Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
--i BYCHANU CRIST.II
BYCHANU CRIST. Anwyl Olygydd,-Ryw air bach i'ch hysbysu fy mod yn trefnu i anfon gair neu ddau eto ar y pwnc dan sylw, — Bychanu Crist." Anfonaf yn brydlon yr wythnos nesaf. Ymddengys i mi yn anmhriodol i fod yn orfrysiog gyda mater fel hwn, ac nis gallaf fi yn yr am- gylchiadau presenol, eistedd i lawr gyd a'm hysgrifell pan y mynwyf. Heblaw hynyna, caiff rhyw un arall felly fwy o gyfb i draethu ei len ar rhyw fater y dymunai alw sylw ato. Diolch i chwi am osod fy llythyr diweddaf yn Nghol- ofnau y Llythyrau at y Gol., canys yr wyf yn teimlo fod hyny yn help i un ymgadw rhag dweyd geiriau yp awr ac yn y man, fuasai'n fyr o fod yn Noun- ces." Drwg genyf fod "J. K." wedi ymollwng i wneyd hyny yn barod, ond nid wyf yn malio dim am hyny, nac yn dymuno efelychu neb mewn pethau felly. Yr eiddoch yn gywir a serchog, W. BICHAEDS.
IYSGRIF Y PARCH. BERWYN !…
I YSGRIF Y PARCH. BERWYN ROBERTS. Mr Golygydd,A gaf fi gongl fach o'r G. N. i ddiolch yn galonog i'r Parch Berwyn Roberts am ei ysgrif wych ar lyfr Dr Peake. Oredaf ybuasai ei lled- aenu yn bamphledyn drwy'r tair talaeth yn wasanaeth anmhrisiadwy y dyddiau y n. Ond mae un sylw yn ei enamel nad wyf yn alluog i'w ddeall, tebyg mae fy nylni i sydd yn cyfrif am hyn. Wele'r tea wddeg, "lYlae gofyn a yw pob rhan o'r Beibl mor ysbrydoledig a'u gilydd yn cyfodi o syniad cyfeiliornus am yr oil o honó." Bu'm yn darllen Yr Arwein- ydd dro yn ol, ac y mae argraff ddofn ar fy meddwl fod ynddo gwestiwn i'r I perwyl yma, sef a yw pob llyfr yn y Beibl mor ysbrydoledig a'u gilydd ? Os yw fy nghof yn iawn, nid yw yr Ar- weinycld wrth fy llaw-a yw gofyn cwestiwn fel yna yn tybio fod awdwr yr Arweinydd yn meddu syniad cyfeilior- nus am yr oil o'r Beibl ? Ac os felly, a yw yr Arweinydd yn llyfr cymwys i'w ddysgu i'r plant ? Deallaf fod awdwr yr Arweinydd yn bresenol pan ddar- llenwyd y papyr, ac iddo siarad, mae'n debyg iddo egluro. Ond i ni oedd yn absenol mae'r peth yn dywyll. Pan mae dynion o ddiwilli.ant a chraffter meddwl Mr Isfryn Hughes a Mr Ber- wyn Roberts yn gwneyd dau osodiad I mor groes i'w gilydd, yr ydym ni rai bach yn myn'd i'r niwl yn lan, ac yn I methu gwybod sut i edrych ar y Beibl. Dyj4r frawddeg larall yn mhapur Mr Roberts, Cam a'r Beibl yw ei ranu yn hytrach nag edrych arno fel un cyf- anwaith. Beth olygir wrth edrych arno Dysgwyd fi mai ffordd oreu i ddeall gwabanol lyfrau y Beibl yw eu hefrydu yn ngoleu yr oes yr ysgrifenwyd hwy, ac amgylchiadau y genedl ar y pryd, ac mae llyfrgell yw y Beibl ac nid llyfr, ac os felly fod yn anmhosibl ei ddeall heb ei 'rannu.' Carwn gael goleu ar rhyw faterion fel hyn, er ceisio deall o ba safbwynt i ediych ar y llyfr sydd i mi goruwch pob llyfr. Yr Eiddoch, UN MEWN PENBLETH.
Y CRIST NEWYDD.
