Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Cyfarfod J   J H Talaethol. Ii y De ?y T jL?c ?_  CYNHELIR YR UCHOD YN NHON-PENTRE (RI,01?dda), Mai 3 hyd 7,1914 Trcfn y Cyfarfodydd Cyhoeddus SABBOTH, Mai 3ydd. Ton (Caersalem)- 10.30—Parch. Richard Owen. 6-Parch D.J.Williams. B.A. Ystrad Rhondda (Horeb)- 10.30—Parch D. J. Williams. B.A. 6-Parch. Richard Owen. Treorchy (Calfaria)- 10.30—Parch. J. H. Morgan. 6-Parch. J. M. Williams. Treherbert (Saron — 10.30—Parch. J. M. Williams. 6—Parch. J. H. Morgan. Tonypandy (Shiloh)- 10.30—Parch. E. Roberts. 6—Parch. E. Roberts. Penygraig (Seion)- 10.30—Parch. J. Wesley Morgan. 6-Parch. S. Whildmg. Clydach *Vale (Tabernacle)- 10.30—Parch. S. Whilding. » 6-Parch. J. Wesley Morgan. Caerau (Bethel)— 10.30—Parch D. L. Jones. 6-Parch. D. L. Jones. Garth (Maesteg)- 10.30-Parch. H. R Owen. 6-Parch. H. R. Owen. NOS LUN, am 7 o'r-gloch— Caersalem- Parch. J. Fisher Griffiths. NOS FAWRTH, am 7- Caersalem— Parch. Richard Morgan. NOS FERCHER, am 7- Caersalem- Cyfarfod Cenhadol. Cadeirydd- Edward Rees, Ysw., U.H. Siaradwyr- Parchn G. B. Roberts, ac R. W. Jones, Mri EdwardfJones (Pon- terwyd), a Dr. A. T.'Jones. Wesley Church. Pentre- Rev. W: T. Ellis (English Sermon) D'DD IA U. Yn Caersalem (M.C.) am 9 a.m.— Y Seiat Fawr. Llywydd- Parch Robert Lewis. Siaradwyr—Parchn. D. Creigfryn Jones, John Lloyd, John Jones (G), Mri John Evans, Jonathan Thomas, a Wm. Lewis. Yn Jerusalem, am 10.50- Parch: T. J. Pritchard. Eto, am 2— Parchn. R. H. Pritchard a W. J. Arter. „ Etc, am 6— Parchn. EvanJRoberts ac E. D. Thomas. Cymhellir boll Wesleaid y I Cylchdeithiau cyfagos, iriegis Fern- dale, Aberdare, a Chtierdydd, i ddyfod i'r Wyl ddydd'Iau. Bydd digoijedd o gvfleusterau teithio gyda Trains a Cars. —————"——— ) r.. Y, ( 1,/ =¿' r ,> Argraffwyd "Hanes Wesleyaeth Gymreig n yn y Swyddfa eang uchod. Danfomvch chwithau eich Gwaith Printio yno. ———— EVAN THOMAS, BANGOR. Y LLYFRFA, BANGOR. .K Maes Llafur 1914=15. YN AWR YN BAROD. Y RHUFEINIAID. Cyf. I. Is. 6c Gan y Parch. W. O. EVANS. Ar gyfer Dosbarth IV. Dwsin am 15 swllt. Damhegion lesu Grist. Rhan 1. 4c. Gan y Parch. R. W. Jones. Ar gyfer Dosbarth II. a III. Dwsin am 3s. 3c. LLYFRAU Y SAFONAL. Llyfr Cyntaf, i rai dan 8 oed, Safon 1. 1/- y dwsin. Ail Lyfr, „ 2 a 3. 2/- Trydydd Lyfr, 11 a 12 oed." 4 a 5. 2,(- Gofyniadau Maes Llafur 1914-15. Pum' Swllt y Cant. Yr oil o'r Cludiad wedi ei dalu. Archeber yn ddioed.
[ CYLCHDAITH CEFN MAWR.
