Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

PORTH. I

BRIWSION 0 ABERPENNAF, MOUNT-I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BRIWSION 0 ABERPENNAF, MOUNT- I AIN ASH. Y dewisedig wron i annerch Cymdeithas Lenyddol Bethlehem, M.C., nos Fawrth diweddaf, oedd y bardd-bregethwr Mr Henry Lloyd (Ab Hefin), ar Tro i'r amser gynt," yn nghyfrinach y ddwy hen wraig." Cafodd amser hapus ryfeddsl, a llond y Vestri fawr dan sang o oreuon y lie i wrando arno. Cadeiriwyd yn dde- heuig gan y prif flaenor, Mr Robert Wil- liams. Diolchwyd i'r ddau trwy guriadau cynhes y dwylaw. Bu wrthi hefyd nos lau yng nghapel Bryn Sion, ar y diweddar enwog Barch Thomas Aubrey," gweinidog Wesleaidd. Ganwyd ef yn Cefncoedcynar, ger Merth- yr, a magwyd ef yn Nantyglo, ac oddiwrth y ffwrnes dan' yna aeth i 'ffaglu yr Ef- engyl dragwyddol. Dywedodd Ab Hefin bethau gwych am dano. Yn y North yr oedd dywysog, ac yno y treuliodd rhan fwyaf o'i weinidogaeth, ond yr oedd gal- wadau mynych am dano trwy y byd Cym- reig, a bu yn sefyll yn fynych ar y llwyfan ac ym mhwlpud y Saeson. Gall Mr Lloyd wneud daxlith fydd yn aros mewn dylan- wad mawr o hon. Cadeiriwyd gan Mr J. M. Atkins (Superintendent Yswirol). Di- olchwyd i'r ddau yn gynhes am eu gwaith. Cynhaliwyd cyngherdd swynol yn yr Y.M.C.A. nos Fawrth diweddaf, tyrfa o wyr ieuainc y lie yn cymeryd rhan ynddo. Clwais fod merched tlws Mr Mulvey yno ar y crythau yn swynol dros ben, a bod Mri Leifi, Davies, John Williams, y Basswr, a Tom Edmunds, y Cyfreithiwr, wedi tori marc uchel iawn y tro hwn eto. Gellwch fentro, mewn gwasanaeth cariad, ni chyll neb eu gwobrwy. Cadeiriwyd gan y parod a'r hawddgarol y Meddyg Arthur Jones. Clywais fod y bardd-bregethwr, y Parch J. Rogers, y Rhos, wedi gwella yn dda o'i nychdod diweddaf, ac yn wir i chwi, y mae yn dechreu enill lliw iach iechyd. Fe ddywedir fod y wraig wedi penderfynu ei droi allan o'i fyfyrgell am awr neu ddwy i ddringo y bryniau yma, ac y mae yntau fel gwas da yn ufuddhau, ac y mae yr Oxygen yn gwneud ei waith. Gresyn i'r mab gobeithiol a dengar hwn i nychu ei hun trwy or-lafur. Sul diweddaf yr oedd Mr Evans, B.A., B.D., eu gweinidog dewisedig, yn gwas- anaethu yn eglwys Bethlehem. Dywedir pethau gwych am y gwr ieuanc talentog hwn. Gobeithioybyddeifwayngryfain flynyddoedd, gan gredu fod dyddiau mwy rhagorol a pharchus i ddod eto yn hanes y proffwyd yn Nghymru. Daeth dagrau twym dros y rudd gan lawer boreu Sadwrn, Mawrth yr 28ain, pan y taenwyd y newydd pruddaidd fod Mr John Williams, y Draper, o Penrhiwceibir, wedi marw, ar ol wythnos o gystudd caled (y Double Pneumonia). Aeth allan pryd- nawn lau, 8 diwrnod cyn ei farw, i'r ardd, i gyfarwyddo y garddwr gyda tipyn plan- higion, a chafodd anwyd. Gwr unplyg ac anwyl iawn oedd Mr Williams. Yr oedd wedi taflu eu hunain i fywyd cyhoeddus y He. Yr oedd yn ein cynrychioli ar Fwrdd y Gwarcheidwaid er's blynyddoedd. Yr oedd wedi enill yr enw Popular Guard ian er's, blynyddau. Yr oedd yn hoff o'i waith ac yn gysegredig iawn iddo. Yr oedd yn ddadleuydd dros y tlawd a'r ang- henus. Gwn y gwellla wer ei eisieu gyda dolur calon. Bedyddiwr oedd ein brawd, ac yr oedd yn un o sefydlwyr yr eglwys yn Ynysyborth, ac mi wn fod bwlch anhawdd ei lanw wedi ei wneud yno. Yr oedd yn garedig ac yn hael at bob capel ac Eglwys yn y cylch. Wythnos cyn ei farw cyfran- odd rhodd deilwng at ymdrech neillduol yn y lie, ac y mae y gymydogaeth mewn hiraeth dwys ar ol eu mab teilwng." Ni chafwyd gwell tad, na phriod mwy urdd- asol. ac ni lenwir gan neb y gwagder ond gan Dduw, priod y weddw a thad yr am- ddifad. Bydd genyf rhagor i ddweyd am y gwr da hwn, os gaf hamdden yn y man. Da wladwr duwiol ydoedd, A dyn Duw o'r gwraidd oedd." I MAB Y WAWR.

I PONTRHYDYGROES.

TOWYN. I

I LLANRHAIADR-YN-MOCHNANT.

! CAERAU, CYLCdDAIfH LLAKIDLOSS.

ABERGYNOLWYN.

PWLLHELI. I

BIRMINGHAM. I

I PISGAH, CYLCHDAITH COEDPOETH.

I LLANDILO.