Y CRIST NEWYDD. Yn gydmarol ddiweddar y ganwyd y Crist Newydd" a gynygir inni gan ddosbarth yn yr eglwys ag sydd yn honni bod yn ddiwinyddion i fyny a'r dydd a'r oes." Nid yw y Crist New- ydd mor hen a phrif Ddiwinyddion y dydd. Cauer allan Ddyddiadur yr Undodwr, ac Almanac ambell ianffydd- iwr, ac nid yw dydd genedigaeth y Crist Newydd i'w weled yn unman. Nid yw mor hen a phrif Ddiwinyddion y dydd," ond wedi ei eni pan y daethant hwy yn ddigon hen i gyhoeddi eu dam- caniaethau mewn llyfrau. Oed y Crist Newydd ydyw o'r dydd y cyhoeddodd y Doctoriaid Peake, Mackintosh, Garvie, Denny, Orr ac eraill (o'r un oes) eu barn am y Crist. Rhaid bod yn wylaidd a gostyngedig wrth enwi y boneddigion dysgedig hyn, onide i'r "ffwrn dan y cawn fyn'd ar ein hunion. Y mae gwastadedd Dura" yn bod heddyw. II Pan glywoch swn y cornet, y chwib anogl, y delyn, y dulsimer, y Psaltring, y symphon a phob rhyw gerdd y syrth- iwch." Dyna mae yn ymddangos a ddisgwylir oddiwrth bawb sydd wedi dod i gysylltiad a gweithiau yr enwogion uchod. Ac nid yn unig bod yn wylaidd a gostyngedig wrth eu henwi, ond bod felly pan yr enwir hwy gan eraill o'r pwlpud neu'r wasg. Rhaid i bawb pan glywir enwau y boneddigion hyn, gofio y gair Abrec—ar eich gliniau ar ganol y ffordd neu rhywle arall. Nid wyf yn dymuno dweyd haner gair yn ddiraddiol am y dysgedigion uchod. Y maent yn ddynion o wybodaeth a gallu diamheuol ac yn haeddu eu parchu, ond y mae eu gwneud yn anffaeledig, ac yn awdurdod derfynol ynglyn a Pherson Crist, ac nad oes rhyddid barn i neb arall ar y pwnc, yn fwy na digon. Credaf y ffieiddiai y rhai sydd yn fyw y syniad pe y deallent fod yna ddosbrrth am eu gwneud hwy yn fwy na lesu Grist. Tybed fod sail i sylw o'r natur yma ? Mewn llyfr a ddaeth i'm llaw yn ddiweddar y mae'r brawddeg ganlynol, Y mae yn rhaid dewis rhwng lesu Grist a'r Beirniaid." Y mae lesu Grist yn gorfod myn'd i'r caban a'r Beirniaid yn cael y deck. Peth go hynod ydyw gwneud pabell i Moses ac Elias yn gyntaf, ac i lesu Grist yn olaf- Efengyl Newycld at y Crist Newydd ydyw hon. Y Crist Newydd ydyw y Ciist an- wybodus—un heb wybod dim mwy na phroffwyd cyffredin arall, un yn cam- gymeryd wrth ddifynu hanes, ac un heb wybod amseriad digwyddiadau pwysig y dyfodol, ac eto yn fwy o Grist oller wydd ei anwybodaeth. Dyma ath- rawiaeth hynod iawn. Torrer gangen a'r goeden i lawr ac yna dyweder fod y goeden yn fwy o goeden torrer Haw neu droed dyn i ffwrdd, ac yna dyweder ei fod yn fwy o ddyn. Digwydda yr athraw dysgedig wneud un camgymer- iad wrth egluro y XIV. neu o XV. Broblem yn Llyfr I. Euclid, ac yna, oblegid hyny deuir i'r casgliad nad ydyw yr athraw yn gwybod ond rhyw bedair neu bump o'r problemau cyntaf, ac nad ydyw erioed wedi myn'd dros Bont yr Asynod," ac wedi tynu y chwe' llyfr dilynol oddiamo, cyhoedder ei fod yn fwy o athro. Gan bwyll," mecidir, nid yw y gydmariaeth, yn un deg, nid yw person yr athro a'r Crist yr un fath," Nac ydynt, ac am