[ CYLCHDAITH CEFN MAWR. j Cynhaliwyd cyfarfod chwarter vr uchod yn Stryt Issa, Ebrill 2il, dan lywyddiaeth y Parch Thomas G. Roberts. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch J. W. Davies, y ddau oruchwyl lwr, Mri Evan Williams a John Lewis, a chynrychiolaeth bur dda o bob eglwys ac eithrio Plasbenion. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn trwy ganu emyn, a'r Parch J. W. Davies ddar- llen rhan o Air Duw, a'r brawd William Heward weddio. Yr oedd yn bur dda ganddom weled y brawd William Hewaid wedi dod i'n plith unwaith eto. Mae y brawd wedi cyfarfod a damwain er's amser maith. Dai lien wyd cofnodion y cyfarfod di- weddaf, a chadarnhawyd h'wynt. Yn absenoldeb yr Ysgrifenydd Dirwestol, sef i%lr Jolin Vaughan, darllenodd Mr Ed- ward Morris, Johnstown, y Schedule. Eto yr Ysgrifenydd Addysg. Yroeddyn llawen clywed fod cynydd ar y flwyddyn ddiweddaf, ond eto mae lie i wella yn yr Ysgol Sul. Mae rhai eglwysi wedi symud, wedi dewis rhai i ymweled a'r rhai difater, ac fe awgrymwyd mai doeth fyddai i'r holl eglwysi ddewis rhai i ymweled a'r rhai nad ydynt yn dod i'r Ysgol, a'u 'hanog i ddod yno. Eto Ysgrifenydd y Genhadaeth Dramor. Mae yr holl eglwysi wedi gwneud vmdrech yn ystod y flwyddyn gyda'r Genhadaeth. Mae cynydd yn y casgliad yn yr holl o'r eglwysi. Etholwyd y brawd Thomas Williams, o Stryt Isa, Iyn gynrychiolwr i'r Cyfarfod Taleithicl, ynghyda ddau Oruchwyliwr, sef Mri Evan Williams a John Lewis, ac yn niffyg i un fethu inynd, dewisiwvd Mr Edward Jones, Cefn. Yn ystod y chwarter diweddaf cawsom fel Cylchdaith ddrama a darlith er budd y Gylchdaith, un yn Cefn a'r llall yn Rhos, ond nid yw y naill na'r llall wedi troi allan fel y disgwyliwyd, ac fe bendeifyn-I wyd cael Social cylchdeithiol eto. Yr oedd y cyfarfod yn unfrydol yn cad- arnhau gwahoddiad y ddau weinidog i'n plith, sef y Parch John Smith a John Lloyd Jones Hefyd fe bènderfynodd y cyfarfod i rhoi gwahoddiad i'r Parch Conway Pritchard i'n plith yn 1017. • Yna cafwyd ymddiddan ar agwedd vs- brydol ) r achos gan y gwahanol frodyr, a theimlad pawb oedd ein bod wedi cael cyfarfod rhagorol. Rlnvng y ddau gyfarfod mwynhawvd cwpanaid o de wedi ei ddarparu gan Mrs Robert Foulkes, Mrs Thomas Evans, a Alrs Joseph Phillips. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Rhos. « 1SG.
MACHYNLLETH.II
MACHYNLLETH. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y gylchdaith uchod dydd Sadwrn, Ebill 4ydd. Yr oedd yn-bresermol y tri gwein- i dog y ddau oruchwylwyr a chynrychiol- aeth gyinedrol o'r gwahanol eglwysi. Y oedd llawer eglwys yn y gylchdaith heb gynrycbiolydd. Carem pe gwnelai yr eglwysi hyn vmdrech decach i ddanfon cynrychiolydd i'r cyfarfodydd hyn. Uyvvyddwyd y cyfarfod gan yr Arolyg- wr. Dechreuwyd trwy ganu mawl ac i r Parch G. Bedford Roberts weddio. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaen- orol a chadarnhawyd hwynt. Gahvyd sylw at y "Supplementary His- toric Roll." Yn ol penderfyniad y cyfarfod blaenorol cvflwynwyd v mater i sylw yr eglwysi. Barn yr eglwysi oedd nad oedd- ent mewn sefyllfa i ymgymeryd a'r gwaith. Er gofid y cyfarfod pasiwyd penderfyniad unol a'r farn hor. Cafwyd adroddiad o symau yr addewid- ion oddiwrth y gwahanol eglwysi at y ddyled. Mae yna ymdrech anrhydeddus wedi cael ei gwneyd a disgwylir cyn ddiwedd y flwyddyn y bydd y ddyled wedi ei chlirio. Daeth y broblem o ddwyn ymlaen y gwaith yn y dyfodol dan sylw. Pender- fynwyd gwneyd ar ddau weinidog yn lie tri a bod y cyfnewidiad i gymeryd lie Medi nesaf. Estynwyd gwahoddiadau unfrydol i'r Parchn J. Lloyd a G. Bedford Roberts i aros blwyddyn arall ar y gylchdaith. Wedi terfynu y gwaith ymneillduwyd i gael ymborth,.a ddarparwyd ar eu cyfer gan Mr W. Pugh Williams, Llanbrynmair. Diolchwyd yn gynes i Mr Williams am ei garedigrwydd. I GOB.
