Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

--i BYCHANU CRIST.II

IYSGRIF Y PARCH. BERWYN !…

Y CRIST NEWYDD.

iJ GEIRIADUR NEWYDD. 1

... '' '- - O'R LLYFR COCH.…

DIWEDDAR OLYGYDD <( SEREN…

iYmddíswn::¡,:Had. 1 Ymddiswy?sia?.

Talaeth Gyntaf y . Gogledd..…

I Y GOLOFN GERDDOROL.

Yn Eisieu-rhyw gynllun. newydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

gweddi cyrfredin a arferid ei gynal ar nos Fercher wedi cael ei advertisio o'r newydd. Aeth ein gweinidog i deimlo wrth weled y cyfarfod gweddi yn mynd i lawr fod yn rhaid dod a hen arferiad a 1110ddioll mor ragorol i fri eto., Yr oedd ei galon a'i feddwl yn- llwvthog o ddaioni ac o ond dros y lluaws cyndyn, ac o weled ben- dithion yr efengyl yn cael eu hesgeuluso, ac mae newid enw y cyfarfod gweddi wedi bod yn foddion i ddwyn llaweroedd i afael y goleuni mwy. Yr oedd ryw naws nefolaidd, meddai'r hanesydd, yn toni dros y gynulleidfa fawr-1 eddog. Yn y man gwelid yr, arweinydd yn codi ar yr esgynlawr a rhoddi allan erriyn aduabyddus "All hail the power of Jesus' name." Ar hynny dyna'r gynull eidfa yn codi ar unwaith, a chan- wyd, dyblwyd, a threblwyd yr emyn nes bod pob enaid oedd yn bresennol yn teimlo ei hunan yn drwm o dan y gwlith." Gallem yn hawdd ddifynu mwy, ond rhaid gadael y tro yma. Credwn yn sicr pe bae modd cael eglwysi Cymru, sydd lawer ohonynt yn nychu mewn gwendid, digalondid a. mar- weidd-dra, allan o'u cragen, a mabwysiadu rhyw drefn neu gyn llun newydd, y byddai yn fendith fawr. Y mae llawer o'r eglwysi a'u haddoliadau yn ddim ond routine noeth. Ni theimlwn ei fod yn anrhydedd mawr i nifer o grefyddwyr gau eu hunain i fyny o nos i nos i ofyft am fendithion, ac i ddiolch am waredigaethau, pan y mae cyflafan ofnadwy yn mynd yn mlaen oddiallan, y byd yn cyflymu damnedigaeth. Mae'r oes yn crefu am rywbeth i'w ddiwallu, a rhydd y gelyn-ddyn garreg iddi. Mae hon lawer yn rhy galed 'i enaid; o ganlyniad mae miloedd o eneidiau gwerthfawr ar newvnu. 0 welsion y Duw byw, gwelwch y y gwinllanoedd a'r meusydd, yd^nt eisoes yn wynion i'r cynhaeaf. Na foddlonwn aros yn ein hun-fan am byth yn hogi'r cryman. Peidiwn ag ymfoddloni ar fod wedi teimlo y pwerau mawr yn ymwneud a'n hysbryd ni. Cofiwn hefyd yr un pryd fod hwn yn eiddo ac yn gyn- ysgaeth Ddwyfol i bob cenedl dan haul ond iddynt ei geisio. Ofnwn ein bod ar lawer pryd yn selfish fel crefvddwyr. 0 am fwy o ysbryd cenhadol tebyg i fel yr un feddian- odd Nathanael-dwyn ei frawd yn syml at lesu Grist. Llai o weld gwendidau ein gilydd a mwy o ymdrech i chwilio allan y gore ym mhawb. Dyma Gri yr oes," a dyma faich Efengyl y Mab anwyl A beth, yn lie crynhoi yn ein cap elau, pe yr elem allan i'r prif ffyrdd a'r caeau, i ddwyn yr esgeulus a di-ymgeledd. a'r di-Dduw i wybod- aeth o'r gwirionedd. Caerau. E. EVANS. I