hynny y dylid bod yn ofalus i beidio gosod Crist yn yr un saf.e a dynion, a chymeryd mantais ar un adnod i gyhoeddi Crist Y n un'(l.nv,-Yb-I odus. Gyda golwg ar yr adnodau yn cynwysymholiadau o eiddo lesu Grist (megis pa le y dodasoch ChWl ef ? ), [1, wisgir am y Crist Newydd y mae ein cyfaill Mr William Richards, o Bir- mingbam, wedi eu gwneud yn rhiban- nan, a phwythir byth mohonynt eto I wrth eu gilydd, Diolcha canoedd i'r cyfaill am ei ysgrif gampus ac anateb- adwy, a gall fod yn dawel ei feddwl fod pedwar ugain a deg o bob cant o Wesle- aid Cymru yn credu mewn Duw yn y cnawd" a'i wybodaeth yn anherfynol. Wedi i'r cyfaill wneud adnodau yr yrnholiadau" yn chwerthinlhd yn nwylaw addolwyr y Crist Newydd nid oes hyd y gwelaf ond un adnod yn aros a dyma hi "Ond am y dydd hwnnw a'r awr nis gwyr neb nac angylion y nef- oedd ond fy Nhad,yn u-,iig," Matthew xxiv. 3G.. Ie, dyna hi yr unig un sydd o fewn hanes y Gwaredwr sydd yn ?anvgrymu -anwybodae'ul-i, ond pa sawl un sydd yn awgrymu holl wybodaeb, Ewch i'r ddinas a chyferfydd a chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr, dil- ynwch ef," Marc xiv. 15. Y mae yna fwy na gwybodaeth ddynol yn y fan yna onid oes ? Er hynny rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i'r mor a bwrw fach a chymer y pysgodyn a ddel i fyny yn gyntaf, ac wedi i ti agoryd ei safn ti a gei ddarn o arian, cymer hwnw a dyro iddynt drosof fi a tbitbau, Matthew xvii. 27. Ystori Jonah arall! Dim o'r fath beth wedi digwydd. 0 felly wir! ai tybed fod yr adnod am y "Dydd hwnw wedi cael ei llefaru erioed Os y naill paham y llall ? Y mae yna rhyw swn hollwybodaeth yn ngwyrth y darn ar- ian ac meddai Petr wrth lesu Grist, Arglwydd ti a wyddost bob I)eti-i loan xxi 17. Os nad oedd lesu Grist yn gvybod pob peth" ac eto yn derbyn yr anrhydedd gan gres dur o ddyn-—rhaid ei fod yn ffals ac yn wag- ogoneddg,ar. Un felly mae'n ymddangos ydyw y Crist Newydd, ond nid un felly ydyw Gwaredwr y Testament Newydd. I. Ond i ddyfod yn ol am funud at y dydd hwnw a'r awr nis gwyr neb nac angylion y nefoedd ond fy nhad yn unig." Mewn adnod arall fe ddywed yr lesu, Myfi a'r Tad un ydym." A ydyw yr adnod yna yn wirionedd ? Os nad ydyw dyna ben ar y bennod, ond os ydyw, pa'm na wyddai lesu Grist ? Fe wyddai fel Tad ond ni wyddai fel Mab meidir, ac eto y ddau yn un! Campus Os y gwyddai lesu Grist ac yntau yn dweyd na wyddai a oedd hyny yn iawn ? Os na wyddai, ac yntau yn derbyn cydnabyddiaeth o holl wybod- aeth (Ti a wyddost bob peth). A oedd hyny yn iawn ? Os nad yw y naill yn iawn, nid yw y Hall felly, ond y mae'r ddau yn iawn. Nis gellir cyfyngu ar holl wybodaeth. Y mae holl wybod- aeth yn rhwym o fed yn holl wybod- aeth, ond y mae'n bosibl i'r holl-wyb- odol beidio dweyd yr oil y mae yn ei wybod. Y Tad Hollwybodol yng Nghrist a'r Crist mewn ufudd-dod perffaith i'r Tad yn peidio datguddio ond yr oedd yn anhebgorol. Ufudd dod y Mab i'r Tad ydyw elfen bennaf ei fywyd, ac mewn