I MYNYDD SEION, LERPWL. j
MYNYDD SEION, LERPWL. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith yn Mynydd Seion, nos Iau, Ebrill 2il, y Parch W. O. Evans yn y gad- air. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parchn T. Isfryn Hughes a Lewis Edwards, a Mri John Jones, Devonshire Road, ac O. Tudor Jones, Goruchwylwyr, a chynrychiolwyr o'r gwahanol eglwysi ag eithrio vVidnes. Croesawyd Mri Thomas Pritchard a W. Jones (0 Fynydd Seion), a John Parry (o Garston), fel aelodau newydd o'r cyfarfod.! Darllenwyd cyfriflen capeli a thai y Gylchdaith gan yr Arolygwr. Diolchwyd i, ac ail-etholwyd Mr Lewis Morris, Ysgrifenydd Cyfarfod Blaenoriaid y Gylchdaith. Penderfynwyd cynnal cylchwyl y Gen- hadaeth Gartrefol, Sul, Mai 24ain, tri gweinidog Cylchdaith Oakfield i wasan- aethu. Etholwyd y rhai a ganlyn yn gynrych- iolwyr ar Bwyllgor Unedig y ddwy Gylch- daith Mri Moses Hughes, Evan Davies, William Jones, a Peter Hughes (o Fynydd Seion); Wm. Davies, Wm. Evans, a J, M. Jones (o Birkenhead); Hugh Griffith a Wm. Williams (o Egremont); a John Morris (o Garston). Darllenwyd cyfriflen yr Ysgol Sul gan y Parch T. Isfryn Hughes, yr hwn, yn ei svl wadau dilynol, a alwodd sylw arbenig at esboniad rhagorol yrArolygwr ar yr Epistol at y Rhufeiniaid. Ategwyd sylwadau Mr Hughes gan Mr John Jones (y Goruchwyl- iwr), a chyfeiriodd yr olaf yn gymeradwy- ol at y gyfrol Llestri'r Trysor," ac at yr ysgrifau sydd ynddi gan ddau weinidog o'r Gylchdaith—y Parchn T. Isfryn Hughes a Lewis Edwards. Darllenwyd cyfriflen Dirwest gan y Parch Lewis Edwards, ac anogodd ym- drech neilltuol ynglyn a mudiad gwerth- fawr yr Abstainer's League." Darllenodd Mr Edwards hefyd grynhod- eb o gyfriflen >5, Genhadaeth Dramor, yr hyn a ddangosai fod y Gylchdaith wedi codi yn agos i tuagat Drysorfa'r Can- mlwyddiant; ac er fod ychydig o leihad yng nghyfanswm y cvfraniadau rheolaidd, teimlai fod y Gylchdaith wedi gwneuthur yn anrhydeddus ar y cyfan. Addawodd y ddau Oruchwyliwr fynd i Gyfarfod Taleithiol Dinbych ac fel cyn- rychiolydd ychwanegol etholwyd Mr Wil- liam Davies, Birkenhead, a Dr Twiston Davies, Liscard. Os digwydd i un neu ddau o'r rhai uchod fethu myn'd, etholwyd Mrs Isfryn Hughes a Miss Profit i gymeryd eu lie. Diolchwyd i, ac ail-etholwyd Mri Moses Hughes ac R. E. Edwards, B.A., fel Arch- wilwyr cyfrifon y Gylchdaith. Adroddwyd fod cyfanrif aelodau'r Gylchdaith yn 690—cynnydd o 5 ar y flwyddyn. Cadarnhawyd yn unfrydol y gwahodd- iad a roddwyd i'r tri gweinidog a ganlyn i wasanaethu'r Gylchdaith y flwvddyn nesaf -y Parchn Edward Davies, i fynd i Berkley Street, Lerpwl; D. Tecwyn Evans, B.A., i fyw yn Biikenhead a Lewis Ed- wards, i fyw yn Egremont. 1- YSG.
