Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

PORTH. I

BRIWSION 0 ABERPENNAF, MOUNT-I…

I PONTRHYDYGROES.

TOWYN. I

I LLANRHAIADR-YN-MOCHNANT.

! CAERAU, CYLCdDAIfH LLAKIDLOSS.

ABERGYNOLWYN.

PWLLHELI. I

BIRMINGHAM. I

I PISGAH, CYLCHDAITH COEDPOETH.

I LLANDILO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDILO. Prydnawn dydd lau, Mawrth 20ain, y cynhaliwyd Social olaf y tymor, o dan nawd Wesley Guild St Paul's.' "Bachelor's Social gafwyd y tro hwn, ac yn sicr, ni chafwyd ei well erioed. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mri Lloyd Hum- .phreys, London, City, and Midland Bank Jacob T. Lewis, D. John Lewis, Edgar Thomas, Ivor Thomas, Henry Davies, George Jenkins, a chynorrhwywyd hwy gan eraill. Bu y chwiorjdd yn ddiwyd yn g,a. s a r., a e t h u a i- j,-i I,- Hugh Hopkins, Mrs R. T. I Davies, Mrs Letitia Evans, R' v h Davies, Mrs Thcrnas Lewi, c 'Thomas, Esssie Evans, E. llinkn, a I Davies, M. Davies, E. Thomas, a chwior- ydd ieuainc eraill. Buwyd wrthi yn brys- ur yn gwledda am dros ddwy awr a haner. Nid oedd neb o honom wedi dychmygu y buasai y fath niter yn dod yn nghyd. Heblaw y tocynau a werthwyd yn flaenor- ol, gwerthwyd y noson honno GO yn ych- wanegol. Yr oedd y Vestry wedi ei hadd- urno yn brydferth neillduol gan Mr Willie Hopkins, yn cael ei gynorthwyo gan rai o'r boneddigesau. Wrth edrych ar y blodau a'r byrddau, a'r hen lanciau mor serchus a gwasanaethgar, a'r byrddau wedi eu hilio a'r fath amrywiaeth o ddanteithion, yr oedd yr olygfa yn ardderchog. Mawr yw y canmol ar y darpariadau a medrusrwydd y llanciau yn eu gwaith, a theg yw dweyd fod y cyfan yn home made," ac felly yn gosod mwy o werth ar y darpariadau. Wedi i bawb gyfranogi o'r wledd, ymneill- duwyd i'r capel i gynal cyfarfod, yr hwn a lywyddwyd gan y Parch D. Corris Davies. Cymerwyd rhan ynddo gan y personau canlynol Unawd gan Miss Gwladys Bowen adroddiad gan Mr Henry Davies can gan Miss Lizzie Howells adroddiad gan Mr D. Davies; unawd gan Mr R. T. Evans, yn cael ei gynorthwyo yn y cydgan gan Mrs Evans; deuavvd gan Misses Sannah Davies a M. Davies adroddiad, Wil Bryan a'r Clock," gan y Parch Meir- ion Williams; adroddiad gan Mr George Jenkins Sketch gan Mr Jacob T. Lewis a'i barti. Cafwyd cyfarfod rhagorol. Prif atdyniad y cyfarfod oedd y Sketch—priod- ac hen ffasiwn, a rhyfedd y difyrwch gaf- wyd. Cynrychiolwyd y gwahanol gymer- iajau gan Mri Lloyd Humphreys, Jacob T. Lewis, Henry Davies, Griffith Griffiths, Miss Francis, a Miss Griffiths, ac amryw o chwiorydd ieuainc eraill. Awdwr y Sketch yw y Parch J. D. Davies, Pencader, a gwnaeth y parti eu gwaith yn bertfaith. Gresyn na fuasai yr awdwr yn bresenol i weled y perfformiad yn cael ei gario allan mor rhagorol. Bu y Parti wrthi am wyth- nosau yn parotoi, ac yr oedd ol llafur mawr i'w weled y noson honno. Darparwyd gwisgoedd hefyd i gynfychioli y gwahanol gvmeriadau. Yr oedd y Social a'r cyfar- fod yn llwyddiant perffaith. Dyma yr un mwyaf poblogaidd gynaliwyd yn y lie erioed. Gwasanaethwyd wrth yr Organ gan Mr Willie Hopkins yn ddeheuig iawn. Diolchwyd i bawb ar y terfyn gan y Lly- wydd. Cafwyd tymor llwyddianus gyda'r Guild. Tynwyd allan dalentau o'r eglwys. Ni awd oddiallan i ofyn gwasanaeth neb, ond y ddau weinidog ieuanc sydd yn y Gylchdaith. Daethant hwy atom, a gwnaethant yn rhagorol. Credwn y bydd hyn yn fantais i'r eglwys yn y dyfodol. Yr ydym yn ddyledus iawn i Miss Essie Evans, Ysgrifenyddes