ufudd-dod i'r Tad y dywedodd mai pertbyn i'r Tad oedd ynddo oedd datguddio dydd y tarn. "Hwn yw fy anwyl Fab yn yr hwn y'm boddlonwyd." Na Crist yn gwyb od, ond y Tad i ddweyd. Dywedaf hyn, os nad oedd lesu Grist yn hollwybodol pan ar y ddaear, nid yw felly yn y nef. Pa bawl sydd gennyf i wneud y fath haeriad ? Am fy mod yn meddwl nas gall neb o edmygwyr y Crist Newydd, brofi pa bryd y daeth yn holl- wybodol. Yn ol eu dadl hwy ni ddaeth yn fuan ar ol adgyfodi, oblegid y mae ar 01 adgyfodi yn gofyn cwestiynau "Pa bethau ? gofynai i'r ddau ddisgybl ar y ffordd i Emmaus, ac wedi hynny i'r disgyblion oil, A oes gennych chwi yma ddim bwyd ? Felly pa bryd y daeth lesu Grist yn hollwybodol ? Wedi iddo fyn'd i'r byd arall. 'Sut y gwyddoch chwi ? Mae eich Crist New- ydd chwi yn Grist anwybodus ar y ddaear, ac yn Grist anwybodus yn y I nef, ar ddim y rnedrwch chwi brofi yn wahanol. Pa un ai breuddwydio ai beth yr ydych am eich diwinyddiaeth ddi- weddaraf, bydd eich Crist Newydd yn go hir cyn y caiff ei le yn meddwl Cymru. Y mae genyf bawl i'r farn yna ac ni fedr neb o'r Beirniaid y soniwyd am danynt ei chymeryd oddiarnaf, ac am y Crist Dwyfol, Gwaredwr y byd. y dywedwn—Ti Waredwr Dwyfol a'n cre- aist ac a'n prynaist, a wyddit yr oil am danom cyn dy ddod, ac ar ol dod, ac ar ol adgyfodi ac esgyn a wyddost y cwbl oil, i ti y byddo'r mawl a'r anrhydedd byth. D. THOMAS. I Beaumaris.I- I
iJ GEIRIADUR NEWYDD. 1
GEIRIADUR NEWYDD. Dymunem alw sylw ein darllen- wyr at yr argraphiad newydd o Eiriadur Cymraeg a Saesneg Spurrell, pa un sydd wedi ei ddi- wygio yn drwyadl, a than olyg- iaeth y Parch Bodvan Anwyl, gyda chymmhorth rhai o ysgol- heigion Cymreig blaenaf y dydd. Y mae y llyfr wedi ei rwymo yn ddestlus, a'r gwaith yn cael ei gyhoeddi yn orgraph Cymdeithas yr laith Gymraeg. Sicr genym y bydd yn dda gan luaws gael y Geiriadur hwn, ac y bydd o was- anaeth mawr i'r sawl ddeuant yn feddiannol o hono. Gweler man- ylion yn nhudalen yr hysbysiadau. Y mae beirniaid y ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor wedi' dewis cwmni Bethlehem, Pentyrch, ger Caerdydd, a chwmni Caerdydd, i berflormio yn derfynol yn Bangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Y mae y cwmni blaenaf yn perfformio Asgre Lan,' a'r ail yn perfformio Beddau'r Proffwydi.'
... '' '- - O'R LLYFR COCH.…
O'R LLYFR COCH. Argreffir dau lyfr darllen Cym- raeg o waith Proff. Young Evans, Aberystwyth, yn argraffwasg Prif- ysgol Rhydychen, a chyhoeddir hwynt yn ystod yr haf, sef Hanes Pryderi fab Pwyll," a Dewrion Llys a Llan." Rhanau o gynwys dwy gyfrol, adnabyddus o'r un argraff wasg, a adroddir gan mwyaf yn y ddau lyfryn, sef Y Llyfr Coch o Hergest." Cwr Lien Gwyddoreg. c." Cwr y Lien Ysgrifau Syml ar Faterion Gwyddonol." Dyna ben- awd cyfrol o waith Mr Gwib/m Owen, M A., B.Sc., athraw mewn Athroniaeth Naturiol yn Ngholeg y Brifysgol, Auckland, N.Z., ac wedi ei chyhoeddi gan Mri Hugh Evans a'i Feibion, Liverpool.