I NEWYDDION WESLEAIDD.
I NEWYDDION WESLEAIDD. I PEMBRE. Gyda jgohd dwys yr ydym yn cyfnodi marwolaetn Mrs. Evans, Panty golien yr hyn gymerodd le boreu dydd Gwener, Mawrth 20, sef priod Mr. John Evans, un o oruchwylwyr Cylchdaith Llanelly. Nid oedd y chwaer wedi bod dda ei hiechyd ers amser, bu yn achwyn trwy y gaua-f eto yr oedd yn codi bob dydd, cyfododd fel arfer dydd Iau blaenorol i'w mharw,la bwriadai godi y diwrnod y bu farw, nid oedd neb yn meddwl fod y diwedd mor agos. Yr oedd Mr. Evans a'r bechgyn wedi myned at eu goruchwylion fel arfer, ac yr oedd y mab ieuengaf yn paratoi i fyned, ond yn sydyn fe alwyd ein chwaer gartref, fel y mae y fellten yn dyfod o'r Dwyrain, Hunodd yn dawel heb struggle, a chroesoedd y glyn bron heb yn wybod, "ac ni chaed hi, canys Duw a'i cymmerodd hi ymaith." Dydd Mawrth dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi i fynwent Hermon, Macpelah I y teulu. Darllenwyd a g weddi wyd yn y ty gan ein Gweinidog y.Parch. Ll. A. Jones, ac yn y capel gan y Parch. Mr. Rees (A), a siaradwyd gan ei gweinidog pryd y syl- wodd ar rai o nodweddion amlycaf ei chymmeriad. Cymmeriad distaw a thawel oedd ein chwaer ond yr oedd yn force mawr nerthol yn mywyd y teulu. Fel y mae vn hysbys i'r holl weinidogion sydd wedi bod yn llafurio ar y tir y- mae teulu Fantycelyn wedi bod yn deulu nodedig gyda'r achos yn Hermon trwy y blynyddau, a gwnaeth Mrs Evans eirhan I fel priod a mam i'r teulu. Gwnaeth ein chwaer ei rhan bob amser gyda phob darlith, cyngherdd a phob ymdrech gydag amgylchiadau yr achos. Yr oedd ganddi I broflad o bethau crefydd yn ei hysbryd, a llawer gwaith y clywsom hi yn ystod y misoedd diweddaf yn dweyd ei bod yn myned adref. Meddai synwyr cyffredin cryf a defnvddiai hwnw i'r pwrpas goreu. Bu yn géLdlg iawn i Weision y Gair, a bu yn fiyddlon yn Ei holl dy. Yr oedd yn hotlolddirodresa naturiol yn mhob peth a wnai. Yr oedd rhyw naturioldeb hyd yn nod ynglyn a'i mharw, ac edrychai mor naturiol wedi i'r tenant adael y ty. Ni chafodd ei bendithio a hen ddyddiau, bu farw wedi troi ei thri ugain a phump, ond cafodd ohvg ar yr Iachawdwriaeth. Wedi gwasanaeth yn Hermon awd at lap. y bedd, ac wedi darllen y wasanaeth I angladdoi, ac i'r Parch Jones (M.C.) weldio, ymwahanwyd wedi canu emyn. Derbyniwy7d amryw o lythyrau oddiwrth wahanol weinidogion, a'r oil yn dwyn tystiolaeth uchel i'n hanvvyl chwaer. Bydded In brawd, Mr John Jones, yr hwn sydd yn un o'r lleygwyr amlycaf yn ein Talaeth yn ogystai ac yn Hermon, yn nghyda Miss Evans, yr unig ferch, a'r pump mab sydd mor nodedig yn Hermon, a'r cysylltiadau perthynasol eraill, gael nerth yn y dydd blin. Bendithied Duw y teulu a'r Eglwys yn yr adwy lydan sydd wedi ei gwneyd yn symudiad ein chwaer. Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd I CYFAILL.
