Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

, CCLOFN YR AMAETHWR.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CCLOFN YR AMAETHWR. Adran Amaethyddiaeth, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lonawr 30ain, 1914. Anwyl Syv, Fel mae yn debyg y gwyddoch, y mae grant wedi ei roddi i'r Adran hon gan Fwrda Amaethyddiaeth i benodi dau Gyfarwyddwr (Advisers), gwaith y rhai fydd gwneud ymholiadau i gwest- iynau neilltuol yn dwyn perthynas ag Amaethyddiaeth, ynghyd a rhoddi cyfarwyddyd gwyddonol ar faterion amaethyddol i ffermwyr yng Ngogledd Cymru. Penodwyd Mr J. Lloyd Williams, D.Sc. (gynt yn Ddarlithydd Cynorth- wyol mewn Llysieuaeth yn y Coleg), yn Gyfarwyddwr mewn Llysieuaeth Amaethyddol, a Mr G. W. Robinson, B.A. (o'r Ysgol Amaethyddol, Caer- grawnt), yn Gyfarwyddwr mewn Ffer- ylliaeth Amaethyddol. Trwy gynhorthwy grant- o'r Devel- opment Fund, y mae ystafeHoedd a darpariadau cyfleus wedi eu cwblhau, a phob manteision at wneud ymchwiliad- au i unrhyw gwestiynau ellir eu hanfon. I d dan gos y gwabanol ffyrdd y gobeithir y bydd y cyfleusterau hyn o fudd union- gyrchol i ffermwyr yn y cylch a wasan aetbir gan y Coleg, wele yn canlyn restr o ychydig o faterion am y rhai y gofynwyd ac y rhoddwyd cyfarwydd- iadau. Triniaeth gwahanol diroedd a chnyd- au Acbosion anffrwythlondeb neu neill- tuolion eraill mewn tir Cyfaddaster tiroedd neilltuol i gnydau penodol; Heiotiau planhigion; eu natur, a'r driniaeth briodol iddynt; Chwyn a llyaiau gwenwynig; eu hen- wau, a'r modd i'w difa Hadau amaethyddol; eu purdeb, a'u gallu i egino; Dewis had; yn neilltuol, grass mix- tures Nid ydys yn ymgymeryd a dadan- soddi gwrteitbiau ac ymborth anifeiliaid i ddibenion masnachol, gan fod eisoes ddarpariaetbau gogyfer a hyn gan y gwahanol Gynghorau Sir. Yn ddiweddarach, penodwyd Mr R. N. Jones, gynt o Brynmelyn, Corwen, yn Swyddog Da Byw (Live Stock Officer) dros Ogledd Cymru mewn cysylltiad a chynllun y Bwrdd Amaethyddiaeth i wella ansawdd stoc. Bydd yntau yn un o swyddogion yr Adran hon, a rhydd gvfarwyddyd ynglyn a chwestiynau ymarferol yn dwyn cysylltiad a Da Byw, yn cynnwys dewisiad anifeiliaid i fridio. Yn ychwanegol at y Cyfarwyddwyr (Advisers) neilltuol hyn, bydl swyddog ion eraill yr Adran yn barod unrhyw adeg i roddi gwybodaeth ynghylch cwestiynau mwy eyff redinol. Ni chodir tal am gyfarwyddyd ar ffermwyr yn y siroedd cysylitiedig a'r Coleg, a gobeithir y maateisia Amaeth- wyr Gogiedd Cymru yn llawn ar y cyfleusterau hyn. Yr eiddoch, R. G. WHITE, COLEG Y BRIFYSGOL, GOGLEDD CYMRU. ADHAN AMAETHYDDI AETH. PRGFI IIADAU. Y mae Dr. J. Lloyd Williams, Cyfar- wyddwr mewn Llysieuaeth Amaeth- yddol, yn barod i broti hadau ac i anfon adroddiadau am danynt. Os anfonir siamplau o hadau o wahanol fathau ar wahan, anfonir adroddiad manwl parth eu purdeb a'u gallu egino. Lie yr anfonir hadau gwair a chlofer viedi eu cymysgu cyn eu hanfon, nis gall yr adroddiad fod mor fanwl, gan fodyr anhawsterau i brofi cymysgiadau yn fawr iawn. Gan y cymer rhai mathau o hadau gwair dair wythnos neu lis i egino, dylid anfon siamplau mor fuan ag y byddo yn bosibl os dymunir cael adroddiad cyn adeg hau. Wrth anfon siamplau sylwer yn ofalus ar y cyfarwyddiadau a ganlyn 1. Cymeryd y Siamplau. Dylid gofalu cael siampl fydd yn cyn- rychioli yn deg ansawdd cyfanswm yr had. Os had gwair, neu gymysgiadau o had gwair a chlofer fydd yn eu hanfon, dylid tywallt yr hadau ar lawr glan, eu troi ddwywaith neu dair, ac yna ddewis dim llai na deg b symiau bychain o wahanol fannau yn y pentwr. Ar ol cymysgu y syrraau hyn yn dr.wyadi gellir pigo o wahanol rannau o honno swm digonol i gael ei brofi. Os had Clofer, Maip, Gwenith, Ceirch neu Haidd a anfonir, gellir cymeryd siarapl yn imiongyrchol o'r sach, ond ) gofaier am bigo aujryw symiau bychain o wahanol fanivau o'r sach. 2, Pwys.au y siamplau fydd i gael eu pmfi; Ni ddylai y siamplau fod yn llai na'r pwysau canlynol: Cymysgiad o had gwair a chlofer 4 owns. Had gwair yn unig, 2 owns. Clofer, Lucerne, Trefoil, Maip, Cab- bage, &c., 2 owns. Gwenitb, Ceirch, Haidd, Ffa, Pys, Mangels, 2 owns. 3. Manylion i'w hanfon gyda'r siamplau. Dyddiad y pryniant, Enw y sawl fydd yn anfon y siampl. Cyfeiriad y sawl fydd yn anfon y siampl, Enw y gwerthwr. (Cedwir yr enw yn gyfrinachol), Pris Os bydd adroddiad o'r prawfion yn cael ei gyboeddi, ni wneir yn hysbys enwau y rhai fydd yu anfon yr haa. Cyfeirir y siamplau i Profesor R. G. White, University College, (Old Build- ings), Bangor.

Advertising

CONGL YR AWEN. I -I