DIWEDDAR OLYGYDD <( SEREN…
DIWEDDAR OLYGYDD <( SEREN CYMRU." Gwr haedda gael coffa teihvng o honno yw y diweddar Barch W. P. Williams, D.D., Golygydd y Seren. Gwnaeth ddiwrnod da o waith, a gosododd ei Enwad a'i Genedl dan ddyled iddo. Yn Ngheninen Gwyl Dewi ceir tua deugain o englynion iddo gan amrywiol feirdd, ac ymdrechant yn deg a gonest bortreadau ei rin- weddau. Ni ddylid beio'r beirdd, ond sicr ddigon yw mai llawer mwy derbyniol fyddai ysgrif dda arno gan un o'i hen gydnabyddion. Li! I iaith Japan. Y mae un o lyfrau y Parch E. O. Davies, B.Sc., sef ei Ragarwein- iad i Ddiwinvddiaeth Gvfundref= nol (Prolegomena to Systematic Theology), wedi ei gyfieithu i'r Japanaeg. Cyhoeddir y cyfieitlliad yn Japan gan Gymdeithas Llen- yddiaeth Gristionogol (Christian Literature Society of Japan). > Cranogwen. Mae'r "Ymwelydd Misol" wedi rhoi darlun da o Cranogwen y mis yma, ac ysgrif pur faith arni gan Miss Pritchard,Croesoswallt. Dyma y tro cyntaf i mi weled ysgrif yn dweyd tipyn o hanes Cranogwen, a gwna Miss Pritchard hynny yn chwaethus a diddorol iawn. r, Goronwy. Ysgrif sydd wedi codi dust pob lienor yw ysgrif y Parch T. Shank-' land yn Y Beirniad diweddaf ar Goronwy Owen a'i deulu a'i gym- wynaswyr. Dyma gvmwynaswyr ac os gwir ei chasgliadau—ac y. maent yn ddiwrthdro i bob golwg -bydd raid rhoi'r hen gofiannau a'r hen ysgrifau arno o'r naill du, ac ysgrifennu'r cwbl o'r newydd. Ar derfyn ysgrif o 20 tudalen dywed Mr Shankland:- "Bellach, wedi prori (--oagnilr chwedl Forrisaidd am gymeriad Owen Gronw, mae'r ffordd dipyn bach yn gliriach i ni fyned yn mlaen a hanes bore oes y bardd." Goronwy Owen yw testvn vr ysgrif, a da y gwnaed rhoi gofod mor helaeth i drafod mater y bu cymaint o gyfeiliorni yn ei gylch. sef cymeriad tad Goronwy Owen.) Ysgrif gampus ydyw, yn gynyrch ymchwil i ffeithiau, a barn annibynol a rheg amynt. | Mae'r ysbryd tegwch at goffa y gwr, a'r gonestrwyddv i chwalu traddodiadau golyg-us yn amheu- c cJl CL\CLU t- D,J L-J. thun.
iYmddíswn::¡,:Had. 1 Ymddiswy?sia?.
Ymddíswn::¡,:Had. Ymddiswy?sia?. Y mae Mr J. R Davies. Ceris, wedi ym- ddiswyddo fel trysorydJ y Rydd- frydig. Gwnaeth hyn yn I ?rr.f o hervrydd y re i nil ad oedd wedi codi ya y r lad tuag ato vn y satie a gymn.— dd gyda golwg ar Fesur Cymru. Gadael dewis oiynydd a wnaed 'i' pwyllgor cyfrredinol a gyf- vd c-ffre-J.inol a g?,f- erfydd y mis nesaf.
Talaeth Gyntaf y . Gogledd..…
Talaeth Gyntaf y Gogledd.. j Gogledde 1, i-. I Gair bach i adgofro Arolygwyry Cylchdeithiau mai i Mr W. Jones, 73, St. Domingo Vale, Liverpool, y mae"anfon y Trust Schedules, ac i minnau i'r cyfeiriad Ísôd yr holl Schedules erail!. Byddwn ein dau yn ddiolchgar am danynt mor fuan ag y mae modd. T. OWEN JONES.  j1: ,-11  0:) 0., 18 St. Edmonds Road | Booti? + Liverpool. I
I Y GOLOFN GERDDOROL.