y Guild, am ei gwasanaeth. Bu yn weithgar iawn gyda'r trefniadau, a gofalai am i bawb gadw ei blan. Yn yr ystyr hon, ni chawsom ei chystal yn unman. Bu Mrs Hugh Hopkins, a Miss Kate Thomas, yn barod iawn i wasan- aethu wrth yr offeryn ar hyd y tymor. Hyderwn y cawn Guild llwyddianus eto y fiwyddyn nesaf. Nos Wener, Mawrth 27ain, bu Band of Hope St Paul's ac eraill yn cynal cyng- herdd yn y Tlotty. Llywyddwyd gan y Parch D. Corris Davies. Cymerwyd at y rhan cyntaf o'r cyngherdd gan y Band of Hope, o dan arweiniad Mrs R. T. Evans, Penlan. Gwnaeth y plant eu gwaith yn ddeheuig dros ben mewn canu, adrodd, ac actio.' Yr oeddynt yn hollol yn llaw Mrs Evans. Buont wrthi am dros awr. Teim- lwn yn ddiolchgar i Mrs Evans am ei llafur cariad gyda'r plant. At hynny cafwyd unawdau gan Mrs R. T. Evans, Miss Gwladys Bowen, Mri W. T. Evans deu- awd gan Misses M. Davies, a S. Davies; deuawd gan W. T. Evans a George Hin- kin adroddiad gan Mri George Jenkins a Jacob T. Lewis Pianoforte Solo gan Miss Kate Thomas, a Willie Hopkins, a chan Mr J. T. Griffiths. Hefyd cafwyd y Sketch gan Mr Jacob T. Lewis a'i barti, gyda hwyl anghyffredin, nes yr oedd y .dyrfa wedi ei syfrdanu. Taer ddymunwyd arnynt ddod i roi gwledd iddynt y fiwydd- yn nesaf eto. Pasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i bawb am eu gwasanaeth gan Mr Evans, Meistr y Ty, a chan Mr W. Hopkins, U.H., un o'r Gwrarcheidwaid, a siaradwyd yn'ganmoladwy gan eraill Gwasanaeth- wyd wrth y Piano gan Mr Willie Hopkins. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Nos Sabboth, Mawrth 22ain, cynaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol i'r ddiweddar Mrs Tomkins, Thomaston, un o aelodau hynaf St Paul's. Yr oedd y gwasanaeth I gan mwyaf yn Saesneg, er mwyn ei hanwyl briod ac eraill o'r teulu. Chwith gennym I ar ol ein chwaer. Bu yn neillduol o ffydd- lon a pharod gyda'r achos. Celled yr Ar- glwydd am Mr Tomkins a'r plant fu mor ofalus ohonni, a pha rai sydd mewn hir- aeth mawr ar ei hoi. Gwasanaethwyd gan y Parch D. Corris Davies. Hawdd deall fod galar dwys yn yr eglwys ar ol ein chwaer. Nos Fercher, Ebrl 11 I-af, Nos Fercher, Ebrill laf, yn Llwynyronen, traddododd y Parch D. Corns Davies ddarlith ar Y Gwr Hynod i gynulleidfa barchus. Cymerwyd y gadair gan y bon- eddwr Mr G. Griffiths, Maenyffynon. Siar- adwyd hefyd gan Mr T. Lewis, Troedy- rhiw. a Mr D. Jones. Elai yr elw at yr achos yn y lie. Nos Fawrth, Mawrth 21ain, yn St Paul's, Llandilo, mewn cysylitiad a'r Wesley Guild, cafwyd anerchiad rhagorol gan- y Parch J. Meirion Williams, ar Rai o gym- eriadau Daniel Owen." Gwrandawyd ar anerchiad hynod o gynwysfawr a chafodd Mr Williams wrandawiad astud. Siarad- adwyd ar y papur gan y Llywydd, y Parch D. Corris Davies, Mri W. Hopkins, U.H., Thomas Lewis, a T. Thomas, a phasiwyd pleidiais o ddiolchgarwch i Mr Williams am ddod atom, ac anerchiad a chenadwri mor bwysig ynddo. Yr un noson, yn yr un lie, traddododd y brawd ieuanc D. Gourlay Thomas ei bre- geth gyntaf i gynulleidfa luosog. Cawsom ¡ odfa neullduol o dda, a chredwn fod dyf- odol disglaer i'r brawd ieuanc hwn. "Yr I ydym yn falch fel eglwys o'i weled yn dechreu ar y gwaith pwysig o bregethu, fel y dywedodd Mr Hopkins, mai efe yw y i pregethwr cyntaf erioed i eglwys Wesle- II aidd Llandilo ei godi. Gobeithiwn y try allan yn anrhydedd i'r eglwys yn y lie, a bod yna flynyddau o ddefnyddioldeb yn ei aros yn y cylch pwysig hwn.