golledig," ac yr oedd yr effaith yn ddwfn ac angerddol anarferol. Dyma lwyddodd i ddeffroi rhyw ddifrifwch yn y brawd hwn ag oedd yn rhywbefch hollol newydd iddo. Fel y datganai yn ddilynol gwelai ei hun yn ei grwydriadau pechadurus yn nghrwyd- iadau y ddafad, a gwelai ei hun yn fwy felly o hyd fel yr oedd y ddafad yn pell- hau o'r gorlan, ac yn ymwthio i'r anial- wch gwyllt. Mae yn dechreu meddwl yn gyffrous beth ddeuai o honi yn y diwedd, ac yn y man mae y penill olaf yr emyn yn cael ei ganu yn Dghanol gwres gweddiau pobl Dduw. Desgriiia y bardd y Bugail Da yn erlyn ar ol y ddafad grwydredig nes ei chael yn nghanol yr anialwch llwm a diffaith gan ei dwyn ar ei ysgwyddau i'r gorlah yn 01, at y cant namyn un. A llinell olaf oil y penill ydoedd Trwy'r nef mae gorfoledd, y ddafad a gaed ac yr oedd yn amhosibl peidio rhoddi allan ynghanol y fath ddylanwad, bob yni corph, meddwl ac ysbryd wrth ddat- gan mewn can, y fath eiriau calonogol i'r pennaf o bechaduriaid. Dywedodd y brawd yn ei galon, Os gwnaiff y bugail yna fy nerbyn, y gwaethaf yn fyw, mi gaiff y chance." Ni ymunodd y noson hono, ond gwelwyd dranoeth gan ei gydweithwyr, fod rhyw gyf- newidiad mawr wedi cymeryd lie ynddo. Yn flaenorol byddai yn siarad ac yn rhegi yn ddibaid bron o foreu hyd bwyr, ond y dydd hwn nid oes air drwg na da yn disgyn dros ei wefusau—dim ond rhyw ddistawrwydd myfyrgar a difrifol. A thua phump o'r gloch y mae yn tynu oddiam dano, y ffedog oedd ganddo yn ei waith, ac allan ag ef. Ofnai rhai o'i gydweithwyr ei fod wedi dyrysu, a'i fod ar wneud rhywbeth ofnadwy iddo ei hunan. Eithr y gwir esboniad ar y cwbl ydyw ei fod eisoes wedi setlo cwestiwn mawr ei fywyd tragwyddol er y noson cynt, ac yn awr y mae yn prysuro gartref yn gynarach nag arfer, gyda'r penderfyniad i roddi ei hurian i'r Arglwydd ac i'w bobl am byth. Cafodd afael ar wir ddychweliad, ac y mae yn arcs hyd yr awr hon, ac yn ceisio byw yn deilwng o'i broffes grefyddol. Ar ol hyn mabwysiadodd fachgen pert, byw a disglaer ei feddwl, yr hwn erbyn hyn sydd yn weinidog Wesleyaidd gobeithiol. Daeth tua 200 i mewn yn y pytbefnos cyntaf yr hyn a gynyddodd y brwdfryd- edd' yn fwy o hyd. Tua chanol y drydydd wythnos gwasgwyd arnaf i roddi noson neu ddwy i Penygroes, gan mai yno y penodwyd fi gan y Cyfarfod Cyllidol. Eithr nid doeth oedd y sym ucliad hwn, oherwydd fod y fath son wedi cerdded yr ardal boblogaid(I hono am y diwygiad, fel yr oedd yn amhosibl rheoleiddio y iliaws i ddim pwrpas. Dechreuwyd yn ein capel ni, ond yr oedd y dyrfa yn annioddef01--y bobl yn banner lladd eu gilydd, a cbanoedc1 yn methu dod o fewn cyraedd clywed. Yn fuan wedi i mi roddi ailan y testyn y mae rhyw ddyn yn llefain yn wyllt fod y dyrfa yn gwasgu ei wraig i farw- olaeth. Ni welais y fath gyffro mewn addoldy erioed, ac ni ellid ei chael allan end trwy i'r dyrfa fyued o'i blaen. Ac nid oedd posibl gwneud dim i b* rpas bellach. Awgrymwyd gan 15'v rah mai doetb i-jasai symud i gapel heiaetb yr Annih;vn w_yr ger!law.. Ac 0 d 11 ruthro ofnadwy allan am y 1 v cyn iddo gael ei oleuo, ac yn ,ca- j ydig amser yr oedd yn orlawn, a rhyw! chwys oer ac annymunol i'r eithaf ar bob peth yn y lle-effaith gorlenwad cyn cynesu mae yn debyg. Yr oedd y fath gyffro a hwn yn anfantais i lwydd iant ysbrydol y gwaith, ac er i rai yrn. I uno a'r eglwysi yn ystod y ddwy ncson y bu'm yno, penderfynais mai yn Nghaernarfon yr oedd fy lie. Yno yr oedd ysbryd g'vir ddiwygiad. Nid oedd