Y GOLOFN GERDDOROL. (Gan J. LI.). J M I YR YSGOL GAN A CHANT CYNTLL- EIDFAOL. Nid ydym yn sicr a ydyw fyr Ysgol Gan, neu y cyfarfod canu, a gynhelir gan amlaf ar y Sul, yn cael y sylw dyladwy oddiar law ein cynulleidfaoedd. Mewn llawer man tyneu a llwydaidd ydyw. Er cyhoeddi y cyfarfod bob Sabboth, I ac er y pwysleisir ar y bobl i ddod I yno, etto ychydig arwahan i nifer q blant ddaw ynghyd. Cwyno lied gyffredinol y svda yn y cyfeiriad 'I, 7n v cyfeirlad' hwn. Maeyn amhosibi cael diwyg- iad yn ein canu cynulleidfaol os na bydd i'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa roddi eu presenoldeb yn y Cyfarfod Canu. Fe gwynir digon, pan ddygir ton newydd i mewn i'r gwasanaeth, fod y canu yn ddi- lewyrch a marwaidd, a di-raen ond os felly y digwydd i'r canu fod, nid beio fyr arweinydd a ddylid ond y grwgnachwyr eu hunain. Pe byddai iddynt hwy ddod i'r Ysgol Gan i ddysgu y tonau newyddion fe ddiflannai y cwyno byth a hefyd y sydd. Nis gellir dim yn well mewn lleoedd fel hyn na manteis- io ar ran o'r gwasanaeth cyhoedd- us ar y Sabboth i fyned dros rai o'r tonau. Credwn ei fod mor bwysig cael canu da ag ydyw cael pregeth dda, a manteisia y naill ar y I lall., Pa bryd y dylid ? I DYBLU'R GAN ? Yr hen arferiad ydoedd dyblu y pedair neu y ddwy linell olaf mewn emyn, a chedwir ef i fyny mewn llawer man hyd heddyw. Gallwn ddeall y rheswm am dano flynyddau yn ol, pan oedd y llyfrau emynau yn brin, ac y darllenid y penillion gan y pregethwr er man- tais y gynulleidfa. Ond erbyn hyn y mae y llyfr emynau yn llaw pawb ac fe genir y penillion drwodd a phriodol iawn felly yw ymholi a oes angen dyblu'r llinellau olaf. Digon priodol, efallai, pan y cenir dau neu dri allan o bedwar o ben- illion, dyweder, yw ail ganu y llinellau olaf er rhoddi arwydd i'r gynulleidfa na fwriedir canu yr oil o'r penillion. Ond pan y cenir yr oil nid oes angen o gwbl ddyblu'r llinellau olaf, os na bydd myn'd ar y canu. Ar adegau felly dylai yr arweinydcf arfer eii; ddoethineb, .a phriodol yn ddiau fyddai ail fynd dros rai o'r penillion drachefn. Ond yn bendifaddeu cs marwaidd a difywyd fydd y canu, peidier ag ail adrodd, a chaner can lleied ag sydd bosibl. Faint [o sylw ga lleisiadadaeth gan vr I ARWEINYDD CANU? Cwestiwn a ofyna y Parch Tegla Davies yn y Goleuad" yr wyth- nos o'r blaen yw hwn, y dywed mai ychydig o sylw delir i'r art hwn er y manteision i gyd, a dylai'r arweinydd sylwi ar y mater hwn, I a ffurfio dosbarth i gyfarwyddo yr I ieuainc gyda golwg ar y dull priodol o leisio; mai y deml ddylai gael ein goreu. A hyn y cytuna Golygycld" Y Cerddor," yr hwn ddywed y dylai yr arweinwyr ddisgvblu eu lleisiau eu hunain, ac un o fencli thion yr organau ydyw eu bod yn rhoddi gwell syniad am burdeb ton, ac hefyd maent yn boddi swn angerddol ambell" i arweinydd sydd yn gwasgar ias oer, ac yn bwrw ia yn dameidiau' drwy y gwasanaeth, Gwelwn oddiwrth adroddiad o gyfarfod blynyddol yr Eglwysi Rhyddion a gynhaliwyd yn Nin- bych ddarfod i'r Parch P. Jones Roberts, Ysgrifenydd galluog yr Ail Dalaeth, gario drwodd ben- derfyniad i ystyried y priodoldeb o gael Cx: LLYFR TONAU AC EMYNAU at wasanaethxyflredinol y pedwar enwad yn Nghymru. Mae y mater hwn yn cael gryn sylw y dyddiau hyn, er fod mesur o wahaniaeth I bain arno. Gellir dweyd Ilawer o'i blaid ac yn erbyn. Beth pe cawsem farn rhai o'n darllenwryr ar I y mater,—yn llenorion a cherddor- loe ? Fe fydd y Talaethau Cym- reig yn enwi brodyr i gvfarfod Pwyllgor Gweithioi yr Eglwysi Rhydd i edrych i mewn iddo.
