Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[ CYLCHDAITH CEFN MAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

[ CYLCHDAITH CEFN MAWR. j Cynhaliwyd cyfarfod chwarter vr uchod yn Stryt Issa, Ebrill 2il, dan lywyddiaeth y Parch Thomas G. Roberts. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch J. W. Davies, y ddau oruchwyl lwr, Mri Evan Williams a John Lewis, a chynrychiolaeth bur dda o bob eglwys ac eithrio Plasbenion. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn trwy ganu emyn, a'r Parch J. W. Davies ddar- llen rhan o Air Duw, a'r brawd William Heward weddio. Yr oedd yn bur dda ganddom weled y brawd William Hewaid wedi dod i'n plith unwaith eto. Mae y brawd wedi cyfarfod a damwain er's amser maith. Dai lien wyd cofnodion y cyfarfod di- weddaf, a chadarnhawyd h'wynt. Yn absenoldeb yr Ysgrifenydd Dirwestol, sef i%lr Jolin Vaughan, darllenodd Mr Ed- ward Morris, Johnstown, y Schedule. Eto yr Ysgrifenydd Addysg. Yroeddyn llawen clywed fod cynydd ar y flwyddyn ddiweddaf, ond eto mae lie i wella yn yr Ysgol Sul. Mae rhai eglwysi wedi symud, wedi dewis rhai i ymweled a'r rhai difater, ac fe awgrymwyd mai doeth fyddai i'r holl eglwysi ddewis rhai i ymweled a'r rhai nad ydynt yn dod i'r Ysgol, a'u 'hanog i ddod yno. Eto Ysgrifenydd y Genhadaeth Dramor. Mae yr holl eglwysi wedi gwneud vmdrech yn ystod y flwyddyn gyda'r Genhadaeth. Mae cynydd yn y casgliad yn yr holl o'r eglwysi. Etholwyd y brawd Thomas Williams, o Stryt Isa, Iyn gynrychiolwr i'r Cyfarfod Taleithicl, ynghyda ddau Oruchwyliwr, sef Mri Evan Williams a John Lewis, ac yn niffyg i un fethu inynd, dewisiwvd Mr Edward Jones, Cefn. Yn ystod y chwarter diweddaf cawsom fel Cylchdaith ddrama a darlith er budd y Gylchdaith, un yn Cefn a'r llall yn Rhos, ond nid yw y naill na'r llall wedi troi allan fel y disgwyliwyd, ac fe bendeifyn-I wyd cael Social cylchdeithiol eto. Yr oedd y cyfarfod yn unfrydol yn cad- arnhau gwahoddiad y ddau weinidog i'n plith, sef y Parch John Smith a John Lloyd Jones Hefyd fe bènderfynodd y cyfarfod i rhoi gwahoddiad i'r Parch Conway Pritchard i'n plith yn 1017. • Yna cafwyd ymddiddan ar agwedd vs- brydol ) r achos gan y gwahanol frodyr, a theimlad pawb oedd ein bod wedi cael cyfarfod rhagorol. Rlnvng y ddau gyfarfod mwynhawvd cwpanaid o de wedi ei ddarparu gan Mrs Robert Foulkes, Mrs Thomas Evans, a Alrs Joseph Phillips. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Rhos. « 1SG.

MACHYNLLETH.II

I MYNYDD SEION, LERPWL. j

I NEWYDDION WESLEAIDD.

¡B YD CREFYDDOL.-

1 Rhyddfreiniad y Capeli.

CYLCHDAITH STOCKTON-ON-TEES.