¡B YD CREFYDDOL.-
¡ B YD CREFYDDOL. Y Parch G. H. Havard, M.A., B.D. Bydd yn llawenydd gan liaws cyd- nabod gweinidog ymroddgar a llwydd- iannus eglwys Clwyd Street, Rhyl, glywecl ei fod wedi ei wahodd i draddodi y bregeth a'r anerchiad blvnyddol y Coleg Cenedlaethol yn Aberystwyth, mewn cysylltiad ag Undeb Cristionogol y Myfyrwyr. Y mae y ffaith ei fod yn olynydd yn yr ymddiriedaeth bwysig hon i S NV Robertson Nicoll, golyg- ydd adnsByddus y British Weekly,' yn profi fod gan awdurdodau y coleg syniad uchel am ei ddysgeidiaeth a'i alluoedd, ac nid oes arnheuaeth y bydd i Mr Havard, fel arfer, gyflawni y gwaith gydag effeitbiolrwydd. I Cynrychiolydd y Beiblau. I Y Parch A. Wellesley Jones, Tre- ffynnon, sydd wedi cael ei benodi'n ddilynydd y Parch D. C. Edwards, M.A., fel ysgrifenydd a dirprwyCym- deithas y Beiblau yng Ngogledd Cymru. Duw'n rhwydd i'r gwas newydd, a chaffed hwyl a haelioni wrth siarad dros Frenhines y Cymdeithasau, chwedl rhywun am Gymdeithas y Beiblau. Sul Abertawc. Y mae Abertawe, prif gaerfa Gorllew- in Cymru, mewn perygl o golli ei Sab- both. Y mae tros bed war cant o siop- au Abertawe yn agored ar y Sul. Y cam nesaf a gymerth y Gorfforaeth i waered ar hyd lleithig llithrig Amhiw- ritaniaeth ydyw agor oriel un o'r cel- fyddydau cain—y Glyn Vivian Gallery- set cartraf crug 0 gregynach, llestri pridd, a thlws deganau a gasglwyd o boparth y byd bron. Agorir yr Oriel by way of experiment,' ys rhed geiriau y tadau trefol. I Patriarch yr Ysgol Sul. Dyma'r pum patriarch y dyfarnwyd bathodyn Mise Gee (Dinbych), idsynt am yr hwya'i gysylltiad a'r Ysgol Sabbothol :A,ii.,s Elizabeth Davies, Fferm Waen Filan, Pontrhydfendigaid, ger Aberystwytb, 95ain" oed, ac wedi mynychu'r Ysgol Sul er's 92ain o flyn- yddoedd; Mrs Davies, Talybont, Dyff ryn Conwy, 98, er's 88 mlynedd; Mrs Ann Davies, Tirdidog, Nant Garedig, Sir Gaerfyrddin, 90, er's 87 Mr Evan Evan?, Caepwllheulog, Abersoch, 88, er's 84; a Mr Robert Thomas, Tyddyn Llywarch, Llanfwrog, Mon, 88. er's 73. 'Doe's dim sy dynherach—ac yng Nghymru'n unig y gwelir y peth-na gweld patriarchiaid y pedwar ugain yn yr Ysgol Sul.