Yn Eisieu-rhyw gynllun. newydd.
gweddi cyrfredin a arferid ei gynal ar nos Fercher wedi cael ei advertisio o'r newydd. Aeth ein gweinidog i deimlo wrth weled y cyfarfod gweddi yn mynd i lawr fod yn rhaid dod a hen arferiad a 1110ddioll mor ragorol i fri eto., Yr oedd ei galon a'i feddwl yn- llwvthog o ddaioni ac o ond dros y lluaws cyndyn, ac o weled ben- dithion yr efengyl yn cael eu hesgeuluso, ac mae newid enw y cyfarfod gweddi wedi bod yn foddion i ddwyn llaweroedd i afael y goleuni mwy. Yr oedd ryw naws nefolaidd, meddai'r hanesydd, yn toni dros y gynulleidfa fawr-1 eddog. Yn y man gwelid yr, arweinydd yn codi ar yr esgynlawr a rhoddi allan erriyn aduabyddus "All hail the power of Jesus' name." Ar hynny dyna'r gynull eidfa yn codi ar unwaith, a chan- wyd, dyblwyd, a threblwyd yr emyn nes bod pob enaid oedd yn bresennol yn teimlo ei hunan yn drwm o dan y gwlith." Gallem yn hawdd ddifynu mwy, ond rhaid gadael y tro yma. Credwn yn sicr pe bae modd cael eglwysi Cymru, sydd lawer ohonynt yn nychu mewn gwendid, digalondid a. mar- weidd-dra, allan o'u cragen, a mabwysiadu rhyw drefn neu gyn llun newydd, y byddai yn fendith fawr. Y mae llawer o'r eglwysi a'u haddoliadau yn ddim ond routine noeth. Ni theimlwn ei fod yn anrhydedd mawr i nifer o grefyddwyr gau eu hunain i fyny o nos i nos i ofyft am fendithion, ac i ddiolch am waredigaethau, pan y mae cyflafan ofnadwy yn mynd yn mlaen oddiallan, y byd yn cyflymu damnedigaeth. Mae'r oes yn crefu am rywbeth i'w ddiwallu, a rhydd y gelyn-ddyn garreg iddi. Mae hon lawer yn rhy galed 'i enaid; o ganlyniad mae miloedd o eneidiau gwerthfawr ar newvnu. 0 welsion y Duw byw, gwelwch y y gwinllanoedd a'r meusydd, yd^nt eisoes yn wynion i'r cynhaeaf. Na foddlonwn aros yn ein hun-fan am byth yn hogi'r cryman. Peidiwn ag ymfoddloni ar fod wedi teimlo y pwerau mawr yn ymwneud a'n hysbryd ni. Cofiwn hefyd yr un pryd fod hwn yn eiddo ac yn gyn- ysgaeth Ddwyfol i bob cenedl dan haul ond iddynt ei geisio. Ofnwn ein bod ar lawer pryd yn selfish fel crefvddwyr. 0 am fwy o ysbryd cenhadol tebyg i fel yr un feddian- odd Nathanael-dwyn ei frawd yn syml at lesu Grist. Llai o weld gwendidau ein gilydd a mwy o ymdrech i chwilio allan y gore ym mhawb. Dyma Gri yr oes," a dyma faich Efengyl y Mab anwyl A beth, yn lie crynhoi yn ein cap elau, pe yr elem allan i'r prif ffyrdd a'r caeau, i ddwyn yr esgeulus a di-ymgeledd. a'r di-Dduw i wybod- aeth o'r gwirionedd. Caerau. E. EVANS. I