Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

! -?. 1 1 1 CAERSALEM, TON…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

?. CAERSALEM, TON PENTRE. Darilenwyd dau bapur o flaen y Gym- deithas Ddiwylliadol nos Wener, Mawrth 27, gan y ddwy chwaer Mrs Mason a Mrs Evan Davies. Y pwnc dan sylw oedd dadl Pa un ai cyfeillion ynte llyfrau sydd yn dylanwadu fwyaf ar fywyd." Cymerwyd ochr y cyfeillion gan Mrs Mason, a'r llyfrau gan Mrs Davies. Dadleuwyd yn gryf dros y ddwy ochr. a chawsom ddau bapyr rhag- orol. Diolchwyd yn wresog i'r ddwy chwaer gan y gymdeithas. Cynhaliwvd Cwrdd Ysgol dydd Sul, Mawrth 29, o dan lywyddiaeth ein parchus arolygwr Mr Samuel Davies. Yn y boreu cawsom gyfarfod areithio. Dechreuwyd y cwrdd trwy fawl a gweddi gan Mr John Morgan, yna cymerwyd rhan gan y rhai canlynol-Araeth gan Samuel Davies ar Y pwysigrwydd i ddynion ieuainc ffurfio cymeriad da," a E. L. Morgan ar Gadwr- aeth y Sabbath." Can gan Evan F. Evans, Rhowch eto i mi bregeth yn anwyl iaith fy mam." Araeth gan John Elias Morgan ar "Ostyngeiddrwydd," a Evan John Thomas ar Fywyd yr Apostol Paul hyd ei droedigaeth." Terfynwyd cyfarfod da gan Mr Richard Lewis. Yn y prydnawn aeth y plant drwy eu gwaith o dan ofal y brodyr Thomas Lewis a Evan Lewis gyda holi, a David Jones gyda'r canu. Gwasanaethwyd wrth yr offeryn gan Teddy Morgan fel arfer. Caw- som gan "0 Sanctaidd Ddiddanydd," gan Katie Morgan, ac adroddiadau gan y rhai canlynoi :Ceinwen Morgan, Blodwen Meredith, Richard Stokes, Willie Llewelyn Thomas, Jessie Mason, Gwyneth Lewis, Mary Watkins, a Griffith Pugh. Cyn i'r plant derfynu, canwyd yr unawd "Dagrau'r Iesu," gan E. L. Morgan. Yn yr hwyr holwyd yr ysgol gan y Parch Evan Isaac yn efengyl loan 28 a 21. Dechreuwyd trwy fawl a gweddi gan Mr Moses Jones, Treorchy, a chafwyd amser da, gofyniadau ac atebion da iawn. Ter- fynwyd y cyfarfod gan Mr Isaac, a theim- lem ein bod wedi cael cyfarfodydd da ar hyd y dydd. IEUAN.

MAENTWROG. I

- , LLANFYLLIN. ,I

BIRMINGHAM.I

CYLCHDAITH ABERDAR. I

CYLCHDAITH LLANDILO.

BEAUMARIS.

CYLCHDAITH TREDEGAR.

GEKEDIGAETH.

ILLANDUDNO. I

I LLANRHAIADR-YM-MOCHNANT.…

ISOAR, CYFFIN. I

CYLCHDAITH RHYL. j

TOWYN. I

ICYLCHDAITH LLANRHAIADR-YM-MOCHNANT.

CYLCHDAITH BAGILLT.I