1 Rhyddfreiniad y Capeli.
1 Rhyddfreiniad y Capeli. Yn Nhy r Cyffredin, ddydd Sadwrn cynygiwyd ail-ddarlleniad mesur i rydd- freinio addoldai a adeiladwy dan brydles, gan Syr Norval Holme (R) a chefnog- wyd gan Arglwydd H. Cavendish Ben- tinch (If.) ac Arglwydd Wolmer (T.). Dywedodd Mr Herbert Lewis, ar ran Bwrdd Llywodraeth Leol, fod yn hen bryd cael gwelliant yn y cyfeiriad yma. Yn 1883 yr oedd gan un enwaci yng Nghymru 347 o gapeli wedi eu hadeiladu ar brydles, ac yr oedd cyfanswm eu gwerth yn £ 355,000. Ymhen saith mlynedd a'r hugain yr oedd dros 400 ohonynt a chyfanswm eu gwerth wedi cynyddu i £ 731,000. Ail-ddarllenwyd y mesur heb ym- raniad. Y mae rhyddfreiniad pob math 0 leoedd addoliad, ysgoldai, &c,, a ddelir gan gyrff crefyddol yn un o argymhellion adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Tir. Aelodau'r Pwyllgor hwnw ydyw Mri Dyke Acland (cadeirydd), C. Roden Buxton, E. Richard Cross, Ellis Dav- ies, C. G. Hemmerde, Ian Macpherson, Seebohm Rowntree, R. Winfrey, a'r Barwn De Forest. ,Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Swyddfa'r Gwylied- ydd Newydd," Blaenau Ffestiniog. .■ .>;
CYLCHDAITH STOCKTON-ON-TEES.
CYLCHDAITH STOCKTON-ON-TEES. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn, Sadwrn, y, 4ydd cyfisoI,yn" nghapel Stockton, dan ly-f, wyddiaeth y Parch J. Lewis. Yr oedd hefyd yn bresenol, Cadeirydd y Dalaeth. y Parch R. Lloyd Jones, ynghyd a chynrych- iolaeth weddol o bob eglwys yn y Gylch- daith. Wedi dechreu y cyfarfod yn y drefn arferol, datganodd y Llywydd ei lawenydd o gael y Cadeirydd gyda ni un- waith eto, yn edrych mor dda. Atebwyd gan Mr Jones. Llawenhai yntau ein gweled ninnau yn dal i ymdrechu yn ngwyneb ein anhawsderau i gadw yr ach- osion Cymreig yn fyw, a hynny mor bell o Gymru. Awd trwy waith y cyfarfod yn rhwydd iawn. Darllenwyd y gwahanol Schedules gan y Llywydd. Cafwyd fod ychydig o leihad yn nifer aelodau y Gylchdaith er y flwyddyn o'r blaen, hyn i'w briodoli i symudiadau trwy farwolaeth, ac hefyd rhai wedi symud i ar- daloedd eraill. Yn nghyfrif y Genhadaeth Dramor, caf- wyd cynydd sylweddol. Casglwyd yn agos i [10, a hynny yn beaaf gan y plant ein cyfran fel Cylchdaith i Drysorfa y Canmlwvddiant yn cyrhaedd hefvd dros £ 4 10s. Gwahoddwyd ein gweinidog i aros gyda 'ni flwyddyn arall, a chydsyniodd yntau a'r cais. Rhoddwyd gair uchel i'w bregethau melus ac adeiladol. Penodwyd Mr Walter Edwards a Mr Arthur H.Hughes,Stockton, yn gynrychiol- wyr i'r Cyfarfod Talaethol. Cafwyd gair ymhellach gan y Cadeir- ydd. Gofidiai clywed nad oedd ond un Ysgol Sul yn y Cylchdaith (sef yn Coun- don). Addefai fod yna anhawsderau gyda'r plant a'r bobl ieuainc, eithr taer cymhellai y rhai mewn oed i gyfarfod er mwyn cadw Ysgol yn agored pe y dymun- ai rhai o'r ieuainc ddod yno. Cafwyd ym- drafodaeth pur helaeth ar hyn, a theimlid mai nid ofer yr a, ond y deiilia martiis o'r siarad. Hyderwn y gwelir ffrwyth i'r ym- drafodaeth yn y gwahanol eglwysi yn ystod misoedd yr haf yma. Terfynwyd cyfarfod da trwy weddi gan y Llywydd. Yn dilyn y cyfarfod eisteddasom wrth fwrdd yn llawn o bob danteithion, ac wedi gwneuthur o bawb cyfiawnder a hwynt, djolchwyd yn gynes i Mr Thomas Roberts, Stockton, am ei ddarpariaeth dda a'i hael- ioni, ac yn swn Nos da," ymwahanwyd, Y Sabboth, pregethwyd yn nghapel Stockton, aril 10.30 a (i. gan y Parch R. Lloyd Jones, ac am 2.30 y prydnawn gan Mr J ames Harris, Stockton. YSG.