yno gyhoeddiad, eithr nid oedd angen ond hysbysu yr ychydig na oedd y llawer yn gwybod mewn byr amser, gan mor lawn oedd y dref o wefr ysbrydol. Ac erbyn cyraedd Ebenezer gwelwn fod yr adeilad yn orlawn o bobl disgwylgar, ac felly y parhaodd hyd y nos Sul dilynol, a chaed ugeiniau ych- waneg i ymuno a'r eglwysi yn ystod yr ychydig ddyddiau byny. Y nos Sul hwnw rhoddwyd terfyn ar y Genhad- aeth, ac aethum gartref at fy mhobl. Eithr yn mben ychydig ddyddiau dyma genadwri o Gaernarfon yn dod i hawlio ychwaneg o fy llafur yn enw yr Ar- glwydd. Ac nis gallwn omedd beth bynag fuasai y canlyniadau mewn cyf eiriadau eraill. Yno y bum am byth- efnos arall, ac mewn rhai ystyriaethau dyma y pythefnos o'r llafur caletaf yn fy mywyd. Yr oedd fy stock o bre J gethau cyfaddas i amcan efengyleiddiol ar ben, a dechrouodd pryder fy medd- ianu. Yr oedd genyf i gyfansoddi pregeth newydd bob dydd ond gofalodd yr Ar- glwydd am danaf, a rhoddodd i mi gen- adwri bob dydd oedd yn ateb y pwrpas syml ag oedd yn angenrheidiol. Yr oedd y cynulliadau yn fwy nag o gwbl, a mwy yn dychwelyd, a chyn diwedd yr wythnes hono, nid gormod fuasai dyweyd fod agos i fil o".bobl yn metbu ymwthio i mewn, a'r nifer fwyaf o honynt yn wrandawyr anychweledig. Gwelwyd ar un waith fod hyn yn llesteir io amcan uwchaf y Genhadaeth, trwy gadw y dosbarth hwnw o gyraedd swn y genadwri. Dipyn yn hunanol ydyw y Saint mewn amgylchiadau cyffrous fel hyn. Nid oedd dim i'w wneud gan hynny, ond rhoddi terfyn ar y Genbad- aeth neu sicrhau y Pavilion, a hynny a benderfynwyd gan y cyfeillion. Costiodd yr ymgymeriad i ni ddeng punt y nos, eithr ni chaed y drafferth leiaf i wneud mwy na digon i gyfarfod yr holl draul. Yn yr olwg ar y symudiad hwn, gwnaethum gais ar i holl gantorionyr boll gapeli, gymeryd eu lie ar yr esgyn lawr, ac mor barod ac ufucld oedd pawb. Wedi cyrhaedd yr adeilad eang gwelais 400 o'r cantorion yn brydlon yn eu lle- oedd, a tbua 4,000 o gynulleidfa aiddgar. Yr oedd rhai o'r cyfeillion wedi sicrhau trains h wyrol i gyfeiriad Llanberis, Penygroes, Bangor, Bethesda a Mon, ar ol terfyn y gwasanaeth. Cafwyd cyf- arfodydd bendigedig yn y Pavilion. Ni chlywais y fath ganu cysegredig erioeel, pawb yn canu gyda hyny o ddeall a chalon oedd ganddynt. Y nos Sadwrn olaf y caed y dyrfa fwyaf oil, a'r nifer o ddychweledigion. Yr oedd yno ddegau o bregethwyr yn myned trwy y dref i'w cyhoeddiadau i wahanol gyf- eiriadau, ac ymddangosent yn llawn o ysbryd y symudiad. Ymunodd tua cant a'r eglwysi yn y dref a'r wlad y nos Sadwrn bythgofiadwy hwnw. Yr oedd yr holl dafarndai yn wag, a phawb yn cyfeirio at eu cartrefi fel pobl wedi eu gwareiddio gan ddylanwad efengyl Crist. Gogoniant y Genhadaeth hon oedd ei dirgelwch. Yr oedd yn anes- boniadwy o gyfeiriad dynol, Duw fel pe yn cael ei ffordd ei hun yn mhob peth. Y mae llawer na allant anghofio y Genhadaeth fwyaf hon o fewn cylch fy mywyd gweinidogaetbol i fy hunan. Ac eto yn Nghaernarfon, ac yn nghanol y dylanwad gogoneddus, y eyfarfyddais ag un neu ddau tebyg i fab bynaf tad y Mab Afradlon yn amddifad o gydym- deimlad a'r Tad nefol yn ei dosturi a'i groesaw i blant afradlon dychweledig. Gwell Mab Afradlon dychweiedig, na Mab hynaf digiodig. Hyderaf na bu y rhai hyn ar eu colled dragwyddol. Y mae llawer o'r 500 dychweledigion wedi cyraedd fry, a rhai yn ddiau wedi tynu'n i golledigaeth. -a- (I barhau).

-QweBa Criccieth.I

l LHtWedd 0 Awstralia. I

Caine Newydd o ReilfFordd.